AIL

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

Testun y Munud i Feddwl heddiw yw’r gair ‘ail’. Gellid gosod y rhagddodiad bach hwn o flaen y rhan fwyaf o ferfau: Ailgynnig, ailadrodd, ailfeddwl, ail-eni, ailosod.

Mae’r ‘ail’ yn awgrymu fod y tro cyntaf, beth bynnag ydoedd, wedi bod yn aflwyddiannus. Diolch felly fod cymaint o eiriau Cymraeg yn medru cario’r gair bach ‘ail’. Wedi methu y tro cyntaf? Paid â phoeni: ailgynnig (Er fy mod wedi syrthio, bydda i’n codi eto. Micha 7:8 beibl.net) Fawr o flas ar y cawl? Bydd yn well yfory ar ôl ei aildwymo (Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld. Hebreaid 11:1 beibl.net) Yn ei ragair i’r gyfrol Gyda’r Hwyr (1957), meddai E. Tegla Davies (1880-1967): Gwêl amryw o’r ysgrifau olau dydd am y tro cyntaf, a’r cwbl a gyhoeddwyd eisoes wedi eu hailwampio, ac eithrio tair, rai ohonynt mor llwyr nes dyfod o’r pair ar newydd wedd. Ailwampio? Ni chlywais i erioed y gair ‘wampio’ yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, heb y rhagddodiad ‘ail’. A glywsoch chi erioed am rywun yn wampio rhywbeth?

Er mor hoff wyf o amryw o eiriau yn dechrau gyda’r rhagddodiad cynnes hwn, y mae amryw nad wyf yn eu hoffi o gwbl, e.e.: ailadrodd. Onid ydym bregethwyr ar adegau’n ailadroddus ailadroddus? (Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Y Pregethwr 5:2 beibl.net) A beth am y gair ‘ailfeddwl’? Nid wyf yn siŵr beth i feddwl o’r gair ‘ailfeddwl’? Ar ryw ystyr, nid wedi methu meddwl y tro cyntaf y mae person, ac yna’n ailfeddwl. Na, pan fydd rhywun yn dweud ei fod am ailfeddwl, fel arfer, y mae am newid ei feddwl, neu am roi sylw pellach i’r mater, beth bynnag y bo. Wrth dderbyn yr ystyr yma i’r gair, nid wyf yn gwbl siŵr iawn fy mod yn ei hoffi. Dwi’n dueddol i hoffi’r bobl sydd yn gweithredu ar y meddwl cyntaf. Hwyrach eu bod mymryn yn fyrbwyll, a’u gweithredoedd heb fod yn gwbl a thynn mewn trefn. Er hynny y mae rhyw wres ac ynni o’u cwmpas (Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti. Diarhebion 3:5,6 beibl.net). Mentraf awgrymu mai dyma’r bobl sydd angen ar grefydda Cymreig: buasai ychydig o wres fyrbwylltra yn gwneud lles - gweithredu er waetha’r posibiliadau o fethiant - yn hytrach nag ailfeddwl ac ailfeddwl yr eilwaith am yr holl bosibiliadau o fethiant, hyd nes peidio gweithredu o gwbl. Fel meddai un o gymeriadau Roald Dahl (1916-1990): You'll never get anywhere if you go about what-iffing like that.

Dylwn ychwanegu fod dau ystyr arall i’r gair ‘ail’. ‘Yn dilyn y cyntaf’ yw diffiniad y geiriadur o un ystyr: 'cyntaf, ail, trydydd'. Ond, mae’r ystyr olaf yn ddiarth (i mi o leiaf), sef ‘tebyg’, neu ‘cystal’. Bu Tudur Aled (c.1465-c.1525) yn ‘Gofyn March gan Abad Aberconwy’, ac wrth ddisgrifio’r march, meddai:

Ail y carw, olwg gorwyllt

A’i draed yn gwau drwy dân gwyllt.

‘Tebyg’ i’r carw, neu llawn ‘cystal’ â’r carw yw ystyr ‘ail’ yma.

