Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
TIBERIAS
Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Llun: Itay Bav-Lev
Pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn defosiwn, myfyrdod a gweddi.
Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Echel ein myfyrdod heddiw, oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19).
Mewn cyfnodau anodd, boed personol neu genedlaethol mae gweddi Heseceia yn batrwm. ‘Roedd y gelyn yn prysur agosáu: yr Asyriaid. Gelyn o ddifrif, systematig; gelyn dychrynllyd o effeithiol wrth oresgyn, torri ac alltudio. Trodd Heseceia at Dduw. Gwyddai’n iawn fod y sefyllfa’n ddrwg; roedd gobeithion brau ar chwâl. Rhoddodd Heseceia ei ffydd yn Nuw, a chyflwyno’i angen iddo, ac ‘roedd yn ceisio rhoi’r cwbl oddi fewn i ffrâm ewyllys Duw: Yn awr, O! ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o’i afael ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O! ARGLWYDD, sydd Dduw. (19:19)
Awgrymodd y Gweinidog fod ymddygiad Heseceia’n batrwm i’r Cristion. Rhoddodd y brenin ei ffydd yn Nuw, a mynegodd ei angen mewn gweddi. Onid dyna’n syml yw diben pob oedfa a chwrdd gweddi: ceisio Duw, ymddiried yn Nuw, deisyf gan Dduw cysur a chymorth i fyw?
Dywed awdur Brenhinoedd II i Heseceia dderbyn y neges gan y negeswyr, ac yna mynd i fyny i’r Deml, ac yno iddo...yng nghyfieithiad William Morgan gawn yr ymadrodd hyfryd: lledu y llythyrau gerbron Duw (19:14). Hynny yw, ystyried y sefyllfa yng ngoleuni presenoldeb Duw. Dyna’n union a wnaethom y bore heddiw: lledu llythyrau ein byw gerbron Duw, gan ddeisyf arweiniad, nerth, cynhaliaeth a chyngor.
Buddiol eto bu ‘Tiberias’. Cawsom egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac i ogwyddo ein meddwl at Dduw.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (9)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
NEWYDDION Y SUL
Â’r capel wedi'i addurno’n hyfryd go gyfer â’r Nadolig (diolch i bawb), ‘roedd cannwyll Gobaith eisoes ynghyn, wrth i bawb gyrraedd yr Oedfa heddiw’r bore. Wedi canu’r intrada, gwahoddodd y Gweinidog i ni feddwl yn weddigar am Obaith, a hynny thrwy gyfrwng edau a nodwydd. Ffydd yw’r nodwydd, meddai, gobaith yw’r edau. Lle bynnag mae Ffydd yn mynd, mae Gobaith yn dilyn. Yn dawel a fyfyrgar buom yn diolch am fendithion y Gobaith a ddaw i ni o ymddiried yn Nuw. Mae’r Gobaith hwn sydd yn ein hannog i ddal ati i ddal ati mewn ffydd, er mwyn cariad.
Gwahoddwyd Gwen a’i mam-gu Helen i gynnau, heddiw, cannwyll Cariad. Heb gariad, meddai’r Gweinidog, mae gobaith yn gwywo. Heb gariad mae ffydd yn diffodd. Mae gronyn o gariad yn gryfach na llond byd o bechod. Cariad yw cyfrinach ein cenhadaeth a’n hundeb fel pobl Dduw - Cariad sy’n gwneud yr un yn llawer, a chariad sy’n gwneud y llawer yn un.
Wedi gair bach o weddi, ac ysbaid o dawelwch, derbyniwyd adnodau’r oedolion. Thema’r adnodau heddiw oedd ‘Newyddion Da’. Ni fu erioed y fath angen am Newyddion Da. Y mae digon o gynghorion ynglŷn â beth ddylid ei wneud; mae pawb yn gwybod beth a ddylai pawb arall ei wneud! Casglwyd pentwr o ddiagnosau, ond does neb yn cynnig prognosis! Cysur a chymorth i fyw felly oedd clywed y naill adnod ar ôl y llall, a phob un yn gyfrwng Newyddion Da ein ffydd yng Nghrist.
Maes o law, daeth cyfle i’r plantos a’r plant i gael rhannu’u hadnodau; rhai yn gwbl hyderus a hyglyw, ac ambell un swil a thawel, ond pob un â’i em fechan o fendith.
