EIN PLYGAIN

Da oedd cael bod nôl yn Eglwys Teilo Sant i gynnal ein Plygain. Ar ôl defosiwn gan ein Gweinidog, dwy rownd o ganu carolau Plygain ac yna Carol y Swper i orffen. Diolch i bawb am bob cefnogaeth; diolch arbennig i’r sawl fu ynglŷn â’r trefnu yn arbenning felly Rhiannon, Helen ac Alun.

SŴP A SGWRS

Sŵp a Sgwrs! Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am llond powlen o gawl blasus, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o amser cinio. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly i Elinor a Marged.