'ENCIL': DIWRNOD GYDAG IESU

Mae Marc yn gweld y gwir a’i gyfleu mewn darluniau, a hynny gyda’r cynildeb hyfryd sydd yn nodweddu gwaith y gwir artist. Mewn ychydig adnodau yn y bennod gyntaf cawn gipolwg ar ddiwrnod ym mywyd Iesu. Yn ei ffordd gelfydd ei hun, cawn gan Marc ddarlun o Iesu mewn Synagog, yng nghartref mam-yng-nghyfraith Pedr, yng nghwmni gyfeillion a chymdogion ac yn olaf cyfnod ar ei ben ei hun.

Buom eisoes gydag Iesu yn y Synagog ac yng nghartref Simon Pedr. Nawr, byddwn yn treulio amser gydag ef yng nghwmni pobl (Marc 1:23-28 a 32-34) gan orffen - o bosib gan dresmasu ychydig arno - gydag Iesu mewn cyfnod o dawelwch a defosiwn.

Felly, awn gydag Iesu i ganol pobl (Marc 1:23-28 a 32-34). Bu’r dyrfa yn cadw Iesu’n brysur. ‘Roedd ei weithredoedd nerthol yn tynnu pobl ato, ac ni phallodd ei dosturi wrth y bobl hyn. Yr un oedd Iesu yng nghwmni pobl ar y ffordd neu yn y farchnad ag ydoedd yn y synagog. Mynegodd ei broffes a’i ddysgeidiaeth mewn bywyd a gwasanaeth. Yn y synagog y teimlwyd arbenigrwydd ei ddysgeidiaeth, ac fel y deuai i gyffyrddiad â phobl y tu allan i’r synagog, y teimlid arbenigrwydd ei gymeriad. ‘Roedd ganddo gymaint i’w gynnig i bobl.

Rhoes obaith newydd i bobl. Blinir pobl mor aml gan ymdeimlad o oferedd bywyd ac amheuant a yw bywyd yn werth ei fyw. Gwelodd Iesu bobl yng ngafael afiechydon nad oedd modd, ar y pryd, i’w trin. Gellid meddwl am y gwahanglwyf fel un enghraifft. Ysgymunid y cleifion hyn o bob cymdeithas iach, a chlywid y trueiniaid o bell yn gweiddi, ‘Aflan wyf,’ rhag i neb ddod yn rhy agos atynt. Cyntefig iawn oedd y feddyginiaeth a gynigid at wella afiechydon, a gadewid i’r dioddefwyr ymdaro orau gallent, a gwnaed hynny gan amlaf trwy gardota. Lleddf oedd bywyd i’r mwyafrif o’r rhain, ac yr oedd yn demtasiwn cwbl naturiol i roi'r gorau i gredu mewn byw, pobl a chymuned. O dan ddylanwad Iesu fendithiwyd hwynt ag awch newydd at fywyd, a daethant i sylweddoli o’r newydd fod diben newydd i fyw.

Rhydd Duw yng Nghrist ei gysur i bobl o hyd fel y gallont hwythau gysuro’r rhai sy’n dioddef â’r cysur a ddaeth iddynt trwy Iesu. Cariad sy’n ymestyn allan at eraill yw coron y natur ddynol.

Dosbarth arall o gleifion y daeth Iesu i gyffyrddiad â hwynt, a phobl y rhydd Marc gryn sylw iddynt yn ei efengyl, oedd pobl wedi eu meddiannu ag ysbrydion aflan. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer yng nghyfnod Iesu yn dioddef oddi wrth salwch meddwl; daeth y rhain o dan gyfaredd y Gwaredwr fel y daethant yn iach wrth ei adnabod, ac o dan ddylanwad newidiwyd cwrs eu bywyd.

Arferid tadogi pob afiechyd o’r math yma ar ysbrydion aflan. Roedd pobl a oedd yn honni y gallent eu bwrw allan. Fel y caed meddyg at gorff, felly y byddent hwythau i’r meddwl. Arferent eu crefft drwy geisio enw’r ysbryd drwg er mwyn ei yrru i ffwrdd. Galwent nifer o enwau nes taro ar yr un cywir, ac yna, wedi’i argyhoeddi, bydda’i ysbryd drwg yn ymadael gan beri i’r claf ymwingo mewn gofid a phoen.

Nid arferai Iesu’r dulliau hyn. Ufuddhaodd yr ysbryd drwg heb iddo ofyn am enw na dim arall. Brawychwyd y dyrfa! Nid yr iacháu oedd yn newydd iddynt, gwelsent hynny gan eraill. Modd awdurdodol yr iachau oedd achos eu braw.