Leisa a Leisa oedd yn arwain ein defosiwn; dwy fach, dau ffrind, a’r ddwy yn arwain defosiwn yr Oedfa Foreol am y tro cyntaf! Hanes y Baban Iesu yn y Preseb a gawsom gan Leisa, ac mae ei chyflwyniad i’r darlleniad hwnnw yn llawn haeddu ei gofnodi’n gyfan:
Diolch am yr Adfent, y cyfnod arbennig hwn pan fyddwn yn edrych ymlaen at y Nadolig. Mae’n amser cyffrous a llawen. Bob dydd rydym yn agor ffenestr a bwyta siocled, gydag ambell i ymweliad â groto Siôn Corn. Mae’r goleuadau llachar yn ei dallu weithiau a byddwn yn anghofio am wir ystyr yr Ŵyl.
'Tinsel ar y goeden
seren yn y nen,
a doli fach yn eistedd
mor ddel ar frig y pren
ai hyn yw’r Nadolig?
Pwy a ŵyr?'
Helpa ni i gofio mai edrych ymlaen at gael dathlu geni Iesu a wnawn.
Offrymwyd y weddi fach fawr hon gan Leisa:
Ein Tad, wrth i ni baratoi ar gyfer y Nadolig, helpa ni i gofio amdanat ti yng nghanol y tinsel a’r cardiau, y prysurdeb, y gwthio, y rhuthro, y miri a’r dathlu, y canu, y rhannu. Helpa ni i feddwl am bwrpas y cyfan ac i gofio amdanat Ti. Amen.
Lliwiau oedd man cychwyn neges y Gweinidog: y lliwiau cysefin, glas, coch a melyn. Ei fwriad, meddai oedd i’r plantos a’r plant i feddwl am...ofn. Mae ofn rhywbeth neu'i gilydd a’r pawb ohonom o’r ieuangaf i’r hynaf, meddai. Weithiau, mae ofn y 'gwahanol' arnom. Mae arnom ofn pobl sydd yn edrych yn wahanol i ni, a gyda hynny gofynnodd am wirfoddolwr. Dwylo’i fyny! Bu sawl ‘Fi! Fi!’. Y dasg yn syml, edrych trwy ddarn o wydr melyn. Gwnaeth Mari Fflur hynny. ‘Beth wyt ti’n weld?’ oedd cwestiwn y Gweinidog, a’r ateb: ‘Mae pawb yn felyn!’ ‘Roedd cyfle i ddau arall o blant y set fawr - darn crwn o wydr glas i gynrychioli ein hofn o bobl sy’n credu’n wahanol i ni. ‘Roedd y gynulleidfa’n las i gyd y tro hwn. Yn olaf, darn tywyll o wydr coch i gynrychioli pobl sydd yn byw yn wahanol i ni. Mae ofn, mynnai’r Gweinidog yn lliwio’r ffordd 'rydym yn gweld pobl. Ah! Y plant yn deall! Yn sydyn, gosododd y Gweinidog y darnau crwn o wydr - melyn, coch, glas - un ar ben y llall a dangos nad oedd modd gweld dim trwyddynt bellach. Mae ofn yn y pendraw yn gallu’n dallu ni, a ninnau gweld dim o’r hyn sydd yn wir am bobl.
Melyn, coch, glas? Tri... ond ‘4’ oedd thema’r Oedfa hon? Gan ddiolch i’r plantos a’r plant am ei atgoffa, cymerodd y Gweinidog baent glas, coch a melyn. Beth sy’n digwydd pan i chi’n cymysgu’r lliwiau melyn, coch a glas? 'Roedd sawl un yn gwybod. Pwy sydd am gymysgu’r lliwiau? Pob un! Cymysgwyd, a chrëwyd o’r tri lliw, bedwerydd...brown tywyll du. Dyma beth mae ofn yn gallu gwneud, mynnai’r Gweinidog. Mae ofn o bobl sydd yn edrych yn wahanol, yn credu’n wahanol, yn dewis byw’n wahanol yn gallu troi’r bywyd a byd yn ddu o ragfarn, casineb a thrais.
Wedyn, ffrâm... ac yn y ffrâm talp o dduwch du. Â’n byd yn ddu o drais, casineb a rhagfarn, rhaid wrth Ffydd: ffydd yn Nuw, a ffydd yn ein gilydd fel pobl. Rhaid wrth Obaith, a rhaid wrth Gariad. Gofynnodd y Gweinidog felly, i’r plantos a’r plant awgrymu beth ellid ei wneud i oleuo’r tywyllwch hwn. Daeth yr atebion yn drwch: Rhannu; helpu a cheisio gwneud nhw'n hapus; cefnogi; bod yn neis ac yn garedig; gweddïo; codi arian i elusen. Wrth fod y Gweinidog yn sgrifennu’r geiriau hyn fesul un ar y talp du, er mawr ryfeddod ymddangosodd liw, enfys o liw ymhob llythyren a gair. Mae Ffydd, Gobaith, Cariad; gweddïo, cefnogi, helpu a rhannu yn amlygu lliw bywyd. Nid byd du, a bywyd tywyll y bwriadodd Duw ar ein cyfer, ond byw lliwgar: dathlu a diogelu amrywiaeth.
