YR WYTHNOS FAWR (1)

Swper yn y Grug ...

The Magnificent Six ...

Tân ar y Gromlin ...

Alice in Poundland ...

The Fobbit ...

... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.

Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.

Cynigir delwedd, adnod a gweddi gan orffen gyda myfyrdod bychan bachog.

Mewn distawrwydd ystyriwch eiriau’r Salmydd:

Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw.

(Salm 46:10)

Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:

Na chofia, Arglwydd, y pethau nas gwnaethom ...

Na chofia, Arglwydd, yr addewidion a dorasom ...

Na chofio, Arglwydd, y cyfleoedd a gollasom ...

Nyni, wedi ein galw i’th wasanaeth erfyniwn arnat ein gwneud yn deilwng o’n galwedigaeth; drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Sul y Blodau.  Darllenwch Marc 11:1-11. Diwedda un pregethwr ei bregeth ar yr adnodau hyn â gweddi ryfedd, ond gwych iawn: Lord, make me a perfect ass.

SALM 119 - GRAWYS 2017

Salm 119: 89-96

Onibai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd (Salm 119:92).

Y gyfraith yn hyfrydwch! Mynych y ceir y pwyslais yn y salm hon: Daeth dy ddeddfau'n gân i mi ymhle bynnag y bûm yn byw (Salm 119:54). Aeth yr ymdeimlad o ddyletswydd yn brin yn ein dyddiau ni. Person i'w edmygu yw'r hwn sy'n ymdeimlo â'i ddyletswydd grefyddol, a'r rhan amlaf fe dry'r ddyletswydd yn ddiddanwch yn ei fywyd. Wrth ymwneud â gorchmynion Duw, y mae ufudd-dod i orchymyn yn troi'n orfoledd. Boed i Dduw ein gwared rhag disgwyl diddanwch yr Efengyl heb sylweddoli ein dyletswydd iddi.

CROESO CALEB A RUTH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Syniad gwreiddiol: www.adrahome.com

Yn union ar ôl ennill Canaan, aeth Josua ati i ddosbarthu’r wlad rhwng y llwythau. Dyma waith pwysig, oherwydd buasai’r Israeliaid wedi dechrau ymladd a’i gilydd am y rhannau mwyaf ffrwythlon. Byddai’r fath ddiffyg undeb yn ei gwneud yn hawdd iawn i’r Canaaneaid wrthymosod ag ennill y cyfan a gollwyd yn ôl. Y llwyth cyntaf ar y rhestr yw Jwda; ond cyn rhoi disgrifiad manwl o diriogaeth Jwda, mae’r awdur yn dangos sut yr aeth Hebron, un o’r dinasoedd pwysicaf, yn eiddo i Caleb y Cenesiad.

Caleb oedd un o’r ysbïwyr a anfonwyd gan Moses i chwilio’r wlad cyn i Israel groesi’r Iorddonen. Daeth yn ôl yn llawn brwdfrydedd, a cheisiodd annog y genedl i brysuro ymlaen at ffiniau Canaan. ‘Roedd yr Israeliaid yn ofnus. Ni fynnent fentro ymhellach, a bygythient ethol arweinwyr newydd a fyddai’n barod i’w harwain yn ôl i’r Aifft. Yn yr argyfwng hwn, cefnogodd Caleb Moses. Fel cydnabyddiaeth o’i deyrngarwch i Moses, ac o’i ffyddlondeb i fwriad Duw, addawodd Moses roi lle iddo yng Nghanaan (Josua 14:6-15). Nawr, ymron hanner canrif yn ddiweddarach, mae Caleb yn atgoffa Josua o’r addewid, ac fe gaiff ei ddymuniad.

Beth a wnelo hyn â ni? Nid Israeliad oedd Caleb. ‘Roedd yn hanu o lwyth y Cenesiaid, un o lwythau Edom. Derbyniwyd y llwyth hwn gan Israel. O ganlyniad, y mae Caleb, yr ‘estron’ yn cael lle blaenllaw ymysg cewri’r ffydd Iddewig. (Caiff Ruth y Foabes - ‘estron’ arall - yr un anrhydedd, ond fe ddown at arwyddocâd Ruth maes o law). Cydnabyddir ffyddlondeb Caleb i Dduw trwy roi Hebron yn etifeddiaeth iddo ef a’i ddisgynyddion. Nid gofyn wna Duw pa liw yw ein croen, neu i ba genedl y perthynwn. Ufudd-dod, ffyddlondeb a gwasanaeth i’n cyd-ddyn sy’n cyfrif ganddo ef.

Mae’n debyg mai hen hen air Saesneg am garedigrwydd oedd Ruth; gair sydd yn bodoli heddiw, dim ond yn yr ystyr nacaol: ruthless. Caleb a Ruth - mewnfudwyr, ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a phwy bynnag sydd i ni, am ba reswm bynnag yn 'estron' - natur ein hymateb iddynt, yn bersonol, fel cymunedau ffydd, fel bro a gwlad fydd yn penderfynu a’i ruthful neu ruthless y byd hwn.

(OLlE)

SALM 119 - GRAWYS 2017

Salm 119:17-32

Y mae’r Testament Newydd yn frith o wahanol enwau a roddir ar yr Arglwydd Iesu gan y Cristnogion cyntaf yn eu hymgais i gyflwyno ei neges i’w cyfoedion. Un ohonynt yw y Ffordd. Mewn ateb i gwestiwn Thomas ar sut i fynd at y Tad, meddai Iesu, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:6). Yn Actau’r Apostolion y mae’r disgrifiad hwn yn cael ei ddefnyddio am y grefydd Gristnogol yn ei chrynswth. Teithio i Damascus i chwilio am rywrai o bobl y Ffordd (9:2) ‘roedd Saul pan gafodd dröedigaeth.

Fel y rhan fwyaf o enwau Iesu, daw hwn hefyd o’r traddodiad Iddewig. Yn yr Hen Destament y mae i'r syniad o ffordd le amlwg iawn. Gweddi feunyddiol y salmydd yw:

Dysg i mi dy ffordd, O! ARGLWYDD.

Arwain fi ar hyd llwybr union. (Salm 27:11)

Sylwn fel y mae’r gair ffordd yn cael ei ddefnyddio yn y rhan fechan hon o Salm 119. Y mae ffordd ffyddlondeb yn cael ei chyferbynnu â ffordd twyll, a cheir pwyslais cyson ar ffordd gofynion a gorchmynion Duw. Hyd heddiw, yr enw technegol a ddefnyddir gan yr Iddew i ddisgrifio cyfreithiau crefyddol yw Ffyrdd.

‘Roedd y Salmydd yn ffyddiog mai’r Gyfraith oedd y ffordd i gymodi pobl â Duw. Dim ond iddo ddilyn llwybr gofynion yr Arglwydd yn ddiwyro, fe fyddai person yn gadwedig. Ond nid yw cyfraith, ohoni ei hun, yn mynd yn ddigon pell, oherwydd ni fedr byth wneud pobl ddrwg yn bobl dda - fel y gwelodd Moses yn yr anialwch. Dyna pam yr anfonodd Duw ei Fab ei hun i’r byd, er mwyn agor ffordd newydd a byw ... i ni drwy’r llen (Hebreaid 10:20). Nid dangos y ffordd y mae Iesu, ond ein sicrhau mai ef yw'r ffordd.