'BETHANIA': LLYFR JOSUA (2)

Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni fydd Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 2:1-21

Y Canaanead cyntaf i bobl Israel gyfarfod wedi croesi’r Iorddonen oedd Rahab y butain.

Rhoddodd loches i’r ysbiwyr ar yr amod ei bod hi a’i theulu yn cael eu harbed pan syrthiai Jericho i afael yr Israeliaid.

Cawn ragor o’i hanes yn y chweched bennod.

Prin fod Rahab wedi cael lle amlwg yng nghroniclau’r Canaaneaid.

Iddynt hwy roedd ei henw’n gyfystyr a dichell a thwyll.

Ond y mae Iddewon a Christnogion wedi ei gweld mewn goleuni tra gwahanol.

Yn ôl y traddodiad Iddewig, fe ymbriododd a Josua ar ôl iddi gael tröedigaeth, ac y mae’r proffwyd Jeremeia yn un o’i disgynyddion.

Caiff yr un fain, os nad mwy o barch gan Gristnogion.

Y mae Mathew (1:5) yn ei gosod yn daclus yn achau Iesu o Nasareth. Hi oedd mam Boas, tad-cu Jesse, tad Dafydd.

Ond mae awduron y Testament Newydd yn mynd ymhellach, ac yn ei chymeradwyo am ddau beth sy’n sylfaenol i’r grefydd Gristnogol: ei ffydd a’i gweithredoedd.

Yn Hebreaid 11:31 y mae’r awdur yn ei chynnwys yn y rhestr hir o gewri’r ffydd Iddewig: Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda’r rhai oedd wedi gwrthod credu.

Cyffesodd ei chred yn Arglwydd Dduw Israel ar sail yr hyn a glywodd amdano.

Wrth ystyried y fuddugoliaeth a gafodd Israel dros yr Eifftiaid a’r Amoriaid, rhesymodd fod yr Arglwydd yn gryfach na’i duwiau hi.

Roedd hanes yn cadarnhau ei ffydd a’i harwain i gyfaddef wrth yr ysbiwyr: ... yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.

Yn Iago 2:25 defnyddir Rahab fel enghraifft o’r hyn sydd yn deillio o wir ffydd: Onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain pan dderbyniodd hi’r negeswyr a’u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall? Fel y mae’r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.

Gofal am eraill oedd ffrwyth Rahab.

Heb y ffydd honno a’i ffrwyth, ni fuasem erioed wedi clywed amdani, ac ni fuasai ei henw wedi cael ei gyplysu a’r enw sydd goruwch pob enw.

Josua 3:1-8

Er nad oedd croesi’r Iorddonen yn brofiad mor dyngedfennol yn hanes Israel a chroesi’r Môr Coch, yr oedd serch hynny yn ddigwyddiad pwysig ac unigryw.

Ar lan afon cafodd y genedi ei hatgoffa gan Josua nad oedd wedi tramwyo’r ffordd hon o’r blaen.

Fe fyddai arni angen help i wynebu’r dyfodol yn hyderus, angen arwydd fod Duw gyda hi yn gymorth mewn cyfyngder.

Yr arch, cist bren yn dal llechau’r cyfamod oedd yr ateb.

Symbol gwahanol o’r presenoldeb dwyfol i’r rhai a welwyd yn yr anialwch oedd hwn.

Yno, y golofn dan a’r cwmwl, symbolau yn perthyn i fyd natur, oedd yr arwyddion fod Duw ar y blaen.

Ond yn arch y cyfamod datguddiodd Duw ei hun mewn ffordd arall, ffordd fwy personol.

Dyma’r Duw a ddewisodd Israel allan o’r holl genhedloedd, dyma’r una’i carodd ac a roddodd ei gyfraith iddi i’w harwain.

Yr oedd yr arch yn fwy arwyddocaol na’r cwmwl, ac arni hi yr oedd Israel i edrych wrth fynd trwy’r Iorddonen.

Sylwn fod tua milltir rhwng yr arch a’r fyddin.

Arwydd o barch oedd y pellter hwn rhwng Duw a’i bobl, ond yr oedd hefyd yn sicrhau fod yr arch yn weladwy i bawb.

Petai’n cael ei chario o fewn ychydig lathenni i’r milwyr, y rhengoedd blaen yn unig a fyddai’n ei gweld.

Trefnodd Josua fod pawb yn medru gweld yr arch drosto’i hun, ac o ganlyniad yn gwybod y ffordd.

Daw’r Cristion yntau i wybod y ffordd wrth gadw ei lygad ar yr Arglwydd a chael profiad personol o’i gwmni ar y ffordd.

Josua 3:9-17

Yr hyn a geir yn adnod 16 yw darlun o argae anweledig a’r dŵr yn cronni'r to ôl iddo.

Y mae rhai wedi ceisio esbonio’r digwyddiad trwy son am dirlithriad neu ddaeargryn.

