Yn dechrau dydd Sul (7/8/2016), cyfres o fyfyrdodau byrion yn seiliedig ar Gredo’r Apostolion. Ym mhob un, ceir awgrym o ddarlleniad, a myfyrdod bychan, bachog. Bydd y myfyrdod yn ymddangos yn ddyddiol ar ein cyfrif trydar @MinnyStreet
'NID YNYS MO DYN' - CAR DY GYMYDOG FEL TI DY HUN
Caiff llawer o ddyddiadau a digwyddiadau eu nodi'r dyddiau yma. Y llynedd, roedd hi’n 150 o flynyddoedd ers hwylio’r Mimosa, a 70 mlynedd ers diwrnod VE a bomio erchyll Hiroshima a Nagasaki.
Eleni, mae hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, ac mae Caerdydd yn dathlu canmlwyddiant geni'r awdur Roald Dahl. Yn ddiweddar bu cryn sylw i ganmlwyddiant brwydr gyntaf y Somme ac rydym hanner ffordd drwy’r cyfnod o nodi canrif ers cyfnod y rhyfel byd cyntaf - y rhyfel i atal pob rhyfel. Mae 80 mlynedd ers cychwyn rhyfel cartref Sbaen, rhyfel y’i cyfrir yn un rhwng y chwith a’r dde a ffasgiaeth. Daeth nodi’r holl ddyddiadau yma bron fel ffordd law-fer o greu newyddion.
Ysgwn i sut y bydd y dyfodol yn nodi canlyniad pleidlais Brexit wrth i’r Deyrnas Gyfunol fentro i diriogaeth y tu hwnt i gymrodoriaeth yr UE? Sefydlwyd yr UE i sefydlogi Ewrop wedi’r ail ryfel byd wrth gwrs, a magodd gydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng gwledydd a fu, yn ddiweddar iawn, yn rhyfela. Cefnogodd adeiladwaith gan roi trywydd i’r cyfandir a’r miloedd o ffoaduriaid wedi’r gyflafan honno ac wedi’r rhyfel oer wedyn. Rhoddodd hefyd y gallu i bobl o’r Deyrnas Gyfunol i weithio a theithio a byw ledled Ewrop. Ond mae’n debyg mai mewnfudo oedd rheswm llawer dros ymwrthod â’r prosiect Ewropeaidd.
Mae pum mlynedd bellach ers cychwyn y rhyfel yn Syria. Lladdwyd o leiaf 250,000 yn ôl yr UN, ac mae 13.5 miliwn o drigolion y wlad angen cymorth dyngarol ar fyrder. Bron nad yw’n arfer bob haf i weld darluniau torcalonnus ffoaduriaid yn ceisio croesi Môr y Canoldir i geisio bywyd gwell: daw un o bob dau sy’n mentro’u bywydau fel hyn o Syria.
Yn ôl Amnest Rhyngwladol (Chwefror 2016), mae pum gwlad - Twrci, Libanus, Yr Iorddonen, Irac a’r Aifft - bellach yn gartref i dros 4.5 miliwn o bobl Syria sydd wedi ffoi. Mae 2.5 miliwn - bron i boblogaeth Cymru - o Syriaid mewn alltud yn Nhwrci, ac mae un o bob pump sy’n byw yn Libanus, gwlad lawer llai na Chymru, bellach yn ffoadur.
Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Gartref, dim ond 1,000 o ffoaduriaid o Syria gafodd ymgartrefu yma yn 2015, gyda 20,000 arall i gael dilyn erbyn 2020. Dyna 121 yn llai na phoblogaeth y Waun Ddyfal yn ôl y cyfrifiad diwethaf!
Mae nifer fawr o ffoaduriaid Syria yn byw ar lai na 1US$ y diwrnod. Mae gwir angen cymorth a chefnogaeth arnynt, ond y llynedd, dim ond 61% o arian targed cronfa ddyngarol yr UN i Syria a godwyd.
Caiff llawer o ddyddiadau a digwyddiadau eu nodi. Ond a ydym ni’n gwrando a dysgu go iawn ar y newyddion, neu’n camu at y digwyddiad nesaf heb ystyried?
