• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

PIMS

November 9, 2015 Owain Evans

Thema PIMS heno oedd thema’r mis hwn: ‘3’. Roedd hwyliau da ar y Gweinidog, gan fod cyfle iddo actio! Fe ddown at hynny maes o law. I gyflwyno’r thema, rhoddwyd i’r PIMSwyr y dasg o ddarganfod y deg triawd ynghudd yn y dryswch isod. Rhowch gynnig arni!

Sut hwyl gawsoch chi tybed? A welsoch y BLT - ‘Bacon, Lettuce a Tomato’? ‘Snap, Crackle, Pop’? neu ‘Edward, Jacob, Bella’? Dyma’r rhestr yn gyflawn:

Alvin, Simon, Theodore

Harry, Ron, Hermione

Macbeth - y gwrachod!

Aaron, Moses, Miriam

Pedr, Iago, Ioan

Sadrach, Mesach, Abednego

Ffydd, Gobaith, Cariad

Yng nghanol y cyfan, er mwyn ychwanegu dryswch at ddryswch, ‘roedd ‘Cerberus’ (‘roedd tri phen gan y creadur hwnnw!), a hefyd ‘Macbeth’. Hyn a ddaw â ni at actio’r Gweinidog...er mawr syndod i’r PIMSwyr fe drodd yn un o dair gwrach y ddrama honno, gan holi:

When shall we three meet again

In thunder, lightning, or in rain?

Wedi gwahanu’r cwmni yn ddau grŵp, y Gweinidog a Dyfrig fu’n arwain y naill, a Hefin a Geraint y llall. Bu’r grŵp cyntaf yn ystyried bywyd fel stôl deircoes; gofynnwyd iddynt nodi beth oedd deircoes ei bywyd hwy.

Awgrymodd Gruff mai teulu a ffrindiau, pêl-droed, a chanu yw deircoes ei fywyd yntau. Teircoes bywyd Connor yw Cymorth, Cyfeillion a’r Capel. I Amy yn syml: Pawb yn y tŷ, Ffrindiau a Mam-gu. Sam: Teulu, Ffrindiau a Bwyd da. Owain J: Teulu a ffrindiau, Ysgol ac Addysg a Chwaraeon o bob math. Harri: Teulu, Rygbi a Gwyliau’r ysgol. Shani: Teulu, Ffrindiau a Dringo.

I gyfeiriad mymryn yn wahanol aeth grŵp Geraint a Hefin. PIMS a’r eglwys yma’n Minny Street, Caerdydd oedd stôl deircoes y grŵp hwn. Fesul dau buont yn trin a thrafod. I Oliver ac Ioan teircoes PIMS yw: Dominos/Cacennau; Iesu a’r PIMSwyr. Mynnai Cadi ac Efa fod Hapusrwydd, Teulu a Chymuned ffydd yn nes ati. Ifan ac Osian: Pobl, Gobaith, y Gweinidog.

Y stolau...rhai fwy sad na'i gilydd!

Y stolau...rhai fwy sad na'i gilydd!

Wedyn dychwelyd at weddill y triawdau. Dyfrig fu’n sôn am Aaron, Moses a Miriam, gan bwysleisio eglwys Minny Street, fel pob eglwys, yn deulu. Brodyr a chwiorydd ydym.

Pedr, Iago, Ioan? Geraint fu’n trafod y rheini gyda’r PIMSwyr. Disgyblion Iesu; ffrindiau Iesu Grist oedd y rhain; a ffrindiau Iesu Grist ydym ni.

Hefin cafodd y dasg o gyflwyno stori Sadrach, Mesach, Abednego! ‘Roedd y rhain yn ddewr. Mentrus mewn, a thros ei ffydd yn Nuw. Mae angen i ni fel eglwys yma’n Minny Street i fod yn ddewr: yn ddewr mewn Ffydd; yn fentrus mewn Cariad, ac yn hyderus mewn Gobaith.

Aethpwyd ati - a chlamp o gamp oedd llwyddo - i geisio ‘diffiniad syml’ sydyn o’r grasusau mawrion hyn.

Dyma ‘ddiffiniad’ Oliver, Connor, Harri, Sam, Owain, Hefin ac Ifan o FFYDD: Ffydd yw rhywbeth rydych yn credu yn gryf iawn iawn ynddo. Mae cael ffydd mewn rhywbeth neu rywun yn golygu eich bod yn gwbl sicr amdano, ac yn deyrngar iddo. Mae ffydd yn goleuo’r ffordd ac yn rhoi golau mewn mannau tywyll yn ein bywydau.

Fel hyn y ‘diffiniwyd’ GOBAITH gan Shani, Ioan, Gruff, Geraint a Lleucu: Pan mae pethau’n wael neu’n anodd gobaith yw beth sy’n cadw chi i fynd. Mae’n gwneud i chi gredu bod rhywbeth gwell i ddod. Gobaith yw’r golau mewn byd tywyll.

