• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

CYMDEITHAS DDIWYLLIANNOL EGLWYS MINNY STREET

October 6, 2015 Owain Evans

'Cân i Godi'r Galon' yng nghwmni Gwenan Gibbard, Pwllheli.

 

Am donic o noson! Cafwyd cân yn hwb i'r galon; cân i feiriol calon; cân fel cusan cysur i ddolur calon. Cafwyd hefyd gân i gyflymu'r galon, a sawdl yn curo'r llawr; hyn oll, a chyfle i gyd-ganu. Y cyfan yn dilyn ei gilydd yn sionc ac esmwyth gan greu 'Cân i Godi'r Galon'.

Mawr ein diolch i Gwenan Gibbard am noson arbennig iawn.

(Gwerthfawrogir nawdd 'Noson Fach Allan' tuag at y noson hon)

Gan edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf (20 Hydref): 'Wrth fy Ngwaith' - Gareth Blainey a Hywel Dafydd

Adroddiad Ann Saer

‘Noson i Godi’r Galon’ - dyna’n union a gawsom nos Fawrth 6ed Hydref yn festri Minny Street. Dechreuodd raglen 2015/16 Y Gymdeithas nid gyda bang aflafar a chroch, ond gyda seiniau hyfryd llais swynol a thelyn gyfareddol Gwenan Gibbard, y delynores a chantores oleuwallt o Bwllheli. Prin yw’r cerddorion sy’n canu ac yn cyfeilio iddynt eu hunain, heb sôn am hefyd gyflwyno’r arlwy. Arweiniodd Gwenan y gynulleidfa yn hwyliog esmwyth drwy raglen o ganeuon ac alawon amrywiol, yr adnabyddus a’r cyfoes, yr hen a’r newydd, gan gerdd dantio’n ogystal. Fe wnaeth i ni chwerthin, a hefyd, weithiau, i sobri. Wrth ymuno â Gwenan yng nghytgan ‘Mae Mari fach yn dair mlwydd oed’ ar ddiwedd y noson, nid yn unig y calonnau oedd yn chwyrlio’n ddedwydd, ond fe gododd pawb ar eu traed i ddatgan eu gwerthfawrogiad am noson ddifyr dros ben. A bu mynd mawr ar gryno-ddisgiau Gwenan ar y diwedd hefyd.

Roedd y noson hefyd yn gyfle i ddiweddaru gwybodaeth y gynulleidfa am sefyllfa bresennol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Er bod cymdeithasau megis Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant, Y Gymdeithas Ddawns, Trac a Clera, grwpiau gwerin ac unigolion disglair yn bodoli ac yn weithgar iawn ers cantoedd, am wahanol resymau yn ddiweddar mae yna fath o ddadeni wedi bod yn digwydd yn y maes. Tynnwyd sylw rhyngwladol at gerddoriaeth draddodiadol Cymru gan gyngerdd WOMEX yng Nghanolfan y Mileniwm ddwy flynedd yn ôl, lle bu Gwenan yn cyd-ganu gyda Cerys Matthews (mae eu lleisiau hefyd ar ddisg ‘Hullabaloo’ Cerys) a lle bu llawer o enwogion y maes yn cael cyfle i ddangos eu doniau. Ddwy flynedd yn ôl, hefyd, cafodd Sioned Edwards yr Eisteddfod Genedlaethol syniad ysbrydoledig. Yn lle pabell Tŷ Gwerin, oedd yn ambarél i’r cymdeithasau arferol, fe godwyd iwro, sef wigwam anferth sydd wedi’i dylunio’n drawiadol a deniadol. A dyna i chi lwyddiant ysgubol. Roedd llond y lle bron gydol yr amser. Yn wir, roedd hi’n orlawn i ddigwyddiadau megis y Stomp, y Glerorfa, y Côr Telynau, Rhaglen Coffa Merêd a sawl perfformiad. Hefyd, mae niferoedd o grwpiau ac unigolion ifanc yn ymddiddori o’r newydd yn hanes ein caneuon ac alawon traddodiadol, ac yn eu dehongli a’u canu mewn dulliau gwahanol.