Catrin H. Roberts
Manion:
* Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond car dy gymydog fel ti dy hun: yr ARGLWYDD ydwyf fi (Lefiticus 19:18WM)
* Mae Pobl i Bobl http://www.poblibobl.org.uk/ grŵp o ogled Cymru sy’n gweithio i gefnogi ffoaduriaid yn casglu arian ar faes Eisteddfod Y Fenni'r wythnos hon.
* 'Nid ynys mo dyn' - No man is an island o MEDITATION XVII
Devotions upon Emergent Occasions, John Donne
'No Man is an Island'
No man is an island entire of itself; every man
is a piece of the continent, a part of the main;
if a clod be washed away by the sea, Europe
is the less, as well as if a promontory were, as
well as any manner of thy friends or of thine
own were; any man's death diminishes me,
because I am involved in mankind.
And therefore never send to know for whom
the bell tolls; it tolls for thee.
MEDITATION XVII
Devotions upon Emergent Occasions
John Donne (1572-1631)
OEDFAON MIS AWST
NEWYDDION Y SUL
Llun: BBC
Mae’r pafiliwn newydd yn ei le. Mae’r carafannau a’r pebyll yn heidio draw. Dros y wlad, mae corau’n cael un ymarfer olaf, y bandiau pres yn rhoi sglein ar eu hofferynnau, a’r clocs yn cael eu hail-wadnu. Yn rhywle, mae 'na brif lenor a dau brifardd llawn cyffro sy’n gorfod cadw’u cyfrinach am ychydig bach eto. Mae’r cyflwynwyr a’r arweinwyr yn clirio’u llwnc, ac mae’r Archdderwydd newydd yn rhoi sglein ar ei ddwyfronneg. Ydi, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau draw yn y Fenni.
Aelodau Llandaf a Phontcanna fu’n prysur baratoi'r Oedfa Foreol heddiw. ‘Eisteddfod ein Ffydd’ oedd thema’r Oedfa. Arweiniwyd ni i ystyried y tebygrwydd rhwng bywyd a thystiolaeth yr Eglwys â’r Eisteddfod.
Mae’n debyg fod ystyr wreiddiol y gair ‘Eisteddfod’ yn golygu man cyfarfod a chynnull, ac yn wir efallai mai dyna’r prif atyniad i nifer fawr o eisteddfodwyr. Mae’r Eisteddfod yn debyg i’r Eglwys yn hynny o beth! Cyson gynhaliol yw’r fendith a gawn wrth ddod yng nghyd i gyd-addoli a chyd-wasanaethu; cydlawenhau a chydalaru, heb anghofio ... cydweithio.
Dros yr wythnos nesaf, fe fydd y maes yn ferw o weithgarwch a lliw a sesiynau a chystadlaethau a hwyl. Wrth ymweld, mae hi’n anodd sylweddoli faint yn union o waith sy’n cael ei gyflawni gan nifer helaeth o unigolion i wneud i’r cyfan ddigwydd. Ond mi gewch fod pawb, yn gystadleuwyr, yn feirdd, stondinwyr, gweithwyr yr Eisteddfod, newyddiadurwyr a chyflwynwyr, a nifer o rai eraill, yn hynod ddiolchgar o gael bod yno, wrth eu boddau: pawb yn fwy na hapus i chwarae eu rhan, ac yn falch o’u dyletswydd.
Mae nifer o weithwyr caled yn ein plith ninnau hefyd, yn barod i roi’n helaeth o’u hamser a’u hymdrechion, a hynny’n gwbl ddirwgnach. Yn sicr, maent yn cymryd llawenydd a balchder wrth chwarae eu rhan - ond tybed a ydym weithiau’n rhy barod i adael i’r rhai parod hynny wneud popeth? Nid un person, neu ddau, neu ddeg, yw’r Eglwys, ond y cyfan ohonom wedi’n taflu efo’n gilydd, yn ddathliad o Grist.