Osian, Amy, Fred, Cadi, Mali, Dyfrig ac Efa fu’n brysur ‘diffinio’ CARIAD: Cariad yw dangos emosiwn i berson arall; gallwn ddangos cariad trwy ein perthynas agos gyda teulu a ffrindiau a dangos parch at bawb. Mae bywyd yn well gyda cariad.

Noson braf, fuddiol. Bydd PIMS ar waith ymhen pythefnos, gan ymweld o’r newydd â warws y Banc Bwyd yn Splot a, 6 o'r gloch nos Lun Tachwedd 23.

 

 

NEWYDDION Y SUL

November 8, 2015 Owain Evans

Y Parchedig Menna Brown fu’n arwain ein Hoedfa Foreol Gynnar. ‘Roedd pawb yn synnu pan ofynnodd Menna’r cwestiwn: ‘Pam i chi yma bore ‘ma?’, ond daeth ateb yn sydyn ddigon: ‘Achos bo’ ni’n 'moyn' bod!’ Y gofyn a’r ateb hwnnw fu’n sbardun i Menna ddatblygu ei thema: ‘Gyda’n gilydd’. Soniodd am un arall oedd 'moyn' bod yn Nhŷ Dduw yn addoli a dysgu, ac Iesu oedd hwnnw. Darllenwyd gan Connor yr hanes am y bachgen Iesu yn y Deml (Luc 2:41-52). Ein dymuniad, meddai Menna, yw bod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad (Luc 2:49b. WM). Ni’n 'moyn' bod gyda Duw, gyda phobl Dduw, gyda’n gilydd yn Nuw, i Dduw. Gyda’n gilydd: plantos, plant a phobl ifanc; hŷn, hynach a hen, mewn hwyl a chwerthin, mewn tristwch a dagrau. Gyda’n gilydd i ddarllen Gair Duw, gyda’n gilydd i drafod a dysgu'r Gair byw hwnnw. Byw a bod ‘gyda’n gilydd' er clod i Dduw ac er lles ein cyd-ddyn. Dangosodd Menna gwilt hyfryd, ei gwaith llaw hithau oedd y cyfan. Clytwaith hardd o liw a phatrwm; ac awgrymodd Menna mai nyni oedd y darnau amrywiol, pawb a’i natur a chyfraniad gwahanol, ond Duw, meddai yw’r defnydd brown a oedd fel 'ffrâm' i'r cwilt - o’n cwmpas yn ddiogel - ei gariad ef a’n ceidw ynghyd. Eglwys Iesu Grist, meddai Menna a gynrychiolir gan y sgwâr coch: un teulu ydym, gyda'n gilydd mewn ffydd, gobaith a chariad.

Cwilt Menna, a 'sgwâr coch' Eglwys Iesu Grist.

Cwilt Menna, a 'sgwâr coch' Eglwys Iesu Grist.

Wedi canu emyn, newidiwyd natur yr oedfa'r mymryn lleiaf. Ar Sul y Cofio, bu Menna’n cofio, fel y mae yn cofio bob dydd o'r flwyddyn, am ei thad: David John Evans (g. 1904) a fu farw yn Mogadishu yn 1944. Claddwyd ef yno’n wreiddiol, ond ail-gladdwyd ei weddillion ym mynwent Ngong, Nairobi. Yng nghapel y Genhadaeth i’r Morwyr yn Mombasa ceir carreg a phulpud er coffa am David John. Ar y garreg mae’r geiriau hyn:

IN MEMORY OF

D.J.EVANS, 2nd OFFICER

S.S.FORT SENNEVILLE, WHO DIED ON ACTIVE SERVICE

AT MOGADISHU, APRIL 28th 1944. THIS PULPIT WAS

ERECTED BY THE CAPTAIN, OFFICERS AND CREW,

IN MEMORY OF ONE DEEPLY RESPECTED.

Dengys arwyddlun y Genhadaeth i’r Morwyr angel yn ehedeg i gyfleu’r adnod hon o Ddatguddiad Ioan: Yna gwelais angen arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i’w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl (14:6). Diweddwyd yr oedfa â gweddi am heddwch i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.

Rhwng y naill oedfa’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd. Fel eglwys 'rydym yn anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd erbyn y Nadolig. Diolch i haelioni aelodau, eisoes danfonwyd dros 700 kg o’r Ail Dunnell o fwyd i’r warws yn Sblot. ‘Rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd y nod erbyn y Nadolig ond i sicrhau hynny bydd angen ymdrech arbennig ym mis Tachwedd i roi hwb ymlaen.