Wedi’r i’r plantos a phlant ein gadael er mwyn cael ymarfer i’r Cyflwyniad Nadolig (20/12), daeth y Gweinidog i’n plith â chynnig darn o bapur A4 i hwn, llall ac arall. Sawl gwaith gallwch chi blygu darn o bapur A4 yn ei hanner? (Os oes gennych ddarn wrth ymyl, rhowch gynnig arni!) Pump? Chwech efallai; efallai mawr saith! Byth wyth! Bu rhai’n brysur, yn ddyfal a dygn blygu a phlygu, ond... ie, y Gweinidog oedd yn iawn! Anodd iawn y plygu ar ôl y pumed plygiad. Pa neges oedd yn hyn i’r eglwys felly?
Pe bawn - gan fod plygu mor lletchwith - yn cael gafael ar declyn torri hynod fanwl, a thorri yn hytrach na phlygu’r darn papur A4, ymhen 30 toriad buaswn wedi cyrraedd lawr i faint atom hydrogen.
Beth pe bawn yn dyblu maint y darn papur gan symud o A4 i A3 i A2 i A1 ac ymlaen? Ar ôl dyblu maint y papur A4 90 o weithiau buaswn wedi symud y tu hwnt i’r sêr a’r gofodau gweladwy, ac wedi cyrraedd ymylon y Bydysawd - pedwar biliwn ar ddeg o flynyddoedd golau i ffwrdd!
Pe bawn yn gosod y mawr a'r bach ynghyd, ymhen 120 o haneri a dyblu darn o bapur A4 yr ydym wedi mynd i’r dimensiwn lleiaf, a’r mwyaf o’n realiti ninnau.
Yn ein perthynas â Duw, yn ein hymwneud â ni’n hunain ag arall; yn ein bywyd fel eglwys, cymuned, cenedl, byd...dim ond camau bach - a llai o lawer ohonynt nag y tybiwn - sydd angen i fod yn llawer fwy, neu’n llawer llai, nag y credwn sydd yn bosibl.
Diolch am hwyl a her yr Oedfa Deulu. Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar bore Sul nesaf (12/12); fel rhan o’r oedfa bwriedir cyflwyno Drama’r Nadolig ad hoc. Felly anogir y plant a’r bobl ifanc (ynghyd â’r oedolion os dymunant) ddod fel un o gymeriadau’r ddrama.
'Roedd y casgliad rhydd yn oedfaon y dydd tuag at waithCymdeithas y Beibl.
'Roedd yn dda gennym weld ein Coeden Cyfarchion Nadolig yn ei le, eleni eto.
Yn yr Oedfa Hwyrol, dechreuwyd ar gyfres newydd o fyfyrdodau i’r Adfent. Cafwyd, heno tri darn o gelfyddyd, a’r tri yn gwbl gyfan wahanol. Eseia Broffwyd; Capel Sixtus, 1477-83 gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564) oedd y cyntaf.
Dyn o ddylanwad anghyffredin oedd Eseia. I’w bobl, ac i arweinwyr y bobl, bu Eseia’n gerydd ac yn gysur (Eseia 1:14 a 40:1a). Gwyddom, mynnai’r Gweinidog ein bod yn haeddu cerydd Duw am yr holl ddrwg a wnaethom, a’r holl dda nas gwnaethom. Ond, ein cysur yw bod Duw, yn ac oherwydd ei gariad mawr yn chwilio amdanom; yn chwilio a chwilio nes cael.
Echel yr ail fyfyrdod oedd The Last Judgement 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944). Lliw; lliwiau’n hollti; chwalu, tasgu a sgrialu. Llinellau a thalpau o ddu. Mae The Last Judgement yn fynegiant o arswyd a gobaith mewn lliw, siâp a ffurf.
Arswyd? ‘Does neb call yn hoffi meddwl am y Farn Ddiwethaf. Pam? Gan fod y cyfan yn peri braw. Ond, nid duwch arswyd du i gyd mor Farn Ddiwethaf. Erys Gobaith. Yr Un - Iesu - Arglwydd - Gwaredwr - Brawd - a esgynnodd at Dduw i eiriol trosom ni, yw’r Un sy’n dod i’n barnu.
