ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (18)

Llun: Irving Amen

Heddiw, Eseia Broffwyd yw testun ein sylw. 

O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef ... (Eseia 11:1)

Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cyd-bori, a bachgen bach yn eu harwain. (Eseia 11:6)

Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl ... (Luc 4:17)

Haedda Proffwydoliaeth Eseia ei le fel y cyntaf o lyfrau’r Proffwydi! Nid oes dim y gellir ei gymharu â’i weledigaeth anhygoel o Dduw, a’r fendith sydd yn stôr i’w bobl! Ymddangosodd proffwydi eraill o’i flaen yn nhrefn amser, ond ni welodd neb mwy o Dduw nag Eseia! Dyfynnodd Iesu Eseia yn ei bregeth yn Synagog Nasareth (Luc 4:16-23). Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl Dduw wedi derbyn cysur a chymorth i fyw yn drwch o’i weledigaeth fawr o Dduw hynod fawr (pennod 6); o eni gwaredwr (pennod 9), a’r gwaredwr hwnnw’n was dioddefus i’w bobl (pennod 53).

Annwyl Dduw, diolch mai bob-yn-damaid y mynegaist ti dy feddwl a’th ewyllys i bobl erioed. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (17)

Heddiw, Eliseus a’r weinidogaeth iachau (2 Brenhinoedd 5) yw testun ein sylw. 

... daeth cnawd Naaman yn lân eto fel cnawd bachgen bach ... Dywedodd Eliseus wrtho, "Heddwch iti." (2 Brenhinoedd 5:14b a 19)

O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iachâ fi, ARGLWYDD ... (Salm 6:2)

Ein Tad nefol, diolchwn mai ti yw awdur bywyd, a ffynhonnell iechyd a chyfanrwydd. Maddau i ni ein dibristod o werth bywyd ac iechyd. Molwn di am dy ofal tadol drosom a amlygir mewn amrywiol ffyrdd, ac yn arbennig trwy weinidogaeth y rhai sy’n gofalu am gleifion, yn cysuro’r gwangalon, yn cyfannu lle mae rhwygiadau. Ynot ti y mae dirgelwch a thynged ein bywyd; am hynny, rho inni’r gras i ymddiried ynot ac i ddyfalbarhau.

Grist, ein Brawd, a ddaethost yn un â ni trwy dy ddioddefiadau, yn un â ni ym mhob profiad, ac sy’n gadarn i iachau. Caniatâ i bawb sy’n dioddef afiechyd corff, meddwl neu ysbryd, yr iachâd a’r cyfanrwydd sydd o fewn ein cyrraedd yn dy enw di.

Ysbryd Sanctaidd, clyw ein gweddi. Gwna ni’n un teulu, yn un â’n gilydd wrth rannu yn nioddefiadau Crist. Gweddïwn am inni brofi dy dangnefedd, ac am i inni wybod a derbyn dy ewyllys tuag atom ni a thuag at bawb. Gweddïwn dros y rhai sydd wrth y gwaith o weini ar gleifion - meddygon, gweinyddesau, a phawb arall sydd yn gofalu amdanynt. Caniatâ inni dy gwmni a’th gariad, a chadw ni yn wastad yn dy dangnefedd. Clyw ein gweddi yn enw’r Meddyg Da, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

(O Lyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gwasg Pantycelyn 1991)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (16)

Heddiw, Elias a’r cigfrain (1 Brenhinoedd 17; Salm 147) yw testun ein sylw.

Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo ... (1 Brenhinoedd 17:6a)

Y mae’n rhoi eu porthiant i’r anifeiliaid, a’r hyn a ofynnant i gywion y gigfran. (Salm 147: 9)

Oni wyddost, oni chlywais? Duw tragwyddol yw’r ARGLWYDD a greodd gyrrau’r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. (Eseia 40:28)

​Yn ei Canticum Solis, mae Ffransis o Assisi (1181-1226) yn gweddïo fel hyn: Mawl i ti, Arglwydd, ynghyd â’th holl greaduriaid, ac yn enwedig ein brawd yr haul, sy’n peri i’r dydd wawrio; trwyddo ef y daw goleuni i ni. Mae’r stori hon o lyfr cyntaf y Brenhinoedd yn ein hatgoffa o ddau wirionedd holl bwysig: Mae gan Dduw ofal am ei greadigaeth, yn ei holl ffurfiau a’i wahanol rywogaethau. Mae ein ffydd yn galw arnom - a ninnau wedi ein creu ar ei lun a’i ddelw - i amlygu gofal Duw, wrth fod yn stiwardiaid cyfrifol o’i greadigaeth.

