BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol; rhaid wrth y naill a’r llall. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ehangu ein bywyd defosiynol.

Wedi cyd-ddarllen Salm 23, aethom i’r afael â Gweddi’r Arglwydd. Yn y cyfarfod aeth heibio (12/1) buom yn cymharu’r ddau fersiwn o Weddi’r Arglwydd sydd yn y Testament Newydd, y naill yn Efengyl Mathew (6:9-13) a’r llall yn Efengyl Luc (11:1-4). Heno, cawsom gyfle i weld a thrafod patrwm y Weddi fwyaf un.

Gorchwyl anodd, drudfawr oedd gosod Gweddi’r Arglwydd ar femrwn. ‘Roedd memrwn yn brin, yn costio’n ddrud ac ‘roedd i bob camgymeriad ei bris sylweddol.

Wrth gopïo i’r memrwn, ‘roedd y sgrifellwr yn disgwyl i’r darllenydd nid yn unig i ddarllen a deall y geiriau, ond i weld y patrymau ynghudd yn y geiriau, a’r ffordd eu gosodwyd ar y memrwn. Ceir patrwm geiriol i’r Weddi Fawr; mae iddi hefyd strwythur sy’n arddangos deinamig grymus yr hyn sydd ar waith ynddi. Yn wreiddiol, diben y patrwm oedd cynorthwyo pobl i ddysgu saith deisyfiad y Weddi; tynnai’r patrwm hefyd sylw at galon y weddi.

Saif Ein Tad gyferbyn â’r Un drwg; Y Deyrnas gyferbyn â phrawf, profedigaeth themtasiwn; ac Ewyllys Duw gyferbyn â’n troseddau ni. Rhed dyro inni heddiw ein bara beunyddiol trwy galon y Weddi yn cydio’r pethau hyn i gyd ynghyd. Mae’r tri chymal agoriadol: Ein Tad yn y nefoedd; deled dy deyrnas a gwneler dy ewyllys yn cyfleu ein dyhead am weld Duw yn Frenin Coronog a ninnau’n tyfu’n feunyddiol mewn ffydd, gobaith a chariad.

Mae’r cymalau olaf:...gwared ni rhag yr Un drwg, paid â’n dwyn i brawf a maddau i ni ein troseddau yn amlygu’r pethau hynny sydd yn gwthio Duw i ffwrdd, sydd yn arafu llif dyfodiad ei Deyrnas - drygioni, temtasiwn a phechod. Yn dal y cyfan ynghyd mae’r cymal: dyro inni heddiw ein bara beunyddiol. Rhwng Ein Tad a’r Un drwg mae bara beunyddiol. Rhwng dyfodiad y deyrnas a’r temtasiwn, profedigaeth a phrawf mae bara beunyddiol. Rhyngot ti a minnau yn gwneud ewyllys Duw a phechu yn ei erbyn mae bara beunyddiol.

Ymwna bara â phopeth bywyd: gofal Duw a gweithgarwch pobl; gofynion y cnawd a dyheadau’r ysbryd; trafferthion ysbrydol a phroblemau economaidd, diwydiant a dyletswydd. Calon y Weddi Fawr yw’r gofyn am fara oherwydd dim ond trwy ddod â chyfanrwydd ein bywyd at Dduw, a chynnwys Duw ym mhob peth ein bywyd beunyddiol y daw unrhyw lewyrch arno. Dau ymateb sy’n weddus: dysgu derbyn, dysgu rhannu. Dysg y Weddi sut i droi bywyd i gyd yn weithred, o dderbyn a rhannu, a thrwy’r naill a’r llall mawrhau'r Rhoddwr. Dau fesur sydd i’n crefydd: ein gallu i dderbyn gan Dduw - derbyn cyn lleied yw ein trafferth -: a’n gallu i rannu’r hyn a dderbyniwyd - rhannu cyn lleied yw ein trafferth. Cymerwch yw neges Duw i’w bobl; Cymerwch yw neges pobl Dduw i’r byd.

Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Â ninnau’n sefyll yng nghysgod Dydd Gŵyl Tröedigaeth Paul (25/1), a Dydd Santes Dwynwen, rhaid oedd sôn ychydig am y naill a’r llall, heb anghofio Terry a Joy!