A phwy sydd yn un o’r bobl fwyaf blaenllaw yn yr adfywiad hwn? Gwenan Gibbard, sy bellach yn Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin Cymru ac yn perthyn i sawl corff arall yn y maes. Mae’n enwog yn rhyngwladol, ac wedi ennill nifer o gystadlaethau telyn a chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yr Ŵyl Gerdd Dant a’r Ŵyl Ban Geltaidd. Does dim lle yma i restru’r holl wledydd y bu hi’n ymweld â hwy, ond roedd hi’n amlwg wedi cael ei swyno gan y Wladfa.

 

 

PIMS: 'DWY' a 'DAU'

October 5, 2015 Owain Evans

Heno...PIMS. Daethant yn drwch o siarad a chwerthin, a thawelu’n sydyn! Pwy yw'r rhain? Cyflwynwyd yr ymwelwyr: Sophie, ac yn gwmni iddi, Rachel. Gwahoddwyd Sophie gan y Gweinidog i sôn ychydig am ei gwaith tros, a gyda ffoaduriaid; ac yn benodol am ei hymweliad dyngarol diweddar â gwersyll y ffoaduriaid yn Calais.

Gan mor niferus y cwmni, holltwyd y PIMSwyr yn ddau grŵp o wyth. (Och! Bu cwyno a grwgnach mawr!) O’r diwedd, o’r hir ddiwedd, ffurfiwyd dau grŵp. Aeth y naill gyda Lona a Geraint, i wrando a thrafod gyda Sophie a Rachel (DWY'r noson). Gellid cael blas ar gyflwyniad Sophie, a diddordeb y PIMSwyr wrth ystyried rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd: ‘Beth oedd y peth gwaethaf a welsoch yn y gwersyll ffoaduriaid yn Calais?’; ‘Oedd pawb yn ffoaduriaid neu a oedd mewnfudwyr economaidd yno hefyd?’; ‘Ydy’r ffoaduriaid yn ffrindiau, neu a ydy’n nhw’ ymladd weithiau?; 'Beth wnaeth chi'n mwyaf trist?'; ‘Oedd y sefyllfa yn waeth nag o ti’n disgwyl?’; 'A oedd yna giws mawr o bobl yn mynd mewn i'r gwersyll?'; 'Fuoch chi helpu rhannu bwyd?'; 'Faint oedd yn cyrraedd bob dydd?'; ‘Ydy’r ffoaduriaid yn aros gyda phobl o’i gwlad ei hunain, neu a ydynt yn cymysgu?’ ‘Pwy sydd yn gofalu am y plant?’; 'Pam benderfynais fynd a gwneud rhywbeth dy hun i helpu?’; ‘Wyt ti’n mynd eto?’'.

Arhosodd y gweddill, gyda Hefin a’r Gweinidog i drafod goblygiadau DAU. I ddechrau rhialtwch y ras deircoes. Dau PIMSyn yng nghlwm wrth ei gilydd, yn fras gamu o’r naill ochr y festri i’r llall! Connor ac Oliver a orfu o’r grŵp cyntaf, Rhys ac Ifan o’r ail. Wedi’r rhialtwch, dryswch. ‘Roedd y Gweinidog wedi drysu deuoedd - deuddeg 'dau' yn gymysg - a’r gamp oedd datrys y dryswch. Gwnaethpwyd hynny, mewn byr amser er tegwch, gan ganiatáu cyfle i ystyried arwyddocâd:

