EIN 'SPUTNIK-1'; CYMUNDEB A 'COME IN'-DEB

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

Heddiw (4/10) yn 1957, lansiwyd y lloeren gyntaf oll - Sputnik-1. 58 centimetr mewn diamedr, ac yn pwyso tua 85 cilogram, gallasai Sputnik cylch-ofod-deithio’r ddaear un waith, mewn awr a hanner. Yr Undeb Sofietaidd enillodd y ‘ras’ i gynllunio, adeiladu a lansio’r lloeren gyntaf oll, ond bu’r ras fechan hon yn gychwyn ar ras amgenach: The Space Race.

Ystyr Sputnik mae’n debyg yw cyd-deithiwr; gwell efallai’r gair: cydymaith. Iesu yw ein Sputnik ninnau. Mae Iesu’n cerdded gyda ni; gytgam, gyfysgwydd ydyw â ni. Ffydd yw gwybod fod Iesu’n cerdded gyda ni. Nid athrawiaeth, athroniaeth, diwinyddiaeth, cred na chredo yw hanfod ein ffydd, ond cyfarfyddiad achubol â’r Crist byw. Pan mae’r ffordd yn droellog, y mae Iesu yn nerth ac yn arweinydd i ni. Pan mae ein calonnau’n drwm, mae Iesu, ein Sputnik, wrth law i’n cynnal a’n calonogi. Pan mae’r daith yn hawdd, â ninnau o’r herwydd anghofio amdano, nid yw ef yn anghofio amdanom ni. Pan grwydrwn oddi ar y ffordd, mae Iesu yn ein dilyn, ac yn ein tywys yn ôl i’r ffordd na fydd yn loes i mi (Salm 139:24 BCN).

Un peth bach arall am y Sputnik - fe lwyddodd i droi o gwmpas y ddaear bron i 1500 o weithiau; ond darfu’r batris ar ôl tua 20 diwrnod. Mae’r Sul-pen-mis yn bwysig i mi - Sul Cymundeb ydyw. Erbyn cyrraedd y bwrdd bob mis, mae fy matris ysbrydol yn reit fflat. Heb oedi wrth fwrdd y bara a’r gwin, buan iawn y darfu’r batris ysbrydol rheini’n llwyr.

Eglwys yn cydgyfarfod - dyna athrylith ein traddodiad a’n harfer. Yn gymysg gawl: yr ifanc, hŷn a hen; y ceidwadol, cymedrol a chwyldroadol; y ‘credu’, ‘eisiau credu’ a’r ‘methu credu’; y twicers, y oncers a’r onceinawhilers - pawb ynghyd yn cydgyfarfod i gyfarfod â’r Cydymaith, ac yn profi’r adnewyddiad a ddaw o Gwrdd mawr y cwrdd bach:

Dyma gyfarfod hyfryd iawn,

myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn;

myfi yn dlawd, heb feddu dim,

ac yntau’n rhoddi popeth im.

(William Williams, 1717-91)

Ie, Sul Cymundeb oedd y Sul aeth heibio - Sul adnewyddu’r batris - ond cofiwch, mae pob Sul yn Sul Come in-deb. Trowch i mewn atom yn eich eglwys leol. Mae arnom eich angen, a phwy a ŵyr nad oes arnoch chi ein hangen ninnau hefyd. Os nad ydych yn mynd o gwbl ar hyn o bryd, trowch i mewn amser ‘Dolig. Os ydych yn arfer mynd amser ‘Dolig, dewch amser Pasg hefyd, (a’r Sulgwyn!). Os ydych yn mynd bob ‘Dolig a Phasg, ewch unwaith y mis. Os ydych yn mynd unwaith y mis, ewch unwaith y Sul. Da chi, come in. Yma, cawn gymorth-gwmni ein Sputnik; yma cawn her-nerth i’r daith.

(OLlE)

SALM

Salm 104

Mae Salm 104 yn faes priodol i fyfyrio ynddo adeg y cynhaeaf. Mynega mewn iaith fendigedig ryfedd a rhyfeddol ofal Duw am ei niferus weithredoedd. Mynnai’r Salmydd nad oes terfyn ar gynhaliaeth Duw. Ond, mae’r Salmydd yn fwy optimistaidd na ni hwyrach. Dywed ef:

Gosodaist y ddaear ar ei sylfaeni, fel na fydd yn symud byth bythoedd (104:5).