Yn Actau 20: 1-2 (Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy, ac aeth ymaith i Facedonia. Wedi teithio trwy’r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg.) mae’r gair annog yn ymddangos dwywaith. Gweinidogaeth allweddol - ond di-sôn-amdani - yw gweinidogaeth annog: annog ein gilydd, annog eraill. Awgrymodd y Gweinidog ein bod yn ceisio annog eraill, a gwneud hynny’n benodol trwy gyfrwng arbennig. Ym mis Ionawr 1987 herwgipiwyd Terry Waite. Treuliodd, 1,763 o ddyddiau yn wystl. Er mawr syndod iddo, derbyniodd gerdyn post gan Joy Brodier.. Dyma gynnwys y nodyn hwnnw:

Dear Terry,

You are not forgotten. People everywhere are praying for your release, and that of the other hostages.

With best wishes,

Joy Brodier

Bu’r nodyn hwnnw’n gysur ac yn gymorth i fyw i Terry Waite. Anogwn ein gilydd, anogwn eraill. Gweinidogaeth allweddol yw’r weinidogaeth hon: Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da ... gan annog ein gilydd ... (Hebreaid 10:25)

Yn ein cyfnod o weddi heno, arweiniwyd ni gan Dwynwen a Paul. Cawsom gyfle’n dawel fyfyrgar i ystyried beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Duw. (Effeisiad 3:14-20)

Bu 'Bethsaida' eto’n fendith.

CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

... gwedy elwch tawelwch vu ...

Gan ymddiheuro i'r bardd Aneirin, cystal cyfaddef mai profiad felly oedd ‘Capernaum’ heno. Wedi elwch PIMS tawelwch vu. Tawelwch, a drodd yn llonyddwch: defosiwn, gweddi a myfyrdod ar derfyn dydd.

Gweddi Simeon (Luc 2:22-38) oedd testun ein sylw heno. Bychan bach oedd Iesu pan aeth Mair a Joseff ag ef i’r Deml i ddiolch i Dduw amdano. Yn y Deml, gwelodd dyn o’r enw Simeon y teulu bach yn dod. ‘Roedd Simeon yn gwybod mai Mab arbennig Duw oedd y bychan hwn. Gafaelodd Simeon yn y baban Iesu yn ei freichiau gan ganu diolch i Dduw:

Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: canys fy lygaid a welsant dy iachawdwriaeth... (Luc 2:29 a 30 WM)

Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef... (Luc 2:30 WM) a hynny’n naturiol, chwarae teg. Dim ond babi oedd Iesu, newydd ganedig. Fe dyf yn ddyn, a phan yn ddyn fe dry’r byd a’i ben i waered; ond babi ydyw nawr, dim ond babi...

‘Roedd y bychan hwn yn eithriadol beryglus. Gwyddai Simeon hynny, gwrandewch: Wele...y bychan hwn...a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer (Luc 2:34 WM). Neu yn y cyfieithiad mwy diweddar: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer.

Sylwch eto ar y cymal: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer... cwymp a chyfodiad. Mae’r drefn yn wahanol i’r arferol. Maddeuwch y Saesneg, ond y tueddiad yw sôn am the rise and fall o rywbeth, neu rywun. Rise and fall, ond fall and rise yw trefn Duw: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer.

Deallodd Simeon rhywbeth allweddol pwysig. Gyda llif y flwyddyn bydd pawb ohonom rywbryd, rhywsut yn syrthio - mae’r peth yn anorfod - ond, yn y cyfnod anodd hwnnw, cofiwn mai bwriad Duw ar ein cyfer yw fall and rise, nid rise and fall!

Daeth Mair yn ei thro i ddeall hyn hefyd. Gyda symud y blynyddoedd profodd wirionedd geiriau Simeon: A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf...(Luc 2:35 WM). Yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll...(Ioan 19:25) Aeth y diwrnod erchyll hwnnw fel cleddyf i’w henaid. Ond cwymp a chyfodiad yw trefn Duw. Ymhen tridiau, daeth Iesu, mab Mair, yn ôl o farw’n fyw. Yn wir, yn wir, meddai Iesu wrthym, os nad yw’r gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear ac yn marw, y mae’n aros ar ei ben ei hun; ond os yw’n marw, y mae’n dwyn llawer o ffrwyth (Ioan 12:24).

Buddiol y cwrdd hwn heno. Wedi elwch prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i ganfod o’r newydd tawelwch yr hedd na ŵyr y byd amdano. (Elfed,1860-1953)

NEWYDDION Y SUL

Ers ychydig dros dair blynedd (Medi 2012), y Parchedig Meirion Morris yw Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac yn rhinwedd y swydd honno ef sy’n gyfrifol am weithredu penderfyniadau’r Gymanfa Gyffredinol ac am ddarparu arweiniad a chefnogaeth fugeiliol i eglwysi’r enwad.

