OEDFAON Y SUL

Oedfa Gynnar bore Sul.

9:30 (capel a ‘Z’).

Cawn glywed neges y ‘Jelly Babies’ a’r hen ddarn chwe cheiniog.

Ein Hoedfa Hwyrol am 18:00.

Bywiol ddŵr Eseia …

Gwir Feseia Daniel …

Bachgen doeth Eseia …

‘Mewn côr ym Meth’len Jiwda

ar lin Mair’.

Dewch â chroeso; boed bendith.

OEDFAON Y SUL

Ar gyfer bore Sul (10:30; capel a ‘Z’):

‘Ar gyfer heddiw’r bore …’ Eos Iâl, (1794-1862).

Gwreiddyn Jesse?

Y Cadarn ddaeth o Bosra?

Ar gyfer ein Hoedfa Gymundeb nos Sul (18:00):

Y Deddfwr gynt ar Seina?

Yr Iawn gaed ar Galfaria?

Dewch/ymunwch â chroeso.

Boed bendith.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul am 10:30: Myfyr Hefin vs Owain Llŷr; 1 Corinthiaid 13; Technoleg; ‘chydig bach o Bach; darn o waith Gauguin. Micha fydd â’r gair olaf.
Diolch i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r Oedfa hon.

Dewch â chroeso. Boed bendith.

Nos Sul am 18:00 (capel a ‘Z’).

Ein braint fydd cael derbyn o genadwri y Parchedig Passer Domesticus. Dewch/ymunwch â chroeso.

‘O! DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul y 12fed am 9:30

Cyflwynir y ddrama byrfyfyr ‘Ceidwad y Llety’ gan bawb o bobl dda Minny Street, o’r ieuengaf i’r hynaf. Bydd angen Mair a Joseff, Bugeiliaid, Doethion ac Angylion. Bydd darn i bawb a phawb a’i ddarn. Darperir y sgript rhag blaen i chi gael ymarfer eich llinellau. Hyd yn oes os na ellid gwarantu actio o’r safon orau, bydd wenau Duw ar ein hwyl a chwerthin. Dewch â chroeso i ddathlu’r Nadolig.

Nos Sul y 12fed; 18:00 (capel a ‘Z’)

Dathliad Nadolig yr aelodau a chyfeillion hŷn:

‘Ymdawela, O! fyd …’; ‘Yn ôl ac ymlaen …’ a ‘Cyfarchiad Gabriel’.

Diolch i bawb fydd â rhan yn yr Oedfa.

Boed bendith.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore ‘fory am 10:30, Oedfa Gymundeb yr Adfent (YS; Z)

Eseia 9:2-7 a 11:1-9

Amser i feddwl yw’r Adfent.

Amser i feddwl am gyfrinach y Gair yn y gwellt fel plentyn bach.

Dewch â chroeso, o’r ieuengaf i’r hynaf.

Boed bendith.

Nos ‘fory am 18:00 Joseff fab Dafydd a chyngor y Frenhines Wen i Alice i ymarfer credu o leiaf chwech o bethau cwbl amhosibl cyn brecwast pob bore.

Gellid darllen Mathew 1:1-25 rhag blaen.

Boed wenau Duw ar yr Oedfa.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul; 10:30

Capel a ‘Zoom’.

Eseia 11:1-9.

Mae gennym sŵ o’n mewn.

Ynom mae sŵ.

Sŵ ydym.

Cynhelir Ysgol Sul.

Nos Sul am 18:00.

Genesis 1:3&4

Byw Bywyd Creadigol - dweud; gwneud; gweld … neu syniad; gweithredu; ymateb.

Dewch â chroeso.

Boed bendith.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul, am 9:30 - Oedfa Gynnar yn y capel a ‘Z’.

Ydy Iesu yn y tŷ? Paolo Veronese fydd yn estyn cymorth wrth geisio ateb y cwestiwn hwnnw.

Gellid darllen Ioan 2:1–11 rhag blaen.

Nos Sul am 18:00, ein hoedfa hwyrol.

Gorchymyn Anti Mair fydd echel ein myfyrio.

Dewch â chroeso.

Boed bendith.