Mae'r wybodaeth isod yn gywir yn unol â'r wybodaeth sydd gennym ar y pryd ond cofiwch ddarllen y Cyhoeddiadau ar y Sul er mwyn cadarnhau pob cyfarfod.
HANNER MARATHON CAERDYDD
Llun: walesonline.co.uk
Cyrraedd Capel Minny Street - Bore Sul, Hydref 4, 2015
Llawn sylweddolwn nad didrafferth fydd cyrraedd y capel ar gyfer yr Oedfa Foreol ar y bore Sul ond mawr obeithiwn y bydd nifer ohonoch yn barod i fentro a gwneud ymdrech i fod yn bresennol yn yr Oedfa Deulu. Bydd yr heolydd i gyd ar agor ar gyfer yr Oedfa Gymun yn yr hwyr.
REVELS
Life, meddai Forrest Gump (Paramount, 1994; Robert Zemeckis) is like a box of chocolates. Wel, os bocs o siocledi yw bywyd, awgrymaf mai pecyn o Revels yw’r eglwys leol.
Taffi; Coffi; Siocled; Malteser; Oren a Chocolate Raisin.
Ym mhob eglwys mae pobl Coffi-debyg. Pobl llawn bwrlwm yw’r Coffis. Rhain, heb ddiffyg na fethu, sydd yn cefnogi, yn cynnal, yn sbarduno’r gweddill ohonom i waith a gwasanaeth. Diolch i Dduw amdanynt!
Taffis? Wel, dyma’r bobl, o’u cyfarfod am y tro cyntaf, sydd yn ymddangos yn ‘galed’ braidd; difrifol ydynt. Mae eu crefydd yn pwyso’n drwm arnynt. Ond, o dreulio amser yn eu cwmni; amser i wrando, a thrafod, maen nhw’n meddalu! Melys yw'r bobl ‘galed’ hyn. Diolch i Dduw am y Taffis! Gwaraidd, didwyll, hynaws ydynt.
Ym mhob eglwys mae Maltesers: pobl ysgafn ei byw, a llon eu cred. Mae'r rhain yn wen i gyd, a’i ffydd yn codi calon. Hardd, hoff a thirion - ‘rydym yn anwylach hapusach bobl o fod yn eu cwmni. Diolch i Dduw am y Maltesers!
Ym mhob eglwys mae pobl Oren. Pobl ydynt sydd ychydig yn wahanol. Rebel o Revel ydynt. Maen nhw’n meddwl yn wahanol; yn gweld a deall pethau'n wahanol. Mae’r bobl hyn yn gymorth i’r gweddill ohonom i weld nad yr hyn a welwn yw’r hyn oll sydd i weld! Diolch i Dduw am bob Oren yn ein plith. Diolch iddynt am herio ein proffes gymesur, a’n crefydda cymen. Allwedd newydd ydynt mewn hen glo.
Siocled. Ie, jest...siocled. Dyma’r bobl sydd wrth eu gwaith, heb na ffwdan nag ymffrost. Y ‘dim ond siocled’ rhain sydd, â’u gwaith caled, penderfyniad diysgog, a’i dalatrwydd di-ildio, yn cynnal yr eglwys. Ni welant gae heb weld cynhaeaf. Ni welant ddrws clo heb fedru ffeindio’r allwedd. Ni welant fur heb osod ysgol wrthi, a dringo i gael gweld beth sydd yr ochr draw. Diolch i Dduw am Siocledi! Hebddynt, buasai’r eglwys leol fel Ebrill heb friallu.
Raisins: O bob losin yn y pecyn Revels, dim ond y choclate raisin sydd ag unrhyw beth tebyg i nutritional value. Mae ‘na ddaioni yn y raisin. Dyma’r bobl dda yn ein plith; pobl nad sydd yn dal dig, nac yn codi stŵr; yn achosi helynt na chosi cynnen. Dyma’r bobl sydd yn maddau, goddef; pobl hir ei amynedd a byr eu cofio yw'r rhain. O’u herwydd, mae cariad Duw yn medru llifo trwom, rhyngom, amdanom. Diolch am y Chocolate Raisins.
