William Wiblerforce oedd y gŵr a fu’n bennaf gyfrifol am ddileu caethwasiaeth yn nhiriogaethau Prydain. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol 1780 gan bobl ei dref enedigol, Hull, yng ngogledd Lloegr. Yn 1784, daeth yn Gristion. O 1787 ymlaen, bu’n gofyn, gofyn eto, gofyn eto fyth i Dŷ’r Cyffredin ddiddymu caethwasiaeth trwy’r holl wledydd oedd yn perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig. Ar 25 Mawrth 1807, pasiwyd Deddf Seneddol yn rhoi terfyn ar gludo a gwerthu caethweision gan ddinasyddion Prydain. Eto ni ddilëwyd caethwasiaeth fel y cyfryw hyd y flwyddyn 1833, a’r adeg honno y rhyddhawyd bob caethwas yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd Wilberforce fyw i weld hynny’n digwydd. Roedd wedi ymddeol o wleidyddiaeth yn 1825, a bu farw ar 29 Gorffennaf 1833, yn fuan ar ôl i’r ddeddf ddod i rym. Wrth gofio Wilberforce, cofiwn fod caethwasiaeth yn dal i fodoli heddiw. Mae brwydr Wilberforce yn bell o fod trosodd; rhaid codi llais dros y sawl a gaethiwir yn ein byd heddiw.
TAITH GERDDED GORFFENNAF
Rhyw fore dydd Iau melltigedig o wlyb ym mis Gorffennaf eleni cychwynnodd tri ar ddeg o aelodau dewr Minny Street ar daith fentrus o Bontneddfechan ar hyd lannau afon Nedd. Fe gerddom drwy fwd a llaid, drwy law a mellt o dan amgylchiadau difrifol nes cyrraedd Sgwd Gwladus ac ar ôl gweld ffasiwn ryfeddod troesom yn ôl ac ar ei’n pennau i gysgod a chroeso Yr Angel. Yno bu gwledda a chwerthin a thynnu coes ein gilydd am fod mor ddwl â mentro allan i gerdded yn y fath dywydd. Tawn i’n smecs! Pan ar fin gadael daeth un o’r dewrion â llun anferth o’r Sgwd a dynnwyd ym Mis Ionawr 1915. Llun o’r Sgwd wedi rhewi yn un talp anferthol a’r holl lwybrau o’i hamgylch yn drwm dan eira, ac yn berygl bywyd. O! Bois bach, dyna roi’n gwrhydri ni yn ei bersbectif. Ffarweliom oll â’n gilydd yn teimlo ychydig yn llai dewr ond yn edrych ymlaen yn arw iawn am y daith nesa, am yr hwyl ar sbri ac efalle am ychydig o haul.
Diolch i Ieuan ac Elfrys am drefnu’r antur a diolch i’m cyd gerddwyr am y sbort.
Gan y trydydd llipryn ar ddeg.
PORTH MADRYN
Y dydd heddiw yn 1865: yr ymfudwyr cyntaf yn cyrraedd Porth Madryn, Patagonia.
Llun: ITV News Cymru Wales
‘Nid tir addewid y taer weddïau’ (R. Bryn Williams 1902-1981) oedd dyffryn Camwy. Er mor arwrol y fenter, y teithio, y glanio: y gwir arwriaeth oedd meistroli’r grefft o ddyfrhau’r anialdir - dim ond 2 o’r 163 oedd â phrofiad amaethyddol - a datblygu perthynas iach â’r bobl frodorol.
(OLlE)
TÂN OER
Yn ystod yr hafau yng Nghlydach ers talwm fyddai mam-gu byth yn cynnau’r tân yn y bore, dim ond ei baratoi, neu ei osod; ei hymadrodd hi am hynny oedd ‘gwneud tân oer’.
Os digwyddai’r tywydd oeri fel y cerddai’r dydd rhagddo byddai’n rhoi matsien yn y ‘tân oer’ a chwythad iddo â’r fegin, a chyn pen dim byddai ganddi danllwyth o dân siriol.
‘Tân oer’ yw ein trefniadau ninnau fel eglwysi - nid bod hynny’n bychanu dim ar eu pwysigrwydd, nac ar y gwaith a gawsom i’w wneud - hen job lafurus ydi gosod tân.
Ond, nid yw ‘tân oer’ yn cynhesu neb. Ni fydd ein trefniadau ninnau o fudd i neb oni fendithir hwy gan Dduw. Ef, ac Ef yn unig fedr gynnau’r tân. Yr Ysbryd Glân yw’r fatsien a’r fegin - y tân a’r gwynt.
Gyda’r arafu a ddaw dros yr haf, gosodwn ‘tân oer’ go gyfer a mis Medi. Gweddïwn am i Dduw fendithio’r cyfan â gwres olau ei dân Ef.
(OLlE)
GWEDDI'R ARGLWYDD
Llun: Vera Law, 1923
Diolch am yr hyn oll yw Duw fel y’i mynegwyd yng Ngweddi’r Arglwydd:
Mae Duw’n Dad - Ein Tad ...
Mae’n Frenin - Deled dy Deyrnas ...
