Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb tua 21:30
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
Your Custom Text Here
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb tua 21:30
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn
Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Yn ein Hoedfa Deulu (10:30) cawn dystio i fedydd Gruffudd. Wrth y bwrdd Cymundeb cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos am 18:00, Oedfa Hwyrol. Echel myfyrdod Owain Llyr fydd dwy adnod; y naill yn gyfarwydd: Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu (Rhufeiniaid 13:14). Y llall yn anghyfarwydd: Diosg gwisg dy alar a’th adfyd, a gwisgo am byth harddwch y gogoniant sy’n tarddu o Dduw. (Baruch 5:1). Cawn gyfle i ystyried yn benodol nawr am ddau fath o wisg sydd yn rhaid diosg os ydym yn hytrach i wisgo mantell y cyfiawnder sydd o Dduw. (Baruch 5:2). Boed bendith.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (6/6): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
6-9/6 Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Aberaeron. Eglwysi Cyfundeb Ceredigion sydd yn croesawu prifwyl yr enwad eleni. O ystyried yr anawsterau a’r cyfrifoldeb sydd ynglŷn â chynnal y cyfarfodydd blynyddol, mae eglwysi Ceredigion i’w canmol am gwblhau’r trefniadau rhag blaen â’r fath raen. Dylid diolch i’r Ysgrifennydd Cyffredinol a Gweinyddol, ac i staff yr Undeb, un ac oll, am eu gwaith gan weddïo am fendith Duw ar y cyfarfodydd pwysig hyn.
Eseciel 33:4
Mae’r adnodau eraill yn cyfeirio at URDD.
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb tua 21:30
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Eirian Wyn (Treforys). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Bydd y gymdeithas nos Sul yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Sadwrn (2/6; 19:30-21:30) Cyngerdd: "Ddoe, Heddiw, Yfory" yng nghwmni NY AKO (Grŵp amryddawn o Fadagascar) yn Ysgol Bro Edern, Heol Llanedern (Tocynnau, £10; er budd Apêl Madagascar).
Joel 1:12
Mae’r adnod hon yn sôn am ‘GWYWODD y winwydden’ tra bod y gweddill yn sôn am ‘BLAGUR’ neu ‘BLAGURO’.