ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (7)

Llun: Anad

Heddiw Jacob a’i freuddwyd.

Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran, A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a’i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a’i phen yn cyrraedd i’r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, "Myfi yw’r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i’th ddisgynyddion ... Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi’n ôl i’r wlad hon; oherwydd ni’th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais." (Genesis 28:10-15)

Mae Jacob yn wynebu ar ei noson gyntaf oddi cartref, heb gysgod aelwyd a rhieni. Gwely anghysurus iawn a gafodd, ond fe lwyddodd i gysgu, ac yn ei gwsg cafodd freuddwyd: ysgol yn cydio’r ddaear wrth y nef, a Duw ei hun yn sefyll ar frig yr ysgol yn llefaru wrtho. Buasem yn disgwyl i Dduw ei geryddu’n llym am ei holl driciau budr, ond nid cerydd ond cysur a roddwyd i Jacob, Wele, yr wyf fi gyda thi. Rhyfedd amynedd yr Arglwydd Dduw!

Yr Un wyt ti’n parhau,

Er beiau’r byd. Amen

(Meigant)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (5)

​Heddiw, Abraham.

Llun: Sieger Köder

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf fi; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith ... ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear. (Genesis 12: 1-3).

Mentrodd Abram y cyfan oll ar alwad Duw. Teimlai Abram yn sicr mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Ef yn arwain, yn cynnal a chadw. Gan hynny, mae’n ddiogel i ufuddhau, mae’n ddiogel i fentro. Mae Abraham ymhlith arwyr y ffydd: ufuddhaodd, mentrodd. Boed i bawb ohonom fentro ein ffydd, mewn ufudd-dod i Dduw.

Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth,
Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi ...

Byw fydd cynnydd

Mewn gwybodaeth ac mewn gras. Amen.

(Gwili)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (4)

Testun ein sylw heddiw yw Noa.

Llun: Kazuya Akimoto

A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru. (Genesis 6:9)

... dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i’r arch ..." (Genesis 7:1a)

Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. (Genesis 7:10)

Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear ... (Genesis 8:13a)

Gair dieithr i’r Hen Destament yw’r gair crefydd, ond fe ddigwydd y gair cyfamod ynddo dros 300 o weithiau. Diben gosod y bwa yn y cwmwl oedd selio’r cyfamod a wnaethai Duw â Noa. Dyma warant i Noa, ac i ninnau na anfonai’r ARGLWYDD Dduw ddilyw arall i ddifetha pob peth byw. 

Er gwaethaf pob ffolineb o’n heiddo, diolch iti, ein Duw, am gynnal ynom hen hen hiraeth amdanat ti. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (3)

Llun:  Michael Cook

Adda ac Efa.

Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a’i osod yng ngardd Eden, i’w thrin a’i chadw. (Genesis 2:15)

... dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. (Genesis 2: 23)

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. (Genesis 3:1)

... cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3: 6b)

... galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, "Ble’r wyt ti?" (Genesis 3: 9)

Rhyfedd fel mae’r peth a waherddir yn magu rhyw apêl ddofn, ddwys! Mae’n siŵr fod rhyw Eden yn ein profiad ni i gyd. Gwyddom am hudoliaeth y peth a waherddir, a methasom â gwrthsefyll y demtasiwn. Daw ymdeimlad llym o euogrwydd. Amharwyd ar y berthynas rhyngom â Duw, rhyngom â’n gilydd. Ond, drwy drugaredd, nid yw’r stori’n gorffen yn y fan yna. Mae Duw yn chwilio amdanom ...

Yn Eden, cofiaf hynny byth ...

Ond buddugoliaeth Calfarî

Enillodd hon yn ôl i mi

Mi ganaf tra bwyf byw. AMEN

(Pantycelyn)

 

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (2)

Ein man cychwyn yw’r man cychwyn: y Creu.

Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear ... (Genesis 1:1)

Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a’n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd gan ddifwyno cyfamod ein tadau? (Malachi 2:10)

O! ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! (Salm 8:9)

Nid o ddim y creodd Duw'r byd. Creodd Duw'r byd o rywbeth oedd ynddo Ef ei hun - cariad. O anweledig bethau y gwnaed y pethau a welir.

Greawdwr Dduw, cydnabyddwn ein dibyniaeth arnat, ac offrymwn i ti ein clod a’n mawl. Amen.