Pedr, Andreas - Brodyr

Mair, Martha - Chwiorydd

Jonathan, Dafydd - Ffrindiau

Crist, Iesu - Iesu Grist

Cytunwyd, mai BRODYR a CHWIORYDD, FFRINDIAU IESU GRIST yw’r eglwys leol, ond ‘roedd awydd mawr i drafod ymarferoldeb y gosodiad! Nid hoff gan frodyr a chwiorydd ei gilydd ar adegau! (Bu ambell i frawd bach, a chwaer fach yn llafar iawn ei farn am hyn!) Na, ond brodyr a chwiorydd ydynt bob amser, er waethaf bob cecru. Mynnai’r PIMSwyr, os oedd hyn yn wir am deulu gwaed, ei fod yn gorfod bod yn wir hefyd am deulu’r eglwys. Nid cytûn mo theulu’r eglwys am bob peth, ond un ydym, gan fod Crist yn clymu ni’n un yn, a chyda’i gariad.

Dosbarthwyd Beiblau, gan ofyn i un grŵp o PIMSwyr chwilio am Mathew 18:20...oherwydd lle mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.

Trafodwyd ystyr ‘dod ynghyd yn enw Iesu’: ‘Er bod pawb yn wahanol, gallwn ddod at ein gilydd yn enw Iesu.’ (Ioan); ‘Mae Iesu’n rheswm i ddod at ein gilydd.’ (Sam); ‘Mae Iesu gyda phawb ym mhob man.’ (Tomos).

Pam mae cael Iesu yn y canol yn bwysig? ‘Mae pawb eisiau gweld Iesu.’ (Harri); ‘Mae Iesu’n ffynhonnell o gymorth.’ (Gruff); ‘Iesu yw ein canolbwynt.’ (Ifan E). ‘Canol y capel yw Iesu.’ (Cadi)

Pam ‘dau neu dri’? Pam nad yw un yn ddigon? ‘Mae angen pob eraill arnom i weld Iesu’n iawn.’ (Osian)

Bu’r grwp arall yn trafod Luc 10:1; Wedi hynny penododd Iesu ddeuddeg a thrigain arall, a’u hanfon allan o’i flaen, bob yn ddau...

Pam oedd Iesu’n anfon y disgyblion allan ‘bob yn ddau’? ‘I gadw cwmni i’w gilydd.’ (Elin); ‘Gallai un helpu a chodi calon y llall.’ (Mali); ‘Mae gan bawb doniau gwahanol; gall un wneud beth na all y llall.’ (Shani). ‘Mae dau bob amser yn gryfach nag un.’ (Efa).

Maes o law, daeth yr amser i newid trosodd, a grŵp y DDWY yn trafod DAU, a grŵp y DAU yn trafod gyda’r DDWY! Arswyd! Dyna chi gymhlethdod! Ie, ond, cymhlethdod buddiol iawn. Mawr ein diolch i Sophie a Rachel.

Gorffennodd y noson â anferth o gacen siocled! Mae dau frawd yn ein plith (a’u tad hefyd, digwydd bod) yn dathlu’u pen-blwydd yr wythnos hon.

Noson dda oedd hon: DWY a DAU yn fendith, ac yn her.

NEWYDDION Y SUL

October 4, 2015 Owain Evans

Y mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn fwy tebyg i wanwyn na Hydref ym mywyd eglwys Minny Street. Mae ‘na fwrlwm yma yn ein plith, a diolch amdano. Bu’r Oedfa Deulu’n fwrlwm o fendith. Wedi derbyn adnodau'r Oedolion (y thema heddiw oedd 'Diolch'), daeth cyfle i Mari Fflur i arwain ein defosiwn: stori Arch Noa, ac yna'r weddi hon:

Pe bawn i yn iâr fach yr haf

diolchwn i ti am adenydd braf.

a phe bawn i yn robin ar y pren

diolchwn i ti am gael hedeg drwy'r nen;

a phe bawn i yn frithyll bach

diolchwn am afon i nofio mor iach;

ond diolch, diolch, O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'.