Yn yr Oedfa Foreol, cafwyd cyfle i gofio a diolch am Gwilym Hiraethog (8/11/1802 - 8/11/1883). Eiddo Gwilym Hiraethog yr emynau'r Oedfa hon, bob un. ‘Roedd y Gweinidog wedi paratoi ychydig sylwadau am gymeriad a chyfraniad Gwilym Hiraethog. Sonnir amdano yn y gyfrol fechan ‘Arweinwyr yr Annibynwyr’ (J. Rees Jones; UAC; 1939) fel Dyn y Doniau Mawr, a dyna ydoedd heb os. Trwy garedigrwydd y Parchedig Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ‘roedd cyfle i gael cip olwg ar Feibl y Llywydd. Beibl a gyflwynwyd gan Evan Morgan, diacon yr eglwys yn y Tabernacl Lerpwl i Lywydd yr Undeb ym mlwyddyn ei Jiwbilî yn 1922, y Parchedig O.L.Roberts. Trosglwyddir y Beibl o Lywydd i Lywydd. Pan sefydlwyd yr Undeb Cynulleidfaol Cymraeg yn 1872, dewiswyd Gwilym Hiraethog yn Gadeirydd cyntaf iddo. Testun ei anerchiad o’r Gadair oedd ‘Satan’. Cwbl addas, â hithau’n Sul y Cofio yw dyfynnu'r darn hwn o awdl fawr Hiraethog: ‘Heddwch’. Disgrifir gof yn troi cleddyf yn swch:

Chwythu’i dân dan chwibanu

ei fyw dôn, wna y gof du;

un llaw fegina, a’r llall

faluria’r glo fel arall:

wedi trefnu, taclu’r tân

ar bwynt allor ei bentan

yn hyf mewn hen gleddyf glas

luniai lawer galanas

gafaela y gof eilwaith

chwery ag ef cyn dechrau gwaith…

Wedi disgrifio’r gwaith yn mynd rhagddo, y mae’n gorffen fel hyn:

fe’i cura nes â yn swch

Gywrain ei gwasanaethgarwch,

I aru’r ddaear iraidd

A thy’ o hon wenith a haidd.

Mae’r cyd-destun yn ddigon cyfarwydd: hyfryd eiriau Eseia broffwyd:...curant eu cleddyfau’n geibiau a’u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach (Eseia 2:4).

Ar y darn papur sy’ yn llaw cerflun Henry Richard yn Nhregaron y mae’r gair Peace wedi ei ysgrifennu. Ni ddaw’r Heddwch y canodd Hiraethog amdano hyd nes i bobl drosglwyddo’r gair hwnnw o’r papur i’r galon; o’r cerflun oer i gnawd byw.

Dwy adnod yn gydiol wrth ei gilydd oedd testun pregeth ein Gweinidog y bore hwn: Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod... (2 Corinthiaid 5: 18a), ac o gyfieithiad William Morgan: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. (Galatiaid 3:28b WM). Beth yw gweinidogaeth y cymod? Cymodi. Pam cymodi?...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Awgrymodd mai datod cwlwm, chwalu muriau yw cymodi; maddau a diarfogi ydyw, rhyddhau a rhannu. Nid yw’n ddigon, fel rheol, i annog pobl i gymodi a’i gilydd - rhaid i rywun sefyll yn y canol i’w dwyn at ei gilydd. Dyna esiampl a roddodd Crist i ni, sefyll rhwng pobl a Duw i gymodi pobl a Duw. Pwysig heddiw, o bob Sul oedd cael ein hatgoffa o’r alwad sydd arnom i barhau ei waith o fewn yr Eglwys, a’r Eglwys hithau i sefyll rhwng y byd a Duw.

Yn yr Oedfa Hwyrol, bu’r Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau Efengyl Marc a’r flwyddyn 70. Cytunir mai hon yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig a...cholli. Bu methiant, siom a cholledion enfawr; do, hyn i gyd, ac wedyn dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml; echel y ffydd Iddewig. Yr Ymerodraeth a orfu. Bwriad y gyfres hon yw amlygu arwyddocâd cyd-destun ysgrifennu Efengyl Marc i bobl ffydd yng Nghymru heddiw. Testun ein sylw heno oedd adnod agoriadol yr Efengyl: Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw. Fesul gair, cawsom ein tywys i weld beth welodd yr Iddewon Cristnogol hyn fel gobaith o’r newydd, a ffordd newydd i’w cherdded wedi difrod y Flwyddyn 70.

Dechrau. Myn Marc fod Iesu’n ddechreuad a chyfle newydd.