Nid Masnach Deg mo Revels, sydd yn golygu nad perffaith mo Revels! Nid perffaith yr un eglwys leol. Mae pawb yn gwybod hynny. Mae’r Taffi; Coffi; Siocled; Malteser; Oren a Chocolate Raisin yn gwybod hynny’n well na neb! Nid eu hamherffeithrwydd hwythau sydd bwysig wir, ond perffeithrwydd cariad y groesbren wag a'r maen treigledig.
Taffi; Coffi; Siocled; Malteser; Oren a Chocolate Raisin bob un, gyda'i gilydd, yn gweithio i amlygu beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist (Effesiaid 3:18). Dyma’r ‘Revelation’ sydd wrth wraidd ein cenhadaeth. I hyn y galwyd pob Revelend. Onid ‘Revelval’ sydd angen arnom, nid Revival?
Dyna ddigon; felly Our revels now are ended. (William Shakespeare 1566-1616; The Tempest 4:1)
(OLlE)
'PA BETH YW DYN?' Waldo Williams (30/9/1904-1971)
Ein bwriad fel Eglwys heno, oedd nodi 'Diwrnod Waldo', a hynny gyda defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Â ninnau’n eistedd mewn cylch, prin fod neb heb sylwi fod y Gweinidog yn fwy anniben yr olwg nag arfer heno: crys-T, ond...wrth i’r cyfarfod ddechrau sylweddolwyd arwyddocâd y crys-T hwnnw!
Darllenwyd Salm 8, a’r Salm fechan fawr honno a’i chwestiwn oesol gyfoes: beth yw dyn, iti ein cofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano (ad.4) agorodd cil y drws ar destun ein myfyrdod heno: Pa Beth yw Dyn? (Dail Pren; Gomer, Argraffiad Newydd 1991). Darllenwyd y gerdd gan y Parchedig Aled Gwyn, ac yn sgil y darllen, arweiniwyd ni drwy’r gerdd fesul cwpled gan y Gweinidog:
Beth yw byw?
Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau...
Mae pawb yn chwilio am fywyd ar ei orau. Os mai neuadd fawr yw bywyd, rhaid deall fod iddi hefyd cyfyng furiau. Mae Duw yng Nghrist yn cynnig ehangder y neuadd fawr o fewn cyfyng furiau ei ewyllys ef ar ein cyfer.
Beth yw adnabod?
Cael un gwraidd dan y canghennau...
Mae adnabod yn ddyfnach na gwybod. Gwybod ffeithiau a wnawn, ond adnabod person. Hanfod Cristnogaeth yw calon wedi ymrwymo i berson, nid i lyfr, nac adeilad, na thraddodiad, na ffordd o addoli - ond person. Iesu yw’r gwraidd dan y canghennau.
Beth yw credu?
Gwarchod tref nes dyfod derbyn...
Nid ffrwyth ein llafur ni yw’n tref. Derbyn ein treftadaeth a wnaethom. Ers dwy fil o flynyddoedd, ni pheidiodd yr Eglwys Gristnogol a sefyll dros hedd, gwarineb a gwirionedd. Eraill a lafuriasant a ninnau aethom i mewn i’w llafur hwynt (Ioan 9:38; WM). Ein gwaith yw parhau i weithio.
Beth yw maddau?
Cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn...
Nid profiad esmwyth yw maddau. Drwy’r drain sydd raid mynd. Eto, heb faddau, ceir profiadau mwy diflas fyth wrth ddod wyneb yn wyneb o hyd ac o hyd a’r hen elyn.
Beth yw canu?
Cael o’r creu ei hen athrylith...
Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd ar ddaear...A gwelodd Duw fod hyn yn dda (Genesis 1:1a; 25b) ‘Roedd popeth a greodd Duw yn canu ei glodydd: nef a daear, tir a môr yn moli mewn undod. Ond, wedi cael, colli. Collwyd y gân. Ond wedi colli, cael. Adferwyd y gân gan Iesu Grist. Yn Eden, meddai William Williams, Pantycelyn (1717-1791), fendithion gollais...ond buddugoliaeth Calfarî enillodd fwy yn ôl i mi. Mi ganaf tra bwyf byw...(C.Ff.:522)
Beth yw gweithio ond gwneud cân
O’r coed a’r gwenith?
Cymhelliad cryf y Cristion yn ei waith yw cariad ei Geidwad, a’i gariad at ei Geidwad. Lle bo cariad yn cymell, ni raid wrth gymhelliad mwy. Yn, ac oherwydd y cariad hwn, bydd ein pwyslais wrth weithio, fwy ar fawl na hawl; clod na chloc, a chân yn fwy na chwyn.
