Bu’r gweinidog yn cyfeirio’n gyson y mis hwn at emyn David Charles (1762-1834; CFf.: 686), a’r emyn hwnnw oedd testun ein sylw y bore hwn. Gair mawr yr emyn yw ‘anian’. Mae’r gair ‘anian’ yn ymddangos deirgwaith yn y Beibl Cymraeg Newydd (Ioan 3:31; Actau 14:15; Iago 5:17), a dwywaith yng nghyfieithiad William Morgan (Rhufeiniad 1:26 a 2 Pedr 1:4). Pump i gyd felly, oherwydd nid yw Beibl William Morgan yn defnyddio ‘anian’ lle defnyddir ‘anian’ ym Meibl 1988, ac nid yw Beibl 1988 yn defnyddio ‘anian’ lle ceir ‘anian’ ym Meibl William Morgan! Gan mai Beibl William Morgan oedd Beibl David Charles, dylid ystyried yr adnod hon o 2 Pedr: Trwy yr hyn a rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy y rhai hyn y byddwch gyfranogion o’r dduwiol anian...(1:4 WM)
Yng ngoleuni 2 Pedr 1:4 mae David Charles ym mhennill cyntaf yr emyn hwn yn dyheu am gael rhannu o natur ysbrydol Iesu; natur llawn ffydd, gobaith a chariad. Yr anian bur - y natur llawn cariad hwn - yw’r peth cyntaf. Daw popeth arall o, ac oherwydd yr anian bur. Mae gwir Gristnogaeth yn dechrau gyda’r anian; genesis ein ffydd yw’r natur oddi mewn, ac o’r natur oddi mewn daw’r ymddygiad a’r gweithredoedd allanol. Angen pennaf, dyhead dwysaf yr eiddil gwan mewn anial dir yw cael dy anian dan fy mron. Hyn a’n gwna: eiddil a gwan fel ag yr ydym yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a’n carodd (Rhufeiniaid 8:37).
Dengys yr ail bennill le canolog yr Eglwys ar y ddaear ac yn y nef. I feithrin y duwiol anian rhaid wrth gymdeithas yr Eglwys. Rhaid wrth nerth a chefnogaeth y cwmwl tystion fry yn y nef, a rhaid wrth gymdeithas symudliw’r eglwys leol ar y llawr. Bu’r Eglwys fawr ar hyd yr oesoedd yn gyfrwng bendith Duw. Teulu’r ffydd a ŵyr wir gyfrinach y ffydd, nid y Cristion sydd ar ei ben ei hun. Yn enwedig os yw’n hoff o fod ar ei ben ei hun! Deallodd Paul hyn; sylweddolodd fod i’r cwrdd mynych â’n gilydd, y parodrwydd i gydweithio, cydymdeimlo, cydaddoli posibilrwydd gogoneddus: Chi, meddai, yw corff Crist (1 Corinthiaid 12:27).
Mae’r pennill olaf yn glo grymus. Mae’r eiddil gwan bellach yn sôn am gario’r groes ac am nofio’r don. - nid dau beth ar wahân, ond un. Goddefol y naill - Mi garia’r groes - a buddugol y llall - mi nofia’r don. Yn ein plith mae aelodau o deulu'r eglwys sy’n cario’r groes; ond mae eraill yn nofio’r don. Ond cael dy anian dan fy mron gallwn gyflawni, a chynorthwyo eraill i gyflawni’r naill gamp a’r llall.
Prentisiwyd David Charles mewn ffatri nyddu rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac mae’r emyn tri phennill hwn fel darn byr o raff sy’n hynod gref. Diolch i David Charles rhoddi rhaff i enaid. Bendithiol y gyfres hon o fyfyrdodau. Pa emyn fydd nesaf tybed?
Arweiniwyd gweddi’r Oedfa Foreol gan Mair.