Mae pob arlunydd yn dewis gweithio gyda rhai lliwiau yn arbennig. Ond, yr hyn sydd yn nodweddiadol am waith yr arlunydd Anselm Kiefer yw diffyg lliw.
Mae Kiefer yn dewis gweithio yn bennaf gyda’r lliw llwyd. Mae rhywbeth yn llwyd amdanom; llwyd ein byw a’n bywyd. Lliwgar yw Duw. Pan ddaeth y Duw byw yn blentyn bach i’n byd, daeth lliw i fyd llwyd. Aralleiriad o eiriau mawr Ioan, a’n harweiniodd at fwrdd y bara a’r gwin: Yn y dechreuad yr oedd lliw, yr oedd lliw gyda Duw, a Duw oedd y lliw...A daeth y lliw yn gnawd...gwelsom ei ogoniant ef...
Daeth yn amser i ddod ynghyd wrth y Bwrdd. Cafwyd cyfle i lawenhau gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12: 15). Estynnwyd ein cydymdeimlad â’r galarus yn ein plith; dymunwyd i gyfeillion a fu o dan gwmwl afiechyd a gwendid yn ystod y mis aeth heibio, adferiad buan, ac ymwared o’i anhwylderau.
Byddwn yn parhau gyda’r gyfres hon o fyfyrdodau’r Adfent yn yr Oedfa Foreol Sul nesaf (13/12) gan ystyried Hamburg Altar (The Tree of Jesse), 1499 gan Absolon Stumme (m.1499); cyfieithiad J.D.Vernon Lewis o’r emyn Lladin: O! tyred di, Emanŵel...(CFf.:432) a chloi gyda St. John the Baptist Preaching, circa 1665 gan Mattia Preti (1613-1699)
Liw nos, gwrthrych ein myfyrdod fydd Saint John the Baptist in the Wilderness (15fed Ganrif) gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). Saint John the Baptist Preaching, 1775 gan Anton Raphael Mengs (1728-1779) a Preaching of St. John the Baptist, 1490 gan Domenico Ghirlandaio 1449-1494. Boed bendith.
PREGETH NOS SUL
Tymor yr Adfent - 1
Eseia Broffwyd, 1477-83; Capel Sixtus (y Capel Sistinaidd), Y Fatican, gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564). Eseia: dyn o ddylanwad anghyffredin; bu gerydd ac yn gysur. Heriodd brenhinoedd Jwda (Eseia 1: 1) i ystyried yn llawn goblygiadau eu penderfyniadau gwleidyddol, a heriodd ei bobl i fyw’n deilwng o’r safonau a osodwyd yn nod iddynt gan Dduw. Cadwodd gerydd a chysur mewn perffaith densiwn creadigol (Eseia 1: 14 ac Eseia 40: 1a). Yn y llun, er bod Eseia’n eistedd, gwyddom mai clamp o ddyn ydoedd. Bu’n darllen neu ysgrifennu, gosododd ei lyfr o’r neilltu, a’i fys yn cadw’r tudalen. Tarfwyd arno gan ddau geriwb! Try’r proffwyd at y ceriwb: "Beth? Beth wyt ti ei eisiau?". Atebir: "’Drychwch! ‘Drychwch beth sydd yn digwydd!" gan gyfeirio sylw’r proffwyd at bortread o’r Cwymp (Genesis 3:1-12). Er i Dduw rybuddio Adda i beidio bwyta o bren gwybodaeth da a drwg, aeth apêl y gwaharddedig yn drech nag ef. Gwyddom ninnau am apêl yr hyn a waherddir, ac am yr hyn y cynigir i ni fel man gwyn fan draw. Wrth estyn amdano gallwn golli popeth sydd gennym. Gwyddom er hynny nad yw’r stori’n gorffen gyda’r cwympo.
Neges 1: Mae Duw yn chwilio amdanom. Ni allwn guddio rhag ein Duw; Mae Duw yn llond pob lle, presennol ymhob man (David Jones, 1805-68; C.Ff.: 76). Try Cariad Duw'r cyfan wyneb i waered i chwilio amdanom ... chwilio nes cael, nid er mwyn cosbi, ond er mwyn cymodi. ‘Rydym yn wrthrychau Cariad Duw ac ni fodlonir y Cariad hwnnw hyd nes ein cael yn ôl. Yng nghanol prysurdeb mawr y Nadolig cofiwn gerydd y Cwymp a chysur y Cymodi.
