Man cychwyn neges Alun i’r plant oedd cyfaddefiad. Cyfaddefodd mai ei briod, Rhiannon oedd garddwr eu teulu hwy. Ond, ymddiriedwyd i'w ofal ganddi, un goeden fach. Yn wir, bu Alun yn ofalus iawn ohoni - dŵr, golau a maeth. Gosodwyd y goeden ar y bwrdd, a’r goeden yn ddigon o ryfeddod - dail ir, ac yn drwch o ffrwyth melyn. Ie, coeden lemwn oedd hon. Rhaid oedd canmol dawn Alun. Ffion oedd y cyntaf i amau. Tynnodd Alun lemwn o’r goeden a’i gynnig iddi, a bu’n syllu’n hir ar y ffrwyth yn ei llaw gan dawel bendroni sut oedd dweud yr hyn ‘roedd yn rhaid dweud am y 'ffrwyth' hwn. Tynnwyd lemwn arall, a’i daflu (wel wir!) o’r Sedd Fawr i Cian, a oedd yn eistedd gyda’i dad-cu wrth yr organ. Wedi ei ddal, cyhoeddodd yntau’r gwirionedd: ffrwythau plastig oedd y rhain! Plastig! Bu’n rhaid wrth gyfaddefiad arall gan ein cennad felly! Coeden artiffisial oedd hon, a’i ffrwyth yn ddim ond addurn. Wrth ochr y goeden ffug, ‘roedd basged, ac yn y fasged yn gymysg lemonau esgus a dau lemwn iawn. Wedi twrio a chwilio, Leisa a Dafydd lwyddodd i ddarganfod y ddau iawn. Mynnai Dafydd fod y lemwn go iawn yn drwm a squishy, tra bod Leisa wedi teimlo’r ffrwyth iawn i fod yn oerach na’r ffrwyth ffug.
Mor bwysig i bawb ohonom, o’r ieuangaf i’r hynaf ohonom yw medru gweld y gwahaniaeth rhwng yr artiffisial a’r real. Down i’r oedfa, at Dduw, i chwilio am y peth iawn, llesol, iachusol, yn hytrach na chael ein twyllo gan ffug a ffansi.
Bu’r plant yn parhau gyda thema’r mis ‘5’ a hefyd ein pwyslais newydd ers dechrau Ionawr: Blwyddyn y Beibl Byw. Buont yn dysgu am bwysigrwydd Pum Llyfr cyntaf yr Hen Destament, a sut mae’r Efengylau a Llyfr yr Actau yn adlewyrchiad o rheini. Da buddiol hefyd, nawr fel pob amser oedd atgoffa’r ifanc o ymroddiad Mary Jones, a’i hymdrech i gael Beibl: cerdded yr holl ffordd yn droednoeth o’i chartref yn Llanfihangel-y-pennant i’r Bala.
Testun ein sylw yn yr Oedfa Foreol oedd yr adnod hon o lythyr cyntaf Ioan: ... mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn (4:18).
Mae ofn yn ymateb greddfol i berygl - ysgogiad ydyw i fod yn effro, yn wyliadwrus, ar flaenau’n traed. Fe all ofn hefyd lliwio a llywio ein hymateb i fywyd: try ein hofn yn wewyr, yn arswyd, yn amheuaeth ddofn o’r estron, yr anghyfarwydd a’r newydd; fe ddatblyga’n ymdrech i reoli bywyd er mwyn osgoi ei beryglon posib.
Awgrymodd Alun, mae’r unig wir ymateb i ofn yw ymddiried yn Nuw. Dylid, yn hytrach na cheisio rheoli pob peth ein hunain, dysgu ymddiried ein hunain a phob peth i Dduw. Mae’r rhai sy’n trystio’r Arglwydd fel Mynydd Seion - does dim posib ei symud, mae yna bob amser (Salm 125: 1-2 Beibl.net).
Dyma union bwyslais Penrith Thomas (1854-1952):
Ymddiried wnaf yn Nuw
er dued ydyw’r nos ...
Ymddiried wnaf yn Nuw
er trymed ydyw’r groes ...
Ymddiried wnaf yn Nuw
ar lwybrau blin a serth;
yn anawsterau’r ffordd daw
i mi fwy o nerth ...
(CFf.:77)
Gwelir yr un pwyslais eto gan William Williams, Pantycelyn (1717-91):
Ymddiriedaf yn dy allu,
mawr yw’r gwaith a wnest erioed:
ti gest angau, ti gest uffern,
ti gest Satan dan dy droed ...
