'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 8 a 9.

Esther 8

Dyma un o rannau pwysicaf y stori. Cais Esther dynnu’n ôl y gorchymyn a roddwyd i ddifetha’r Iddewon. Mae’r brenin yn caniatáu hyn a rhagor: ... ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â’r Iddewon yn fy enw i ... (Esther 8:8). Mordecai sydd yn paratoi'r wŷs (ad.9), ac mae’r hawl i ddial yn amlwg ynddo (ad.13). Amlygir perygl hyn oll mewn ychydig eiriau cynnil ar ddiwedd y bennod: ... yr oedd llawer o bobl y wlad yn mynnu mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon. Cyfnewidiwyd arswyd Haman am arswyd yr Iddewon (ad.17). Dyma un o negeseuon pwysicaf y stori, neges sydd yn aml yn ddi-sôn-amdani.

Pregethai Joseff Jenkins un nos Sadwrn tua throad yr hen ganrif yn Dinorwig yn Arfon. Eisteddai’r gweinidog - John Puleston Jones, yn y Sêt fawr. ‘Sut yr oeddynt yn meiddio rhoddi coron o ddrain ar ei ben? Sut gallent boeri yn ei wyneb a’i watwar? Sut nad oedd ganddynt moi ofan E? Fe’i gwelsant yn iachau’r cleifion, ac yn codi’r meirw. Pe gwelech chi, bobl Dinorwig yma ddyn yn gwneud pethau felly - buasai gennych ormod o’i ofan i boeri yn ei wyneb. Ie, ond gwybod yr oeddynt na allai Ef daro’n ôl! ‘Roedd wedi ei hoelio i’r groes! Ni allai daro’n ôl!’

Cododd Puleston ar ei draed - a rhoddodd ochenaid fawr dros y capel. Ymhen blynyddoedd wele Puleston yn ysgrifennu am yr Iawn. ‘Mi ath yn benbleth trwy lysoedd y fagddu pan ddaeth yr Oen i’r maes. ‘Mi dy laddwn i di’, meddai Pechod. ‘Wel i gael fy lladd y deuais i i’r byd’ meddai’r Oen. Mi ddeil yr Oen ati nes bydd cyrn y bwystfil wedi treulio i’r bôn, a’i ewinedd wedi gwisgo i’r byw. Byddaf yn meddwl fod gelynion Iesu Grist wedi ei nabod yn well na’i ddisgyblion.’

Esther 9

Daeth y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis: y dydd arswydus. Beth wnâi'r Iddewon? Yr oedd rhai o gefnogwyr Haman o hyd yn fyw. 500 o leiaf yn y ddinas ei hun. Yr oedd llawer mwy ohonynt yn y wlad yn barod i ailafael yn ei orchymyn. A ddylai Mordecai a’i gyd-Iddewon eistedd yn dawel i weld llofruddio eu gwragedd a’u plant, a chael eu lladd eu hunain? Daeth y sawl a ormeswyd yn ormeswyr. Lladdwyd tua 15,000 o bobl i gyd yn y deyrnas.

Mae’r awdur yn cyfiawnhau hyn oll gyda’r ddadl mai amddiffyn eu hunain oeddent (ad.16), ac fe gais cadarnhau hynny trwy ddefnyddio un cymal, trosodd a thro, (10 o weithiau yn y bennod hon): ... heb gyffwrdd â’r ysbail.

Hanes gwaedlyd, yn wir yw hwn. Gyda datguddiad uwch a rhagorach yr Efengyl i’n harwain, tybed a fyddem ni wedi ymddwyn yn well?

A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau. (Effesiaid 4:32)

PA UN TYBED, A BWNIODD YR HOELION I’W LLE?

Pa un tybed, a bwniodd yr hoelion i’w lle?

Le Premier Clou (Yr Hoelen Gyntaf) gan James Tissot (1836-1902) 

A bwniwyd yr hoelion trwy’r cnawd i’r pren, mewn dicter? o ddiléit? neu o ddyletswydd? - gwaith yw gwaith wedi’r cyfan ac mae’n rhaid i rywun gyflawni’r gwaith o ladd onid oes?