Pe bawn i yn fwydyn yn y pridd

diolchwn i ti am gael symud yn rhydd;

a phe bawn i oen bach gwyn

diolchwn am brancio ar ben y bryn;

a pha bawn i yn arth mawr, tew

diolchwn i ti am fy nhrwch o flew:

ond diolch, diolch O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'.

...fe roddaist im wên, ac fe roddaist im gân,

fe roddaist im Iesu a chalon lân,

a diolch, diolch, O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'. Amen

(Brian Howard cyf. Hywel M. Griffiths CFf.149)

Cafwyd awgrym o thema'r Oedfa yn newis y Gweinidog o emynau: 2, 222 a 22. Ie, y rhif 2. Aeth y Gweinidog i ddryswch mawr yn ceisio cael trefn ar ei ddeuoedd! Pwy glywodd erioed am 'Nodwydd' a 'Pupur'? Neu 'Bwced' a 'Martha'? Mewn byr amser, ‘roedd y plant wedi cael pob dau yn gywir: 'Nodwydd' ac 'Edau'; 'Pupur' a 'Halen', 'Dafydd' a 'Jonathan'; 'Tom' a 'Jerry', 'Hansel' a 'Gretel', 'Mair' a 'Martha'; 'Bwced' a 'Rhaw', 'Hen Destament' a 'Testament Newydd', 'Pedr' ac 'Andreas', 'Crist' ac 'Iesu'.  

Gan ddileu pob un o'r deuoedd, ar wahân i ‘Pedr’ ac ‘Andreas’; ‘Mair’ a ‘Martha’; ‘Dafydd’ a ‘Jonathan’ a ‘Crist’ ac ‘Iesu’, awgrymodd y Gweinidog fod yma ddiffiniad o eglwys. Nid oedd y plant a’r plantos yn argyhoeddedig! Ond...

‘Pedr’ ac ‘Andreas’ - BRODYR

‘Mair’ a ‘Martha’ - CHWIORYDD

‘Dafydd’ a ‘Jonathan’ - FFRINDIAU

‘Crist’ ac ‘Iesu’ - IESU GRIST.

Onid BRODYR a CHWIORYDD, FFRINDIAU IESU GRIST yw’r eglwys leol hon, a phob eglwys ym mhob man?

Siarsiwyd y bobl ifanc i chwilio am ychydig adnodau yn ei Beiblau: Luc 21: 1-4. Shani a orfu. Ei gwobr? Tamaid o siocled a gorfod darllen yr adnodau ar goedd! Dwy hatling - dwy geiniog fach - oedd gan y wraig weddw honno; offrwm bychan iawn. Bwriad y Gweinidog meddai, oedd dangos y gwahaniaeth sylweddol iawn a ddaw trwy beth bach. Dechreuodd gyda 2 x 2 = 4, ac ymlaen 4 x 2 = 8; 8 x 2 = 16, 16 x 2 = 32, ac ymlaen yr holl ffordd i 65,536 x 2 = 131,072! Er nad oes gennym lawer i gynnig, mae’r hyn all ein Duw gyflawni â’r ychydig sydd gennym yn rhyfeddol! Ond, rhaid i ni fod yn barod i gynnig i Dduw'r hyn oll ydym, a dyna yw pob Oedfa; cyfle i addoli: ystyr y gair Cymraeg ‘addoli’ yw plygu. Arweiniodd hyn at stori am Mr a Mrs Jiráff. ‘Doedd drws Arch Noa ddim yn ddigon uchel i Mr a Mrs Jiráff cael mynd mewn! Beth fu’n rhaid gwneud tybed? Gwneud y drws yn fwy efallai? Nage. Daeth Noa, a dweud yn garedig iawn wrth Mr a Mrs Jiráff bod yn rhaid iddynt blygu i fynd i mewn i’r arch. Mae rhaid i ni blygu hefyd, a dyna a wnawn wrth addoli: plygu i fwriad Duw. Boed i ni, o ddifrif, blygu i fwriad Duw, a boed i’r cyfan a wnawn fod yn unol â’i ewyllys ef.

