Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
GENESARET
...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)
Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath
Terra Nova...
Pawb a’i baned, a’i daflen...ac ar y daflen honno’r geiriau: finished files are the result of years of scientific study combined with the experience of years.
Cyfaddefodd y Gweinidog ei fod yn gyson ddotio ar bethau fel hyn. Cawsom ganddo ddeng eiliad i ddarllen y frawddeg, ac wrth ddarllen rhaid oedd cyfrif sawl gwaith y defnyddir y llythyren ‘F’ ynddi.
Bwriwch iddi'r un modd!
Wel, sawl gwaith mae’r llythyren ‘F’ yn cael ei ddefnyddio yn y frawddeg? Unwaith? Dwywaith? Teirgwaith..? Pedair gwaith? Pump? Chwech?
Awn drwyddi felly. Mae un ‘F’ ar ddechrau’r frawddeg, a dyma’r ail ‘F’ yn FILES. Mae’r trydydd yn SCIENTIFIC. Felly mae ‘na dri ‘F’ yn y frawddeg. Ond, a sylwoch tybed ar yr ‘F’ yn yr OF cyntaf, a chofiwch mai 'na OF arall, ac felly ‘F’ arall. A welsoch chi honno? Mae ‘F’ arall yn yr OF olaf, cyn YEARS.
Mae’r rhan fwyaf o bobl, mae’n debyg, yn gweld tri a cholli tri! Felly y bu - ar y cyfan - heddiw dros baned. Tric ydyw, meddai’r Gweinidog. Seicoleg yw’r cyfan. Gan fod y rhan fwyaf ohonom wedi ein magu i ddarllen yn seinegol (phonetically), mae ein hymennydd yn ‘gweld’ dim ond yr ‘F’ sydd yn swnio fel ‘F’, nid yr ‘F’ sydd yn swnio fel ‘V’.
Diddorol? Efallai, ond beth a wnelo hyn â gweddi, gweddïo a’n bywyd defosiynol? Hawdd ddigon, awgrymodd y Gweinidog, yng nghanol llif byrlymog yr Ŵyl yw colli golwg ar Dduw; y Duw a ddaeth yn Faban, yr hwn sydd i ni’n Frenin, a’r Fraint fawr o’i ganlyn. Sylwodd pawb ar ddefnydd cyson o’r ‘F’! Diolch byth am dreigladau! Nid yn aml mae ein Gweinidog dweud hynny! O frawddeg ryfedd, daeth trafodaeth ryfedd o dda. Dyma’r prif bwyntiau:
- Awgrymodd un bod chwilio am yr ‘F’ yn ddarlun o’r rheidrwydd cyson i ddidoli rhwng y pwysig a’r dibwys wrth gadw Gŵyl y Nadolig, ac ym mhob agwedd o’n hymwneud â Duw ac a’n gilydd.
- Yn gymorth mawr i weld pob ‘F’ ym mrawddeg bywyd yw cymdeithas pobl Dduw. Cymdeithas nad oes ei bath yn unman arall. Cynnwys yr hen a’r ifanc, ceidwadol a chwyldroadol. Unir hwynt gan y wybodaeth mai brodyr a chwiorydd ydynt yng Nghrist. Dyma gymdeithas lle'r cyffwrdd meddwl â meddwl, ysbryd ag ysbryd; yn a thrwy’r gymdeithas hon gellir meithrin parch at Dduw, parch at eraill a hunan-barch.
Daeth ein hawr fach o drafodaeth i ben. Buddiol a da Genesaret. Aethom adre' yn sŵn yr englyn hwn gan Gwilym R.Tilsley (1911-97):
Dywysog Nef, dysg i ni - yn wylaidd
Dreulio dydd dy eni,
Rhag i fôr o wag firi
Guddio gwerth dy aberth di.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT Y TEULU (13)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
GWOBR HEDDWCH NOBEL
10fed o Ragfyr 1901...
Yn Stockholm, y 10fed o Ragfyr 1901 cyflwynwyd y Wobr Heddwch Nobel cyntaf oll. Cwmni dethol ydynt, enillwyr Gwobr Heddwch Nobel: Liu Xiaobo, Wangarri Muta Maathai, Jody Williams, Nelson Mandela, y Dalai Lama, Elie Wiesel; Desmond Tutu, Y Fam Teresa, Anwar Sadat. Gellid lledu’r cylch i gynnwys holl enillwyr holl wobrau gwahanol Nobel - mae bob un ohonynt wedi, ac yn cyfrannu’n fawr i’w gwahanol feysydd.
Cawn wefr o glywed am ddylanwad y bobl hyn, y gwahaniaeth a wnaethpwyd, ac a wneir ganddynt. Mae campau gwleidyddol, diwylliannol, llenyddol, gwyddonol, economaidd y mawrion hyn yn rhyfeddod - maent yn bobl i’w hedmygu’n fawr. Mae’n braf - angenrheidiol wir - cael pobl i’w hedmygu.