Beth yw trefnu teyrnas?
Crefft sydd eto’n cropian.
Lluniodd dyn gyfreithiau a rheolau. Adeiladodd sefydliadau a seneddau; etholodd gynghorau a phleidiau i lywodraethu ar wlad a chymdeithas. Ond ni chafwyd eto gyfraith heb wrthryfelwyr na llywodraeth heb wrthblaid. Dibynna’r cyfan ar awdurdod allanol, ar allu materol i’w cynnal a golud mawr i’w llwyddo. Dull Iesu o deyrnasu yw caru hyd yr eithaf, gwasanaethu hyd yr eithaf, rhannu hyd yr eithaf, aberthu hyd yr eithaf. Arnom mae pwysau’r Deyrnas honno - ni ydyw cenhadon pwrpas Duw, ei weithwyr mewn cymdeithas.
A’i harfogi?
Rhoi’r cyllyll yn llaw baban.
Cred pob gwlad boed fach neu fawr, fod arfogi yn amod ei chadernid a’i pharhad. Mae Crefyddau’r byd hefyd a gwaed ar eu dwylo, a’i rhan mewn terfysgoedd gwaedlyd yn amlwg. Ond mae’n rhaid tystio mai pobl ffydd, yn Iddewon, Mwslimiaid a Christnogion sydd yn dal y ddelfryd o Heddwch gerbron cenhedloedd y byd. Magodd yr eglwys hon apostolion heddwch gwrol iawn. Yr ydym yn falch o’r etifeddiaeth honno ac yn dymuno bod yn driw wrthi...
Beth yw bod yn genedl?
Dawn yn nwfn y galon.
Dawn yw dewis Waldo i gyfleu'r anwyldeb, yr eiddigedd a’r angerdd y mae’r gair cenedl yn eu cyffroi ynom, ac eto y mae’r rheswm am yr effeithiau hyn yn ddirgelwch neu yn ddawn yn nwfn y galon. Rhywbeth i’w ymarfer yw dawn. I feithrin y ddawn o fod yn genedl rhaid ymarfer y cof. Mae anghofio yn golygu difetha’r ddawn. Nid oes angen gelynion i fathru ein cenedl dan draed. Digon yw i bobl fel ni anghofio.
Beth yw gwladgarwch?
Cadw tŷ mewn cwmwl tystion.
Gwarchod y teulu, sicrhau’r fagwraeth orau dan yr amgylchiadau anwylaf yw cadw tŷ. Presenoldeb eraill o’r gorffennol yw’r cwmwl tystion. Hanes teulu yw gwladgarwch yn ôl Waldo - teulu yn perthyn i’w gilydd mewn ffordd ddirgel a dwfn. Diolch am y fagwraeth dda, gofalus a chariadlawn a gawsom - cyfle i ddiolch am y bobl sydd yn cadw tŷ i ni. Diolch hefyd am deulu’r ffydd - ynddo a thrwyddo cewch weld gogoniant Duw drwy lygaid eraill, clywed Gair Duw yng ngeiriau eraill, ymdeimlo a chariad Duw yng nghwlwm cariad eraill, ac ymddiried ynddo drwy bwyso ar ffydd eraill.
Y cwestiwn olaf yw Beth yw’r Byd? Ceir dau ddarlun cyfoethog - cylch yn treiglo a crud yn siglo. Troi a chwyldroi yw athrylith Duw. Nid peth llonydd ydyw. Cylch yn treiglo ydyw. Lledu eich gorwelion mae ffydd nid crebachu eich meddwl.
...crud yn siglo...
Un o ddodrefn y teulu yw crud. Bendithiwyd ni â dau gartref, dwy aelwyd, dau deulu - ein teulu gwaed, a theulu’r eglwys hon - y mae lle yn y teulu i bob aelod ohono, ac i bob aelod o’r teulu ei waith a’i weinidogaeth ei hun. Beth bynnag arall ydym, beth bynnag arall y llwyddwn a methwn i fod, mynnwn gael bod yn deulu: brodyr a chwiorydd.
Waldo oedd piau'r gair olaf; darllenwyd Eirlysiau gan Aled. Noson dda oedd hon, trafodaeth fuddiol, bendith ddofn. Diolch arbennig i'r Parchedig Aled Gwyn am ei gymorth parod.
