‘O DEUWN OLL YNGHYD …’
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i gydaddoli yn y capel gan gadw yn fanwl at ganllawiau a rheoliadau’r llywodraeth. Mae’r angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd eisoes i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i gyd-addoli drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd ynghyd â chynnig cyfle i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.
TREULIO’R GRAWYS YNG NGHWMNI LUC (33)
TREULIO’R GRAWYS YNG NGHWMNI LUC (32)
TREULIO’R GRAWYS YNG NGHWMNI LUC (31)
TREULIO’R GRAWYS YNG NGHWMNI LUC (30)
TREULIO’R GRAWYS YNG NGHWMNI LUC (29)
‘O DEUWN OLL YNGHYD …’
Er ein bod dan gyfyngiadau Lefel 4, cynhwysir mannau addoli ymysg y rhestr o gyfleusterau sydd yn cael parhau ar agor ac ystyrir mynd i addoli yn reswm dilys dros adael ein cartrefi. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn felly yn parhau i gydaddoli yn y capel gan gadw yn fanwl at ganllawiau a rheoliadau’r llywodraeth. Mae’r angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd eisoes i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom neu i dreulio ennyd mewn myfyrdod personol drwy gyfrwng taflenni gweddi a ddosbarthwyd. Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig Aled Edwards, Cytûn yn ein plith bore Sul 28ain o Fawrth.