Mae gwaith ymchwil Dr Echo Wu o’r Hong Kong Institute of Education yn ceisio amlygu beth yn union yw cyfrinach llwyddiant y rheini a enillodd gwobrau Nobel.
Dengys gwaith ymchwil Dr Wu, a phentwr o ymchwil tebyg, nad anghyffredin y bobl ryfeddol hyn! Pobl debyg i’w cyfoedion ydynt bob un, ar wahân i un peth - fe berthyn i’r enillwyr i gyd y gallu syml i ddal ati i ddal ati nes cyrraedd y nod.
Mae gwaith ymchwil Dr Echo Wu yn codi cwestiynau digon lletchwith, er enghraifft: pe bai ti a fi yn dal ati i ddal ati ychydig yn dynnach, ychydig ym mhellach, ychydig yn hirach, a allem ninnau hefyd wneud llawn cymaint o wahaniaeth mewn cymuned, gwlad a byd?
Daliwn ati i ddal ati i ddal ati felly, ti a fi, nes cyrraedd y nod o well a dedwyddach byd.
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT Y TEULU (12)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
FFYDD, GOBAITH, CARIAD
Derbyn mae Ffydd. Llaw wag yw Ffydd a estynnir allan gennym i dderbyn gan Dduw. Ein parodrwydd i dderbyn sy’n penderfynu faint a gawn.
Disgwyl mae Gobaith. Byw yn y presennol mae Ffydd; byw yn y dyfodol mae Gobaith. Derbyn gan Dduw mae Ffydd; disgwyl wrtho mae Gobaith.
Rhoi mae Cariad. Derbyn mae Ffydd a Gobaith; rhannu mae Cariad. Casglu’r grawnwin mae Ffydd a Gobaith; ei droi’n win mae Cariad.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (11)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
CWRDD GWEDDI'R ADFENT
Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i’n gwaredu; dyma’r Arglwydd y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.
(Eseia 25:9)
Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd,
unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.
(Eseia 40:3)
Yn sŵn y Gair, croesawyd ni i Gwrdd Gweddi’r Adfent. Cyfle i dawel fyfyrio, i ddathlu dyfodiad yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch am ystyr ac arwyddocâd ei Adfent ef.
...bwrdd
...tair cannwyll
...cylch o gadeiriau
...tair sedd wag; cadeiriau cadw.
Â’r Gweinidog yn ein harwain yn dawel bwyllog o brofiad yr emynydd i weledigaeth y proffwyd; o weddi i weddïo a chyd-weddïo, daeth y cwmni bychan i weld arwyddocâd y tair sedd wag. ‘Roedd pob un sedd wag yn cynrychioli rhai o gymeriadau’r Adfent. Ioan (Mathew 3:1-6) oedd piau’r sedd wag gyntaf: llais un yn galw yn yr anialwch. Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo. Yng ngwawl y gannwyll gyntaf, buom yn cofio a diolch am bobl fel Ioan - lleisiau yn yr anialwch - pobl yn ein hannog i ddyheu am gyfiawnder a daioni, i weithredu trugaredd a charedigrwydd; i wrthsefyll yn gadarn pob creulondeb a gormes yn enw, ac er gogoniant ein Harglwydd Iesu.
Eiddo Mair yr ail gadair wag a'r ail gannwyll. Yn ymyl croes Iesu oedd ei fam (Ioan 19:25). Brawddeg drist. Hon wedi ei gario, yn gnawd ei chnawd am naw mis. Hon mewn poen a gwewyr wedi esgor arno. Hon wedi ei fagu a'i feithrin; wedi ei wylio'n tyfu, yn blentyn, yn fachgen, yn ŵr ifanc, yn ddyn. Hon trwy'r cyfan wedi gweddïo a gobeithio, gobeithio a gweddïo. A nawr, yn sefyll wrth droed croes garw, trwy'r dagrau hallt yn gweld y bywyd yn llifo'n goch ohono. Yn ymyl croes Iesu oedd ei fam. Perthyn i Mair deyrngarwch cadarn di-droi’n-ôl. Y teyrngarwch hwn yw her ac esiampl Mair i ni. Boed ffyddlondeb a theyrngarwch yn ein gwasanaeth; ymlyniad a gwres yn ein cariad; dyfalbarhad a menter yn ein penderfyniad i ddilyn Iesu.
Y gadair a'r gannwyll olaf? Iesu - goleuni’r byd (Eseia 60: 1- 3/ Ioan 8: 12). Diolch am oleuni anniffodd Iesu. Plant y goleuni ydym, plant y dydd. Boed i’r goleuni hwn gysuro bob un sydd mewn tristwch, afiechyd, unigrwydd a gofid.
Angenrheidiol yw ymollwng ar dro i dawelwch gweddi a chymorth cyd-weddïo. Ymlonyddu yn nhangnefedd Duw a chwmni’n gilydd. Diolch am Gwrdd Gweddi.