OEDFAON Y SUL

Ein Hoedfa Gynnar bore Sul (9:30; capel a ‘Z’):
Dŵr.
Mai 18fed, bob blwyddyn?
Y Parchedig Ddoctor Gwilym Davies.
Sut ellir cael y Felin Ddŵr i droi?
Dewch/Ymunwch a chroeso.

Liw nos am 18:00 byddwn yn cydaddoli gyda’r aelodau yn Eglwys y Crwys. Boed bendith.

OEDFAON Y SUL

Ein Hoedfa Foreol 10:30; YS; Cwrdd Eglwys.

Yr Oedfa Hwyrol 18:00; capel a ‘Z’; Cymundeb.

O Gorinth i Gaerdydd: beth allwn ni, eglwys Minny Street, ddysgu am, a chan Eglwys Corinth. Yr ail lythyr fydd testun ein sylw am yr ychydig Suliau nesaf.

OEDFAON Y SUL

Boed bendith Duw ar Oedfaon y Sul.

Am 10:30 (Capel a 'Z')’ Dr Hefin Jones.

Cynhelir Ysgol Sul.

Am 18:00, y Parchedig Aled Edwards.

Diolch rhag blaen i'r ddau am ei gwasanaeth a'i gweinidogaeth yn ein plith.

OEDFAON Y SUL

Bore Sul y Pasg

10:30 (capel a ‘Z’).

Dewch/ymunwch â chroeso.

Bysedd; croes ac wy. Nid ‘crefydd’, nid ‘Cristnogaeth’. Bywyd. Addawodd Iesu fywyd, a chyflawnodd yr addewid hwnnw. Cymuno: gweld, clywed, arogli’r Atgyfodiad.

 

 

Nos Sul; 18:00 Atgyfodiad = Gobaith

1 Thesaloniaid  4:13-18

Iesu Grist, ti, fi, ffyddloniaid Thesalonica a mynydd Everest.

Dewch â chroeso.

OEDFAON Y SUL

Bore Sul, ein Hoedfa Gynnar am 9:30.

Sul y Blodau yng nghwmni’n gilydd, o’r ieuengaf i’r hynaf.

Dewch â chroeso. Boed bendith.

Nos Sul ein Hoedfa Hwyrol (capel a ‘Z’):

Sut i newid eich bywyd: Cymundeb. (Mathew 26:10)

Dewch/ymunwch â chroeso. Boed bendith.

OEDFAON Y SUL

Bore Sul, Oedfa Gymundeb am 10:30 (capel a ‘Z’; cynhelir Ysgol Sul): TS Eliot a John Updike! ‘... you, have you built well?’ a ‘Let us not mock God with metaphor, Analogy, sidestepping, transcendence ...’
Dewch â chroeso.

Nos Sul am 18:00 Arwyr a ‘Celebs’ ac efelychu'r gorau yn yr amseroedd gwaethaf.
Boed bendith.

OEDFAON Y SUL

Bore Sul am 10:30 (YS; capel a ‘Z’)

Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig Hywel Davies, Aberdâr yn ein plith.

Nos Sul am 18:00 ein braint fydd cael ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Tabernacl, Yr Ais.

OEDFAON Y SUL

Bore Sul am 10:30. Cynhelir YS.

Ymaflyd mewn Gobaith

Jeremeia 29:11

Nid er waethaf y Newyddion drwg, ond yn union o’i herwydd, ymaflyd mewn gobaith sydd rhaid, a chaniatáu i’r gobaith da hwnnw gydio ynom, a’n hebrwng ymlaen i wasanaeth a gweinidogaeth.

Ein Hoedfa Hwyrol am 18:00 (capel/Z)

Nid digon ufudd-dod

Genesis 6:9

Mewn oes ysgeler anghyfiawnderau, mae angen mwy nag ufudd-dod. Nid aros am ganiatâd, am arweiniad gan Dduw mo’n gwaith. Gwyddom beth yw bwriad ein Duw; rhaid wrth fenter a dewrder i ddod a'r darnau eto ynghyd.