A gyflawnwyd y gwaith yn dwt, yn lân; neu a fu’r cyfan yn frysiog, anniben?

Ac wrth i’r hoelen suddo trwy’r cnawd i’r pren, a oedd rywbeth yn wahanol am y teimlad hwnnw, rhywbeth yn ddieithr: a deimlodd gwr yr hoelion hanes yn hollti o dan ergydion ei forthwyl?

A oedd yno i weld y diwedd, i glywed "Gorffennwyd"? Neu, a oedd adref gyda’i wraig, neu’n chwarae gyda’i blant; neu’n yfed gyda’i ffrindiau?

Pan ddaw Dydd y Dyddiau, a fydd hwn tybed, yn sefyll â maddeuant yn wawl o’i amgylch, ei bechodau yng nghrog wrth yr hoelion a bwniodd i’w lle?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Bydded i chi Lawenydd y Pasg, sef Gobaith; Ysbryd y Pasg, sef Bywyd, a sylwedd y Pasg, sef Cariad.

Testun ein sylw bore Sul (10:30) fydd geiriau Pilat: Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch (Mathew 27: 66). Gwyddom un ac oll rywbeth am geisio gwneud y bedd mor ddiogel ag y gallwn - rhag ofn y wyrth. Ofn a gofid yw prif liwiau ein cyfnod. Clywsom cymaint o newyddion drwg fel nad ydym bellach yn medru ei glywed. Neges y Pasg yw bod popeth yn iawn. Iesu sy’n dweud hyn. Mae ganddo’r hawl i ddweud hyn oherwydd ei fod yn gwybod beth yw bod yn annwyl gan, ac yn amddifad o Dduw. Fe all ddweud hyn oherwydd iddo godi o farw’n fyw. Bywyd a orfu - ei fywyd yntau a orfu - ac felly nid oes pendraw i brydferthwch, rhyfeddod a bendith ein bywyd ninnau. Nac ofnwn! Ni ellir atal y Bywyd hwn. Cododd Iesu.

Liw nos am 18:00, Oedfa Gymundeb: torri bara yn Emaus, bwyta pysgodyn wedi ei rostio yn Jerwsalem. Awgryma Owain yn ei homili nos Sul nad mater o ddaeargryn, ac maen trwm wedi ei dreiglo i ffwrdd, angel neu angylion, llieiniau wedi eu plygu’n daclus, peraroglau a  garddwyr yw’r Pasg mewn gwirionedd ond yn hytrach bwyta a chyd fwyta. (Luc 24:36b-48) Wrth y bwrdd, darganfyddwn y Crist byw. Mae Iesu'n treulio Sul y Pasg yn bwyta. Daw’r Pasg yn real i’r disgyblion, nid wrth y bedd gwag ond o gwmpas bwrdd bwyd. Felly, nos Sul, yn hytrach na mynd at y bedd gwag, awn o fwrdd i fwrdd, a darganfod tamaid wrth damaid rhywfaint o ryfeddod y Pasg. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.   

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #4

Y tro hwn, mae’r LLINELL yn arwain at y LLIW, ac mae’r LLUN yn drwm o liw.

Maddeued y gwamalu, ond eiddo hwn yw’r llinell! Kermit the Frog: It’s not easy being green.

 It’s not easy being green

GWYRDD: lliw'r môr; lliw ‘pleidiol wyf i’m gwlad’; gwyrdd dolydd y borfa, llethr y llus a llwyni’r dail; lliw tyfiant, cynnydd, gobaith. GWYRDD y blagur yn glasu perth a llwyn, GWYRDD y mynd a’r dod o dan y bondo. GWYRDD bywyd.

Ond ‘roedd Kermit the frog ar Sesame Street yn iawn i ddweud: It’s not easy being green.  Mae GWYRDD yn lliw anodd. It’s not easy being green. Pam?  Oherwydd gwyddom am gwymp anochel y dail, gwyddom pa mor eiddil yw’r briallu, gwyddom am heth a hirlwm gaeaf, gwyddom am bwysau’r barrug ar ein bywyd. Gwyddom am dorri blodau yn eu blagur. Felly, It’s not easy being green.

