CYTGAN

Pwy yw hon sy’n dod i fyny o’r anialwch,

yn pwyso ar ei chariad?

Deffroais di dan y pren afalau,

lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,

lle bu’r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

Gosod ni fel sêl ar dy galon,

fel sêl ar dy fraich;

oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,

a nwyd mor greulon â’r bedd;

y mae’n llosgi fell ffaglau tanllyd

fel fflam angerddol.

(Caniad Solomon 8:5-7 BCNad)

Canys cariad sydd gryf fel angau: cytunai’r esbonwyr i gyd mai dyma uchafbwynt Caniad Solomon. Nid hardd a da yn unig mo cariad, ond cryf hefyd - mor gryf â marwolaeth ei hun. Onid cryfach? Tân ysol ydyw, a wrthwyneba ac a ddeil yn erbyn pob ymgais i’w ddiffodd. Nid rhywbeth sentimental ydyw; gall wynebu, a goresgyn unrhyw a phob peth.

Benthycwn brofiad William Williams (1717-91), yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Anfeidrol felys yw dy hedd,

a chryf dy gariad fel y bedd.

Amen

 

SALM

Salm 84

Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,

a’r wennol nyth iddi ei hun,

lle mae’n magu ei chywion, wrth dy allorau du,

O! Arglwydd y Lluoedd, fy Mrenin a’m Duw.

Gwyn eu byd y rhai sy’n trigo yn dy dŷ,

yn canu mawl i ti’n wastadol.

(Salm 84:3,4)

Daw’r gwenoliaid i Eglwys Llanfihangel Rhos-y-corn bob haf. Adeiladant eu nythod yng nghyntedd yr eglwys hynafol mewn pryd i’r noswyl o weddi a gynhelir cyn y Dyrchafael bob blwyddyn. Mae’r ffaith bod yr eglwys yn olau yng nghanol y nos yn peri syndod i’r adar. Maent yn hedfan yn ôl ac ymlaen trwy’r drws a rhwng y bwâu am y ddwy awr gyntaf, ond o’r diwedd fe ddeuant yn gyfarwydd â’r canhwyllau gan fynd yn ôl i’r nythod i ymlonyddu.

Nid annhebyg i ymateb y gwenoliaid i’r goleuni yw ein hymdrechion ninnau wrth geisio ymdawelu mewn gweddi o flaen Duw. Ar y dechrau fe â ein meddyliau ar grwydr. Hedfanant i bob cyfeiriad fel adar bach gwyllt. Ond ar ôl i’r munudau fynd heibio maent yn blino ar yr ymgais hon i ddianc rhag y goleuni. Deuant yn ôl at Dduw a nythant ynddo yn dawel a diolchgar. Canfyddant eu bod yn ddiogel gyda’u Harglwydd.

(OLlE)

DYRCHAFAEL EIN HARGLWYDD

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Gwelir ar ambell ddrws caeedig yr arwydd: Do Not Disturb. ‘Peidiwch ag Ymyrryd’: mae ynom dueddiad fel pobl ffydd i osod y fath orchymyn wrth fwlyn drws ein calon. At ddrws clo ein calon fe ddaw allwedd y Dyrchafael.

Cyn y Dyrchafael mae presenoldeb Crist wedi ei gyfyngu i un lle ac i gyfnod penodol o amser. Ar ôl y Dyrchafael mae ei bresenoldeb yn britho pob lle a phob cyfnod. Dichon mai yno mai'r drafferth. Onid yw’n haws ymdopi â Christ sydd yn gyfyngedig i un lle ac i un cyfnod hanesyddol? Mae gennym i gyd ein delweddau ohono, delweddau a grëwyd (ac a garcharwyd) gan ein magwraeth a’n meddylfryd ein hunain. Gwnawn Grist ar ein llun a’n delw.

