GENESARET

...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)

Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath

Daeth cwmni da ynghyd i Terra Nova am baned, sgwrs a heddiw ... emyn. ‘Wil biau’r emyn’ meddai Howel Harris, mae’n debyg, am William Williams, Pantycelyn (11/2/1717-1791). Un o emynau’r Pêr Ganiedydd oedd testun ein sylw heddiw. Ond cyn dod at hwnnw, cafodd bawb gyfle i nodi pa emyn oedd orau ganddynt.

Ni fethodd gweddi daer erioed

 chyrraedd hyd y nef,

Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed

Yn union ato ef.

 

Ac nid oes cyfaill mewn un mân,

Cyffelyb iddo'n bod,

Pe baem yn chwilio'r ddaear faith

A holl derfynau'r rhod.

 

Ymhob rhyw ddoniau mae e'n fawr,

Anfeidrol yw ei rym,

Ac nid oes pwysau ar ei ras

Na'i haeddiant dwyfol ddim.

 

Mae ei ffyddlondeb fel y môr,

Heb fesur a heb drai,

A'i drugareddau hyfryd sy'n

Dragywydd yn parhau.

Man cychwyn ein trafodaeth heddiw oedd geirfa ac ieithwedd emynau, a’r angen i wynebu’r her o drosglwyddo cyfoeth ein traddodiad i’r genhedlaeth nesaf o Gymry Cristnogol. Ymlaen, maes o law i drafod gweddi yng ngoleuni’r emyn hwn. Pa ddiben sydd i weddi? Ar yr olwg gyntaf mae un o ddywediadau mwyaf cyfarwydd Iesu fel pe’n awgrymu nad oes fawr o ddiben i weddïo! ...oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion (Mathew 6:8).

Gellid deall yr angen i weddïo - i weddïo'n gyson ac yn ddyfal - petai Duw yn Deyrn didostur, yn gyndyn ei gymwynas, yn amharod ei fendith; ond pa ddiben sydd i weddi, os Tad cariadlawn ydyw, yn gwybod eisoes holl eisiau ei blant, a dim byd yn ormod ganddo i wneud drostynt?

Cytunwyd mai un o bennaf ddibenion gweddi yw dyfnhau ein hymdeimlad o ddibyniaeth ar Dduw ein Tad, a chreu ohonom o’r herwydd, bobl gwir ddiolchgar. Onid, dyma hanfod ein ffydd: Diolch? Arferai'r cymal Gorsedd Gras fod yn allweddol bwysig i bobl y ffydd gynt. Onid oes angen ailddarganfod yr hen drysorau hyn? Mae gofyn inni ddod yn gyson at Orsedd Gras, pe’n unig i sylweddoli mai gorsedd Gras ydyw, mai Gras Duw yw gwaelod a gwraidd ein byw a’n bod, a dim ond yng ngoleuni Gras Duw y mae dehongli ein cyflwr yn gywir.

Ymhellach, er bod ein Tad yn gwybod cyn i ni ofyn iddo beth yw ein hanghenion, mae’n gwestiwn a wyddom ni ein hunain! Un o wersi pwysicaf bywyd yw dod i sylweddoli beth yw ein gwir anghenion. Dysgu bod mewn eisiau yw un arall o ddibenion gweddi.

Gellir mynd ymhellach; braint arbennig y gweddïwr yw dod i sylweddoli beth yw eisiau’r Tad. Duw mewn eisiau yw’r Duw a welir yn Iesu Grist. Atgoffwyd ni o gwpled Elfed (1860-1953):


Os Duw sydd ar f’enaid ei eisiau,

Mae eisiau fy enaid ar Dduw.

(CFf.208)

Am mai Tad ydyw, eisiau dyfnaf ei galon yw dod i berthynas agos a real â’i blant. Nid hiraeth y plant am ddod adref yw gwirionedd mwyaf y Testament Newydd, ond hiraeth Tad am eu cael yn ôl i’w aelwyd. Diwallu eisiau’r Tad yw’r unig beth a ddiwalla ein heisiau ninnau yn y pen draw.

