• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

MINNY’D (40) ADNABOD CARIAD DUW

July 11, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

July 6, 2018 Owain Evans

Yfory (7/7; 14:00-17:00) Te Mefus yng nghartref aelod er budd ein helusen.

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Oedfa i’r Teulu - Cyfundeb Dwyrain Morgannwg; 10:45 yn y Tabernacl, Efail Isaf.

Liw nos am 18:00 Oedfa Hwyrol dan arweiniad ein Gweinidog (yn Minny Street). Bydd homili Owain yn ymdroelli o gwmpas y thema o Dduw fel crochenydd (Jeremeia 18:1-6): Gwaith; Pwrpas; Methiant ac Ailddechrau.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Diolch iddynt am eu gwaith a hyd y flwyddyn.

YN ANAD UN (21) ATEB

July 5, 2018 Owain Evans

Actau 27:12 gan mai honno yw’r unig un nad sydd yn cyfeirio at yr ‘Haf’.

YN ANAD UN (21)

July 5, 2018 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb tua 21:30


Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?

MINNY’D (39) BENDITHIAF DI ... A BYDDI’N FENDITH

July 4, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

June 29, 2018 Owain Evans

Gan obeithio y bydd i Owain lwyddo i groesi’r Swnt yn ddiogel o Ynys Enlli, edrychwn ymlaen at yr Oedfa Deulu bore Sul (10:30). Adeiladir eglwys o flociau a chyflwynir negeseuon allweddol am dyfiant a datblygiad ein gweinidogaeth gan ... bentwr anniben o hambyrddau, potel o saws coch, bwrdd gwyddbwyll a llond bocs o greonau. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r Oedfa.

Liw nos, Oedfa Gymundeb (18:00). Echel myfyrdod ein Gweinidog fydd cwestiwn mawr y dynion mewn gwisgoedd llachar: "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw?" (Luc 24:5). Wrth y bwrdd Cymundeb cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol. Boed bendith.

Nos Lun (2/7; 19:00-20:30) PIMS: Swper pen tymor.

Babimini bore Gwener (6/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

June 22, 2018 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Eirian Wyn Lewis (Mynachlogddu). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.

Mehefin 25-27: Ysgol Haf y Gweinidogion yng Nghaerfyrddin.

Dydd Iau (28/6; 10:30 -13:00): Taith Gerdded Parc y Rhath (manylion llawn yng nghyhoeddiadau'r Sul)

Boed bendith Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Nhafwyl (Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl. Mehefin 30-Gorffennaf 1). Gweddïwn y ‘daw Efe i’r ŵyl’.

Fel eglwys dymunwn yn dda i’n Gweinidog wrth iddo ddechrau ar ei ail gyfnod fel caplan Ynys Enlli (23-30/6). Boed bendith.

YN ANAD UN (20) ATEB

June 21, 2018 Owain Evans

Deuteronomium 16:9 gan mai honno yw’r unig sydd yn cyfeirio at ‘wythnos’. Mae’r adnodau eraill i gyd yn sôn am ‘diwrnod’.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021