Ers ychydig dros dair blynedd (Medi 2012), y Parchedig Meirion Morris yw Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac yn rhinwedd y swydd honno ef sy’n gyfrifol am weithredu penderfyniadau’r Gymanfa Gyffredinol ac am ddarparu arweiniad a chefnogaeth fugeiliol i eglwysi’r enwad.
Cyn hynny, 'roedd yn weinidog yn ardal Llansannan ond hefyd bu'n swyddog gyda’r Annibynwyr; rhyw ddeng mlynedd yn ôl - Meirion oedd Ysgogydd Rhaglen AGAPE’r Undeb - cynllun y bydd nifer ohonom yn Eglwys Minny Street yn ymwybodol ohono gan i ni yma fanteisio arno - yn benodol felly, gan mai drwy nawdd y cynllun bu i ni fedru sicrhau ein setiau Cymun Teithiol.
Ond, hwyrach cyn bwysiced â hyn oll yw’r ffaith fod Meirion newydd ddod yn daid am y tro cyntaf dechrau’r wythnos hon - dymunwn yn dda i Eira Gwenllïan a’r teulu cyfan.
Er iddo ymweld â Minny Street cyn heddiw, dyma’r tro cyntaf i Meirion ddod atom i bregethu. Cafwyd Sul da a bendithiol o dan ei arweiniad.
Nid Meirion oedd â’r gair cyntaf. Myfi oedd heddiw yn arwain y defosiwn yr ifanc. Mae Myfi yn 9 oed, ac yn hoffi gwylio’r rhaglen deledu News Round. Wedi rhannu hyn o ffaith gyda’r gweddill ohonom, ychwanegodd fod rhai o’r storiâu y mae News Round y trafod yn ddiddorol iawn, a bod rhai yn drist iawn, yn arbennig hanes a phrofiad ffoaduriaid. Pobl - hen ac ifanc - yn gorfod ffoi rhag canlyniadau rhyfel a therfysg, Cyfaddefodd Myfi nad oedd yn medru deal amharodrwydd pobl a chenhedloedd i dderbyn y ffoaduriaid hyn i’w plith. Bu’n holi, holi a holi eto fyth, ac o ganlyniad bu ei mam yn trafod Dameg y Samariad Trugarog gyda hi a’i brawd bach. Y ddameg honno oedd ei dewis o ddarlleniad heddiw. Wedi darllen, cydiodd Myfi'n ddiogel yn neges a her y ddameg. Y cwestiwn amlwg, mynnai Myfi oedd hyn: A ydym ni’n cerdded heibio i bobl mewn angen? Rhaid i bawb ohonom sylweddoli fod gennym ni ddyletswydd fel cyfeillion Iesu Grist i fod yn garedig a chefnogol o’n gilydd a phawb. Wedi'r fath gyflwyniad hyderus a heriol, fe’n harweiniwyd ni ganddi mewn gweddi, gan fenthyg dyhead yr emynydd:
Rho imi nerth i wneud fy rhan,
i gario baich fy mrawd,
i weini’n dirion ar y gwan
a chynorthwyo’r tlawd.
(E. A. Dingley, 1860-1948 cyf. Nantlais, 1874-1959; CFf.:805)
Wedi derbyn ei hadnodau, cafodd Meirion gyfle i siarad â phlant yr eglwys. ‘Roedd ganddo lun - llun o ddyn trwsiadus, talsyth â llond ei ben o wallt. Llun o bwy ydoedd tybed? Gwelodd ambell un o’r plant fod y gŵr yn y llun yn lled debyg i’r cennad heddiw! Yn wir, dyma Meirion ar ddydd ei briodas! Aeth rhagddo i sôn am ‘newid’! Er gwell, ac weithiau er gwaeth mae newid yn digwydd; ac yn gorfod digwydd. Weithiau, ‘rydym yn awyddus iawn i weld newid; ond, mynnai Meirion, ar adegau eraill nid am weld pethau’n newid o gwbl. Cydiodd wedyn yn neges Myfi, gan bwysleisio fod angen newid ein hagwedd tuag at yr estron. Mae newid yn anodd, a phenllanw neges Meirion i’r plant oedd bod Iesu- oherwydd ei gariad mawr tuag atom - yn awyddus i newid pobl, a chynorthwyo ei bobl i newid eglwys, cymdeithas a byd.
Y cariad hwnnw oedd echel y wers Ysgol Sul heddiw. Wedi trafod amrywiol gyfeiriadau at gariad Duw, caru Duw a chyd-ddyn yn y Beibl, aethpwyd ymlaen i sôn ychydig am Santes Dwynwen. Wedi hynny, daeth yr amser i addurno bisgedi, a champweithiau oeddent bob un!