Efengyl. Newyddion Da. ‘Roedd y Deml yn sarn. Ni fu erioed y fath angen am newyddion da, na’r fath brinder ohono! Dyma, meddai Marc, newyddion da i chi, Iddewon Jerwsalem: heddwch, daioni, iachawdwriaeth. Yng Nghrist ‘Dy Dduw sy’n teyrnasu’ (Eseia 52:7).

Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb i’r gair Hebraeg Meseia (eneiniog). Cyflawnwyd holl ddisgwyliadau, dyheadau a gobeithion pobl Dduw, ond mewn ffurf wahanol i’r hyn a ddisgwylid - Iesu Grist.

Mab Duw. I Iddewon y Flwyddyn 70, ni fu’r ddau air erioed o’r blaen yn ymyl ei gilydd! Mab Duw yw Iesu Grist; hwn o’r un natur, ansawdd, sylwedd, deunydd â Duw, a ninnau o’r un deunydd, sylwedd, ansawdd a natur ag Iesu. Cynnig Marc a’r Iddewon Cristnogol ddealltwriaeth newydd o berthynas pobl â Duw. Plant Duw oeddent, ac ‘roedd Duw o’u plaid.

Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2015. Yng Nghymru, wrth i’r hen ffordd o grefydda ddarfod, rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, tra heddiw, darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Onid "Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw" yw’r ateb? Dechrau; onid pobl y ‘dechrau’, yr ‘ailddechrau’ a’r ‘dechrau o’r newydd’, a ‘dechrau drachefn’ ydym? Iesu Grist, Mab Duw: onid brodyr a chwiorydd yng Nghrist ydym wedi ein llunio, pawb ohonom, yn ddiwahân, gan Dduw, o Dduw, i Dduw. Dyma’r Efengyl sydd gennym ac mae angen dybryd ei chyhoeddi, a’i byw a chaniatáu i eraill brofi o wefr ei bendith.

Sul llawn a gafwyd - llawn bendith, llawn her.

Bydd y Gweinidog y bore Sul nesaf (15/11), gyda’r plant a’r plantos, yn ystyried ychydig eto o arwyddocâd y rhif 3. Am weddill yr Oedfa, emyn mawr J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944) fydd testun ein sylw:

Fy Nhad o’r Nef, O! gwrando’n ‘nghri,

Un o’th eiddilaf blant wyf fi:

O! clyw fy llef a thrugarha,

A dod i mi y pethau da.

(CFf.:691)

Liw nos, parhawn gyda’r gyfres Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd - Esau, Joseff a Moses fydd gwrthrych ein sylw y tro hwn.

PREGETH NOS SUL

November 8, 2015 Owain Evans

Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (3)

Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw (Marc 1:1-13)

Dechrau. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw (Marc 1:1) Yn y dechreuad creodd Duw... (Genesis 1:1) Tra parhau i ddarllen y darn o’r Torah a benodwyd i’r diwrnod hwnnw yn y synagog ar y Saboth, ‘roedd yr Iddewon Cristnogol hefyd yn darllen darn pwrpasol o hanes Iesu Grist o’r deunydd crai a adwaenir bellach fel yr Efengylau. Hanfod y bennod gyntaf o Lyfr Genesis yw’r creu: Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw: yn y Roeg: Archē (Y dechrau -1); tou (yr - 2); euangeliou (efengyl - 3); Iēsou (Iesu - 4); Christou (Crist - 5); Huiou (mab - 6) a Theou (Duw - 7). Crëwyd y cyfanfyd mewn saith diwrnod; dechrau Marc ei Efengyl â saith gair! Cyd-ddigwyddiad? Myn Marc fod Iesu’n ddechreuad a chyfle newydd.

Efengyl. Newyddion Da. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy’n cyhoeddi heddwch...sy’n dweud wrth Seion ‘Dy Dduw sy’n teyrnasu’ (Eseia 52:7). Geiriau i ddathlu bod Jerwsalem a’r Deml wedi eu harbed rhag byddinoedd Asyria. Gwaredodd Duw ei bobl. Erbyn y flwyddyn 70 ‘roedd Jerwsalem wedi cwympo. ‘Roedd angen newyddion da; tov yw ‘da’ yn yr Hebraeg. Ymddangos y gair tov am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis (1:3-4): A dywedodd Duw, ‘Bydded goleuni.’ A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda. Ceir patrwm i’r creu: ‘bydded’, ‘bu’, ‘gwelodd’, ‘da’. Bod yn dda yw bod yr hyn a grëwyd ni i fod: Plant Duw. I’r perwyl hwnnw, meddai’r Phariseaid, rhaid cadw’r Gyfraith. Na, mynnai’r Iddewon Cristnogol, rhaid ildio i Gyfraith Dduw mewn cnawd: Iesu Grist - Yr hwn a ddaeth, gan gyhoeddi: Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl. (Marc 1:14). Gwireddir yng Nghrist yr hyn y bwriadwyd ni i fod: yn dda.