Cân, dawns a chelf: mae’r tri’n gwbl ganolog i’r Eisteddfod, a’r un modd mae cerddoriaeth, dawns a chelfyddyd ymhlith y cyfryngau, sydd nawr fel erioed yn galluogi pobl ffydd i fynegi a dathlu ei ffydd yn Nuw.
Diogelwch: Tra ydym o fewn ffiniau maes yr Eisteddfod, gallwn deimlo rhyddid a rhwydd hynt i fod yn Gymraeg, trwy’r Gymraeg, heb deimlo cywilydd nac euogrwydd na bod ofn bygythiad, cyhuddiad neu ymosodiad. Oes modd mynd yn rhy fewnblyg fel Cymry Cymraeg? Yr un perygl sydd i’n crefydd a’n ffydd. Mae arnom angen diogelwch, sicrwydd a chwmni cymuned a theulu’r Eglwys. Mae arnom angen adeilad y capel, a’r cyfle i droi i mewn at ein gilydd a chael cysur a nerth. Ond mae angen hefyd inni fynd allan, peidio â chau ein hunain na’n ffydd i ffwrdd oddi wrth weddill gymdeithas a’n cymdogion.
Beth wedyn, ar ôl i’r côr olaf ganu ac ar ôl i’r garafán olaf adael y cae? Yn flynyddol yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae perygl digalonni, a hiraethu am wynfyd o wythnos yw’n hanes yn rhy aml.
Mae’n rhaid cofio’r hyn a gafwyd, a dwyn nerth ac ysbrydoliaeth oddi wrtho. Ar ôl ein hoedfaon a’n cymundeb ar y Sul hefyd, gallwn ddefnyddio’r fendith a gawsom i’n cryfhau at yr wythnos sydd i ddod.
Beth am y cystadlu!? Yn hyn o beth mae’r Eisteddfod a’r Eglwys, o bosib, ar eu mwyaf gwahanol. Yn Iesu, does dim colli i fod - dim ond ennill. Yn aml, fe glywir prifeirdd a phrif lenorion newydd yr Eisteddfod yn cael ei siarsio i fynd ‘o’u gwobr at eu gwaith’. O holl nodweddion, defodau, a bendithion yr Eisteddfod, onid dyna’r siars y dylem ei chofio yn anad yr un? Yn Eisteddfod ein ffydd, mae gennym ninnau eisoes ein gwobr. Awn ati i weithio.
Oedfa hwyliog, yn drwch o fendith a her. Diolch i Awen, Joye, Ann, Mari, Helen, Elisabeth, Jean, Eirlys, Hefin, a Robin. Mawr ddiolch i Menna a Llŷr am gael trefn ar y cyfan.
Aelodau Cyncoed a Phen-y-lan bu’n arwain yr Oedfa heno. Canllaw ein myfyrdod oedd emyn Eifion Wyn (Eliseus Williams, Porthmadog 1867–1926): Am wlad mor dawel ac mor dlws ein Tad moliannwn Di.
Byrdwn yr emyn hwn yw Ein Tad Moliannwn Di. Mae’r llinell hon i’w chael yn y pedwar pennill, a thrwy eu canu, cawsom gyfle heno i fynegi ein ffydd yn Nuw ein Tad sy’n deilwng o’n clod.
Am wlad mor dawel ac mor dlws,
Ein Tad, moliannwn di;
Mae trysor yn ei henw da
A’i hanes annwyl hi
‘Roedd gan yr emynydd lygad i weld prydferthwch byd natur, a chalon i werthfawrogi bendithion Duw yn ei greadigaeth. Tybed a oedd Cymru yn dlysach a thawelach gwlad yn nyddiau Eifion Wyn? Yn sicr, roedd afonydd a llynnoedd ein gwlad yn burach ganrif yn ôl gan nad oedd cymaint o ddiwydiannau a ffatrïoedd yn llychwino’r dyfroedd â gwastraff gwenwynllyd, ac yn llygru’r awyr â nwyon peryglus.
Fel Cristnogion, fe’n gelwir ni i warchod ein gwlad gyda’r ymwybyddiaeth mai eiddo Duw yw pob rhan ohoni, ac nad oes gan neb ohonom yr hawl i ddefnyddio cyfoeth y greadigaeth at ddibenion hunanol, ac ar draul ein cyd-ddynion.