Cyn hynny, 'roedd yn weinidog yn ardal Llansannan ond hefyd bu'n swyddog gyda’r Annibynwyr; rhyw ddeng mlynedd yn ôl - Meirion oedd Ysgogydd Rhaglen AGAPE’r Undeb - cynllun y bydd nifer ohonom yn Eglwys Minny Street yn ymwybodol ohono gan i ni yma fanteisio arno - yn benodol felly, gan mai drwy nawdd y cynllun bu i ni fedru sicrhau ein setiau Cymun Teithiol.

Ond, hwyrach cyn bwysiced â hyn oll yw’r ffaith fod Meirion newydd ddod yn daid am y tro cyntaf dechrau’r wythnos hon - dymunwn yn dda i Eira Gwenllïan a’r teulu cyfan.

Er iddo ymweld â Minny Street cyn heddiw, dyma’r tro cyntaf i Meirion ddod atom i bregethu. Cafwyd Sul da a bendithiol o dan ei arweiniad.

Nid Meirion oedd â’r gair cyntaf. Myfi oedd heddiw yn arwain y defosiwn yr ifanc. Mae Myfi yn 9 oed, ac yn hoffi gwylio’r rhaglen deledu News Round. Wedi rhannu hyn o ffaith gyda’r gweddill ohonom, ychwanegodd fod rhai o’r storiâu y mae News Round y trafod yn ddiddorol iawn, a bod rhai yn drist iawn, yn arbennig hanes a phrofiad ffoaduriaid. Pobl - hen ac ifanc - yn gorfod ffoi rhag canlyniadau rhyfel a therfysg, Cyfaddefodd Myfi nad oedd yn medru deal amharodrwydd pobl a chenhedloedd i dderbyn y ffoaduriaid hyn i’w plith. Bu’n holi, holi a holi eto fyth, ac o ganlyniad bu ei mam yn trafod Dameg y Samariad Trugarog gyda hi a’i brawd bach. Y ddameg honno oedd ei dewis o ddarlleniad heddiw. Wedi darllen, cydiodd Myfi'n ddiogel yn neges a her y ddameg. Y cwestiwn amlwg, mynnai Myfi oedd hyn: A ydym ni’n cerdded heibio i bobl mewn angen? Rhaid i bawb ohonom sylweddoli fod gennym ni ddyletswydd fel cyfeillion Iesu Grist i fod yn garedig a chefnogol o’n gilydd a phawb. Wedi'r fath gyflwyniad hyderus a heriol, fe’n harweiniwyd ni ganddi mewn gweddi, gan fenthyg dyhead yr emynydd:

Rho imi nerth i wneud fy rhan,

i gario baich fy mrawd,

i weini’n dirion ar y gwan

a chynorthwyo’r tlawd.

(E. A. Dingley, 1860-1948 cyf. Nantlais, 1874-1959; CFf.:805)

Wedi derbyn ei hadnodau, cafodd Meirion gyfle i siarad â phlant yr eglwys. ‘Roedd ganddo lun - llun o ddyn trwsiadus, talsyth â llond ei ben o wallt. Llun o bwy ydoedd tybed? Gwelodd ambell un o’r plant fod y gŵr yn y llun yn lled debyg i’r cennad heddiw! Yn wir, dyma Meirion ar ddydd ei briodas! Aeth rhagddo i sôn am ‘newid’! Er gwell, ac weithiau er gwaeth mae newid yn digwydd; ac yn gorfod digwydd. Weithiau, ‘rydym yn awyddus iawn i weld newid; ond, mynnai Meirion, ar adegau eraill nid am weld pethau’n newid o gwbl. Cydiodd wedyn yn neges Myfi, gan bwysleisio fod angen newid ein hagwedd tuag at yr estron. Mae newid yn anodd, a phenllanw neges Meirion i’r plant oedd bod Iesu- oherwydd ei gariad mawr tuag atom - yn awyddus i newid pobl, a chynorthwyo ei bobl i newid eglwys, cymdeithas a byd.

Y cariad hwnnw oedd echel y wers Ysgol Sul heddiw. Wedi trafod amrywiol gyfeiriadau at gariad Duw, caru Duw a chyd-ddyn yn y Beibl, aethpwyd ymlaen i sôn ychydig am Santes Dwynwen. Wedi hynny, daeth yr amser i addurno bisgedi, a champweithiau oeddent bob un!

‘Roedd y bregeth heddiw’r bore yn barhad ac yn ddatblygiad o’r neges i’r plant. Arweiniwyd ni at Philipiaid 2: 5:11. Mae’n debyg mai emyn cynnar yw’r darn cyfarwydd hwn o lythyr Paul at y Philipiaid. Emyn i enw Iesu ydyw:

...yr enw mwyaf mawr

erioed a glywid sôn...