JERÔM
Sant Jerôm (1607-1608) gan Caravaggio (1571-1610)
Dydd Gŵyl Sant Jerôm (c. 347 - 420)
Ysgolhaig, asgetig, cyffeithydd arloesol; cymeriad onglog, pendant ei farn, mawr ei gyfraniad. Ei gampwaith oedd cyfieithu’r Beibl i Ladin o’r ieithoedd gwreiddiol, y Roeg a’r Hebraeg. Bu wrth y gwaith am dros ugain mlynedd - nid oedd pwysau’r gwaith yn mennu dim ar ei benderfyniad diysgog ef, a’i ddalatrwydd di-ildio. Yr enw a roddir ar gyfieithiad Jerôm yw’r Fwlgat. Ystyr y gair yw’r ‘Cyfieithiad Cyffredin’. (Yn ogystal, paratôdd lawer o esboniadau trwyadl ar y gwahanol lyfrau yn y Beibl; esboniadau a ddefnyddir hyd heddiw.) Bu llawer iawn o wrthwynebiad i’r Fwlgat. Yng nghyfnod Jerôm, fel yn ein cyfnod ninnau, mae’n anodd i bobl ffydd dderbyn yr arloesol. Glynu wrth yr hen yw temtasiwn parod crefyddwyr bob oes.
Gallasai Jerôm fod yn bigog, mae’n debyg. Dylid cyfiawnhau'r fath gyhuddiad! Dyma ddywedodd Jerôm am Pelagiws (354-420): Yr hurtyn mwyaf hurt, a’i feddwl wedi ei bylu gan ormod o uwd! Nancy Frausto fynegodd y peth orau heddiw: Jerome was seldom pleasant, but at least he was never dull. https://t.co/7IsDYAxrKF Ymhlyg yng ngeiriau Frausto mae neges bwysig am natur Eglwys Iesu Grist: mae croeso ynddi, heddiw fel erioed, i’r da a’r drwg, y call a’r twp, y pwyllog a’r gwyllt, y serchog a’r swrth, y llwfr a’r glew. Yng Nghrist, diolchwn i Dduw fod gan ddrain rosynnau, yn hytrach na dannod Duw fod gan rosynnau ddrain.
Dyma weddi gan Jerôm:
O! Arglwydd, dangos imi dy drugaredd a llonna fy nghalon.
Rwyf fel y dyn ar y ffordd i Jericho a gafodd ei orchfygu gan ladron, a’i glwyfo a’i adael yn hanner marw. O! Samariad Da, tyrd i’m cynorthwyo. Rwyf fel y ddafad a grwydrodd. O! Fugail Da, chwilia amdanaf, a thyrd â mi adref yn ôl dy ewyllys. Gad imi drigo yn dy dŷ holl ddyddiau fy mywyd a’th foli di hyd byth bythoedd yng nghwmni’r rhai sydd yno. Amen.
(Mil a Mwy o Weddïau; gol. Edwin C. Lewis. Cyhoeddiadau’r Gair 2010)
(OLlE)
BETHSAIDA
Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
'Cwrdd Gweddi' gan Aneurin Jones (gan. 1930) aneurinjones.co.uk
Dylid sôn ychydig am gyd-destun y llun uchod: dyma'r oedfa olaf yng Nghapel Nant y Moch cyn i'r cwm gael ei foddi.
Ysgrifennodd Huw Dylan Owen englyn i'r llun:
Yr henwyr dwys a bwysant - ar y fainc
Gan droi o fyd methiant
i weddïo'm faddeuant
A rhoi ple dros fory'r plant.
Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol; dibynna’r naill ar y llall. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle, ac yn gyfrwng i ddyfnhau ein bywyd defosiynol.
Cedwir at yr un patrwm o gyfarfod i gyfarfod. Salm; cyflwyniad gan y Gweinidog ar elfen o’r bywyd defosiynol, trafodaeth ac yna awgrym neu ddwy ynglŷn ag arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol, a gorffen gyda chyfnod o weddi.