Benthycwyd geiriau Myfyr Hefin (1874-1955) fel gweddi:

Dau lygad byw sydd gennyf

i edrych at y nod,

sef Iesu Grist ein cyfaill:

Efe sy’n haeddu clod.

Dwy glust fach fyw sydd gennyf

i wrando Iesu cu,

sy’n galw’n fwyn bob amser, -

‘0! Deuwch ataf fi’

Dwy droed fach ddel sydd gennyf

i rodio llwybrau Duw;

ei wasanaethu’n gyson,

a’i garu tra fwyf byw.

Dyma ein neges, dyma ein neges, -

gweithiwn yn gyson tros Iesu,

tros Iesu ein cyfaill ni. Amen.

Testun ein sylw yn yr Oedfa Hwyrol oedd pennod hynod gyfoethog o broffwydoliaeth Eseia. Cynnwys pennod 55 rai o’r ymadroddion mwyaf annwyl a gwerthfawr sydd yn perthyn i’n ffydd: Dewch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno...(55:1); Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos...(55:6); ...nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD (55:8); Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y’ch arweinir...(55:12a). Aeth y Gweinidog i’r afael â’r adnod olaf: Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd y lle mieri (55:13a). Addewid a gweledigaeth oedd y geiriau i Eseia, a dyna ydynt i ninnau. ‘Roedd amodau pendant i gyflawniad o’r addewid i bobl Eseia, ac i ninnau’r un modd. Os oedd Duw yn addo pethau gwych iddynt hwy, ‘roedd ganddynt hwythau eu rhan i’w wneud tuag at sylweddoli’r addewid. I’r drain a’r mieri ddiflannu, rhaid i bobl Dduw, nawr fel erioed, blannu pethau gwell o lawer. Heb hynny, drain a mieri fydd rhan byd, cymdeithas a chymuned. Os nad yw pobl Dduw yng Nghrist yn plannu ffydd, gobaith a chariad, bydd drain a mieri yn parhau i rwygo a briwio pobl ymhell ac agos.

 ninnau, bellach wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Aethpwyd â'r Cymun Teithiol heno i Nansi.

Heno, yn 1957, lansiwyd y lloeren gyntaf oll: Sputnik 1. Beth wnelo’r ffaith hon â Swper yr Arglwydd? Aeth y Gweinidog yn ei flaen i esbonio. Ystyr Sputnik yw ‘Cyd-deithiwr’. Iesu yw ein Sputnik ninnau. Mae Iesu’n cydgerdded â ni. Pan yw’r ffordd yn droellog, y mae Iesu yn nerth ac yn arweinydd i ni. Pan yw’n calonnau’n drist, mae Iesu, ein Sputnik, wrth law i’n cynnal a’n calonogi. Pan mae’r daith yn hawdd, â ninnau’n anghofio amdano, nid yw ef yn anghofio amdanom ni. Pan grwydrwn oddi ar y ffordd, mae Iesu yn ein dilyn, ac yn tywys yn ôl i’r ffordd na fydd yn loes i mi (Salm 139:24).

Addoli, moli a chymuno: bendith a gafwyd. Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Rhiannon yn arwain yr Oedfa Gynnar Foreol, ein Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau ar Efengyl Marc a’r flwyddyn 70, gan ganolbwyntio ar 12:35-37. Am 6yh, ein braint fydd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser, Caerdydd. Pregethir gan y Parchedig Ddr R. Alun Evans (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg). Boed bendith.

PREGETH NOS SUL

October 4, 2015 Owain Evans

Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri... (Eseia 55: 13a)

Pobl Iesu Grist ydym a chyflawni gwaith Iesu Grist yn y byd yw amcan ein bodolaeth. Beth yw’r gwaith hwnnw? Newid y byd. Ni wyddom sut i wneud hynny. Ceir awgrym o sut ym mhroffwydoliaeth Eseia: Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri... (Eseia 55:13a) ...gwaith Iesu, a gwaith pobl Iesu oedd, ac yw, cael ffynidwydd i dyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri.