Cyfeiria'r emynydd hefyd at ‘enw da’ Cymru, ‘a’i hanes annwyl hi’. Tybed a yw Eifion Wyn yn gwyngalchu gorffennol Cymru yn ormodol? Cyn ei gyfnod ef, ac wedi hynny, gormeswyd gwerin dlawd ein gwlad yn ddidrugaredd gan gyfoethogion a meistri tir, a defnyddiwyd bechgyn ifanc gan y llywodraeth i ymladd rhyfeloedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Bu farw miloedd ar filoedd ohonynt yn y modd mwyaf dychrynllyd. Nid yw’r wedd hon i hanes Cymru yn destun cân a diolch, ond trwy drugaredd, nid dyna’r stori i gyd. Y mae ‘na wedd ddaionus i hanes Cymru, a heddiw fe gofiwn yn ddiolchgar am bawb a fu’n sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol a rhyddid i fyw bywyd llawn a dedwydd. Fel Cristnogion, ‘rydym yn priodoli hyn i ddylanwad mawr yr Efengyl ar bobl ein gwlad. Dyma’r trysor sy’ wedi cadw enw da Cymru yn y gorffennol, a dyma’r trysor i’n cadw ninnau hefyd yn bobl yr Arglwydd i’r dyfodol.
Am dadau pur a mamau mwyn,
Ein Tad, moliannwn Di;
Ein braint yw byw i’w caru hwy
Sy’n byw i’n caru ni
Yn y pennill hwn, cawn gyfle i ddiolch am ein rhieni, ac i atgoffa’n gilydd o’n braint i garu ein hanwyliaid. Yn ddi-os, yn ein golwg fel Cristnogion, y teulu yw’r uned bwysicaf, a’r cartref yw’r man mwyaf cysegredig yn ein cymdeithas.
Am geraint ac athrawon hoff,
Ein Tad, moliannwn di;
Maent am ein dwyn i ffordd y nef,
A’r nef i’n bywyd ni
‘Am geraint...’ Nid yw’r gair hwn yn cael ei ddefnyddio gymaint heddiw ar dafod leferydd. Ei ystyr yw "perthnasau", a chan amla’ perthnasau yng nghyd-destun yr uned deuluol. Fel Cristnogion, fodd bynnag, rhown ystyr ehangach na’r arferol i’r gair,’perthynas’, a hynny trwy gynnwys pawb sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Yn arwyddocaol iawn, yr enw a roddwyd yn gynnar iawn ar yr Eglwys oedd ‘Teulu’r Ffydd’. Perthynas ysbrydol yw’r ddolen gyswllt rhyngom â’n gilydd fel Cristnogion, a honno’n seiliedig ar ein perthynas â’r Arglwydd Iesu Grist. Yn wir, ef yw’r llinyn bywiol sydd yn ein clymu yn un.
Ni olyga hyn nad oes anawsterau a phroblemau yn codi o dro i dro oddi mewn i deulu’r Eglwys. Fel yr uned deuluol yn ein cartrefi, nid oes uned deuluol berffaith yn ein heglwysi lleol chwaith. Am hynny, dylem ymroi i oddef ein gilydd mewn ysbryd cariad, a chadw â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r ysbryd yn ei roi. Fe ddywedir yn Saesneg, ‘Lasting friendship needs constant repair’.Y mae hyn hefyd yn wir yn ein perthynas â’n gilydd fel Cristnogion. Nid perthynas i’w hesgeuluso ydyw, ond i’w thrwsio yn gyson â llinyn cariad Iesu Grist.
Yn y trydydd pennill, mae Eifion Wyn yn cyfeirio hefyd at athrawon hoff. Dywedwyd fwy nag unwaith mai ysgol yw bywyd, ac mai disgyblion fyddwn ar hyd ein hoes. Tra’n ddiolchgar am bob cymorth gan athrawon a’n dysgodd, gwyddom mai’r Athro mawr yn unig a all
... ein dwyn i ffordd y nef,
A’r nef i’n bywyd ni.