Wedi cyd-ddarllen Salm 8, cawsom ein hatgoffa mae anhepgorion gweddi yw Mawl i Dduw, Gofyn ac Eiriolaeth. Canolbwynt ein sylw heno oedd Eiriolaeth, ac fe’n harweiniwyd gan y Gweinidog mewn astudiaeth o weddi Paul dros bobl Dduw yn Effesus (3:14-21). Prif eitem y weddi fawr honno yw cariad: Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw (3:18,19). Pobl wedi eu gwreiddio mewn cariad yw pobl Crist Iesu. ‘Roedd Paul yn gweddïo ar i bobl Effesus brofi cariad Crist yn ei bywyd. Wrth brofi gwefr cariad Crist, down yn gyfryngau i’r cariad hwnnw. Mae ein parodrwydd ninnau i eiriol dros eraill yn agor sianel i gariad Crist i weithredu yn eu bywyd. Mewn modd sydd y tu hwnt i’n crebwyll ni y mae Duw yn defnyddio’n gweddïau i gyflawni ei ewyllys cariadlawn ym mywydau'r rhai yr eiriolwn drostynt. Y mae ein heiriolaeth nid yn unig yn dod â’r rhai weddïwn drostynt at Dduw, ond y mae hefyd yn dod â ni yn nes atynt. Mae ein heiriolaeth yn plannu awydd ynom i’w cynorthwyo a’u cefnogi.
Trafodwyd i ba raddau y tybiwn fod gweddi o eiriolaeth yn effeithiol a bendithiol i’r sawl sydd yn ei hoffrymu, a hefyd i’r rhai yr eiriolir drostynt. Cawsom hefyd, gyfnod i ystyried pwysigrwydd ystum wrth weddïo: gweddïo ar ein heistedd, ar ein traed; a gwir arwyddocâd penlinio i weddïo. Arweiniwyd ni gan y Gweinidog i ystyried geiriau Walter Cradoc (1606-1659):
Sylwais droeon fod y sawl sy’n bell oddi wrth Dduw’n gorfod mynd ar ei liniau bob amser i weddïo; ond y mae’r enaid sy’n agos at Dduw yn gallu gweddïo ar ei sefyll, neu dan gerdded, neu wrth siarad; gall weddïo heb dynnu’i het, neu yn ei wely, neu lle mynno...
Gan werthfawrogi arwyddocâd geiriau Cradoc, cytunwyd, serch hynny mae da gofalu bod ystum y corff yn gwasanaethu ein defosiwn. Ystyr y gair Cymraeg ‘addoli’ yw plygu. Gall gogwydd y corff wrth weddïo amlygu cyfeiriad y meddwl a’r ysbryd.
Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Echel ein gweddïau heno oedd ychydig eiriau i eiddo Eseia broffwyd: Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo...Cysgodais di yng nghledr fy llaw. (Eseia 49:16a/51:16b).
Bu Bethsaida eto’n fendith.
MIHANGEL SANT
(OLlE)
WEDI7
Wedi 7?
Onid rhaglen deledu yw Wedi 7?
Wel, ie...ond mae Wedi 7 hefyd yn gyfle i’r gweinidog cael gwario awr fach yn y gegin yn paratoi swper syml i lond byrddaid o...’Oedolion ifanc’.
 phawb wrth y bwrdd penderfynodd y cwmni nad hoff ganddynt y cymal ‘Oedolion ifanc’. ‘Roedd unfrydedd am hyn - dyma unfrydedd olaf y noson.
Pwy yw pobl Wedi 7 felly? Yn ei hugeiniau oedd y chwech a ddaeth heno. Pob un yn bwrw gwreiddiau mewn gyrfa; ambell un newydd briodi, dau yn prysur drefnu priodas, ac un yn disgwyl ei chyntaf-anedig. Cwmni cymysg, pawb yn wahanol, ond heb fod ar wahân - 'roedd ein hawydd i drafod ein ffydd yn ein clymu'n un. Brwd, buddiol a phellgyrhaeddol bu'r drafodaeth honno.
Beth gafwyd? Pitsa Indianaidd. Beth yn y byd yw 'Pitsa Indianaidd'? Bara nan a haenen o saws persawrus drosto (korma digon dof ar ambell un, a madras â min iddo ar y gweddill); ychwanegu ychydig o gig a llysiau, ac i’r ffwrn am ddeng munud, a’i weini gyda chatwad mango a raita. Ac wedyn? Paned wrth gwrs! Bara brith a pice ar y maen.
Beth gafwyd? Pryd o fwyd...do, a gwledd o fendith.