Ffydd a’i Phobl oedd testun ein sylw heno, ac yn benodol Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Mae’r myfyrdodau rhain gan ein Gweinidog yn seiliedig ar y cymeriadau rheini a enwid yn Hebreaid 11. Gwyddom bellach fod y gyfres hon yn golygu newid trefn yr Oedfa Hwyrol yn llwyr! Wedi gwrando ychydig adnodau o’r bennod hynod fawr hon, ac yna ystyried cyfraniad y naill gymeriad ar ôl y llall i’r ateb a geisiwn: 'Beth yw ffydd?', cenir emyn sydd yn adlewyrchu a chadarnhau’r neges. Buddiol a ffres y gyfres hon. Awn rhagom y tro nesaf i ystyried Esau, Joseff a Moses (Hebreaid 11:20-31).
Ond, Abraham oedd ein man cychwyn heno (Hebreaid 11:8-9a). Mentrodd Abraham allan ar alwad Duw. Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu i’r wlad a ddangosaf iti (Genesis 12:1). Mae’r ymateb, mewn ffydd yn syfrdanol. Gan iddo deimlo mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Duw yn ei arwain, ufuddhaodd. Geilw Duw, cyfarwydda hefyd. Anfon Duw, arwain hefyd. Mae’r Duw sy’n ein cymell i deithio, yn teithio gyda ni. I gyrraedd y lle na wyddom, rhaid mentro’r ffordd na wyddom.
Ymlaen gan ystyried Isaac a Jacob (Hebreaid 11: 9) Ffoadur oedd Isaac, yn symud o fan i fan, a phob tro yr oedodd mewn lle newydd gwnaeth dri pheth trawiadol iawn: ...adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r Arglwydd; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno (Genesis 26: 25). Ceir datganiad o ffydd wrth godi allor, a galw ar enw’r Arglwydd; wrth osod pabell mae’n pwysleisio gwerth cysgod, cysur a chwlwm cariad y teulu; gwaith cwbl angenrheidiol oedd cloddio ffynnon. Campwaith Isaac oedd pwysleisio tair elfen y bywyd cyflawn - ffydd, cariad a gwaith, ond sylwer mai’r allor - ffydd - gafodd y sylw cyntaf.
Gadwyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr (Genesis 32: 24). Cymeriad eithriadol gymhleth oedd Jacob, ond cymeriad llwyr ymwybodol o Dduw, ac o’i berthynas â Duw. Beth yw ffydd? Ymrafael. Nid ni yn ymrafael â Duw, ond Duw yn ymrafael â ni.. Ffydd yw gwybod fod Duw yn ymrafael â ni.
Trwy ffydd - a Sara hithau yn ddiffrwyth - y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo (Hebreaid 11:11) Sarai: enw’n golygu Gwawd; yr adeg honno, ‘roedd gwraig heb genhedlu yn destun gwawd a dirmyg. Fel gwarant o’r Addewid fawr, mae Duw yn ailenwi Sarai yn Sara, try Gwawd yn Tywysoges. Ffydd yw credu fod Duw yn credu ynom ni. Fe wêl tu hwnt i’n gwawd - gwêl ein mawredd.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abraham mai arwriaeth a dewrder yw ffydd.
Amlyga bywyd Isaac nad atodiad i fywyd yw ffydd, ond hanfod byw.
Dangos Jacob i ni mai ymrafael yw ffydd - Duw yn ymrafael â ni.
Dysgwn gan Sara mai ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.
Y peth olaf ym mhob oedfa yw’r fendith. Cyfarchwn ein gilydd wrth ymado â’n gilydd. Nid chwalu a wna cynulleidfa o Gristnogion ond cael ei chyflwyno i ofal y Duw sy’n ein cadw ni rhag ymchwalu. Diolch am fendithion y Sul, diolch am fendithion cwmni pobl Dduw. Boed i fendith y bendithion diasbedain drwy’r wythnos newydd hon.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Braint fawr i ni fel eglwys yw cael y wefan hon wedi ei henwebi, a bellach, cyrraedd rhestr fer y Premier Digital Awards 2015/Most Engaging Small Church Site. Daw'r dyfarniad terfynol erbyn Tachwedd 14eg. Ceir rhagor o wybodaeth fan hyn: http://www.premierdigital.org.uk/Premier-Digital-Awards/Shortlist