Yn dawel ac ystyriol sylwch ar eiriau Robert Browning (1812-1889) a Rabindranath Tagore (1861-1941):

Llun: Albert Herbert

God made all the creatures and gave them our love and our fear,

To give sign, we and they are his children, one family here.

(R.B - Saul)

Man is worse than an animal when he is an animal.

(R.T - Stray Birds)

​Pob perchen anadl ymhob man

dan gwmpas haul y nen,

ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,

coronwch ef yn ben. Amen

(Edward Perronet 1726?-92; efel. Ieuan Glan Geirionydd, 1795-1855)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (15)

Doethineb Solomon yw testun ein sylw heddiw. 

A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo ... (1 Brenhinoedd 5:2)

Y mae genau’r cyfiawn yn llefaru doethineb ... (Salm 37:30).

Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear ... (Diarhebion 3:19)

Trwy ei waith ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw. (1 Corinthiaid 1:30)

Llun: Salvadore Dali

I fod yn ddoeth, nid yw’n ofynnol, o angenrheidrwydd, ddatguddio pethau newydd. Y mae person yn ddoeth os ydyw'n egluro i gylch ehangach, wirionedd na wybyddid mohono o’r blaen ond gan gylch bychan; neu, os adfer i ymwybyddiaeth pobl, wirionedd coll, neu os dwg i amlygrwydd wirionedd a anghofiwyd, neu, os amlygir cymhwysiad newydd i wirionedd cyfarwydd.

Na foed gennym Arglwydd, ond dy ogoniant di yn uchaf nod ein bywyd. Amen

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (14)

​Y ddelwedd o’r Bugail yw gwrthrych ein sylw heddiw. 

Yr ARGLWYDD yw fy mugail ... (Salm 23:1a)

Myfi yw’r bugail da. (Ioan 10:11a)

​Delwedd i’n cynorthwyo i feddwl am waith Duw a gawn yn y darlun o fugail a’i berthynas â’r defaid. Defnyddiai’r bugail ei wialen i rifo’r defaid a’u cadw rhag crwydro, ond ‘roedd ganddo ffon hefyd i warchod y praidd a’i gadw’n ddiogel rhag perygl. Oni soniodd Amos (3:12) am y bugail yn gwaredu dwy goes neu ddarn o glust o safn y llew a hynny’n dystiolaeth i ddewrder a ffyddlondeb y bugail. Nid un i ffoi rhag perygl oedd, ond un a fentrai i’r eithaf dros ei braidd. Wrth syllu ar y llun hwn heddiw, dylem gofio mai yn y praidd ac yn agos i’r bugail y mae diogelwch y defaid.

​Tueddwn grwydro, Annwyl Dduw, a chael ein denu gan lecyn glas yma a thraw. Dy wialen sydd yn ein tynnu ‘n ôl; dy ffon sydd yn ein gwarchod. Diolch Arglwydd. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (13)

Salmau Dafydd yw testun ein sylw heddiw

Llun: Alexander Avraham Levi

Canwch i’r ARGLWYDD gân newydd ... (Salm 98:1)

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio’i holl ddoniau ... (Salm 103:2)

I lawer, y llyfr mwyaf ei gymorth yn y Beibl yw Llyfr y Salmau. Cawsom nerth a lloches o’r Salmau. Mae’r Salmau’n allweddol yn ein haddoliad ac yn ein bywydau oherwydd bod eu themâu yn cwmpasu bywyd i gyd, y llon a’r lleddf: mae bywyd i gyd yn y Salmau, ei hyd a’i led a’i ddyfnder a’i uchder. Bywyd i gyd, ein bywyd ni i gyd.

Trugaredd Duw i’n plith,

A rhoed ei fendith drosom,

Tywynned byth ei ŵyneb-pryd,

A’i nawdd a’i iechyd arnom. Amen

(Edmwnd Prys)