A oes eglurhad ar hyn oll? Rhaid derbyn y meddylfryd: tadogwyd pob dylanwad drwg ar ysbryd drwg, a’r da ar ysbryd da. Roedd popeth felly yn cael ei ysgogi naill ai gan ysbryd drwg neu dda. Yn naturiol ddigon wedyn, byddai pob afiechyd a barai ymwingo, neu rwygo’r corff yn cael ei briodoli i ysbryd drwg neu aflan.

Fedrwn ni ddim cynnig adferiad gwyrthiol fel y cynigwyd gan Iesu, ond gallwn efelychu esiampl Iesu, sef camu i’r ymylon. Hyd y dydd heddiw, gall yr unig, yr anghenus, y dioddefus - beth bynnag bo gwraidd y dioddef - deimlo cymdeithas yn gwthio allan i’r ymylon. Herio hyn, creu tynfa; lle mae gwthiad allan, creu tyniad i’r gwrthwyneb yw gwaith yr eglwys yn lleol. Gwaith anodd hyn, gan fod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’n hofnau ac â’n rhagfarnau unigol.

Nesaf, Unigedd. (Marc 1:35-36)

Ar ddamwain y cafwyd Iesu mewn llecyn unig wrtho’i hun. Ni allai yntau, mwy na neb arall, gyfrannu dim byd o wir werth i eraill heb gyfle gorffwys ac adnewyddiad ysbryd. Rhoddodd yn hael o’i amser a’i adnoddau'r diwrnod cynt i weini i angen ei gyd-ddynion ac yn ôl ei arfer enciliodd i le anghyfannedd i ymdawelu, ymlonyddi ac i dderbyn atgyfnerthiad i wynebu gofynion diwrnod arall.

Aeth Iesu i le anghyfannedd ac yn hyn o beth y mae’n cyflawni’r hyn y mae yn ei argymell i eraill: ... dos i’th ystafell: ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad yw hwn sydd yn y dirgel. Bu tri o’i ddisgyblion gydag Iesu yn dystion o’i Weddnewidiad; roeddent gydag ef yng Nghethsemane; ond yn lle anghyfannedd hwn, roedd Iesu wrtho’i hunan. Gwyddai Iesu, fel y gwyddom ninnau, am yr angen i fod yn dawel, yn llonydd.

Dywed Marc fod Iesu’n gweddïo. Gellid awgrymu mai cyfrinach ei weinidogaeth oedd ei barodrwydd i ymdawelu mewn gweddi. Gweddi fu’n gynhaliaeth iddo gyflawni’r weinidogaeth honno. Os oedd gweddi mor bwysig iddo, yn sicr ddigon, ni all yr un ohonom fod yn ddibris o weddi a gweddïo.

Pan ganfuwyd Iesu yn y lle anghyfannedd y dywedodd Pedr wrtho: Y mae pawb yn dy geisio di. ‘Roedd mwy o wir yng ngeiriau’r disgybl nag a feddyliodd. Cymwynaswyr mwyaf ein byd ym mhob oes yw ei bobl dda. Gwerthfawrogwn gyfraniad y doethion, y galluog a’r bonheddig; eithr y rhai sydd yn golofnau cryfion mewn cymdeithas yw’r rhai sydd yn gwybod y gwahaniaeth yn y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt. Iddynt hwy y mae’r cysegr yn anhepgor, y cartref yn gysegredig, cymuned, gwlad a byd yn gyfle i wasanaeth a’r ystafell ddirgel yn ffynhonnell nerth i allu ymdopi ac ymateb i alwadau beunydd beunos bywyd.

'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 6 a 7.

Esther 6

Rhwng dwy wledd Esther, metha’r brenin â chysgu: Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu ... (6:1). Rhaid lladd amser a dygir llyfr y cofiadur, sef y cronicl (llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd WM) iddo. Daw hanes Bigthana a Theres yn ôl i’r cof (trowch i 2:21-23).  Pa glof ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn? A anrhydeddwyd Mordecai am ei waith? ‘Na’ meddai’r gweision. Ond daw cnoc at y drws a daw Haman i mewn, yn llawn dial ar Mordecai (ad.4). Gofynnir iddo awgrymu’r anrhydedd fwyaf y gellir ei gynnig gan frenin i was da a ffyddlon, a chan gredu mai ef oedd hwnnw dywed Haman: ... dylid dod â gwisg frenhinol iddo. Gallai Haman yn ei falchder a’i sicrwydd ohono’i hun ddychmygu ei hun yn sefyll yn dalsyth yn y wisg frenhinol a wisgir gan y brenin! Mae Haman yn ymhelaethu gan bentyrru anrhydedd ar ben anrhydedd, ond ...