Iesu Grist. Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb i’r gair Hebraeg Meseia (eneiniog). Ceir ‘Eneiniog yr Arglwydd’ yn yr Hen Destament sef brenhinoedd a eneiniwyd ag olew fel arwydd o’u dewis gan Dduw. Defnyddiwyd y teitl Meseia ar yr Un o linach Dafydd y disgwyliai’r bobl i Dduw ei godi i fod yn waredwr Israel. Cyflawnwyd y disgwyliadau, ond mewn ffurf wahanol i’r hyn a ddisgwylid! Geilw Marc i gof yr hen alwad: Paratowch ffordd yr Arglwydd... (Marc 1:3 / Eseia 40:3); clywir gan Ioan: Y mae un cryfach na fi yn dod... (Marc 1:7); cyn...daeth Iesu o Nasareth Galilea (Marc 1:9). Symud Marc ei wrandawyr o Paratowch Eseia, i mae un cryfach na fi yn dod Ioan, i...daeth Iesu. Daeth y Meseia i ganol bywyd y byd, a rhaid gwneud cyfrif ohono. Llefarodd Iesu Grist neges o dyngedfennol bwys am Dduw cariadlawn a maddeugar.

Mab Duw. Wedi bedydd Iesu, daeth llais o’r nefoedd: Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu (Marc 1:11). Mae’r mab yn gyfrannog o holl gyfrinachau ei dad; mae’n un â’i dad o ran anian, cymeriad, meddwl a phwrpas: Y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad (Ioan 14:9 WM). I Iddewon y flwyddyn 70, ni fu’r ddau air erioed o’r blaen yn ymyl ei gilydd...Mab Duw yw Iesu Grist; hwn o’r un natur, ansawdd, sylwedd, deunydd â Duw, a ninnau o’r un deunydd, sylwedd, ansawdd a natur ag Iesu. Perthyn a wnawn i Dduw, nid oherwydd ein bod yn ufudd i ofynion y Gyfraith, ond oherwydd ein llunio o ddeunydd dwyfol. Cynnig Marc a’r Iddewon Cristnogol ddealltwriaeth newydd o berthynas pobl â Duw. Plant Duw oeddent, ac ‘roedd Duw o’u plaid.

Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2015. Yng Nghymru, wrth i’r hen ffordd o grefydda ddarfod, rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, tra heddiw, darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Onid Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw yw’r ateb? Dechrau; onid pobl y ‘dechrau’, yr ‘ailddechrau’ a’r ‘dechrau o’r newydd’, a ‘dechrau drachefn’ ydym? Iesu Grist, Mab Duw: onid brodyr a chwiorydd yng Nghrist ydym wedi ein llunio o ddeunydd dwyfol: Teml y Duw byw ydych chwi...fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt... (2 Corinthiaid 6:16)? Datganiad sydd gan Paul: dyma’r Efengyl sydd gennym ac mae angen dybryd ei chyhoeddi, a’i byw a chaniatáu i eraill brofi o wefr ei bendith.

PREGETH BORE SUL

November 8, 2015 Owain Evans

...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu (Galatiaid 3: 28b WM)

Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod... (2 Corinthiaid 5: 18a) Ni yn gyfryngau tangnefedd, yn dystion i gyfiawnder ac yn weision hedd mewn byd a diwylliant sy’n drwch o furiau a ffiniau, mewn gwlad a chymuned o dan bwysau caethiwed ac anghyfiawnder, tensiwn a thrais. Beth yw gweinidogaeth y cymod? Cymodi. Pam cymodi? ...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.