Yn yr Efengylau, dywed Iesu Grist wrthym, Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:6BCN) ac mai trwyddo ef y cawn nerth yn ộl y dydd i wynebu anawsterau’r daith, ac i fyw bywyd llawn.
Am un sydd fwy a gwell na phawb,
Ein Tad, moliannwn Di;
Mae ganddo le’n ei Deyrnas fawr,
A gwaith i blant fel ni.
Mae’r emynydd yn gorffen gan ein hatgoffa o’n cyfrifoldeb i weithio dros deyrnas Dduw. Wrth godi muriau dinas Jerwsalem, dywedodd y proffwyd Nehemeia: Gwaith mawr yr wyf yn ei wneuthur ... (Nehemeia 6:3). Yn y Testament Newydd, pwysleisiodd yr Apostol Paul wrth ei gyd-Gristnogion eu bod yn gydweithwyr Duw, ac anogodd hwy trwy ddweud: Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â’ch holl galon, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion (Colosiaid 3:23). Buddiol a da cael ein hatgoffa’n gyson o hyn, ac o’r herwydd cyfieithu ein teimladau diolchgar yn weithredoedd da, ac yn gyfrwng i ddangos Iesu ac i wasanaethu ein hoes.
Diolch i Mary, Rhun, Hywel a Dyrinos, ac i Margaret a Glyn am gydlynu trefniadau’r Oedfa hyfryd hon.
Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis.
NEHEMEIAF, NEHEMEIWN
Y mae’r gweddill a adawyd ar ôl ... mewn trybini mawr a gofid: drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth â thân (Nehemeia 1:3 BCNad).
Nehemeia. Bu Nehemeia ar fy meddwl yn ddiweddar, ac felly Nehemeia fydd gwrthrych Munud i Feddwl hwn. Teimlodd Nehemeia i’r byw oherwydd cyflwr Jerwsalem:
Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo a bûm yn galaru ... (Nehemeia 1:4a BCNad).
Ond, gwnaeth rywbeth mwy nag wylo hefyd: Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo a bûm yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd (Nehemeia 1:4 BCNad).
Wylo a galaru ... ymprydio, a gweddïo. Mae ei deimlad yn arwain at weddi, a gweddi ardderchog oedd hi hefyd: ... yn awr bydded dy glust yn gwrando a’th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddïo o’th flaen ddydd a nis, dros blant Israel, dy weision (Nehemeia 1:6 BCNad).
Ond, gwnaeth rywbeth mwy nag wylo a galaru; ymprydio a gweddïo - ymroddodd i weithio er symud y gwaradwydd. Do, ymdaflodd i’r gwaith caib a rhaw: Euthum allan liw nos ... ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd â thân (Nehemia 1:13 BCNad).
Ond, gwnaeth rywbeth llawer mwy nag wylo a galaru, ymprydio, gweddïo a gweithio. Llwyddodd i gael eraill i weithio gydag ef. Buodd barod i weithio gydag eraill: "Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo ... dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach." ... Yna dywedasant, "Awn ati i adeiladu." A bu iddynt ymroi i’r gwaith yn ewyllysgar (Nehemeia 1:17,18 BCNad).
Ond, ni chawsant yrru ymlaen â’r gwaith yn ddirwystr; cafwyd gwrthwynebiad o lawer cyfeiriad nes gorfu Nehemia i ymladd i ddiogelu’r gwaith: Yr oedd pob un o’r adeiladwyr yn gweithio â’i gleddyf ar ei glun (Nehemeia 4:18 BCNad).
Nehemeia:
Wylodd dros y gwaith.
Fe weddïodd dros y gwaith
Fe weithiodd ...
Fe frwydrodd dros y gwaith.
Cawn hoe dros yr Haf. Ai da hyn? Wel, dibynna hynny i raddau helaeth iawn ar beth ddigwydd ym mis Medi: A bu iddynt ymroi i’r gwaith yn ewyllysgar. Wedi hoe'r Haf, byddwn barod i weld a chydnabod ein cyflwr, ac felly ein hangen: ein hangen am Dduw ac am ein gilydd. Gweddïwn ar i Dduw ein llanw â pharodrwydd newydd i weithio a chydweithio, cyd-dynnu a thynnu, gwthio a chyd-wthio. Bydd rhaid wrth ymdrech; awn i’r afael â’r gwaith, gan gydio bob un yn ei waith.
