‘YMLAEN’: Y SUL A’R WYTHNOS NEWYDD

Dros y Sul da fydd cael cyd-addoli am 10:00 yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd (Old Church Road) ac am 17:30 yn Eglwys Canol y Ddinas (URC, Windsor Place) dan arweiniad y Parchedig Ifan Roberts (Caerdydd). Boed bendith.

Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

‘YMLAEN’: Y SUL A’R WYTHNOS NEWYDD

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Dylan Rhys Parry (Bae Colwyn). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Ni fydd Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.

Dydd Mercher (25/7; 10:30 -13:00): Taith Gerdded ym Mharc Cosmeston, Penarth (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).