ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (5)

​Heddiw, Abraham.

Llun: Sieger Köder

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf fi; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith ... ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear. (Genesis 12: 1-3).

Mentrodd Abram y cyfan oll ar alwad Duw. Teimlai Abram yn sicr mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Ef yn arwain, yn cynnal a chadw. Gan hynny, mae’n ddiogel i ufuddhau, mae’n ddiogel i fentro. Mae Abraham ymhlith arwyr y ffydd: ufuddhaodd, mentrodd. Boed i bawb ohonom fentro ein ffydd, mewn ufudd-dod i Dduw.

Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth,
Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi ...

Byw fydd cynnydd

Mewn gwybodaeth ac mewn gras. Amen.

(Gwili)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (4)

Testun ein sylw heddiw yw Noa.

Llun: Kazuya Akimoto

A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru. (Genesis 6:9)

... dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i’r arch ..." (Genesis 7:1a)

Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. (Genesis 7:10)

Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear ... (Genesis 8:13a)

Gair dieithr i’r Hen Destament yw’r gair crefydd, ond fe ddigwydd y gair cyfamod ynddo dros 300 o weithiau. Diben gosod y bwa yn y cwmwl oedd selio’r cyfamod a wnaethai Duw â Noa. Dyma warant i Noa, ac i ninnau na anfonai’r ARGLWYDD Dduw ddilyw arall i ddifetha pob peth byw. 

Er gwaethaf pob ffolineb o’n heiddo, diolch iti, ein Duw, am gynnal ynom hen hen hiraeth amdanat ti. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (3)

Llun:  Michael Cook

Adda ac Efa.

Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a’i osod yng ngardd Eden, i’w thrin a’i chadw. (Genesis 2:15)

... dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. (Genesis 2: 23)

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. (Genesis 3:1)

... cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3: 6b)

... galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, "Ble’r wyt ti?" (Genesis 3: 9)

Rhyfedd fel mae’r peth a waherddir yn magu rhyw apêl ddofn, ddwys! Mae’n siŵr fod rhyw Eden yn ein profiad ni i gyd. Gwyddom am hudoliaeth y peth a waherddir, a methasom â gwrthsefyll y demtasiwn. Daw ymdeimlad llym o euogrwydd. Amharwyd ar y berthynas rhyngom â Duw, rhyngom â’n gilydd. Ond, drwy drugaredd, nid yw’r stori’n gorffen yn y fan yna. Mae Duw yn chwilio amdanom ...

Yn Eden, cofiaf hynny byth ...

Ond buddugoliaeth Calfarî

Enillodd hon yn ôl i mi

Mi ganaf tra bwyf byw. AMEN

(Pantycelyn)

 

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (2)

Ein man cychwyn yw’r man cychwyn: y Creu.

Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear ... (Genesis 1:1)

Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a’n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd gan ddifwyno cyfamod ein tadau? (Malachi 2:10)

O! ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! (Salm 8:9)

Nid o ddim y creodd Duw'r byd. Creodd Duw'r byd o rywbeth oedd ynddo Ef ei hun - cariad. O anweledig bethau y gwnaed y pethau a welir.

Greawdwr Dduw, cydnabyddwn ein dibyniaeth arnat, ac offrymwn i ti ein clod a’n mawl. Amen.

'BETHANIA': RUTH AC ESTHER (6)

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod i ddechrau. Awn drwyddi ac ymlaen i bennod tri a phedwar gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.

Ruth 4:11

I fod yn dyst o gariad gwaredigol Duw, golyga ein bod yn dweud wrth eraill amdano a’i fod yn amlwg yn ein bywyd ninnau, ac yn ei hagwedd tuag at arall ac eraill.

O’r dechreuad dewisodd Duw cenedl Israel i fod yn 'was' iddo. Fe’i magodd fel plentyn, a’i addysgu, a’i hyfforddi trwy proffwyd, pregeth a phrofiad. Gwnaeth Duw hyn fel y gwelai cenhedloedd eraill mai Duw cariadlawn ac achubol ydoedd. Methodd Israel ag ymwneud â’r cenhedloedd eraill fel y dywedai ei chyfraith am iddi wneud. Gan iddi fethu ymddwyn felly, daeth Iesu gan ddangos y ffordd i wir groeso a derbyniad.

1. Benywaidd Ruth: ond yng Nghrist, dywed Paul nad oes gwryw na benyw.

2. Estron yw Ruth: ond yng Nghrist nid oes 'na Roegwr nag Iddew.

Hanfod cenhadaeth yr Eglwys Fawr fyd-eang ac felly’r eglwys yn lleol yw bod yn agored a chroesawgar.

Ruth 4:11-12

Sonnir am Tamar yma, ac er bod ei hymddygiad gyda Jwda yn anffodus iawn iawn, dylid ymatal rhag beirniadu cymeriadau llyfr Genesis yn ôl safonau cyfnod diweddarach a diwylliant pur wahanol.

Yn Genesis 38 gwna Tamar weithred ddewr yn ôl safonau ei dydd, ac fe’i gwnaed er ceisio bod yn ffyddlon i’r dyfodol. Gweithredodd mewn argyfwng a’i ffydd a’i symbylodd i weithredu felly, ac fe’i bendithiwyd â dau fab.

Ymhlith arwyr ffydd yn Hebreaid 11, enwir Rahab, y butain, yn adnod 31; ac nid yw Barac, Samson a Jefftha yn batrwm o safonau moesol i’n deall ni. Eu ffydd yn esgor ar wasanaeth a wêl y Testament Newydd. Defnyddiwyd hwnnw gan Dduw, ymhell tu hwnt o bob dychymyg a disgwyl.

Ystyr ‘Obed’ yw ‘gwas’ felly yn yr enw Mwslimaidd 'Abdullah' (Gwas Duw). ‘Roedd yn enw addas i dad-cu/taid Dafydd, ac o’i linach ef y daeth Gwas gweision yr holl fyd.

Ruth 4:18-22

Awgrymir mai ychwanegiad at y stori wreiddiol yw’r cymal hwn. Â’r achau a groniclir yn ôl at Peres a enwir yn adnod 12. Fe’i gwelir fel un o hynafiaid Boas. Golyga hyn fod Obed yn blentyn o weithred ffydd ar ddwy ochr y briodas, h.y., gan hynafiaid Boas, Tamar a chan Ruth ei fam ei hun.

Yr un Bethlehem a fu’n fan geni'r arall hwnnw o deulu Dafydd. Ychydig a wyddai Boas a Ruth am arbenigrwydd y geiriau a lefarwyd wrthynt gan y tystion wrth y porth: Bydd enwog ym Methlehem (WM) ... ac ennill enw ym Methlehem (BCN) (11). A yw’n ormod i feddwl y gwna gweithred ddibwys (i’n golwg ni) heddiw argraff ymhen 500 mlynedd ar rai o’n ddisgynyddion fel y gwnaeth yma?

Rhydd yr Efengylwyr yn achau Gwaredwr y Byd dair gwraig o gymeriad ‘amheus’: Tamar, Rahab a Bathseba. Rhoddodd Duw ei law arnynt ac fe’u dewisodd yn offerynnau iddo’i hun. Atebodd pob un ei gais mewn ffydd.

O ddechrau stori Israel ni fu cywilydd gan Dduw gysylltu Ei enw â gwŷr a gwragedd pechadurus a soniodd  y Duw hwn amdano'i hun fel Duw Abraham, Isaac a Jacob - y tri heb fod ymhlith y gorau o bobl!