Yn un o’i gerddi meddai’r bardd Philip Larkin: Life is first boredom, then fear/whether we use it or not it goes.

It’s not easy being green oherwydd gwyddom fod Larkin wedi cydio yn rywfaint o’r gwirionedd am fywyd: mae ei ddiwedd yn anochel, ond mae GWYRDD Duw yn mynnu bod ein holl reswm weithiau’n ein dallu rhag inni weld yr hyn sy’n glir. Mae gwybod cymaint yn ein twyllo rhag inni gredu'r hyn sy’n wir. Mae ‘na fwy, llawer llawer mwy i fywyd na’r hyn a wêl Larkin a’i debyg.

Er enghraifft, ystyriwch GWYRDD yr elfen ysbrydol a berthyn i fywyd. Sut mae deall yr elfen honno mewn bywyd? Sut mae esbonio syndod a rhyfeddod bywyd? Hap a damwain? Os mae diwedd yw’r bedd, mae’n rhaid i ni felly dderbyn mae hap a damwain hefyd oedd dyweder Consierto Mozart i ffidil yn D, neu’r Gloria o Offeren Bach yn B leiaf, neu A Love Supreme gan John Coltrane. A’i hap a damwain oedd gwaith Monet, Van Gogh, Caravaggio, Rembrandt? Ydi’n holl ymdrechion ninnau er daioni yn ddim byd ond dail yn tindroi yng nghorneli’r bydysawd? It’s not easy being green oherwydd bod gwyrdd ein ffydd yn galw arnom i gredu fod bywyd yn fwy, yn llawer fwy na llusern bapur mewn corwynt.

Credwn a chyhoeddwn fod Duw wedi ein creu ni, fod Duw ac yn ein caru ni. O gredu hynny, sut allwn gredu mai’r bedd yw diwedd byw? Os ydym yn blant i Dduw sut allwn gredu y buasai Duw yn bodloni gweld ni’n darfod amdanom? Ni fuasai’r un tad dynol yn caniatáu colli'r un o’i blant, a ydym felly i gredu y buasai Duw, ein Abba ni, yn caniatáu hynny? Gosododd y bardd Wordsworth pen i bapur yn ei golled a’i hiraeth, Would it not be blasphemy to say that we have more love in our nature than God does. Can it be, meddai, that God is the most unscrupulous waster in the universe - making great personalities only to throw them away?

Geiriau da yw oherwydd ac ond, felly: It’s not easy being green oherwydd bod GWYRDD ffydd yn galw arnom i gerdded ar hyd llwybrau duon y byd, a’n calon yn llawn o’r sicrwydd byrlymog mae anwiredd yw gorwel marwolaeth fel pob gorwel arall.

It’s not easy being green ond mae GWYRDD ffydd yn galw arnom i gerdded ar hyd llwybrau duon y byd, a’n calon yn llawn o’r sicrwydd byrlymog mae anwiredd yw gorwel marwolaeth fel pob gorwel arall.

Y LLIW yw GWYRDD.

GWYRDD yw lliw'r Atgyfodiad. Gellid dadlau am hynny wrth gwrs, ond cystal cyfaddef, mae yna gant a mil o bethau y gallem ddadlau yn eu cylch wrth drafod yr Atgyfodiad! Oedd y bedd mewn gwirionedd yn wag? Pa mor real, pa mor ddibynadwy oedd y tystion gwreiddiol i’r atgyfodiad? Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Nid oes modd ateb y cwestiynau hyn a’u tebyg yn llwyr ac yn llawn, ac mewn ffordd sydd wrth fodd pawb! Ond un peth sydd yn hollol glir. Ar ôl Calfaria, roedd y disgyblion yn hollol anobeithiol, ac yna daeth GWYRDD Duw. Trawsnewidiwyd y bobl ansicr, ofnus, digalon rhain. Beth bynnag a ddigwyddodd, digwyddodd rhywbeth i godi’r bobl hyn o’r bedd yr aethant iddo wedi marw Iesu, codasant o’r bedd hwnnw yn gymeriadau hollol newydd. Pedr yn wan a gwamal pan arestiwyd Iesu’r noson olaf honno, ond ar ôl yr Atgyfodiad yn gymeriad nad oedd arno ofn neb na dim. Rhywsut mae rhaid egluro’r newid anghyffredin hwn mewn pobl gyffredin. Doedd dim amheuaeth gan y disgyblion beth oedd tu nol i’r newid mawr hwn. Meddent, bob un, fod y newid wedi digwydd oherwydd iddynt gyfarfod a’r Crist byw a bendigedig. Pa ffurf bynnag cymerodd y cyfarfod hwnnw, ‘roedd yn ddigon i’w hargyhoeddi nhw fod Iesu fyw. It’s not easy being green oherwydd bod yn wyrdd yn golygu cyhoeddi i genhedlaeth a’i heddiw’n wacter fod bywyd yn anorchfygol. Nid caethwas yw bywyd yn nheyrnas angau, ond i’r gwrthwyneb, mae angau yn gaethwas yn nheyrnas bywyd.