Ond nid ein heiddo ni mo Christ; eiddo Crist ydym ni. Golyga hyn nad oes gennym fonopoli ar ei bresenoldeb nac ar ei fendith. Mae’r Dyrchafael yn amlygu hyn o ffaith. Cofiwn eiriau Crist i’w ddisgyblion: ...chwithau arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth. (Luc 24:49b) Yn y chwithau arhoswch hwnnw fe’n rhybuddir na allwn ni reoli symudiadau’r Ysbryd Glân. Onid dyna’r ymyrraeth â’n byw a’n bod, ein crefydd a chrefydda a ofnwn gymaint? Yn sgil y Dyrchafael nid oes yr un tamaid o’r ddaear hon, na’r un tamaid lleiaf ohonom yn rhy anghysbell i brofi gwefr a her y Crist atgyfodedig a dyrchafedig.

(Actau 1:1-11; Luc 24:44-53)

CYTGAN

Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau, O! ferch y tywysog!

Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau

o waith crefftwr medrus.

(Caniad Solomon 7:1 BCNad)

Gwêl yr anwylyd yn awr ei gariad yn dawnsio: efallai mai disgrifiad o ddawns briodas sydd yma. ‘Roedd gwledd a dawns yn rhan anhepgor o briodas Iddewig, er y ceid achosion gwahanol i ddawnsio. Ceid dawnsio adeg y cynhaeaf, ...a phan ddaw merched Seilo allan i ddawnsio... (Barnwyr 21:21) neu i ddathlu buddugoliaeth ar elynion, ...cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio... (Exodus 15:20). Bu’r ddawns yn gyfrwng moliannu Duw, dawnsiodd Dafydd o flaen yr arch, Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â’i holl egni o flaen yr ARGLWYDD (2 Samuel 6:14) Nid pawb oedd yn gwerthfawrogi dawnsio Dafydd, fodd bynnag, ...yr oedd Michal merch Saul yn edrych trwy’r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon. (2 Samuel 6:16)

A oes le tybed i ffurfiau ymarferol i ddangos llawenydd ynglŷn â chrefydd? Er mor amlwg y gân a chanu, tybed nad oes le i symud ac i ddawns hefyd fel mynegiant o’n profiad crefyddol? Rhaid, wedi’r cyfan, cael mynegi gorfoledd ein hiachawdwriaeth!

Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Molwch ei enw â dawns (Salm 149:3a).

Amen

SALM

Salm 74

Credir yn gyffredinol bod y galar yn rhan gyntaf y salm hon (Salm 74:1-11) yn gysylltiedig â dinistrio'r deml gan fyddinoedd Babilon yn y chweched ganrif cyn Crist. Dinistriwyd popeth yn y deml. Rhoed y cysegr ar dân. Halogwyd Tŷ Dduw. Nid oedd arwyddion gobaith yn unman, ac nid oedd broffwyd ar gael i arwain y bobl wasgaredig oedd yn weddill. Yn ei hanobaith, gofyn mae'r rhan gyntaf, am ba hyd yr oedd hyn yn mynd i barhau a pham y digwyddodd y fath drychineb.

Yn ail hanner y salm, y mae'r bobl yn datgan ei hymddiriedaeth yn Nuw ac yn ymollwng i'w foli: Ond ti, O! Dduw, yw fy mrenin erioed...Ti osododd holl derfynau'r ddaear (Salm 74:12a,17a). Yna try'r bobl at ei Duw i erfyn arno i beidio â'i hanghofio: Cyfod, O! Dduw, i ddadlau dy achos (Salm 74:22a) oedd ei chri, yn wyneb crechwen a chrochlefain cynyddol y gelyn.

Er iddynt beidio gwybod am ba hyd y pery'r argyfwng a ddaeth i'w rhan nac amgyffred pam y daeth dinistr i Dŷ ei Duw, y mae pobl Dduw yn rhoi ei hymddiriedaeth ynddo. Duw yw ei hunig obaith. Bu'n obaith iddynt mewn dyddiau a fu. Yntau yw ei gobaith yn ei hargyfwng presennol. Er waethed yr argyfwng, mae pobl Dduw bob amser yn gwybod ble i droi.