‘Roedd y bregeth heddiw’r bore yn barhad ac yn ddatblygiad o’r neges i’r plant. Arweiniwyd ni at Philipiaid 2: 5:11. Mae’n debyg mai emyn cynnar yw’r darn cyfarwydd hwn o lythyr Paul at y Philipiaid. Emyn i enw Iesu ydyw:
...yr enw mwyaf mawr
erioed a glywid sôn...
(William Williams, 1717-91; CFf.:312)
Awgrymodd ein cennad fod Paul yn un trefnus ei feddwl a thrwyadl ei resymu. Bwriadol felly oedd ei benderfyniad i osod yng nghanol y bennod hon, emyn o fawl i Iesu Grist. 'Roedd Paul am ddymuno hoelio sylw pobl Iesu Grist yn Philipi ar ogoniant digymar Iesu Grist.
Yr Iesu hwn yw gwraidd ein ffydd, sylfaen ein credu. Mae ofn diwinyddiaeth arnom! Arswydwn rhag diwinydda, ond rhaid wrth y naill a’r llall. Adeiladir ein ffydd nid ar fympwy a theimlad ond ar yr hyn a gredwn am Iesu Grist. Dylid hogi ein cred. Rhaid wrth ffydd â min arni.
Yn a thrwy’r emyn hwn, mae Paul yn priodi buchedd â gwirionedd - y gwirionedd am Iesu Grist. Y gwirionedd hwn: Er ei fod ef erioed ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion (Philipiaid 2:6/7) yw llyw a lliw ein ffydd. O’r gwirionedd hwn daw nerth i fyw ein ffydd: Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu (2:5) Rhaid ymdebygu i Grist - byw yng Nghrist, i Grist; ond i fyw i Grist, yng Nghrist rhaid glynu wrth yr hyn sydd wir amdano. I lynu wrth yr hyn sydd wir amdano mae’n rhaid trafod, dysgu - diwinydda. Hanfod Iesu yw ei fod erioed ar ffurf Duw. Mae pob gwirionedd arall amdano yn troelli o gwmpas hyn o wirionedd. Ofer pob cenhadaeth a gweinidogaeth heb amlygu mawredd yr hwn a darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes (2:8).
Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.
Liw nos, testun ein sylw oedd 2 Corinthiaid 3:12 - 4:7, gydag adnod agoriadol pennod 4 yn destun: Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni. Ar sail adnodau’r darlleniad, awgrymodd Meirion dri pheth am Efengyl Iesu Grist. Yn gyntaf, hanfod yr Efengyl yw gogoniant Iesu Grist. Beth bynnag yw'r newyddion amdanom ni, am ein cymunedau a'n byd, mae gennym newyddion amgenach: newydd da am ogoniant Iesu Grist. Dyma Newyddion Da na all bywyd ar ei orau mo'i gynnig, nac ar ei waethaf ei dwyn oddi arnom.
Yn ail, ymddiriedir gogoniant yr Efengyl i lestri pridd: y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni (2 Corinthiaid 4:7). Llestri pridd ydym - cyffredin ac annigonol ddigon. Dim ots! Mae'r prydferthwch yn y trysor nid y llestr.
Yn olaf, pa olwg bynnag sydd gennym arnom ein hunain, ein gweinidogaeth a’n gwasanaeth, mae gogoniant y trysor yn anghyfnewidiol. Daw gwerth i’r llestr yn sgil y trysor sydd ynddo. Gwerthfawr ydym, er waethaf pob diffyg a bai, gan i Dduw ymddiried trysor ei Efengyl ogoneddus i lestri pridd ein byw a'n bod. Am hynny, nid ydym yn digalonni... (4:16a).
Yr un oedd pwyslais y ddwy bregeth heddiw, a mawr ein diolch am y pwyslais hwnnw: Gogoniant Efengyl Iesu Grist.
Edrychwn ymlaen at wythnos brysur, llawn cyfle a bendith. Yn ogystal â PIMS a ‘Capernaum’ nos Lun a ‘Bethsaida’ nos Fawrth deisyfwn fendith ar gyfarfod Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyran Morgannwg yn y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr nos Fercher 27/1. Cawn arweiniad gan y Parchedig Robin Wyn Samuel, Swyddog Cynnal ac Adnoddau'r De, Undeb Annibynwyr Cymru.
Dydd Sadwrn, Ionawr 30, estynnir croeso cynnes i ni ymuno â’n cyfeillion yn Eglwys y Crwys, Heol Richmond yng Nghyfarfod Sefydlu’r Parchedig Aled Huw Thomas. Cynhelir y cyfarfod am 14:00 gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Dymunwn bob bendith i Eglwys y Crwys ar ddechrau cyfnod newydd yn ei hanes.
Bydd Oedfaon y Sul nesaf (31/1) dan arweiniad y Parchedig Ddr R Alun Evans (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg). Boed wenau Duw ar y Sul.