The Last Judgement 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944). Lliwiau’n hollti, chwalu, tasgu a sgrialu; yn llifo, cronni am eiliad neu ddwy, cyn llifo o’r newydd. Chwiliwn am batrwm sefydlog; ni chawn hynny gan Kandinsky; ni chawn ganddo chwaith stori, na disgrifiad na phortread. Dim ond mynegiant o arswyd a gobaith! Yr angel glas, ac utgorn melyn yn ei law? Delwedd draddodiadol o’r Farn Ddiwethaf (Mathew 24:31a). Un o nodweddion y llun yw’r defnydd o ddu; crëir y naill adain gan ddefnyddio’r lliw glas, a’r llall wedyn gan linellau du. Fel arall, saif y lliwiau a’r du ar wahân, ond yn yr angel daw lliw a duwch ynghyd. Dyma fynegiant o arswyd a gobaith, yn naill ynghlwm wrth y llall.
Neges 2: Arswyd a Gobaith. Arswyd? Nid oes neb yn hoff o feddwl am y Farn Ddiwethaf. Mae’r cyfan yn peri braw. Arswyd? Nid duwch arswyd du yw’r Farn Ddiwethaf i gyd. Nid arswyd du yw’r unig wirionedd am ein byw a’n byd. Mae Gobaith hefyd. Perthyn i’r llun ganol llonydd, gwyn a golau: Gobaith. Wrth feddwl am y Farn Ddiwethaf, nid oes modd osgoi tywyllwch y drwg a wnaethom, a’r daioni nas gwnaethom. Erys Gobaith. Yr Un - Iesu - Arglwydd - Gwaredwr - Brawd - a esgynnodd at Dduw i eiriol trosom, yw’r Un sy’n dod i’n barnu. Er mor real y du, ni ellir diffodd na chyffroi'r canol golau gwyn: Gobaith.
Winterland 2010; Anselm Kiefer
Mae diffyg lliw yn nodweddiadol o waith yr arlunydd Anselm Kiefer (gan. 1945). Meddai Kiefer, "The truth is always grey." Cywir? Ai llwyd yw lliw'r gwir amdanom? Onid cymysgedd yw’r natur ddynol? Byddai bywyd cymaint haws pe byddai’r gwirionedd amdanom yn ddu a gwyn. Yn 2015, mynna mwy a mwy o bobl nad llwyd yw lliw'r gwir; dymunant beintio’r byd yn ddu a gwyn. Llwyd, ac nid du a gwyn, yw lliw'r gwirionedd! Try pob gwyn yn llwydwyn, ac o dipyn i beth yn llwyd; a phob du yn welwlas, ac yn araf yn llwyd. Anorfod hyn gan fod y gwacter, euogrwydd ac anobaith sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod yn llwydo popeth. Llwyd yw lliw'r gwir amdanom ... ond lliwgar yw gwirionedd Duw. Dathliad yw’r Nadolig o wirionedd lliwgar Duw. Pan ddaeth y Duw i’n byd, daeth lliw ffydd, gobaith a chariad i fyd llwyd. Mae Keifer yn rhannol gywir. Gwelodd y gwir am bobl, ond ni welodd y gwirionedd am Dduw.
Neges 3: Gwirionedd amryliw yw gwirionedd Duw. Dyma'r unig wirionedd gwerth cydio ynddo, i fyw iddo ac i fyw arno. Y Nadolig hwn, derbyniwn liw Duw i’n bywyd o’r newydd. Gallwn fentro wedyn, yn hyderus ac yn sicr, i flwyddyn newydd, ac i hen fyd llwyd, gyda holl liw Duw ar balet ein bywyd, ac yn ein llaw, brwsh ein ffydd, yn barod i beintio’r byd i Dduw.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (8)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
117
Molwch yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd;
clodforwch ef, yr holl bobloedd.
Oherwydd mae ei gariad yn gryf tuag atom,
ac y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD dros byth.
Molwch yr ARGLWYDD.
(Salm 117)
Pwy a folir? Molwch yr ARGLWYDD...Dyma wrthrych y mawl - creawdwr pob peth a chynhaliwr pawb. Ef yn unig sydd yn deilwng o fawl.
Pam y molir yr ARGLWYDD? ...oherwydd mae ei gariad yn gryf tuag atom...Gair pwysicaf y cymal hwn yw ‘cariad’. Cariad yw ffynhonnell y mawl.
Sut y molir yr ARGLWYDD? Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd ..! Ehangder y mawl! Bwriad Duw yw cael yr holl bobloedd yn un yn ei gariad.
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (7)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon: Galarnad 3:25