Beth yw cymodi? Dileu ffiniau? A yw ‘dileu’ yn gysyniad rhy wan? Gellir dileu llinell a dynnwyd mewn pensil ar fap; anos ‘rhwbio allan’ ffin rhwng dwy genedl neu ddau ddiwylliant. Deallodd Paul hyn; meddai am Iesu - Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni (Effesiaid 2: 14). Cymodi yw datod cwlwm. Onid cwlwm tynn o hen glymau yw’r ffiniau a saif rhyngom? Diwylliant a diwylliant, cenedl a chenedl, crefydd a chrefydd, enwad ac enwad, eglwys ac eglwys, ni a nhw? Yn y Beibl Cymraeg Newydd a beibl.net nid ‘datod’ ffiniau a wneir ond chwalu muriau. Chwalu yw cymodi. Onid oes arnom ofn chwalfa? Chwalfa grefyddol, chwalfa ddiwylliannol. Oni chynigir rhywbeth amgenach yn yr Efengyl? Noddfa, craig safadwy a chysgod rhag y storm. Onid dyna sydd ei angen ar bobl heddiw? Chwalu’r muriau yw cymodi...muriau o’n hamgylch ein hunain, muriau a godwyd i’n cadw i mewn ac i’n cadw allan, muriau rhyngom, ynom, trwom ac amdanom. Mae’r muriau hyn yn wahanfuriau rhwng pobl a Duw. Cymodi yw taflu ein geiriau bach, gweithredoedd pitw, gweddïau gwael a’n gobeithion brau at y muriau mawr a chadarn a saif rhwng cenhedloedd, hiliau, cenedlaethau, eglwysi, rhyngom ag eraill, a rhyngom a’n hunain. Gwan y muriau yn wyneb rhain oherwydd ... chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Beth yw cymodi? Maddau. 1987: Enniskillen. My wife and I do not bear any grudges. I am very sorry for those who did this, but I bear them no ill-will...I shall pray for those people tonight and every night. May God forgive them. (Gordon Wilson (1927-95), tad un o'r rhai a laddwyd gan y bom). Nid gwadu poen a dicter a wna gwir faddeuant, ond mynd benben â’r naill a’r llall, a’u goresgyn. Diarfogi. Pan aeth Iesu i Jerwsalem, mynnodd beidio gwireddu’r broffwydoliaeth a oedd yn awgrymu y byddai’r Meseia’n dod fel rhyfelwr. Yn hytrach, mynnodd wireddu proffwydoliaeth Sechareia a welodd y Meseia ar gefn asyn. Gelwir arnom ninnau i osod ein harfau o’r neilltu, i ladd yr elyniaeth sydd ynom yn hytrach na lladd ar y sawl a dybiwn i fod yn elynion. Gosod o’r neilltu’r wên ddur, yr edrychiad nodwyddog, a'r gair cynnil miniog...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Rhyddhau yw cymodi. Cyhoeddodd Iesu Efengyl sydd yn newyddion da i’r tlawd, i’r carcharorion, i’r dall, ac i’r gorthrymedig...a hynny ymhlith ei bobl ei hun yn Nasareth, yn ei synagog lleol, ac ar Saboth cyffredin. Rhyddid yw cymod - i ryddid y rhyddhaodd Crist ni (Galatiaid 5:1a). Trwy gyfrannu at fudiadau heddwch a chefnogi pobl sy’n dystion i gymod, byddwn yn hwyluso gwaith eraill i gymodi ac yn eu calonogi, ond ni fyddwn yn cymodi ein hunain. Wrth ei draed y dechreuodd Iesu ar ei weinidogaeth, ac mae cymod yn dechrau wrth ein traed ninnau: Bywha dy waith, O Arglwydd mawr!…dros holl derfynau'r ddaear lawr…o fewn ein tir…o fewn dy dŷ…yn ein calonnau ninnau nawr (gan Minimus 1808-80; C.Ff. 243). Cymodi yw sicrhau fod y gorthrymedig yn cerdded yn rhydd. Pwrpas rhyddid yw creu pobl yn meddu gogoniant rhyddid a harddwch cyfrifoldeb. Cymodi yw rhannu. Un o nodweddion yr Eglwys Fore oedd rhannu: Byddent yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai angen pob un (Actau 2: 45). Cyfoethogwyd yr eglwysi cynnar wrth roi a derbyn: ‘roedd y berthynas rhyngddynt a’i gilydd yn eu hannog i edrych allan.

Gweinidogaeth y cymod? Cymodi, a hynny trwy ddatod rhwymau, chwalu muriau, diarfogi, rhyddhau a rhannu. Ffydd, gobaith a chariad...caru sydd allweddol; er mor bwysig gobaith, pwysicach gobeithio, a beth yw ffydd heb bobl yn credu ac annog credu? At y drindod hon dylid ychwanegu cymod. Eto, er mor bwysig cymod, hanfodol cymodi oherwydd Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.

 

GWILYM HIRAETHOG

November 8, 2015 Owain Evans

Ganed William Rees, neu Gwilym Hiraethog yn y Chwilbren Isa’, Llansannan, Tachwedd 8 1802, a brawd iddo oedd y pregethwr enwog Henry Rees. Cafodd William y frech wen pan oedd yn fachgen ifanc, a gwnaeth hi gryn argraff ar ei wyneb, a chollodd ei lygad o’i herwydd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ond fe’i diwylliodd ei hun yn ddiwyd. Cawn ganddo ef ei hun ddarlun da o’i fachgendod yn ffermio ac yn bugeilio defaid ei dad, a Thango'r ci yn gyfaill ymlyngar iddo. Ni ellir sôn yn iawn mewn cyflwyniad bychan bach fel hwn am ei gyfraniad llenyddol ac eisteddfodol, ond ei brif gampwaith eisteddfodol oedd ei awdl i Heddwch. Y mae’n debyg na fu neb yng Nghymru'r pryd hwnnw yn ymddiddori mewn cymaint o bethau â Gwilym Hiraethog.

