'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Boed bendith y flwyddyn newydd hon; dechrau’r flwyddyn newydd gyda duw, gyda’n gilydd fydd echel ein hoedfa fore Sul (10:30). Echel homili gweinidog fydd y tri gair o ddameg y mab afradlon: ... mwy na digon ... (Luc 15:17). Cawn gwmni Horatius Bonar, Nina Simone a Martin Niemöller. Bydd y tri yn ein harwain i gofio fod gan ein Duw fwy na digon o gariad i faddau; mwy na digon o gariad i adfer a mwy na digon o gariad i gynnal.

Wrth y Bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog yn ymdrin ag adnod o Lyfr Exodus (17:9): Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw. Bydd Owain yn ceisio amlygu pwysigrwydd mentro i ben y bryn, ac mor bwysig yw defnyddio gwialen Duw yn ein hoes a’n cyfnod. Boed bendith.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Nos Iau (9/1: 7:30) Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Oedfa Wythnos Weddi er hybu Undeb Cristnogol yng Nghapel y Crwys o dan arweiniad y Parchedig Aled Huw Thomas gyda chynrychiolaeth o’r eglwysi yn cymryd rhan.

'BETHANIA': LLYFR JOSUA (7)

Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 20:1-9

Yn yr hen fyd un ffordd o geisio rhwystro llofruddiaeth oedd rhoi hawl i deulu’r dioddefwr i ymlid a lladd y llofrudd. Unwaith y cydiai mewn dau deulu, gallai dial tylwythol (vendetta) o’r math yma barhau am genedlaethau. Diau fod ofn y dialydd gwaed wedi atal llawer yn Israel rhag anfadwaith, ond yr oedd o leiaf un gwendid sylfaenol yn perthyn i’r drefn. Nid oedd gwahaniaeth rhwng llofruddiaeth ragfwriadol mewn gwaed oer a lladd anfwriadol; neu ddamweiniol (manslaughter). Er mwyn gwneud cyfiawnder â’r un a laddodd trwy amryfusedd neu anwybodaeth, gorchmynnodd Moses i’r Israeliaid godi dinasoedd noddfa ar ôl iddynt gyrraedd Canaan (trowch i Ddeuteronomium 19:1-13). Yno gallai’r ffoadur fod yn sicr y rhoddid gwrandawiad teg a diragfarn i’w achos.

Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Josua wedi iddo rannu’r wlad rhwng y llwythau oedd ufuddhau i Moses ac adeiladu chwe dinas noddfa. Sylwn ar dair nodwedd arbennig a oedd yn perthyn i’r dinasoedd hyn.

Yn gyntaf, roeddent yn hawdd eu gweld. Sefydlwyd pob un ohonynt wrth droed mynydd neu fryn amlwg. Petai’r troseddwr yn mynd ar goll ac yn gofyn cyfarwyddyd, ni fyddai’n rhaid i rywun ond dweud wrtho, ‘Cadw dy lygaid ar y bryn acw ac fe ddeui i’r ddinas’.

Yn ail, roeddent yn hawdd eu cyrraedd. Codwyd hwy mewn dyffryn neu ar wastadedd, yng nghanol y bryniau, fel Jerwsalem a Nasareth. Ond iddo fod yn rhedwr cyflym nid oedd dim i rwystro’r ffoadur rhag cyrraedd un ohonynt mewn pryd. Roedd dosbarthiad y dinasoedd hefyd yn gymorth yn y cyswllt hwn. Roedd tair bob ochr i’r Iorddonen - dwy yn y gogledd, dwy yn y canolbarth a dwy yn y de, er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd pawb roedd eu hangen arno.

Yn olaf, roeddent yn berffaith ddiogel. Roedd Duw wedi addo trwy Moses na ddeuai unrhyw niwed yn y dinasoedd noddfa i’r un oedd yn ddieuog o lofruddiaeth. Câi’r ffoadur loches rhwng eu muriau.

I’r Cristion, mae Iesu yn noddfa. Y mae croes Calfaria yn hawdd ei gweld, yn hawdd ei chyrraedd ac yn arwydd o faddeuant.

'BETHANIA': LLYFR JOSUA (6)

Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 14:6-15 a Numeri 13 ac 14.

Yn union ar ôl ennill Canaan, aeth Josua ati i ddosbarthu’r wlad rhwng y llwythau. Dyma waith pwysig, oherwydd buasai’r Israeliaid wedi dechrau ymladd a’i gilydd am y rhannau mwyaf ffrwythlon. Byddai’r fath ddiffyg undeb yn ei gwneud yn hawdd iawn i’r Canaaneaid wrthymosod ag ennill y cyfan a gollwyd yn ôl. Y llwyth cyntaf ar y rhestr yw Jwda; ond cyn rhoi disgrifiad manwl o diriogaeth Jwda, mae’r awdur yn dangos sut yr aeth Hebron, un o’r dinasoedd pwysicaf, yn eiddo i Caleb y Cenesiad.

Caleb oedd un o’r ysbiwyr a anfonwyd gan Moses i chwilio’r wlad cyn i Israel groesi’r Iorddonen. Daeth yn ôl yn llawn brwdfrydedd, a cheisiodd annog y genedl i brysuro ymlaen at ffiniau Canaan. ‘Roedd yr Israeliaid yn ofnus. Ni fynnent fentro ymhellach, a bygythient ethol arweinwyr newydd a fyddai’n barod i’w harwain yn ôl i’r Aifft. Yn yr argyfwng hwn, cefnogodd Caleb Moses. Fel cydnabyddiaeth o’i deyrngarwch i Moses, ac o’i ffyddlondeb i fwriad Duw, addawodd Moses roi lle iddo yng Nghanaan: ‘Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth’ (adnod 9). Nawr, ymron hanner canrif yn ddiweddarach, mae Caleb yn atgoffa Josua o’r addewid, ac fe gaiff ei ddymuniad.

Beth a wnelo hyn â ni? Nid Israeliad oedd Caleb. ‘Roedd yn hanu o lwyth y Cenesiaid, un o lwythau Edom. Derbyniwyd y llwyth hwn gan Israel. O ganlyniad, y mae Caleb, yr ‘estron’ yn cael lle blaenllaw ymysg cewri’r ffydd Iddewig. (Caiff Ruth y Foabes - ‘estron’ arall - yr un anrhydedd, ond fe ddown at hon maes o law ...) Cydnabyddir ffyddlondeb Caleb i Dduw trwy roi Hebron yn etifeddiaeth iddo ef a’i ddisgynyddion. Nid gofyn wna Duw pa liw yw ein croen, neu i ba genedl y perthynwn. Ufudd-dod, ffyddlondeb a gwasanaeth i’n cyd-ddyn sy’n cyfrif ganddo ef.

Mae’n debyg mai hen hen air Saesneg am garedigrwydd oedd Ruth; gair sydd yn bodoli heddiw, dim ond yn yr ystyr nacaol: ruthless. Caleb a Ruth - mewnfudwyr, ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a phwy bynnag sydd i ni, am ba reswm bynnag yn ‘estron’ - natur ein hymateb iddynt, yn bersonol, fel cymunedau ffydd ac fel bro a gwlad fydd yn penderfynu a’i ruthful neu ruthless y byd hwn.