Gwyddom erbyn hyn y gall pobl, yn ein dihidrwydd ffôl, symud sylfeini'r ddaear a pheryglu’r cyfan. Gallwn greu anhrefn lle bu Duw'n trefnu trefn. Rhybuddir ni o ddydd i ddydd am annoethineb ein ffordd o fyw a bod. Ni yw’r stiwardiaid a roes Duw i ofalu am y ddaear ond fe allwn ei throi yn belen o lwch. Gellid gwneud hynny, ond fe ellid hefyd dewis byw yn gallach - gellid cydweithio â’n cymdogion mewn gwledydd eraill; gellid rhannu, gofalu, cynnal a chadw - gellid gwneud hyn oll o ddysgu a sylweddoli mai un byd yw hwn ac mai eiddo ein Harglwydd yw.

 Fy enaid bendithia’r Arglwydd.
Bydded gogoniant yr Arglwydd dros byth; dychwelwn i lwybrau’r Arglwydd. Amen

HYDREF NEU WANWYN, 'NID WYF FI, YR ARGLWYDD, YN NEWID'.

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

Myfyrdodau Grawys gan Offeiriad yn Christchurch, Seland Newydd.

Wrth ddarllen sylweddolais …

Sylweddolais na fu i mi erioed sylweddoli fod y Grawys a’r Pasg, yn Seland Newydd, yn cyd-ddigwydd â thymor yr Hydref. Yma, yn hemisffer y Gogledd, tymor y Gwanwyn yw cefnlen y Grawys a’r Pasg. Gwëwyd gennym felly, rhwydwaith o gysylltiadau, delweddau a throsiadau sydd yn anhepgor i bob ymgais gennym i fynegi neges fawr y Pasg: wedi oerni a llonyddwch y Gaeaf, daw’r Gwanwyn a’i fywyd newydd i lonni’r greadigaeth. Mae’r blagur yn y coed yn ernes fod tyfiant a ffrwyth i ddilyn maes o law.

Wrth ddarllen y myfyrdodau hyn, sylweddolais mai anodd buasai cadw’r Grawys, a dathlu Pasg yn erbyn cefnlen tymor yr Hydref: tymor cynhaeaf a diolchgarwch; tymor ailgychwyn ysgol a choleg, tymor lliwiau euraid y coed a’r perthi, tymor diosg y dail a byrhau golau dydd - tymor ... caea’r dydd ei lygad/cysglyd yn gynt a chynt.

Os tymor tyfu ydy’r Gwanwyn, yna tymor yr heneiddio ydy’r Hydref. Os mai egni a bwrlwm sy’n hawlio Ebrill a Mai, arafwch a phwyll piau Medi a Hydref. Os yw’r Gwanwyn yn fyrbwyll wyllt mae’r Hydref yn araf ddoeth.

Wedi darllen y myfyrdodau hyn, sylweddolais mor wir yw geiriau mawr Malachi broffwyd: ... nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid ... (Malachi 3:6 BCN). Er mor annwyl gennym y cysylltiad naturiol hwnnw rhwng y Pasg a’r Gwanwyn, buddiol a da yw cofio fod neges y Pasg llawn mor fyw, ac amlwg yn nhymor yr Hydref: tymor y cysgodion mwyn, a’r golau brith. Amlygir Bywyd y Crist byw, nid dim ond trwy gyfrwng ffresni’r blagur yn glasu perth a llwyn, y mynd a’r dod o dan y bondo, a’r ddraenen ddu ar ei newydd wedd. Gwelir y Bywyd hwn hefyd yn y cysgodion tywyll, tawel; y dydd yn fyrrach na’r nos, a blas y gaeaf ar yr awel. Mae’r Bywyd hwn yn amlwg ym mhob tymor, gan nad bywyd tymhorol mohono - y bywyd sydd fywyd yn wir ydyw.

Wrth droi i wynebu’r Hydref, a pharatoi i’r Gaeaf, cofiwn, ac atgoffwn ein gilydd o’r gwirionedd mawr a fynegwyd mor gymen gan Thomas Chisholm (1866-1960):

Summer and winter, and seedtime and harvest,

Sun moon and stars in their courses above

join with all nature in manifold witness

to Thy great faithfulness, mercy and love.

Mae’r pennill yn adlais o Lyfr Galarnad - er mor brudd yr enw, llyfr llawn hyder ydyw - hyder hyderus a sawl a wŷr nad yw’r ARGLWYDD, yn newid ... (Malachi 3:6 BCN) ... ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore ... (Galarnad 3:23)

(OLlE)