GENESARET

...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)

Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath

Terra Nova...11 y bore, amser paned. Er mor adfywiol y baned, y drafodaeth a’n bywiocaodd. Man cychwyn y drafodaeth honno oedd triongl; triongl ar ei phen; ei phegwn uchaf am i lawr. Beth a wnelo hyn â gweddi, addoliad a bywyd yr eglwys leol? Gan John Roberts (Minimus; 1808-1880; CFf.:243) oedd yr ateb, heb anghofio Habacuc broffwyd!

Bywha dy waith, O Arglwydd mawr,

dros holl derfynau’r ddaear lawr

drwy roi tywalltiad nerthol iawn

o’r Ysbryd Glân a’i ddwyfol ddawn.

Bywha dy waith o fewn ein tir,

arddeliad mawr fo ar y gwir;

mewn nerth y bo’r Efengyl lawn,

er iachawdwriaeth llawer iawn.

Bywha dy waith o fewn dy dŷ

a gwna dy weision oll yn hy:

gwisg hwynt â nerth yr Ysbryd Glân,

a’th air o’u mewn fo megis tân.

Bywha dy waith, O Arglwydd mawr,

yn ein calonnau ninnau nawr,

er marwhau pob pechod cas,

a chynnydd i bob nefol ras.

Mae nifer helaeth o weddïau yn y Beibl. Seiliwyd yr emyn hwn ar weddi’r Proffwyd Habacuc. Brawddeg o’r weddi honno sy’n dechrau pob un o’r pedwar pennill: Bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd. ‘Roedd Habacuc yn byw mewn cyfnod pan oedd cyflwr ysbrydol ei bobl yn isel, ‘Roedd hyn tua saith canrif cyn Crist. Nid yw dirywiad crefyddol yn beth newydd felly! Ond, a dyma hanfod neges y Proffwyd, ni ddylai pobl Dduw fod yn fodlon ar gyflwr eu hoes nac ar eu cyflwr eu hunain!

O! ARGLWYDD, clywais sôn amdanat, a gwelais dy waith, O! Arglwydd. Adnewydda ef yn yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd...Er nad yw’r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw’r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i’r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw’r meysydd yn rhoi bwyd; ac er i’r praidd ddarfod o’r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD Dduw wy fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a phâr imi rodio uchelfannau (Habacuc 3:1-3, 17-19)

Dyhead gweddigar yr emynydd yw am i Dduw fywhau ac adnewyddu ei waith - dros holl derfynau’r ddaear lawr, o fewn ein tir, o fewn dy dŷ; yn ein calonnau ninnau nawr. Sylweddola’r emynydd mai Duw all fwyhau, ac mae’r bywhau yn digwydd yn a thrwy bobl Dduw. Gwaith Duw ynom yw tarddle’r bywhau. Pan fywheir gwaith Duw yn ein calonnau ninnau nawr bywheir gwaith Duw o fewn dy dŷ, o fewn ein tir, a thros holl derfynau’r ddaear lawr.

Wel, am drafodaeth! Dyma rhai o’r prif bwyntiau:

Er cydnabod pwysigrwydd dylanwad y weddi a defosiwn yn ein calonnau ninnau nawr; rhaid hefyd sylweddoli fod gweddi a gweddïau pobl Dduw dros holl derfynau’r ddaear lawr yn ein cynnal a'n chadw. Pwy a ŵyr sawl bendith a gawn o weddïau pobl Dduw ledled byd?

Cydnabu’r Gweinidog nad oedd wedi sylweddoli tan yn gymharol ddiweddar mai dyfyniad o broffwydoliaeth Habacuc oedd llinell agoriadol pob pennill. Cymaint a gollir wrth golli cyd-destun adnod neu emyn!

Yng nghyd-destun y symud a berthyn i emyn Minimus, o holl derfynau’r ddaear lawr i ein calonnau ninnau nawr soniwyd am bwysigrwydd a chyfoeth ein koinônia fel pobl ffydd. Ofer y ceisia unrhyw un wneud yr Efengyl yn feddiant personol; yn yr act o’i dderbyn rhaid ei rhannu, fe lifa o ein calonnau ninnau nawr i holl derfynau’r ddaear lawr.

Mor bwysig yw cyfle fel hyn, yn gwmni bychan, i drafod ein ffydd! Er mor bwysig y cyhoeddi bob Sul, hanfodol y cwmnïa agos i rannu a thrafod. Cyfuniad o’r cyhoeddi a’r trafod sydd yn bywhau gwaith Duw yn ein calon.

BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol, a rhaid wrth y naill a’r llall, gan fod y naill yn cynnal y llall. Mae cyfres Bethsaida yn gyfrwng ac yn gymorth i ddyfnhau ein profiad ysbrydol, ac o’r herwydd ein bywyd defosiynol.