Tair gwaith yn ystod y saith can mlynedd diwethaf tystia haneswyr fod y glannau uchel sydd bob ochr iddi wedi llithro i’r Iorddonen a’i chau am oriau. Gallai’r un peth fod wedi digwydd yng nghyfnod Josua.

Ond nid oes angen chwilota am reswm ffeithiol.

Cofiwn mai diwinydd, nid hanesydd, oedd awdur Llyfr Josua; ac iddo ef gwerth ysbrydol, hid hanesyddol sydd i’r stori.

Y mae’r cyferbyniadau rhwng y stori hon a hanes yr ymwared o’r Aifft yn amlwg.

Fel arweinwyr, roedd Moses a Josua yn ddigon tebyg i’w gilydd.

Roeddent ill dau yn benderfynol o gyrraedd Canaan, ac fe anfonodd y ddau ohonynt ysbiwyr o’u blaen. Rhagflaenodd Duw ei bob ar eu taith trwy ddefnyddio colofn dan yn y naill le, ac arch y cyfamod yn y llall. Cysylltir y ddau ddigwyddiad a Gŵyl y Pasg yn nhraddodiadau crefyddol Israel (Josua 5:10-12).

Yn y ddwy stori gwyrth sy’n galluogi Israel i fynd yn ddiogel trwy’r dyfroedd.

I’r Hebrëwr roedd yr Exodus a hanes croesi’r Iorddonen yn brawf o dri gwirionedd ysbrydol.

Yn gyntaf, fod ei Duw yn Dduw nerthol a fedai reoli grym natur a’r ddefnyddio i’w ddibenion ei hun.

Yn ail, fod Duw yn ffyddlon i’w air. Roedd wedi addo i’r tadau yr arweiniai’r genedl o gaethiwed i Ganaan; yma caiff yr addewid ei chyflawni.

Yn olaf, mai Duw ac nid yr Israeliaid oedd yn haeddu’r clod am drechu’r pharo a meddiannu Canaan.

Trwy wyrth, trwy weithred ddwyfol nid gweithred ddynol, y daeth Israel i wlad yr addewid.

‘YMLAEN’: Y SUL A’R WYTHNOS NEWYDD

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Aled Davies (Chwilog). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn parhau i ymdrin â hanes Iesu’n dewis disgyblion (Mathew 4:18-22). Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.

Nos Lun (23/9; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (24/9; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Nos Fercher (25/9; 19:00), Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg yng Nghapel Hermon, Treorci: Ymweliad Llywydd yr Undeb, y Parchedig Jill-Hailey Harries.

Bore Gwener (27/9; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llythyr Paul at y Philipiaid.

'BETHANIA': LLYFR JOSUA (1)

Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni fydd Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Da fuasai darllen y bennod agoriadol cyn dechrau heddiw.

Josua 1:1-5

Ni fu diwrnod duach yn hanes cynnar Israel na diwrnod claddu Moses.

Am flynyddoedd maith bu’r proffwyd oedrannus yn cynnal a chadw ei bobl ar y daith trwy’r anialwch.

Nawr, a’r bobl ar drothwy cyfnod newydd yn eu profiad, ac angen arweinydd profiadol yn fwy nag erioed, rhaid oedd iddynt ddysgu gwneud a bod hebddo.

Yn Abaty Westminster y mae carreg goffa i’r brodyr John a Charles Wesley, ac wedi eu torri arni mae'r geiriau:

God buries the workers but carries on the work.

Dyna’n union a wnaeth Duw yn achos Moses hefyd.

Claddodd y gweithiwr ond aeth ymlaen a’r gwaith.

Hyrwyddodd ei fwriad ar gyfer ei bobl trwy ethol Josua fel arweinydd newydd i’r bobl rheini.

Cyn i’r arweinydd newydd hwn sylweddoli gwir oblygiadau’r neges Moses fy ngwas a fu farw, cafodd orchymyn i arwain y bobl dros yr Iorddonen i wlad yr addewid fawr.

Nid mater bach oedd dilyn Moses, ac mae’n sicr fod Josua wedi teimlo droeon fod hyn oll yn ormod iddo.

Ond, ac mae hyn mor aml yn wir: roedd gan Dduw fwy o hyder yn Josua nag oedd gan Josua ynddo’i hun, ac i dawelu ei ofidiau, addawodd Duw, … byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni’th adawaf na chefnu arnat.

Ffydd ddiysgog yn yr addewid hon oedd cyfrinach llwyddiant Josua.

Llwyddodd Josua i ymddiried yn ymddiriedaeth Duw ynddo.

Ffydd mewn addewid tebyg yw un o nodweddion yr Eglwys Gristnogol ym mhob oes a chyfnod. Pan oedd y disgyblion cyntaf yn wynebu’r dasg enfawr o ledaenu’r newyddion da am Iesu, aethant allan gan gredu’r addewid: ‘Wele, yw wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd’.

Enfawr yw’r dasg i ninnau:

Rhaid cyhoeddi gobaith mewn cymdeithas ac i gymuned sydd yn suddo mewn anobaith.

