• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

GWEDDI'R ARGLWYDD

July 26, 2016 Owain Evans

Llun: Vera Law, 1923

Diolch am yr hyn oll yw Duw fel y’i mynegwyd yng Ngweddi’r Arglwydd:

Mae Duw’n Dad - Ein Tad ...

Mae’n Frenin - Deled dy Deyrnas ...

Llywodraethwr - Gwener dy ewyllys ...

Darparwr - Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol ...

Maddeuwr - ... maddau inni ein dyledion ...

Arweinydd - Ac nac arwain ni i brofedigaeth ...

Gwaredwr - ... eithr gwared ni rhag drwg ...

Iesu yw’r Amen i Ewyllys gwaredol y Tad - Gorffennwyd (Ioan 19:29) 

(OLlE)

DYDD GŴYL IAGO APOSTOL

July 25, 2016 Owain Evans

St James the Elder (1661) gan Rembrandt (1606-69)

Heddiw yw Dydd Gŵyl Iago Apostol. Y cyntaf o blith y deuddeg disgybl i farw’n ferthyr. Nid heb achos arbennig y dewisodd Herod Agrippa roi taw ar Iago a’i ladd â’r cleddyf. Er na wyddom y manylion y mae’n amlwg nad dyn y gellid ei anwybyddu oedd Iago, ac fe gredodd Herod ei fod yn rhoi ergyd lem i’r Eglwys ifanc wrth ladd Iago.

Pysgotwr oedd Iago wrth ei alwedigaeth, ac ‘roedd ef a’i frawd Ioan ymhlith y pedwar cyntaf a alwyd gan Iesu i fod yn bysgotwyr dynion. Heblaw bod yn aelod o’r Deuddeg dethol, ‘roedd hefyd yn aelod o’r cylch cyfrin hwnnw o dri - Pedr, Ioan ac yntau - a freintiwyd i fod yn llygad dystion o gyfodi merch ddeuddeg oed Jairws o farw’n fyw, ac o fod ar fynydd y Gweddnewidiad, yn ogystal â bod yng ngardd Gethsemane. Mae’n sicr i’r profiadau hynny adael argraff annileadwy ar ei feddwl.

Heriwyd y ddau frawd gan eu Meistr Iesu un tro i yfed o’r cwpan ‘roedd ef yn gorfod yfed ohoni; a rhoddasant ateb cadarnhaol pendant: ‘Gallwn’. Dengys merthyrdod Iago nad ymffrost wag oedd honno.

Ymdawelwch, a throwch i ddarllen Mathew 4:18-22 a Marc 10:35-40.

Tydi, Arglwydd, a wnaethost y cyffredin gynt yn anghyffredin, galw eto tystion i waith dy gariad, a nerth hwynt i barhau yn ffyddlon, doed a ddelo, costied a gyst. Amen.

(OLlE)

NEWYDDION Y SUL

July 24, 2016 Owain Evans

Gwiw gennym groesawu yn ôl atom y bore heddiw y Parchedig Aled Davies. Mae Aled yn weinidog yn Chwilog ond mae’n siŵr mai ei gysylltiad â Chyngor yr Ysgolion Sul ddaw gyntaf i’r meddwl o glywed enw Aled!  Cychwynnodd cysylltiad swyddogol Aled â’r Cyngor yn 1989 pan gafodd ei benodi yn Swyddog Datblygu Gogledd Cymru.  Ymhen degawd ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor a thros y ddeng mlynedd ddiwethaf ef yw Cyfarwyddwr y Cyngor. Aled hefyd wnaeth ysgogi sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair - cyhoeddwr y mae arnom ni, fel pob eglwys yng Nghymru, gymaint o ddyled iddo am y llu o deitlau safonol a deniadol sydd ar gael ar ein cyfer.

Mae Cyngor yr Ysgolion Sul yn 50 mlwydd oed eleni, ac mewn cyfrol sy’n disgrifio’r hanes ceir y geiriau yma: Mae gweledigaeth, brwdfrydedd ac ynni dihysbydd Aled Davies yn sicr yn rhan allweddol o hyd a lled y gweithgarwch yma (sef yr oll sydd yn digwydd), ac mae gan Gristnogion Cymraeg Cymru, yn blant ac oedolion, ddyled aruthrol i Aled am lwyddiant y gwaith.  Wrth groesawu Aled atom heddiw, cawsom fel eglwys gyfle i ddatgan ein gwerthfawrogiad ninnau o’i holl waith gyda Chyngor yr Ysgolion Sul.

 ninnau ym Mlwyddyn y Beibl Byw, aeth Aled â ni ‘nôl mewn amser! 2500 o flynyddoedd yn ôl i deyrnasiad Joseia Frenin. Mae Joseia’n cael ei gyfrif ymhlith y mwyaf o frenhinoedd Israel. Daeth yn frenin yn ifanc - yn 8 oed - a theyrnasodd am 31 o flynyddoedd.

