'BETHANIA': LLYFR JOSUA (6)

Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 14:6-15 a Numeri 13 ac 14.

Yn union ar ôl ennill Canaan, aeth Josua ati i ddosbarthu’r wlad rhwng y llwythau. Dyma waith pwysig, oherwydd buasai’r Israeliaid wedi dechrau ymladd a’i gilydd am y rhannau mwyaf ffrwythlon. Byddai’r fath ddiffyg undeb yn ei gwneud yn hawdd iawn i’r Canaaneaid wrthymosod ag ennill y cyfan a gollwyd yn ôl. Y llwyth cyntaf ar y rhestr yw Jwda; ond cyn rhoi disgrifiad manwl o diriogaeth Jwda, mae’r awdur yn dangos sut yr aeth Hebron, un o’r dinasoedd pwysicaf, yn eiddo i Caleb y Cenesiad.

Caleb oedd un o’r ysbiwyr a anfonwyd gan Moses i chwilio’r wlad cyn i Israel groesi’r Iorddonen. Daeth yn ôl yn llawn brwdfrydedd, a cheisiodd annog y genedl i brysuro ymlaen at ffiniau Canaan. ‘Roedd yr Israeliaid yn ofnus. Ni fynnent fentro ymhellach, a bygythient ethol arweinwyr newydd a fyddai’n barod i’w harwain yn ôl i’r Aifft. Yn yr argyfwng hwn, cefnogodd Caleb Moses. Fel cydnabyddiaeth o’i deyrngarwch i Moses, ac o’i ffyddlondeb i fwriad Duw, addawodd Moses roi lle iddo yng Nghanaan: ‘Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth’ (adnod 9). Nawr, ymron hanner canrif yn ddiweddarach, mae Caleb yn atgoffa Josua o’r addewid, ac fe gaiff ei ddymuniad.

Beth a wnelo hyn â ni? Nid Israeliad oedd Caleb. ‘Roedd yn hanu o lwyth y Cenesiaid, un o lwythau Edom. Derbyniwyd y llwyth hwn gan Israel. O ganlyniad, y mae Caleb, yr ‘estron’ yn cael lle blaenllaw ymysg cewri’r ffydd Iddewig. (Caiff Ruth y Foabes - ‘estron’ arall - yr un anrhydedd, ond fe ddown at hon maes o law ...) Cydnabyddir ffyddlondeb Caleb i Dduw trwy roi Hebron yn etifeddiaeth iddo ef a’i ddisgynyddion. Nid gofyn wna Duw pa liw yw ein croen, neu i ba genedl y perthynwn. Ufudd-dod, ffyddlondeb a gwasanaeth i’n cyd-ddyn sy’n cyfrif ganddo ef.

Mae’n debyg mai hen hen air Saesneg am garedigrwydd oedd Ruth; gair sydd yn bodoli heddiw, dim ond yn yr ystyr nacaol: ruthless. Caleb a Ruth - mewnfudwyr, ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a phwy bynnag sydd i ni, am ba reswm bynnag yn ‘estron’ - natur ein hymateb iddynt, yn bersonol, fel cymunedau ffydd ac fel bro a gwlad fydd yn penderfynu a’i ruthful neu ruthless y byd hwn.

‘LLYNYDDWCH’: LLYTHYR PAUL AT Y PHILIPIAID (2)

Gweddi Paul dros y Philipiaid

Philipiaid 1:3-11

Nid llythyr i drethu’r meddwl mo hwn, ond llythyr agos-atoch. Yn yr ychydig adnodau a fydd yn destun ein sylw y tro hwn mae Paul yn sôn am y lle arbennig sydd i Gristnogion Philipi yn ei serch, ac fel y mae’n diolch yn gyson i Dduw amdanynt. Mae’r darn hwn yn llawn hyder a llawenydd. Dygai’r cof am y Philipiaid lawenydd mawr i Paul. Gan agosed oeddent i galon Paul, ni allai feddwl amdanynt heb anfon diolch i Dduw amdanynt a gweddïo ar eu rhan. Mae Paul yn ddyledus iddynt am eu daioni cyson.