Wedi cyd-ddarllen Salm 51, arweiniwyd ni gan y Gweinidog i ystyried cynnwys rhai o weddïau Iesu. Nodir yn yr Efengylau fod Iesu wedi gweddïo ar rai achlysuron pwysig yn ei fywyd: yng Nghesarea Philipi, pan gydnabu fod Pedr yn iawn i ddatgan: Ti yw y Crist, mab y Duw byw (Mathew 16:13-23; Luc 9:18-22) ‘Roedd hefyd yn gweddïo ar Fynydd y Gweddnewidiad (Luc 11:1-4). Gweddïodd yng Ngethsemane. Rhoddir inni eiriad y weddi (Mathew 23: 39,42; Marc 14:36 a Luc 22:42) O! Dad, os ewyllysi droi heibio’r cwpan hwn oddi wrthyf, er hynny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. ‘Roedd hon yn weddi cwbl arbennig. Y mae iddi elfennau unigryw. Ni fu erioed yn gweddïo fel Iesu yng Ngethsemane. Gweddi ar y ffordd i’r groes ydyw. Gweddi’r chwys fel defnynnau o waed ydyw. Er hynny, y mae ynddi esiampl i bob gweddïwr: sef dysgu dweud: nid fy ewyllys i, ond yr eiddot Ti a wneler.

Nodweddion amlwg gweddïau geiriol Iesu yw iddynt ddigwydd ar adegau argyfyngus yn ei hanes, eu bod yn fyr o ran eu hyd, ac yn glir a phendant o ran eu cyfeiriad a’u cynnwys. A hynny ddaeth â’r cwmni bychan at gyfle i drafod ychydig. Onid 'saeth-weddïau' yw’r gweddïau dwysaf? Gweddïau’n codi sydyn syml o ganol ein goruchwylion beunyddiol; gweddïau a deflir at Dduw o ganol cyfyngderau - ymbil am gymorth neu fynegiant o ddiolch. Trafodwyd yn helaeth dylanwad amgylchiadau ar natur, cysondeb ac angerdd ein gweddïau - heb fod yr hyn a ddigwydd i ni, ac o’n cwmpas yn dylanwadu ar natur ein gweddïau, nid gweddïo a wnawn, dim ond pentyrru geiriau’n ofer.

Liw nos y 14 o Dachwedd 1940 chwalwyd dinas Conventry gan fomio trwyadl dygn y Luftwaffe. Ymhlith yr holl bethau a chwalwyd, chwalwyd hefyd yr hen Gadeirlan.

Trannoeth, dim ond ei furiau carreg oedd yn weddill. O’r adfeilion cymerwyd dwy astell, yn ddu o wres y tân. Clymwyd y naill i’r llall, a chreu croes. Gosodwyd y groes honno yn agos at yr uchel allor, a honno fel pob peth arall ar chwâl. Un mlynedd ar bymtheg wedi chwalu’r Gadeirlan, gosodwyd carreg sylfaen y Gadeirlan newydd. Wedi cerfio’r ddwfn i’r wal tu cefn i’r hen uchel allor mae’r geiriau syml: Father, forgive.

Gweddillion Cadeirlan Coventry trannoeth cyrch y Luftwaffe, 14 Tachwedd 1940

Gweddillion Cadeirlan Coventry trannoeth cyrch y Luftwaffe, 14 Tachwedd 1940

Pan feddylir am y geiriau hyn, daw ffrwd o bethau i feddwl, ac yn bennaf y geiriau ysgytwol rheini o’r Weddi Fawr (Mathew 6:9-13): Maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’r dyledwyr. (Mathew 6:9-13) Mae ‘na amod i’r maddeuant; maddeuir i ni yn unol â’n parodrwydd i faddau i eraill. Atgoffir ni hefyd o eiriau Iesu ar y groes: O! Dad maddau iddynt...(Luc 23:34).

Awgrymodd ein Gweinidog, dull o weddïo a allasai ein cynorthwyo i feithrin parodrwydd i faddau i arall neu eraill. Mae ‘Maddeuant’ yn hawdd, meddai, y ‘maddau’ sydd anodd.

Y man cychwyn yw’r cyfaddefiad na ellir o ddifri - gan mor ddwfn y dolur - weddïo’r geiriau O! Dad maddau...o gwbl! Serch hynny, er waethaf y dolur, gellir gweddïo: O! Dad dymunaf ddymuno cael maddau.

Y cam nesaf, maes o law, yw newid syml, bychan i eiriad a phwyslais y weddi: O! Dad dymunaf gael maddau...‘Rydym gam yn nes at fedru maddau.

Dim ond wedi symud trwy’r camau cyntaf y gellir gweddïo O! Dad maddau...

Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Dyma ddarn o’r weddi honno:

Na chofia, O! Arglwydd, y pethau nas gwnaethom; na chofia, O! Arglwydd, yr addewidion a dorasom; na chofia, O! Arglwydd, y cyfleoedd a gollasom...Adfywia ni, O! Arglwydd.

Wedi’r cyfnod hwn - yng nghwmni Duw gyda phobl Dduw- o hunanymholiad, daeth cyfarfod buddiol arall o 'Bethsaida' i ben.