Diolch am gwmni’n gilydd, am sgwrs a thrafodaeth dda. Daeth Genesaret â bodd a bendith.

BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

 ninnau wedi cyd-ddarllen Salm 139, fe’n harweiniwyd gan ein Gweinidog at ychydig adnodau o Efengyl Ioan (14:10-14). Mae llawer yn credu mai’r adnodau hyn yw uchafbwynt dysgeidiaeth y Testament Newydd ar weddi.

Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf (adn.14 WM). Gyda’r geiriau, cawsom gan Iesu sylfaen newydd, hyder newydd, a chylch newydd, ehangach o lawer, i weddi. Mae’r syniad o weddïo yn Enw Iesu Grist yn cadarnhau’r cymal pwysig honno yng Ngweddi’r Arglwydd Gwneler dy ewyllys (Mathew 6:10). Ein gobaith yw gweddïo yn unol â ewyllys Duw.

Awgrymodd Owain fod dwy ffordd o feddwl am hyn. Dyma’r cyntaf: Golyga gweddïo yn fy enw i ddeisyfu’r hyn a ddeisyfai Iesu; gobeithio am yr hyn a obeithia ef; dyheu am yr hyn a ddyhea ef. Mae gweddïo yn enw Iesu Grist yn golygu bod ein gweddi a’n gweddïo yn gytûn â phwrpas bywyd a gweinidogaeth Iesu. Wrth ganolbwyntio’n myfyrdod ar Iesu, daw ein gweddi yn un â’i fwriad ef.

Dyma’r ail: Y mae ystyr arbennig, hynod gynhwysfawr i’r gair ‘enw’ yn y Beibl. Wrth weddïo felly yn fy enw i, pwyswn, ymddiriedwn, dibynnwn ar gymeriad Crist, ei urddas, ei awdurdod, a’i fendith gyfoethog, lawn a chyson. ‘Enw’ Crist yw pob peth a wnaeth ac a wna, popeth a lefarodd ac a lefara. ‘Enw’ Crist yw pob addewid fawr a roddodd erioed. ‘Enw’ Crist yw Bethlehem a Chalfaria a’r Bedd Gwag. Wrth weddïo, felly yn enw Iesu Grist, cynhelir ein gweddïau gwael a’n gweddïo gwan gan holl fawredd ein Harglwydd Iesu.

Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, wedi cyfnod o drafodaeth frwd ac agored, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Echel yr awgrym heno oedd Wilhelm Röntgen. Bu farw Wilhelm Röntgen ar y 10/2/1923. Pwy oedd Wilhelm Röntgen? Röntgen darganfyddodd X-rays. Mae’r X-ray yn amlygu'r hyn sydd yn guddiedig. Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi oedd profiad y Salmydd (139:1). Wyneb yn wyneb ag Iesu Grist dyna brofiad pawb ohonom. Mae cael ein chwilio a’n hadnabod yn anochel o gredu yn Nuw. Awgrymodd y Gweinidog ein bod yn defnyddio ychydig adnodau cyfarwydd fel x-ray. Hepgor y gair ‘Cariad’, a lle bu’r gair hwnnw, gosod ein henw.

Y mae ______ yn hirymarhous; y mae ______ yn gymwynasgar; nid yw ______ yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’r ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf. (1 Corinthiaid 13: 4-7)

Mae’r newid bychan hwn yn peri i baladr cariad dreiddio i ddyfnder ein byw. Amlygir gwendid a chyfle i wella a chryfhau.

Echel ein gweddïau heno oedd amrywiol enwau a theitlau ein Harglwydd Iesu, a gorffen yn sŵn hyfryd eiriau William Williams, Pantycelyn (1717-91; CFf.:312):

Ymgrymed pawb i lawr

i enw’r addfwyn Oen,

yr enw mwyaf mawr

erioed a glywyd sôn:

y clod, y mawl, y parch a’r bri

fo byth i enw’n Harglwydd ni.