GWYRDD: lliw'r môr; lliw ‘pleidiol wyf i’m gwlad’; gwyrdd dolydd y borfa, llethr y llus a llwyni’r dail; lliw tyfiant, cynydd, gobaith. GWYRDD y blagur yn glasu perth a llwyn, gwyrdd y mynd a’r dod o dan y bondo. GWYRDD: lliw hen frigau yn ymsythu. GWYRDD, y lliw a dry'r awel oer yn fwynach, lliw'r gobaith eto am gyflawni gobeithion.

Beth yw Gobaith? Y gwybod o dan y llwch a’r lludw - fod bywyd yn bod.

Mentrwn obeithio a beiddio gwneud. Dyma neges, a chymorth i fyw GWYRDD: adnabod Duw yn obaith byw.

 The Road to Emmaus, Daniel Bonnell (g.1954)

Y LLUN.

Mae Daniel Bonnell yn byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau. Mae Bonnell yn gyson ymdrin â hanesion cyfarwydd y Beibl, a hynny yn effeithiol iawn.

Meddai wrthynt, "Beth yw’r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a’u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o’r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw’r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw’n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn." "Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth ..." (Luc 24:17-19 BCN)

Sylwch ar liwiau’r llun: Du.

Du: Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael? (Salm 22:1 BCN).

Du ein dyfnderau dynol, du yr enbydrwydd sydd mewn dynion.

Du tywyllwch dydd - nos dywyll o ganol dydd hyd dri o’r gloch y pnawn.

Du ymerodraeth Pilat

Du crefydd Caiaffas

Du breuddwyd Jwdas

Du dryswch Pedr

Du'r gweddill a’u penne yn eu plu.

Du uchelgais Herod

Du'r bedd.

Du diwedd y daith.

Du'r tywyllwch.

Du'r tywyllwch anorchfygol.

Du, a ... coch.

Coch grym a thrais.

Coch y cynllwynio.

Coch ... aeth un o’r Deuddeg ... at y prif offeiriad a dweud, beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi. (Mathew 26: 14 BCN)

Coch y tân golosg: ... yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho ... Tybed a wyt tithau’n un o’i ddisgyblion? (Ioan 18:25 BCN)

Coch cywilydd.

Coch y rhegi a thyngu.

Coch crib y ceiliog.

Gwadodd yntau ... Ac ar hynny, canodd y ceiliog (Ioan 18:27 BCN).

Gwin coch; yn goch fel gwaed yng nghwpan swper y Pasg.

Grawnwin coch wedi malu dan draed.

Coch gwaed, gwaedu ...

Coch calon yn torri.

Ond ... hefyd, glas.

Glas yr annisgwyl?

Oni ddigwyddodd yr amhosibl?

Oni ddigwyddodd yr anhygoel?

Bore’r Trydydd Dydd. Daeth y croeshoeliedig o’i fedd!

Glas ... a melyn.

Melyn y golau: mae ynom oleuni sy’n anorchfygol.

Melyn: aur. Bu Duw'r alcemydd ar waith yn a thrwy’r cyfan. Fe drodd y coch a’r du yn aur pur a choeth.

Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarid y proffwydi! Ond oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant? (Luc 24:25 BCN)