Ganed ef i’r teulu Methodistaidd, ond am ryw reswm neu’i gilydd torrodd gysylltiad â’r Methodistiaid, ac ymunodd â’r Annibynwyr, ac ef oedd un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn Llansannan. Yn fuan iawn dechreuodd bregethu, a daeth ar unwaith i sylw gwlad, ac yn 1832 ordeiniwyd ef yn weinidog ym Mostyn, ac yntau ar y pryd yn briod a thri o blant ganddo, a saith swllt yr wythnos oedd y cyflog a gynigwyd iddo. Ymhen pum mlynedd symudodd i Ddinbych, ac yn 1843 i Lerpwl. Pan sefydlwyd yr Undeb Cynulleidfaol Cymraeg yn 1872, dewiswyd Hiraethog yn Gadeirydd cyntaf iddo.

Daw'r cofnod o 'Beibl Llywydd Undeb Annibynwyr Cymraeg'

Daw'r cofnod o 'Beibl Llywydd Undeb Annibynwyr Cymraeg'

Ymneilltuodd o’r weinidogaeth yn 1876 a bu farw yn nhŷ ei ferch yng Nghaer, Tachwedd 8 1883. Lerpwl sy’n cadw ei lwch.

Cymerodd Cymru Hiraethog i’w chalon, ac erys y diddordeb ynddo hyd y dydd hwn. Gŵr amryddawn ydoedd, ac er ei feddwl mawr ‘roedd yn ostyngedig iawn. Fel bardd yr oedd yn llawer mwy cartrefol gyda’r awdl, nag ydoedd ym myd yr emyn. Canodd lawer o emynau, ond mae nifer ohonynt yn rhy drwm i’w canu’n esmwyth, ond er hynny mae rhai ohonynt yn neilltuol o dda, ac yn llawn cysur a chymorth i fyw.

ALBERT CAMUS

November 7, 2015 Owain Evans

Yn Dréan, Algeria, Tachwedd 7, 1913 ganed y llenor ac athronydd Albert Camus (m. 1960).

Meddyliwch yn weddigar dros y geiriau hyn o'i eiddo, ac ystyriwch eu neges i’ch bywyd chi...

Paid â cherdded o’m blaen - efallai na fydda i’n dilyn.

Paid â cherdded y tu ôl i mi - efallai na fydda i’n arwain.

Cerdda wrth fy ymyl - a bydd yn ffrind i mi.

Daw’r flwyddyn i afael y gaeaf ym mis Tachwedd; ystyriwch yn fyfyrgar sylweddoliad mawr Camus:

Yng nghanol gaeaf sylweddolais o’r diwedd bod haf diysgog ynof.

 

Tywynned dy ras arnom, O! Dduw,

i adnewyddu ein hysbrydoedd,

i gynhesu ein calonnau

ac i oleuo ein deall. Amen.

 

 

WILLIAM TEMPLE

November 6, 2015 Owain Evans

Heddiw, gan Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru, cofir am William Temple (1881-1944), Archesgob Caergaint (1942-1944), diwinydd, pregethwr; un o sylfaenwyr Cyngor Eglwysi Prydain a Chyngor Eglwysi’r Byd. Gweithiodd yn ddyfal a dygn i sicrhau croeso a lloches ym Mhrydain i Iddewon yn ffoi rhag gwallgofrwydd Natsïaeth.

I’ch sylw heddiw felly, dyfyniad o’i waith a gweddi ganddo; y naill a’r llall wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg. I orffen, chwip o stori dda amdano, yn Saesneg, o'r bywgraffiad: William Temple: An Archbishop for All Seasons gan Charles W. Lowry (UPA, 1982)

Ystyr addoli yw dwysbigo’r gydwybod â sancteiddrwydd Duw, porthi’r meddwl ar wirionedd Duw, puro’r dychymyg gan brydferthwch Duw, agor y galon i gariad Duw, plygu’r ewyllys i bwrpas Duw.

(‘Mil a Mwy o Berlau’ gol. Olaf Davies. Cyhoeddiadau’r Gair; 2013)

O! Iesu bendigedig, yr hwn a ŵyr amhurdeb ein teimladau, culni ein cydymdeimlad, ac oerni ein cariad, meddianna ein heneidiau a llanw ein meddyliau â llun ohonot ti, tor drwy ystyfnigrwydd ein hewyllys hunanol a ffurfia ni’n debyg i’th gariad. Amen

(‘Mil a Mwy o Weddïau’ gol. Edwin C. Lewis. Cyhoeddiadau’r Gair; 2010)

In 1931, at the end of the Oxford Mission (what is known in many Protestant circles as a Revival Meeting), he (William Temple) led a congregation in the University Church, St Mary the Virgin, in the singing of the hymn, "When I Survey the Wondrous Cross." Just before the last stanza, he stopped them and asked them to read the words to themselves. "Now," he said, if you mean them with all your heart, sing them as loud as you can. If you don't mean them at all, keep silent. If you mean them even a little and want to mean them more, sing them very softly." The organ played, and two thousand voices whispered:

Were the whole realm of nature mine,

That were an offering far too small;

Love so amazing, so divine,

Demands my soul, my life, my all.