Mae Joseia’n cychwyn ar ddiwygiad crefyddol na fu ei fath yn y genedl. Tynnodd, a gwthiodd ei bobl yn ôl at Dduw. Adferwyd eu perthynas â’r Duw byw.

Wedi’r dymchwel a’r chwalu a fu’n gymaint rhan o deyrnasiad Heseceia: Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda - dryllio’r colofnau, torri’r prennau Asera, a distrywio’r uchelfeydd a’r allorau; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr Arglwydd ei Dduw. (2 Cronicl 31: 1 & 20); mae Joseia’n bwrw ati i atgyweirio tŷ’r Arglwydd. (2 Cronicl 34:8) Ynghanol annibendod yr atgyweirio mae Hilceia’r offeiriad yn darganfod llyfr cyfraith yr Arglwydd a roddwyd trwy Moses (2 Cronicl 34:14) - yr hyn a adnabyddwn ni yn awr mae’n debyg fel Deuteronomium.

Wyddom ni ddim pryd, na sut aeth llyfr cyfraith yr Arglwydd ar goll. Efallai yn nyddiau Manasseh. Ofer ein dyfalu. Gwyddom ni ddim ... ond gwyddom sut y darganfuwyd y llyfr - a bod ei ddarganfod wedi cael effaith.

Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion … a’i holl galon ac a’i holl enaid, ac i gyflawni’r geiriau’r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn (2 Cronicl 34:32).

Gwelir y Beibl ym mhob man - mewn ysbyty, mewn carchar, mewn gwesty, ysgol, coleg ac o dan y pot geranium yn y parlwr. ‘Does yr un profiad yn hanes pobl, boed gamp neu remp, nad ydi’r llyfr hwn wedi’i gynnwys mewn rhyw adnod neu’i gilydd. Mae gan y llyfr hwn awdurdod trosom. Dyma’r bont sydd yn ein cysylltu â’r Gair sydd y tu hwnt i’n geiriau. Rhaid mentro ar Air Duw. Mawr ein diolch am genadwri Aled y bore hwn.

Un cyson ei chymwynas a ni fel eglwys oedd ein cennad heno: y Parchedig Lona Roberts (Caerdydd). Mae Lona yn aelod yn Eglwys y Crwys. Lona oedd llywydd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd llynedd ac mae’n parahau’n ffyddlon i gyfarfodydd y Cyngor a chyd-eglwysig.  O ganlyniad, mae Lona yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer ohonom yma yn Minny Street.

Wedi bod yn gwylio cyfres o raglenni ar Ymerodraeth Rhufain yr oedd Lona, cyfres yr ysgolhaig a’r cyfathrebwr Mary Beard. I ddiwallu anghenion yr Ymerodraeth Rufeinig, ‘roedd rhai pethau angenrheidiol: aethom yng nghwmni Mary Beard i Sevilla, lle cynhyrchid olew olewydd ar raddfa fawr, ac i fynydd-dir de Sbaen lle’r oedd miloedd yn cloddio metal ar gyfer yr arian, y denarii. Aethpwyd hefyd i ddinas Effesus, porthladd prysur, lle trigai 250,000 o bobl, a’r rheiny’n siarad ieithoedd dirifedi. Yn Effesus, ‘roedd cyfoeth aruthrol fawr a hwnnw wedi’i seilio ar y fasnach mewn pobl. Cawsom sefyll gyda Mary Beard yn y farchnad lle byddech yn mynd i brynu rhywun a fyddai’n athro i’ch plentyn neu’n feddyg personol, neu’n un i drin eich gwallt. At rywrai yn y ddinas honno yr anfonodd yr Apostol Paul ei lythyr. Anogaeth sydd ynddo i fyw’r Efengyl, am fod y dyddiau’n ddrwg. Drosodd a thro, mae’n eu hatgoffa i osod cariad a maddeuant Duw yn Iesu yn sylfaen eu byw a gwreiddyn eu bod. Cawsant eu creu i fywyd o weithredoedd da ac nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond aelodau o deulu Duw (Effesiaid 2:19). Â ninnau heddiw, mynnai Lona, dan ormes hiwmanistiaeth falch ac ymwthgar, peth newydd a ffres yw pwyslais Paul ar berson Iesu a’i groes. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn, yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad (Effesiaid 4:2) - yn ninas Effesus! Mae T Eirug Davies (1892-1951; CFf:782) yn gosod y dasg ger ein bron:

Fy ngweddi fo, am gael

yr Iesu’n arglwydd im,

ac ef yn bopeth mwy

a mi fy hun yn ddim,

yn ddim ond llusern frau

i ddal ei olau ef …

Diolch am fendith y Sul.