Codwn ac adeiladwn.
Nehemeiaf.
Nehemeiwn:
Gweddïwn.
Gweithiwn.
Brwydrwn.
Ymrown i’r gwaith yn ewyllysgar er mwyn llwyddiant ei deyrnas ynom, a thrwom.
(OLlE)
WILLIAM WILBERFORCE
William Wiblerforce oedd y gŵr a fu’n bennaf gyfrifol am ddileu caethwasiaeth yn nhiriogaethau Prydain. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol 1780 gan bobl ei dref enedigol, Hull, yng ngogledd Lloegr. Yn 1784, daeth yn Gristion. O 1787 ymlaen, bu’n gofyn, gofyn eto, gofyn eto fyth i Dŷ’r Cyffredin ddiddymu caethwasiaeth trwy’r holl wledydd oedd yn perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig. Ar 25 Mawrth 1807, pasiwyd Deddf Seneddol yn rhoi terfyn ar gludo a gwerthu caethweision gan ddinasyddion Prydain. Eto ni ddilëwyd caethwasiaeth fel y cyfryw hyd y flwyddyn 1833, a’r adeg honno y rhyddhawyd bob caethwas yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd Wilberforce fyw i weld hynny’n digwydd. Roedd wedi ymddeol o wleidyddiaeth yn 1825, a bu farw ar 29 Gorffennaf 1833, yn fuan ar ôl i’r ddeddf ddod i rym. Wrth gofio Wilberforce, cofiwn fod caethwasiaeth yn dal i fodoli heddiw. Mae brwydr Wilberforce yn bell o fod trosodd; rhaid codi llais dros y sawl a gaethiwir yn ein byd heddiw.
TAITH GERDDED GORFFENNAF
Rhyw fore dydd Iau melltigedig o wlyb ym mis Gorffennaf eleni cychwynnodd tri ar ddeg o aelodau dewr Minny Street ar daith fentrus o Bontneddfechan ar hyd lannau afon Nedd. Fe gerddom drwy fwd a llaid, drwy law a mellt o dan amgylchiadau difrifol nes cyrraedd Sgwd Gwladus ac ar ôl gweld ffasiwn ryfeddod troesom yn ôl ac ar ei’n pennau i gysgod a chroeso Yr Angel. Yno bu gwledda a chwerthin a thynnu coes ein gilydd am fod mor ddwl â mentro allan i gerdded yn y fath dywydd. Tawn i’n smecs! Pan ar fin gadael daeth un o’r dewrion â llun anferth o’r Sgwd a dynnwyd ym Mis Ionawr 1915. Llun o’r Sgwd wedi rhewi yn un talp anferthol a’r holl lwybrau o’i hamgylch yn drwm dan eira, ac yn berygl bywyd. O! Bois bach, dyna roi’n gwrhydri ni yn ei bersbectif. Ffarweliom oll â’n gilydd yn teimlo ychydig yn llai dewr ond yn edrych ymlaen yn arw iawn am y daith nesa, am yr hwyl ar sbri ac efalle am ychydig o haul.
Diolch i Ieuan ac Elfrys am drefnu’r antur a diolch i’m cyd gerddwyr am y sbort.
Gan y trydydd llipryn ar ddeg.
PORTH MADRYN
Y dydd heddiw yn 1865: yr ymfudwyr cyntaf yn cyrraedd Porth Madryn, Patagonia.
Llun: ITV News Cymru Wales
‘Nid tir addewid y taer weddïau’ (R. Bryn Williams 1902-1981) oedd dyffryn Camwy. Er mor arwrol y fenter, y teithio, y glanio: y gwir arwriaeth oedd meistroli’r grefft o ddyfrhau’r anialdir - dim ond 2 o’r 163 oedd â phrofiad amaethyddol - a datblygu perthynas iach â’r bobl frodorol.
(OLlE)