JEHOFA-NISSI

Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n 'Jehofa-Nissi', a dweud,

"Llaw ar faner yr ARGLWYDD!"

Ystyriwn dros achos pwy 'rydym yn ymdrechu.

Cofiwn orchmynion pwy 'rydym yn derbyn.

Cydnabyddwn drwy allu pwy 'rydym yn llwyddo.

Arglwydd arglwyddi, Brenin brenhinoedd a Duw'r duwiau, diolch i Ti am gael dweud 'Fy Arglwydd', 'Fy Mrenin' a 'Fy Nuw'. Amen.

'NATIONAL NUT DAY'!

...ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. (Galatiaid 5:22)

Mae'n 'National Nut Day'! Felly, maddeued y gwamalu:

Mae gan y wiwer gof aruthrol o dda; nid yw byth yn anghofio lle mae’r cwpwrdd cnau, ac ni welir cneuen wag yn ei chwpwrdd byth. Mae’r wiwer yn eu hadnabod heb eu hagor, ac yn hynny mae gwers y wiwer ar 'National Nut Day'

Yn ein gweinidogaeth fel eglwys, ac ar y cyd fel eglwysi, boed i Dduw ein cynorthwyo i adnabod y gneuen goeg.

O! Dduw Dad, cyfoethoger fy mhrofiad ysbrydol, a thrwy hynny defnyddia fi i dywys eraill i mewn i gyffelyb brofiadau. Amen.