Llywodraethwr - Gwener dy ewyllys ...
Darparwr - Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol ...
Maddeuwr - ... maddau inni ein dyledion ...
Arweinydd - Ac nac arwain ni i brofedigaeth ...
Gwaredwr - ... eithr gwared ni rhag drwg ...
Iesu yw’r Amen i Ewyllys gwaredol y Tad - Gorffennwyd (Ioan 19:29)
(OLlE)
DYDD GŴYL IAGO APOSTOL
St James the Elder (1661) gan Rembrandt (1606-69)
Heddiw yw Dydd Gŵyl Iago Apostol. Y cyntaf o blith y deuddeg disgybl i farw’n ferthyr. Nid heb achos arbennig y dewisodd Herod Agrippa roi taw ar Iago a’i ladd â’r cleddyf. Er na wyddom y manylion y mae’n amlwg nad dyn y gellid ei anwybyddu oedd Iago, ac fe gredodd Herod ei fod yn rhoi ergyd lem i’r Eglwys ifanc wrth ladd Iago.
Pysgotwr oedd Iago wrth ei alwedigaeth, ac ‘roedd ef a’i frawd Ioan ymhlith y pedwar cyntaf a alwyd gan Iesu i fod yn bysgotwyr dynion. Heblaw bod yn aelod o’r Deuddeg dethol, ‘roedd hefyd yn aelod o’r cylch cyfrin hwnnw o dri - Pedr, Ioan ac yntau - a freintiwyd i fod yn llygad dystion o gyfodi merch ddeuddeg oed Jairws o farw’n fyw, ac o fod ar fynydd y Gweddnewidiad, yn ogystal â bod yng ngardd Gethsemane. Mae’n sicr i’r profiadau hynny adael argraff annileadwy ar ei feddwl.
Heriwyd y ddau frawd gan eu Meistr Iesu un tro i yfed o’r cwpan ‘roedd ef yn gorfod yfed ohoni; a rhoddasant ateb cadarnhaol pendant: ‘Gallwn’. Dengys merthyrdod Iago nad ymffrost wag oedd honno.
Ymdawelwch, a throwch i ddarllen Mathew 4:18-22 a Marc 10:35-40.
Tydi, Arglwydd, a wnaethost y cyffredin gynt yn anghyffredin, galw eto tystion i waith dy gariad, a nerth hwynt i barhau yn ffyddlon, doed a ddelo, costied a gyst. Amen.
(OLlE)
NEWYDDION Y SUL
Gwiw gennym groesawu yn ôl atom y bore heddiw y Parchedig Aled Davies. Mae Aled yn weinidog yn Chwilog ond mae’n siŵr mai ei gysylltiad â Chyngor yr Ysgolion Sul ddaw gyntaf i’r meddwl o glywed enw Aled! Cychwynnodd cysylltiad swyddogol Aled â’r Cyngor yn 1989 pan gafodd ei benodi yn Swyddog Datblygu Gogledd Cymru. Ymhen degawd ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor a thros y ddeng mlynedd ddiwethaf ef yw Cyfarwyddwr y Cyngor. Aled hefyd wnaeth ysgogi sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair - cyhoeddwr y mae arnom ni, fel pob eglwys yng Nghymru, gymaint o ddyled iddo am y llu o deitlau safonol a deniadol sydd ar gael ar ein cyfer.
Mae Cyngor yr Ysgolion Sul yn 50 mlwydd oed eleni, ac mewn cyfrol sy’n disgrifio’r hanes ceir y geiriau yma: Mae gweledigaeth, brwdfrydedd ac ynni dihysbydd Aled Davies yn sicr yn rhan allweddol o hyd a lled y gweithgarwch yma (sef yr oll sydd yn digwydd), ac mae gan Gristnogion Cymraeg Cymru, yn blant ac oedolion, ddyled aruthrol i Aled am lwyddiant y gwaith. Wrth groesawu Aled atom heddiw, cawsom fel eglwys gyfle i ddatgan ein gwerthfawrogiad ninnau o’i holl waith gyda Chyngor yr Ysgolion Sul.
 ninnau ym Mlwyddyn y Beibl Byw, aeth Aled â ni ‘nôl mewn amser! 2500 o flynyddoedd yn ôl i deyrnasiad Joseia Frenin. Mae Joseia’n cael ei gyfrif ymhlith y mwyaf o frenhinoedd Israel. Daeth yn frenin yn ifanc - yn 8 oed - a theyrnasodd am 31 o flynyddoedd.
Mae Joseia’n cychwyn ar ddiwygiad crefyddol na fu ei fath yn y genedl. Tynnodd, a gwthiodd ei bobl yn ôl at Dduw. Adferwyd eu perthynas â’r Duw byw.
Wedi’r dymchwel a’r chwalu a fu’n gymaint rhan o deyrnasiad Heseceia: Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda - dryllio’r colofnau, torri’r prennau Asera, a distrywio’r uchelfeydd a’r allorau; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr Arglwydd ei Dduw. (2 Cronicl 31: 1 & 20); mae Joseia’n bwrw ati i atgyweirio tŷ’r Arglwydd. (2 Cronicl 34:8) Ynghanol annibendod yr atgyweirio mae Hilceia’r offeiriad yn darganfod llyfr cyfraith yr Arglwydd a roddwyd trwy Moses (2 Cronicl 34:14) - yr hyn a adnabyddwn ni yn awr mae’n debyg fel Deuteronomium.