(CFf.:702)
Rhaid ymddiried yng ngallu oesol greadigol, bythol waredol Duw. Gwaelod a gwraidd y gallu hwn yw Cariad Duw. Daeth y cariad hwn atom yng Nghrist Iesu. Cariad nad ydym yn haeddu; gwyddom mai cosb a melltith yw ein gwir haeddiant, ond yn hytrach, cawn gariad: cariad yn ein cynnal a’n cadw - perffaith gariad ydyw - y perffaith gariad hwn a gyr pob ofn a’r ffo.
Liw nos, fe’n harweiniwyd gan Alun i lyfr nad sydd mor adnabyddus i amryw o ddarllenwyr y Beibl ag y dylai fod. Dieithrwch dull a diwyg yr ysgrifennu sydd yn gyfrifol am hyn. Cysylltir y Llyfr â’r elfennau astrus a rhyfedd mewn crefydd - Datguddiad Ioan.
Ysgrifennwyd Datguddiad Ioan mewn cyfnod anodd i Gristnogion. Cyfnod o erlid sylweddol, a hwythau’n disgwyl yn eiddgar am ailddyfodiad Crist yr Arglwydd. Gyda’r ailymddangosiad yn hir yn dod, bu’r amheuon yn lledu, a’r gofid yn dyfnhau. Mae Ioan yn annog y bobl i sefyll yn gadarn, mewn ffydd, er mwyn y ffydd. Cyfnod o argyfwng ydoedd, ac mae’r argyfwng yn amlwg yn natur y llyfr hwn. Wrth ei ddarllen a’i drafod, cawn ein taflu i fyd newydd a gwahanol. Mae gwahaniaeth mawr rhwng llenyddiaeth ddyrys apocalyptaidd a llenyddiaeth broffwydol. Mae’r proffwyd yn meddwl yn nhermau’r byd presennol - cyfiawnder gwleidyddol, safonau moesol, tegwch cymdeithasol, cryfder economaidd. I’r apocalypt, mae’r byd hwn y tu hwnt i bob gobaith ac achubiaeth. O’r herwydd, fe’i dinistrir. Mae’r apocalypt yn meddwl yn hytrach am yr oes a ddaw, a hynny gyda sicrwydd o ddyfodiad yr oes newydd honno a’i thrwch o fendithion.
Ein man cychwyn oedd Diwrnod Cofio’r Holocost. Trwy gyfrwng cyfrif Twitter Undeb Annibynwyr Cymru, daeth y neges hon o Dŷ John Penri y diwrnod hwnnw (27/1): Ni all geiriau fynegi tristwch Diwrnod Cofio'r Holocost, ond gallwn oll weithio i geisio sicrhau na chaiff y fath beth byth ddigwydd eto. Echel y Cofio eleni oedd yr apêl Don’t Stand By.
Yn sŵn yr apêl honno, daethom at adnod y testun: Bydd wyliadwrus (WM)... bydd effro (BCN) ... deffra (Beibl.net) (Datguddiad 3:2). Dyma rybudd i eglwys hunanfodlon, gysurus: Sardis. Dinas enwog unwaith, ond eilradd erbyn amser ysgrifennu Datguddiad Ioan. Y mae’r Ysbryd yn ei cheryddu’n llym - nid am heresi nac anfoesoldeb ond am farweiddia, diffyg egni, diffyg awydd i orffen gwaith ar ôl ei ddechrau. Eglwys swrth, gysglyd a hunanfodlon. Mynnai ein cennad fod angen wake-up call ar eglwys o’r fath.
A ydym ninnau yn eglwys Minny Street yn hunanfodlon, cysglyd a swrth? A oes angen wake-up call arnom? Na ato Duw i neb o bobl Dduw sefyll o’r neilltu (Don’t Stand By cofiwch, oedd arwyddair Diwrnod Cofio’r Holocost). Fe roddodd Alun y teitl ‘Stand by!' i lyfr ar ddarlledu gan esbonio mai hanfod y gorchymyn hwnnw oedd bod pethau cynhyrfus, pwysig ar fin digwydd. Boed felly yn hanes yr eglwys hon ac eglwysi tebyg iddi: byddwn effro! Deffrown! Daliwn ar bob cyfle a manteisio ar bob cyfrwng i wasanaethu Duw a’i fyd. Stand by Eglwys Iesu Grist!
Diolch am fendithion y Sul.