Ein braint dros y Sul fydd cael cyd-addoli yng Nghapel Salem (10:30 a 18:00) a hynny o dan arweiniad y Parchedig Carwyn Sidall (Llanuwchllyn). Boed bendith.
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Ein braint dros y Sul fydd cael cyd-addoli gyda chyfeillion Eglwys y Tabernacl (10:30 a 18:00) a hynny o dan arweiniad y Parchedig Ddr Densil Morgan (Llanbedr Pont Steffan). Boed bendith.
'YMLAEN': Y SUL AC EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERDYDD
Edrychwn ymlaen at y Sul a’r wythnos nesaf; Sul ac wythnos lawn, ac amrywiol ei fendithion. Cynhelir (9-9:40) Oedfa’r Bore yn Y Babell Lên (Theatr Weston yng Nghanolfan y Mileniwm). Bydd angen bod yn eich sedd erbyn 08:30 a rhaid bod gennych docyn oedfa. Am 10:30, Cymanfa Ganu'r Eisteddfod yn y Pafiliwn (Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm). Bydd angen bod yn eich sedd erbyn 10:00.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Nos Sul am (17:00), Oedfa Hwyrol a Chymundeb yng Nghapel y Crwys (Richmond Road) dan arweiniad y Parchedig Dafydd Andrew Jones (Caerdydd). Boed bendith.
Dymunwn bob llwyddiant i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Bydd nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion yr eglwys hon â rhan yn amrywiol weithgareddau’r Eisteddfod. ‘Rydym yn falch iawn ohonynt, un ac oll, o’r ieuengaf i’r hynaf.
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad yng ngofal aelodau "Tu Allan y Ddinas". Ni fydd Ysgol Sul ond bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal Pobl Ifanc yr Eglwys. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.
‘YMLAEN’: Y SUL A’R WYTHNOS NEWYDD
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Dylan Rhys Parry (Bae Colwyn). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Ni fydd Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.
Dydd Mercher (25/7; 10:30 -13:00): Taith Gerdded ym Mharc Cosmeston, Penarth (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).
YN ANAD UN (23) ATEB
Jeremeia 8:19 gan mai honno yw’r unig un nad sydd yn cyfeirio at ‘Gŵyl’.
YN ANAD UN (23)
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb tua 21:30
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
MINNY’D (41) BWRW YMAITH BOB RHWYSTR
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