For many who participated, it was a never-forgotten experience.

(OLlE)

DRUDWY ABERYSTWYTH

November 5, 2015 Owain Evans
Llun: Amelia Davies, Aberystwyth (2015)

Llun: Amelia Davies, Aberystwyth (2015)

Mae enwau torfol - collective nouns yn ddiddorol! Diadell o eifr; cnud o fleiddiaid; gyr o warthog; bu o ychain; traill o bysgod; gre o wenyn; pla o forgrug. Neu, a throi at y Saesneg: a culture of bacteria; a lounge of lizards; a murder of crows. Â minnau’n weinidog, diddorol oedd gweld y cyfeiriad at a congregation of birds, ac yn wir, mae ambell dderyn ym mhob cynulleidfa o bobl Dduw; ond hefyd, sylwch a congregation of crocodiles. Umm...taw piau hi mae’n siŵr.

Gwelais y llun uchod o ddrudwy Aberystwyth, a deffrodd y cof o’i herwydd. Dylai ambell brofiad aros yn y cof, ond fe lithrant yn dawel i ffwrdd, a dyna’n union ddigwyddodd i’r atgof hwn. Tair blynedd yn ôl, tua’r adeg yma o’r flwyddyn: gwelais haid o ddrudwy yn ehedeg. ‘Roedd pnawn siwmperog yn dechrau ildio i’r nos, ac yn ddisymwth, fe ddaethant: cwmwl llwyd-frown ohonynt. Degau, na...cannoedd o ddrudwy; drudwy yn un gwibiad yn gwibio. Mor rhyfedd rhyfeddod eu perffaith cydsymud. A’r naill yn arwain y llall a hwnnw’n arwain y lleill crëwyd un patrwm rhubanog ar ôl y llall. Y cyfan oll mewn tawelwch aflonydd: sisial adenydd ac ambell gri a gwich - fel lleisiau’n galw mewn twmpathau dawns. Yn dyst i’r sioe, cwmni bychan bach o bobl.

Deffrodd llun Amelia yr atgof hwnnw, a hefyd hen ddyhead. Y dyhead i fod yn rhan, ac â rhan yn rhywbeth tebyg: Pobl Dduw yn cydsymud mewn ffydd, cyd-ddyheu a chyd-ryfeddu mewn gobaith; ac mewn cariad yn cydweithio’n anturus a mentrus, a hynny, nid er waethaf ein hamrywiaeth barn ac argyhoeddiad, ond o’i herwydd.

Yn union fel y daethant - yn sydyn - diflannodd yr adar. Nid oedd golwg ohonynt, ond ‘roedd eu sŵn yn hyglyw. Â’r perfformiad bellach trosodd, ‘roedd yr adar hyn fel cast, corws a cherddorfa, yn trin a thrafod y sioe. ‘Roedd y drudwy’n clebran o dan y pier.

Mae Google yn awgrymu fod drudwy yn heidio fel hyn i gadw cwmni a chadw’n ddiogel; i rannu cysgod a lledu gwybodaeth. Mae hyn yn wir, mae’n siŵr; ond annigonol ydyw i lwyr gyfleu afresymoldeb dawns a dawnsio’r drudwy. Tua’r adeg pan mae pobl yn llusgo’i ffordd am adref, mae’r adar hyn yn dawnsio, a chlodfori eu bodolaeth. Oni ddylem ymuno yn y ddawns honno? Aethom yn fwy tebyg i ddail nag adar; dail yn tindroi yng nghornelau cymhlethdodau’r oes. O! am enaid adeiniog! O! am eglwysi adeiniog, a’n gweinidogaeth yn ddawns batrymog: un llif ein llifo. Am wn i, mae’r pennill hwn, ar emyn ar ei hyd, yn hwb i hedfan:

Nef a daear, tir a môr

sydd yn datgan mawl ein Iôr,

fynni dithau, f’enaid

fod yn y canol, heb roi clod?

(Joachim Neander, 1650-80 cyf. Elfed, 1860-1953. CFf.:116).

Bod yn ddiolchgar am holl fendithion Duw yw’r fwyaf o’r holl fendithion.

Llun: Amelia Davies, Aberystwyth (2014)

Llun: Amelia Davies, Aberystwyth (2014)

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021