DALIWN ATI I DDAL ATI

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

 

Heddiw, yn 1329 bu farw Robert the Bruce (g.1274). Mae’r hen goel am Robert a’r pry copyn yn gyfarwydd a phwysig. Dywedir i Robert, ar ôl cael ei orchfygu droeon ar dro, ffoi, a chael nodded mewn hen ysgubor. ‘Roedd Robert wedi llwyr ymlâdd - digalon a diflas ydoedd. Gwelodd yno bry copyn yn ceisio gwau ei we. ‘Roedd y we yn ddiogel mewn un man, ond ‘roedd rhaid angori pen arall y we. Ceisiodd y pry copyn wneud hynny, a methu. Ceisiodd eilwaith, a thrachefn, ond yn aflwyddiannus hyd y degfed tro, pryd llwyddodd. Bu mynych a dygn ymdrechion y pry cop yn ysbrydoliaeth i Robert. Aeth yn ôl i’r frwydr, wynebodd ei elynion, a’r tro hwn Robert a orfu. Hen goel; neges oesol gyfoes: dalifyndrwydd.

Saif Ofn ar riniog y drws, gan guro, curo a churo drachefn: daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi Nid oes ofn mewn cariad. (1 Ioan 4:18a)

Saethu a thrywanu. Safwn â'n pennau’n ein dwylo, ac wylo; wylo am eraill, ac wylo amdanom ein hunain. Daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi: Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy’n trugarhau a’r Duw sy’n rhoi pob diddanwch. Y mae’n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy’r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu’r rhai sydd dan bob math o orthrymder. (2 Corinthiaid 1:3,4)

Beth bynnag ddaw yn sgil yr Etholiad Cyffredinol yfory, daliwn ati i ddal ati i gyflawni’r gwaith byth-a-beunydd o ledaenu daioni a lledu trugaredd: gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw. (Micha 6:8b)

Yng nghanol casineb ac anras, daliwn ati i ddal ati i amlygu gras: Glynwch wrth ddaioni. (Rhufeiniad 12:9)

Yn nrygioni’r byd, daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi na fu, nid yw, ni fydd y drwg yn drech na’r da: Safwch yn gadarn da orthrymder. (Rhufeiniad 12:12)

Daliwch ati i weddïo (Rhufeiniad 12:12): O’n gweddïau does unlle yn y byd yn rhy bell.

Daliwn ati i ddal ati i hau trugaredd mewn tir o garreg: mae'r un weithred rasol yn drech na'r holl drahauster.

Yr unig beth i’w wneud yw hau fel y carem fedi.

(OLlE)

SALM

Salm 53

Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." (Salm 53:1).

Gwelir yma’r credadun yn cyhuddo’r anghredadun o ynfydrwydd - ffolineb. Golygfa wahanol a welir yn ein dyddiau ni. Gwelir heddiw, yr anghredadun yn cyhuddo’r credadun o’r ffolineb eithaf. O’r ddwy, rhaid i’r credadun ddewis yr olaf. Nid yn ei ddawn ddifenwi y gorwedd cryfder y credadun ond yn ei barodrwydd i gael ei ddifenwi er mwyn ei Dduw.

Yn ôl pryddest Cynan (1895-1970), cyhuddwyd y cenhadwr John Roberts (1853-1949) o’r ffolineb eithaf pan benderfynodd fynd yn genhadwr dros Iesu i Tsieina.

Ffŵl, ffŵl i’th gladdu dy hun

Yn China ddyddiau d’oes,

A thaflu gyrfa aur i ffwrdd

I sôn am Waed y Groes.

Erys her yng ngeiriau Halford Luccock (1885-1961): The Christian religion never strikes its most compelling notes, never gets into the treble clef, until it frankly admits the charge that it is tinged with irrationality.

CYTGAN

Pwy yw hon sy’n dod i fyny o’r anialwch,

yn pwyso ar ei chariad?

Deffroais di dan y pren afalau,

lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,

lle bu’r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

Gosod ni fel sêl ar dy galon,

fel sêl ar dy fraich;

oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,

a nwyd mor greulon â’r bedd;

y mae’n llosgi fell ffaglau tanllyd

fel fflam angerddol.

(Caniad Solomon 8:5-7 BCNad)

Canys cariad sydd gryf fel angau: cytunai’r esbonwyr i gyd mai dyma uchafbwynt Caniad Solomon. Nid hardd a da yn unig mo cariad, ond cryf hefyd - mor gryf â marwolaeth ei hun. Onid cryfach? Tân ysol ydyw, a wrthwyneba ac a ddeil yn erbyn pob ymgais i’w ddiffodd. Nid rhywbeth sentimental ydyw; gall wynebu, a goresgyn unrhyw a phob peth.

Benthycwn brofiad William Williams (1717-91), yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Anfeidrol felys yw dy hedd,

a chryf dy gariad fel y bedd.

Amen

 

SALM

Salm 84

Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,

a’r wennol nyth iddi ei hun,

lle mae’n magu ei chywion, wrth dy allorau du,

O! Arglwydd y Lluoedd, fy Mrenin a’m Duw.

Gwyn eu byd y rhai sy’n trigo yn dy dŷ,

yn canu mawl i ti’n wastadol.

(Salm 84:3,4)

Daw’r gwenoliaid i Eglwys Llanfihangel Rhos-y-corn bob haf. Adeiladant eu nythod yng nghyntedd yr eglwys hynafol mewn pryd i’r noswyl o weddi a gynhelir cyn y Dyrchafael bob blwyddyn. Mae’r ffaith bod yr eglwys yn olau yng nghanol y nos yn peri syndod i’r adar. Maent yn hedfan yn ôl ac ymlaen trwy’r drws a rhwng y bwâu am y ddwy awr gyntaf, ond o’r diwedd fe ddeuant yn gyfarwydd â’r canhwyllau gan fynd yn ôl i’r nythod i ymlonyddu.

Nid annhebyg i ymateb y gwenoliaid i’r goleuni yw ein hymdrechion ninnau wrth geisio ymdawelu mewn gweddi o flaen Duw. Ar y dechrau fe â ein meddyliau ar grwydr. Hedfanant i bob cyfeiriad fel adar bach gwyllt. Ond ar ôl i’r munudau fynd heibio maent yn blino ar yr ymgais hon i ddianc rhag y goleuni. Deuant yn ôl at Dduw a nythant ynddo yn dawel a diolchgar. Canfyddant eu bod yn ddiogel gyda’u Harglwydd.

(OLlE)