(William Williams, 1717-91; CFf.:312)

Awgrymodd ein cennad fod Paul yn un trefnus ei feddwl a thrwyadl ei resymu. Bwriadol felly oedd ei benderfyniad i osod yng nghanol y bennod hon, emyn o fawl i Iesu Grist. 'Roedd Paul am ddymuno hoelio sylw pobl Iesu Grist yn Philipi ar ogoniant digymar Iesu Grist.

Yr Iesu hwn yw gwraidd ein ffydd, sylfaen ein credu. Mae ofn diwinyddiaeth arnom! Arswydwn rhag diwinydda, ond rhaid wrth y naill a’r llall. Adeiladir ein ffydd nid ar fympwy a theimlad ond ar yr hyn a gredwn am Iesu Grist. Dylid hogi ein cred. Rhaid wrth ffydd â min arni.

Yn a thrwy’r emyn hwn, mae Paul yn priodi buchedd â gwirionedd - y gwirionedd am Iesu Grist. Y gwirionedd hwn: Er ei fod ef erioed ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion (Philipiaid 2:6/7) yw llyw a lliw ein ffydd. O’r gwirionedd hwn daw nerth i fyw ein ffydd: Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu (2:5) Rhaid ymdebygu i Grist - byw yng Nghrist, i Grist; ond i fyw i Grist, yng Nghrist rhaid glynu wrth yr hyn sydd wir amdano. I lynu wrth yr hyn sydd wir amdano mae’n rhaid trafod, dysgu - diwinydda. Hanfod Iesu yw ei fod erioed ar ffurf Duw. Mae pob gwirionedd arall amdano yn troelli o gwmpas hyn o wirionedd. Ofer pob cenhadaeth a gweinidogaeth heb amlygu mawredd yr hwn a darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes (2:8).

Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.

Liw nos, testun ein sylw oedd 2 Corinthiaid 3:12 - 4:7, gydag adnod agoriadol pennod 4 yn destun: Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni. Ar sail adnodau’r darlleniad, awgrymodd Meirion dri pheth am Efengyl Iesu Grist. Yn gyntaf, hanfod yr Efengyl yw gogoniant Iesu Grist. Beth bynnag yw'r newyddion amdanom ni, am ein cymunedau a'n byd, mae gennym newyddion amgenach: newydd da am ogoniant Iesu Grist. Dyma Newyddion Da na all bywyd ar ei orau mo'i gynnig, nac ar ei waethaf ei dwyn oddi arnom.

Yn ail, ymddiriedir gogoniant yr Efengyl i lestri pridd: y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni (2 Corinthiaid 4:7). Llestri pridd ydym - cyffredin ac annigonol ddigon. Dim ots! Mae'r prydferthwch yn y trysor nid y llestr.

Yn olaf, pa olwg bynnag sydd gennym arnom ein hunain, ein gweinidogaeth a’n gwasanaeth, mae gogoniant y trysor yn anghyfnewidiol. Daw gwerth i’r llestr yn sgil y trysor sydd ynddo. Gwerthfawr ydym, er waethaf pob diffyg a bai, gan i Dduw ymddiried trysor ei Efengyl ogoneddus i lestri pridd ein byw a'n bod. Am hynny, nid ydym yn digalonni... (4:16a).

Yr un oedd pwyslais y ddwy bregeth heddiw, a mawr ein diolch am y pwyslais hwnnw: Gogoniant Efengyl Iesu Grist.

Edrychwn ymlaen at wythnos brysur, llawn cyfle a bendith. Yn ogystal â PIMS a ‘Capernaum’ nos Lun a ‘Bethsaida’ nos Fawrth deisyfwn fendith ar gyfarfod Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyran Morgannwg yn y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr nos Fercher 27/1. Cawn arweiniad gan y Parchedig Robin Wyn Samuel, Swyddog Cynnal ac Adnoddau'r De, Undeb Annibynwyr Cymru.

Dydd Sadwrn, Ionawr 30, estynnir croeso cynnes i ni ymuno â’n cyfeillion yn Eglwys y Crwys, Heol Richmond yng Nghyfarfod Sefydlu’r Parchedig Aled Huw Thomas. Cynhelir y cyfarfod am 14:00 gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Dymunwn bob bendith i Eglwys y Crwys ar ddechrau cyfnod newydd yn ei hanes.

Bydd Oedfaon y Sul nesaf (31/1) dan arweiniad y Parchedig Ddr R Alun Evans (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg). Boed wenau Duw ar y Sul.