...yn lle drain. Nid oes mawr o werth i ddrain; dyna pam y defnyddir drain fel darlun o’r hyn sydd ddiwerth...pethau anodd, lletchwith a phigog bywyd. Daeth Iesu i fynd i’r afael â’r drain, i ganol yr hyn oll sy’n bigog, lletchwith ac anodd yn ein byd. Os felly, cwbl ymarferol yw Efengyl Iesu Grist; oesol gyfoes, perthnasol a chyfan gwbl angenrheidiol. Pan edrychodd Eseia, a gweld o bell y Gwaredwr yn dod, soniodd y proffwyd, nid am flodau ond am ddrain a mieri. Er mor hyfryd blodau, drain yw’r drafferth. Rhaid sôn am ddrain...mae drain o’n cwmpas, mewn pobl eraill ac ynom ni. Nid oes gwerth mewn Efengyl sydd yn flodau i gyd. Yn wir, gwyddom mai newyddion da yw Efengyl Iesu Grist gan fod yr Efengyl honno’n sôn am ddrain. Mae bywyd yn llawn o bethau miniog, pigog...o brofiadau sy’n crafu, rwygo, clwyfo a chreithio. Gwyddom hefyd fod Iesu’n Waredwr, oherwydd ei fod yn sefyll gyda ni yng nghanol drain y byd a mieri bywyd.

...yn lle drain. Lle bu’r diwerth yn tyfu, mae’r gwerthfawr bellach yn ffynnu. Lle bu dolur, gwaed a chraith, ceir cymorth, cysur ac eli. Braf y freuddwyd o fyd a bywyd heb ddrain ond breuddwyd ydyw! Breuddwydiwr ffôl oedd Iesu Grist! Onid oes rhaid derbyn mai pigog ydym, a bywyd yn ddreiniog? Tyf drain a ffynnant ym mhob man ac ym mhawb. Onid oes rhaid felly dysgu derbyn fod drain yn rhan annatod o fywyd? Er mor ddealladwy yw hyn, ni ddylid ac ni ellir cytuno â hyn. Nid breuddwydiwr oedd Iesu Grist ac nid breuddwyd yr Efengyl. Nid drain mohonom ninnau chwaith ac nid drain yw bywyd. Gwyddom hyn oherwydd dywed Eseia fod ffynidwydd yn tyfu yn lle drain. Bydd y drain yn gwywo pan fydd y ffynidwydd yn ffynnu. Mae tyfiant y da, yn sicrhau fod y drwg yn crino. Dyma sut, fel erioed, mae Iesu a phobl Iesu’n newid y byd. Y drain yw’r hyn oll sy’n ddrwg amdanom ac yn wyrgam am ein hymwneud â’n gilydd. Y ffynidwydd a’r myrtwydd yw’r hyn oll sydd yn dda ynom, amdanom a rhyngom. Nid lladd y drain yw’r gamp i Bobl Iesu. Gwaith bach - gweinidogaeth ddiflas a chenhadaeth grebachlyd - yw dileu’r drwg. Nid dod i ladd drain a wnaeth Iesu ond dod, yn hytrach, i blannu cariad, a thyfu ffynidwydd ffydd a myrtwydd gobaith. Lle tyf y defnyddiol, mae’r annefnyddiol yn gwywo. Mae egwyddor y da yn gwthio’r drwg o’r neilltu yn gwbl allweddol i weinidogaeth Iesu. Yn y Bregeth ar y Mynydd, ychydig iawn o sôn sydd am y drain. Yn hytrach, sonnir am flodau, ffrwyth a chynnydd. Dewis sôn am ffynidwydd a myrtwydd a wnaeth Iesu: Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd...y rhai sy’n galaru...y rhai addfwyn... (Mathew 5: 2-5) Trecha di ddrygioni â daioni meddai Paul (Rhufeiniaid 12:21b). Pam? Gall neb fynd i’r afael â’r drain a’r mieri, heb fod ganddynt weledigaeth o ffynidwydd a myrtwydd yn tyfu a ffynnu. Cawsom ddarn o dir i’n meddiant a’n gwaith cyntaf yw ceisio symud o’r tir hwnnw cymaint o bethau diwerth a niweidiol a phosibl: gwaith anodd a diflas. Cofier, er mor fodlon y byddwn o weld y tir yn lanach a mwy taclus, nid bywyd taclus a glân yw’r gamp i Bobl Iesu. Nid digon gwaredu’r drain a’r mieri. Mae’r tir yn lân, er mwyn i ni gael plannu planhigyn, blodyn a llysieuyn. Y weledigaeth a ddylai ein cynnal yw nid darn o dir glân, ond darn o dir llawn lliw, bywyd, maeth a chynhaliaeth. Go brin y medrwn newid y byd ond gallwn newid ein byd, ac mae newid ein byd bychan ni yn un cam tuag at newid y byd mawr.

