Dewch/ymunwch â chroeso. Boed bendith.
Oedfaon y dydd yfory dan arweiniad Siân Meinir, Penarth.
9:30 (YS/Z) a 18:00 (K)
Your Custom Text Here
Dewch/ymunwch â chroeso. Boed bendith.
Oedfaon y dydd yfory dan arweiniad Siân Meinir, Penarth.
9:30 (YS/Z) a 18:00 (K)
Allan, i mewn ac i mewn: cip ar wythnos Eglwys Minny Street.
Cyd-gerdded, cyd-drafod, cyd-baneido.
Bethania'n ail ddechrau: agor y Beibl ac ymagor i'r Gair.
‘Croeso Cynnes’: y Festri'n olau a chynnes o groeso i'n cymdogion yn y Waun Ddyfal.
Da oedd cael bod nôl yn Eglwys Teilo Sant i gynnal ein Plygain. Ar ôl defosiwn gan ein Gweinidog, dwy rownd o ganu carolau Plygain ac yna Carol y Swper i orffen. Diolch i bawb am bob cefnogaeth; diolch arbennig i’r sawl fu ynglŷn â’r trefnu yn arbenning felly Rhiannon, Helen ac Alun.
Sŵp a Sgwrs! Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am llond powlen o gawl blasus, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o amser cinio. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly i Elinor a Marged.
Nadolig Llawen! Bydded i chi Lawenydd y Nadolig, sef GOBAITH. Ysbryd y Nadolig, sef BYWYD, a sylwedd y Nadolig, sef CARIAD.