Mewn cerdd o’i eiddo mae Goronwy Owen (1723-1769) yn canu clodydd Sir Fôn:

Eistedd ar orsedd eursail

yr wŷd, ac ni welir ail.

Buasai’r gair Saesneg Peerless yn dangos ansawdd neu rinwedd y gair ‘ail’ yn y cwpled hwn. Ni welir sir debyg i Sir Fôn mynnai Goronwy. Dyna ystyr yr ‘ail’ yma.

Tueddwn (yn anffodus braidd) i sôn yn fynych ym mis Medi am ailgydio yn ein gwaith wedi’r haf. Awgrymir gan yr ‘ail’ yn ‘ailgydio’ ein bod wedi llacio’n gafael, a gwir hynny i raddau helaeth iawn. Mawr felly ein diolch, nad yw ein Duw byth yn ailgydio ynom, gan na fu iddo byth bythoedd, ac ni fydd yn oes oesoedd yn llacio’i afael arnom. Dyma hwb i’n hailddechrau ninnau; dyma ein gobaith cyson am ail ail gyfle; hanfod ein ffydd yw gafael oesol ein Duw peerless ninnau; craidd ein gobaith yw cariad Duw cariad yw (1 Ioan 4:8) - cariad heb ei ail: Cerais di â chariad diderfyn (Jeremeia 30:3 BCN).

(OLlE)

GLAIN

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

'Old Woman and Rosary' 1895/96 - Paul Cézanne (1839-1906)

Glain: gair bach unsill. Uchod gwelir portread Paul Cézanne (1839-1906) o hen wraig yn symud gleiniau yn ei llinyn paderau, neu rosari. Y gadwyn honno sy’n cynnwys fel rheol ryw 55 o leiniau, a gweddi fer ar gyfer pob glain, neu paderyn.

Gan bwyso ar waith ymchwil y geiriadurwr R. J. Thomas, digwydd yr enghraifft gynharaf o’r gair glain yn y 12fed ganrif yn Llyfr Llandaf, pan gyfeirir at y llyn hwnnw, heb fod yn bell o Lantrisant, o’r enw Llyn y gleiniau. Tybed os mai llyn ac iddo waelod o gerrig mân ydoedd? Lle prydferth. Ys gwn i a ydyw yno o hyd?

Mewn cywydd gan un o gyfoeswyr Owain Glyndŵr, gelwir ef yn lain: Megis Owain glain y Glyn. Person gwerthfawr - anwylyn cenedl.

Ond nid personau a llefydd yn unig a elwid glain. Yn Llyfr yr Ancr (1346) sonnir am yr Ysbryd Glân fel hyn: Yr Ysbryd Glân glain anwylaf, hynny yw trysor anwylaf. Clywir yn y disgrifiad hwn o’r Ysbryd Glân ryw nodyn a aeth ar goll ym mywyd yr Eglwys heddiw. Yn lle’r agosrwydd cynnes a deimlid gynt rhyngom ni a’r Un yn Dri, a’r Tri yn Un daeth pellter, dryswch ac oerni.

Duw cariad yw (1 Ioan 4:8): nid peth deddfol, caled, oer yw cariad! Mae cariad yn brydferth! Wrth i gariad Duw symud ynom a thrwom, bydd prydferthwch y cariad yn llifo ynom ac ohonom. Ofer ein siarad am y Duw sydd gariad, os nad yw prydferthwch y cariad hwnnw yn amlwg ynom, a rhyngom. Boed i ni fod yn brydferth ein cam, fel Olwen gynt. Boed i’n byw a bod arddangos Cariad Duw yn ei brydferthwch amrwd, naturiol, ac nid yn ei goeg degwch crefyddol.

Wrth hel meddyliau heddiw am y gair glain, buom fel hen wraig Cézanne yn rhifo’r gleiniau rhwng ein bysedd, ond da yw gorffen gyda geiriau glain y Salmydd:

Bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein Duw arnom ni:

llwydda waith ein dwylo inni,

llwydda waith ein dwylo.

(Salm 90:17)

 

(OLlE)