...yn lle drain. Nid cadw’r drain o dan reolaeth yw ein gwaith; yn hytrach, gwthiwn y drain o’r neilltu. Ffydd, gobaith a chariad yn tyfu yn lle casineb, anobaith a diflastod. Bu ein pwyslais ar beidio gwneud pethau. Mae ffydd yn Nuw yn mynnu ein bod yn gwneud yr hyn sydd dda, yn hytrach na dim ond ymatal rhag gwneud yr hyn sydd ddrwg. Bu’n rhaid i Iesu wisgo coron o ddrain i wthio’r drain o’r neilltu. I dynnu’r drain o’r pridd, rhaid cydio ynddynt; amhosibl dileu drain heb waedu. I Fethlehem, a phob cam o Fethlehem i Olgotha, cerddodd Iesu trwy’r drain at ochr hen elyn (Pa Beth yw Dyn? gan Waldo Williams (1904-1971) yn Dail Pren; Gomer, Argraffiad Newydd 1991). Boed yn bersonol, neu fel eglwys, yn genedlaethol neu’n fyd-eang, gall neb dynnu draenen o’r pridd heb afael ynddi. Gwnawn ninnau hynny gan gredu yn yr hwn a wynebodd a ddioddefodd gwaethaf ein gwaethaf, gan gredu yng nghorau ein gorau: ffynidwydd a’r myrtwydd yn lle mieri a drain.

FFRANSIS O ASSISI 1182-1226

October 4, 2015 Owain Evans

(OLlE)

Y BUGAIL DA

October 3, 2015 Owain Evans
 'The Good Shepherd' gan Ion Vincent Danu (gan.1957)

 

'The Good Shepherd' gan Ion Vincent Danu (gan.1957)

Myfi yw'r bugail da (Ioan 10:11a)

Y mae'r ansoddair a gyfieithir 'da' yn un awgrymog.

Meistrolaeth a olygir: Myfi yw'r bugail sydd wedi meistroli’r grefft o fugeilio - yn fugail yn ystyr lawn y gair - y bugail delfrydol.

Un praidd sydd gan y bugail da, ond rhennir ei ddefaid rhwng nifer o gorlannau...bydd un praidd ac un bugail (Ioan 10: 16b). Os ydym mewn gwirionedd yn dilyn Iesu, y Bugail Da, 'rydym yn rhan o'r praidd, i ba gorlan bynnag y byddwn yn perthyn.

O! Fugail Da, rho ras inni gydnabod y rhai sy'n perthyn i gorlannau eraill fel cyd-aelodau â ni o'r un praidd. Amen.

(OLlE)

 

 

 

BABIMINI

October 2, 2015 Owain Evans

Cwmni bychan, ond dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

MAHATMA GANDHI

October 2, 2015 Owain Evans

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021