Wyddom ni ddim pryd, na sut aeth llyfr cyfraith yr Arglwydd ar goll. Efallai yn nyddiau Manasseh. Ofer ein dyfalu. Gwyddom ni ddim ... ond gwyddom sut y darganfuwyd y llyfr - a bod ei ddarganfod wedi cael effaith.
Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion … a’i holl galon ac a’i holl enaid, ac i gyflawni’r geiriau’r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn (2 Cronicl 34:32).
Gwelir y Beibl ym mhob man - mewn ysbyty, mewn carchar, mewn gwesty, ysgol, coleg ac o dan y pot geranium yn y parlwr. ‘Does yr un profiad yn hanes pobl, boed gamp neu remp, nad ydi’r llyfr hwn wedi’i gynnwys mewn rhyw adnod neu’i gilydd. Mae gan y llyfr hwn awdurdod trosom. Dyma’r bont sydd yn ein cysylltu â’r Gair sydd y tu hwnt i’n geiriau. Rhaid mentro ar Air Duw. Mawr ein diolch am genadwri Aled y bore hwn.
Un cyson ei chymwynas a ni fel eglwys oedd ein cennad heno: y Parchedig Lona Roberts (Caerdydd). Mae Lona yn aelod yn Eglwys y Crwys. Lona oedd llywydd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd llynedd ac mae’n parahau’n ffyddlon i gyfarfodydd y Cyngor a chyd-eglwysig. O ganlyniad, mae Lona yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer ohonom yma yn Minny Street.
Wedi bod yn gwylio cyfres o raglenni ar Ymerodraeth Rhufain yr oedd Lona, cyfres yr ysgolhaig a’r cyfathrebwr Mary Beard. I ddiwallu anghenion yr Ymerodraeth Rufeinig, ‘roedd rhai pethau angenrheidiol: aethom yng nghwmni Mary Beard i Sevilla, lle cynhyrchid olew olewydd ar raddfa fawr, ac i fynydd-dir de Sbaen lle’r oedd miloedd yn cloddio metal ar gyfer yr arian, y denarii. Aethpwyd hefyd i ddinas Effesus, porthladd prysur, lle trigai 250,000 o bobl, a’r rheiny’n siarad ieithoedd dirifedi. Yn Effesus, ‘roedd cyfoeth aruthrol fawr a hwnnw wedi’i seilio ar y fasnach mewn pobl. Cawsom sefyll gyda Mary Beard yn y farchnad lle byddech yn mynd i brynu rhywun a fyddai’n athro i’ch plentyn neu’n feddyg personol, neu’n un i drin eich gwallt. At rywrai yn y ddinas honno yr anfonodd yr Apostol Paul ei lythyr. Anogaeth sydd ynddo i fyw’r Efengyl, am fod y dyddiau’n ddrwg. Drosodd a thro, mae’n eu hatgoffa i osod cariad a maddeuant Duw yn Iesu yn sylfaen eu byw a gwreiddyn eu bod. Cawsant eu creu i fywyd o weithredoedd da ac nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond aelodau o deulu Duw (Effesiaid 2:19). Â ninnau heddiw, mynnai Lona, dan ormes hiwmanistiaeth falch ac ymwthgar, peth newydd a ffres yw pwyslais Paul ar berson Iesu a’i groes. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn, yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad (Effesiaid 4:2) - yn ninas Effesus! Mae T Eirug Davies (1892-1951; CFf:782) yn gosod y dasg ger ein bron:
Fy ngweddi fo, am gael
yr Iesu’n arglwydd im,
ac ef yn bopeth mwy
a mi fy hun yn ddim,
yn ddim ond llusern frau
i ddal ei olau ef …
Diolch am fendith y Sul.
TI
Ti ...
Ti?
PRYDFERTH wyt: … Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo (Salm 45:11; beibl.net).
Ti?
Ti’n UNIGRYW: Ti greodd fy meddwl a'm teimladau; a'm plethu i yng nghroth fy mam (Salm 139:13; beibl.net).
Ti?
Ti’n WRTHRYCH CARIAD Duw: ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti' (Jeremeia 31:3; beibl.net)
Ti?
Ti’n WERTHFAWR: Dim chi biau eich bywyd; mae pris wedi ei dalu amdanoch chi (1 Corinthiaid 6:19,20; beibl.net)
Ti’n BWYSIG: Ond dych chi'n bobl sydd wedi eich dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig (1 Pedr 2:9; beibl.net).
Ti?
CREADIGAETH NEWYDD ydwyt: Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! (2 Corinthiaid 5:17; beibl.net).
Ti …
Ti?
DIOGEL wyt: Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny (Philipiaid 4:13; beibl.net).
Ti?
TEULU: Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu! (Effesiaid 2:19; beibl.net)
Ti.
Ti?
EIDDO DUW: Fi piau ti! (Eseia 43:1; beibl.net)