Rhaid amlygu cariad i gymuned ac mewn cymdeithas sydd yn plygu dan bwysau trais, a rhyfel.

I gyhoeddi gobaith, ac amlygu cariad, rhaid gosod ein ffydd ar waith go iawn.

Fel Josua, bydd rhaid dysgu ymddiried yn ymddiriedaeth Duw ynom.

Ei ffydd ef ynom sydd yn cynnal ein ffydd ninnau ynddo.

Yn ei obaith, gobeithiwn.

Ei gariad ef sydd yn dysgu ein cariad ni.

Josua 1:6-9

Ar ddechrau’r bennod mae Josua’n derbyn cyfarwyddyd pendant ynglŷn â’r gwaith sydd o’i flaen.

Meddai Duw wrtho, Cyfod, croesa’r Iorddonen, ti a’r genedl gyfan, a chymer feddiant o wlad Canaan.

Ond wrth fynd ymlaen, sylwn mai anogaeth a geiriau o galondid, yn hytrach na chyfarwyddiadau, sy’n cael y lle blaenaf.

Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda ac nac ofna (9), yw neges yr ARGLWYDD Dduw. Nid gallu Josua i ymdrin â chynlluniau a thacteg filwrol sy’n holl bwysig yn y pendraw, ond ei barodrwydd i feithrin y nodweddion hynny sy’n angenrheidiol i bob arweinydd, sef nerth, dewrder a ffydd.

Nerth. Gwyddai Josua yn iawn pa mor anwadal a lletchwith y medrai’r bobl hyn fod. Am ddeugain mlynedd bu’n dyst o’r drafferth a’r rhwystredigaeth a ddaeth i Moses o’u herwydd. Nid oedd ganddo unrhyw reswm i gredu y byddai’r bobl hyn yn newid cymeriad a natur dros nos. Roedd angen arweinydd cadarn i gadw trefn ar gwmni o’r fath.

Dewrder. Nid agwedd ei bobl ei hun oedd yr unig beth a boenai Josua. Wedi croesi’r afon, byddai’r Israeliaid yn wynebu’r Canaaneaid, pobl ryfelgar a oedd - yn naturiol er tegwch - yn barod i ymladd i’r eithaf er mwyn amddiffyn eu treftadaeth. Wrth groesi’r afon, roedd angen dewrder.

Ffydd. Ond er cymaint ei nerth a’i wroldeb, ac er iddo lwyddo fel milwr, ni fyddai Josua wedi gadael ei farc ar hanes heb fod ganddo ffydd. Roedd hwn yn credu yn addewidion Duw. Addewidion sydd yn britho ‘llyfr y gyfraith’ - fel mae’r awdur yn galw rhan o’r Pum Llyfr. Roedd Duw wedi addo y byddai ef gyda’i bobl, a bod Canaan yn eiddo iddynt. Dyma’r ffydd a symbylodd Josua i dderbyn yr her anferthol a roddwyd iddo.

Dyma’r rhinweddau a berswadiodd yr Israeliaid i ddilyn eu harweinydd newydd ac i ymddiried ynddo. Yn sicr, fe fyddai gwell siâp ar ein byd ninnau pe bai teyrngarwch at arweinwyr yn dibynnu ar amlygrwydd y nodweddion hyn yn eu bywyd. 

Josua 1:10-18

Ymhell cyn i Josua arwain yr Israeliaid dros yr Iorddonen i’r cartref newydd yng Nghanaan, roedd rhai wedi ymgartrefu eisoes ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Cafodd llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse ganiatâd gan Moses i wneud hynny, ar yr amod eu bod yn cynorthwyo i ymladd y Canaaneaid pan ddeuai’r cyfle i feddiannu’r wlad. Nid oedd hawl gan unrhyw un i ymlacio a mwynhau ffrwyth buddugoliaeth cyn i bab dderbyn ei wobr. Ceir yr hanes i gyd yn Numeri 32.

Yn yr adnodau hyn y mae Josua yn atgoffa Reuben, Gad a Manasse o’r addewid a wnaethant i’r rhagflaenydd, ac yn galw arnynt i’w ddilyn dros yr afon. Er eu bod hwy yn cael eu dymuniad ac yn ddigon bodlon ar eu byd, yr oedd dyletswydd arnynt gynorthwyo gweddill y llwythau.

Gwyddai Josua fod llwyddiant y fenter yn dibynnu ar barodrwydd y genedl gyfan i gydweithio, cyd-dynnu a chyd-symud. Dro ar ôl tro, y mae hanes cynnar Israel yn gwireddu’r ddihareb: mewn undeb mae nerth.

Y mae’r un peth yn wir am genhadaeth yr Eglwys Gristnogol. Cyfeiria Paul at yr Eglwys fel corff Crist, gan dynnu sylw at y ffaith mai ‘nid un aelod yw’r corff ond llawer (Gweler 1 Corinthiaid 12:12-26). Felly, os yw’r corff am ffynnu rhaid i bob rhan ohono wneud ei briod waith.

 

 

.