LLŶR GWYN
Noson dda i'w ryfeddu: dathlu llwyddiant Llŷr Gwyn.
Diolch i Enlli, Lleucu, Mari Fflur, Aled Gwyn a phawb fu ynglŷn â'r trefnu.
Cafwyd cyflwyniad hwyliog a buddiol gan Llŷr - da oedd cael bod yn bresennol.
CAFFI CELF
Bore heddiw, Caffi Celf: 'Symphonies in Black’: peintiadau Nicholas Evans.
‘Cam Mawr Ymlaen’
‘Mari Jones a’i Beibl’
‘Diwedd Shifft’.
Lluniau tywyll, ond perthyn i bob un ei olau: golau arbrawf a menter; golau’r Gair; rhybudd rhag hawlio’r Goleuni yn eiddo i ni.
Diolch i bawb.
Y GYMDEITHAS
Heno, ein Cymdeithas Ddiwylliannol: noson hwyliog; siaradwr byrlymus, brwdfrydig a diddorol i'w ryfeddu - Carwyn Graves.
Ei destun? 'Cennin a Chig Oen? Golwg newydd ar fwyd Cymru.'
Diolch i Carwyn am ein hatgoffa, ein haddysgu a'n herio.
Y SUL
Y SUL
BORE COFFI
Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am baned a chacen, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o fore. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly Rhiannon ac Alun.
Y GYMDEITHAS
Heno Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street: Gwyn Roberts yn cyflwyno 'Ai Trobwynt oedd Tryweryn?': noson ddifyr a heriol eto. Diolch i Gwyn ac i bawb a fu ynglŷn a threfnu a chynnal y cyfarfod.