Dyma falchder sy’n rhagflaenu cwymp: nid oes hir oes i’r fath hunanhyder. O bawb, Mordecai a gaiff yr anrhydedd. Mae’r llanw’n troi, yn troi’n gyflym. Brysiodd Haman adre yn drist, â gorchudd am ei ben (gwelir datblygiad o hyn yn y bennod nesaf *). Trist ai peidio, rhaid oedd mynd i’r wledd a baratôdd Esther.

Daw o drai lanw’r eilwaith. (Dic Jones)

Esther 7

Yn y wledd nesaf, ymesyd Esther ar Haman: Y gelyn a’r gwrthwynebwr yw’r Haman drwg hwn (7:6). Geilw am gymorth rhag ei fwriadau creulon.

Agorir llygad y brenin ac yn ei atgasedd tuag at Haman ni all ddal ei hun yn ôl. Apelia Haman am drugaredd Esther sylwch. Hi bellach sydd wir mewn grym ... arhosodd Haman i ymbil â’r Frenhines Esther am ei einioes (7:7). Ond fe’i harweinir ymaith gan y brenin at y crocbren a fwriedid i Mordecai. Rhoddir eiddo Haman i Esther, ac anrhydeddir Mordecai. (* ... gorchuddiwyd wyneb Haman (7:8)) Gelwid Haman yn Agagiad (Esther 3:1; 3:10; 8:3; 8:5 a 9:24), sef disgynnydd Agag, brenin Amalec, a ddarniwyd gan Samuel (1 Samuel 15:33). Trychineb oedd diwedd y ddau Agag a Haman. Dyma ffordd gynnil yr awdur o sicrhau ei ddarllenwyr nad Haman fydd fuddugol yn y pendraw.

Pan ddarllenid Llyfr Esther yn ystod Gŵyl Purim yn y synagog, dywedir pan ynganid yr enw Haman, y mynegai’r Iddewon eu teimlad amdano trwy wneud sŵn â’u traed; yna ymdaflai’r gynulleidfa i gyd i ddathlu buddugoliaeth daioni.

Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni. (Effesiaid 4:31)

‘BETHANIA’: ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 4 a 5.

Esther 4

Galar a ddilyn yr anfadwaith (adnodau 1-3), ac y mae galar Esther, y frenhines, yn ei ganol (4). Daw neges iddi oddi wrth Mordecai i fynd at y brenin i eiriol dros ei phobl (8). Mynega’r frenhines ei hanawsterau ond daw geiriau rhybuddiol Mordecai yn ôl ati: Paid â meddwl y cei di yn unig o’r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhŷ’r brenin (13).

Awgryma geiriau Mordecai mai mater o ragluniaeth oedd bod Esther yn y safle brenhinol fel y gallai waredu ei phobl. Rhaid iddi ymgymryd â’r dasg gysegredig, er iddi fod yn anodd: Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i’r frenhiniaeth? (14) Rhaid iddi ymgymryd â’r dasg, er iddi fod yn anodd iawn.

Mae hi’n addo rhoi ei chyfan i’r dasg (16). ‘Roedd Esther yn gwybod, fod y sawl a âi mewn at y brenin heb ganiatâd yn sicr o’i roi i farwolaeth. Ond er gwaethaf y perygl cydsyniodd Esther, gan ddweud os trengaf, mi drengaf (16). Ildiodd y brenin i swyn Esther - cyfuniad cyfrwystra a phrydferthwch yn troi cynllun dieflig Haman a’i ben i waered.

Esther 5

Dilyn Bendith ar ôl bendith yn awr. Llenwir y ferch-frenhines â phwrpas, dewrder a gallu, er iddi fynd i mewn at y brenin mewn ofn a dychryn. Dywed un darlleniad o’r stori iddi syrthio mewn llewyg. Dengys ei doethineb trwy ofyn yn syml am i Haman gael gwahoddiad i’r wledd (4). Daw ond ni ddigwydd dim, Caiff wahoddiad drannoeth i’r wledd. Ni wyddai mai Iddewes oedd y frenhines ac ni wyddai am y crocbren a adeiladwyd ar ei gyfer - ganddo ef ei hun!

Ochr yn ochr â thrafodaeth brenin a brenhines, gwelir atgasedd Haman tuag at Mordecai (9) ac awgrym Seres, ei wraig (14) a’i gyfeillion i godi crocbren ar gyfer Mordecai.

Mewn gwirionedd ymdrech lew am fywyd oedd ymdrech Esther - bywyd ei phobl a oedd mewn perygl. Y mae’n sicr mai un o wersi’r hanes yw dangos y gorchfyga’r da yn y diwedd.