Y GYMDEITHAS
Neithiwr, yng Nghinio Pen-tymor Cymdeithas, anerchiad trawiadol o effeithiol ac amserol gan Gill Griffiths: pwysigrwydd cofio a gweithredu yn sgil cofio Deiseb Heddwch 1923, a gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.
Y SUL
BETHANIA
Heno, Bethania (Luc 5:12-16 a 2 Brenhinoedd 5). Trafodaeth fuddiol (a bywiog) a bendith heb ei debyg. Diolch i bawb a ddaeth ynghyd, ac i Alun a Mair am y croeso.
Y SUL
CINIAWA GYDA’R SAINT - PADRIG
Y SUL
Y GYMDEITHAS
Heno, ein Cymdeithas. Daeth tymor o gyfarfodydd amrywiol a chyson ddifyr i'w glo gyda noson nad a'n angof gennym: diddanwch cerddorol tan gamp gyda Marged a Steffan. Diolch i'r pwyllgor am y gwaith trefnu ac i bawb a fu ynglŷn â threfniadau’r cyfarfodydd.