Dychmygwch mai mewn Seiat i chi? Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud peth o’m profiad - i sôn ychydig am fy nyled i Eglwys Iesu Grist. Peth o’m profiad, nid oherwydd fy mod i’n hoff iawn o siarad amdanaf fi fy hun, ond oherwydd bod cymaint o gwyno a crintach a lletchwithdod ymhlith pobl Crist yng Nghymru, heddiw. Onid oes angen codi calon, a chydnabod dyled a chanu clod ein Duw?

Ni chefais y drafferth leiaf i gael fy nerbyn i mewn i Eglwys Iesu Grist. Y peth sylfaenol i’w sylweddoli a’i chyhoeddi yw bod Iesu am i bobl ei ddilyn. Dyna pam y daeth i’n plith. Y mae gwahoddiad yn ei berson. Y mae gwahoddiad yn ei ddamhegion. Gwahoddiad i ganlyn ar ei ôl. Ac er cydnabod iddo rybuddio ei ddisgyblion cyntaf, a finnau a phawb arall fod ei ddilyn ef yn golygu profi gwirionedd ei eiriau: Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun, a chodi ei groes a’m canlyn i. Cofiwn nad croes yn unig y mae Iesu’n gynnig, ond cariad, maddeuant, bywyd, a theulu mawr byd-eang. Cyhoeddwn felly fel pobl y Crist, yn y cyfnod lletchwith hwn, nad yw drws trugaredd Duw na’r fynedfa i’w eglwys a’i deyrnas i’w gau yn erbyn neb.

I’r eglwys y mae’r diolch fod Iesu yn real imi. Pobl yr eglwys a ddaeth a mi wyneb yn wyneb â Iesu o Nasareth. Wrth weld Iesu, fe welais Dduw, fe welais fy hun, fe welais fy nghyd-ddyn, fe welais Deyrnas Nefoedd a’m lle i ynddi, fe welais gyfaill ac arwr oes. Fe welodd Iesu finnau hefyd. Y mae Iesu yn gweld pawb ohonom. Nid oes modd osgoi hynny. Y prawf sicraf fy mod wedi gweld Iesu yw gwybod ei fod wedi fy ngweld i, a gwybod mae dyn ar goll oeddwn cyn hynny. Cefais, ac fe gawsom ni ein cyflwyno i’r Arglwydd Iesu yn a thrwy'r eglwys a’i phobl, a hithau gyflwynodd ef inni, a diolch i Dduw. Cyhoeddwn felly fel pobl y Crist, yn y cyfnod anodd hwn, mae Iesu yw darganfyddiad mwyaf bywyd, ac mai’n gwaith hyfrytaf yw dweud wrth eraill: Deuwch a gwelwch.

Yn eglwys Iesu Grist, caf y fraint o gymdeithas fy nghyd Gristnogion. Mae eu hadnabod wedi cyfoethogi fy mywyd ac yn dal i wneud hynny’n ddirfawr. Mae pobl ar eu mwyaf diddorol mewn capel. Mor wahanol i’n gilydd, a phawb yn dilyn yr un Arglwydd. Heb Iesu, ni fuasem yn ddim byd amgenach na chasgliad o unigolion.

I ysgogi trafodaeth:

  • Beth yw eich dyled chwithau i Eglwys Iesu Grist?

  • Digwydd y geiriau llawenydd a llawenhewch dair gwaith ar ddeg yn y llythyr hwn. Beth a ddywed hyn wrthych am berthynas Paul a’r Philipiaid, a neges y llythyr i Gristnogion heddiw?

  • Yn y Beibl Cysegr-Lân mae adnod pump yn darllen: Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng partneriaeth a chymdeithas?