 

TI

July 23, 2016 Owain Evans

Ti ...

Ti?

PRYDFERTH wyt: … Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo (Salm 45:11; beibl.net).

Ti?

Ti’n UNIGRYW: Ti greodd fy meddwl a'm teimladau; a'm plethu i yng nghroth fy mam (Salm 139:13; beibl.net).

Ti?

Ti’n WRTHRYCH CARIAD Duw: ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti' (Jeremeia 31:3; beibl.net)

Ti?

Ti’n WERTHFAWR: Dim chi biau eich bywyd; mae pris wedi ei dalu amdanoch chi (1 Corinthiaid 6:19,20; beibl.net)

Ti’n BWYSIG: Ond dych chi'n bobl sydd wedi eich dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig (1 Pedr 2:9; beibl.net).

Ti?

CREADIGAETH NEWYDD ydwyt: Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! (2 Corinthiaid 5:17; beibl.net).

Ti …

Ti?

DIOGEL wyt: Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny (Philipiaid 4:13; beibl.net).

Ti?

TEULU: Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu! (Effesiaid 2:19; beibl.net)

Ti.

Ti?

EIDDO DUW: Fi piau ti! (Eseia 43:1; beibl.net)

GENESARET

July 22, 2016 Owain Evans

Da a buddiol ‘Genesaret’ heddiw.

Ai dyma’r olaf tybed?

A fydd cyfle ym mis Medi i gwrdd eto, wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath am sgwrs a thrafodaeth werthfawr a da?

‘Roedd y 10 (gwiw gennym gael cwmni dau ymwelydd i’n plith heddiw) a ddaeth ynghyd yn falch o glywed bod y Gweinidog am barhau gyda’r cyfarfodydd hyn. Yn wir, ei fwriad heddiw oedd bwrw golwg yn ôl ar y cyfarfodydd, i weld sut ellid datblygu’r gyfres i'r dyfodol.

Cafwyd trafodaeth dda - trodd yr awr yn awr a hanner! Pendraw’r cyfan oedd penderfynu ar ddilyn trywydd pendant i gyfeirio’r drafodaeth, gan sicrhau’r hyblygrwydd angenrheidiol i beidio rhigoli’r drafodaeth honno. Clamp o gamp! Ond, awgrymwyd a chytunwyd ar syniad - daw manylion pellach maes o law.

Diolch i Terra Nova am y croeso cynnes arferol.

DYDD GŴYL MAIR O FAGDALA

July 22, 2016 Owain Evans

'Penitent Magdalene (1594) gan Caravaggio (1571-1610)

Heddiw ar Ddydd Gŵyl Mair o Fagdala y mae’n briodol i ni feddwl munud am y wraig ryfeddol hon. Gwell glynu wrth y ffeithiau Ysgrythurol na phwyso gormod ar y traddodiadau sydd, o’i chwmpas yn troi a throelli. Er enghraifft, nid oes sail ddigonol i’r dybiaeth mai hi oedd y bechadures yn nhŷ Simon y Phariseaid (y stori rymus a gofnodir yn Luc 7), na chwaith i’r traddodiad iddi unwaith fod yn ferch ifanc nwydwyllt!

Beth bynnag am ei gorffennol nid oes amau iddi fynd drwy ryw gyfnewidiad ysgubol. Ffordd yr Efengylau o ddweud hynny yw i’r Arglwydd Iesu fwrw allan saith o gythreuliaid ohoni. Gallai’r rheini olygu unrhyw gymysgedd o anhwylderau corfforol a meddyliol, ac o dan law’r Meddyg Mawr fe aeth Mair yn greadigaeth newydd.

Ni allai hithau ddiolch digon iddo, ac ni fu disgybl ffyddlonach i Iesu ar hyd ei weinidogaeth. ‘Roedd hi ymhlith yr olaf wrth y groes, ac yn o’r cyntaf wrth y bedd gwag ar fore’r trydydd dydd. Iddi hi yr ymddangosodd y Crist Atgyfodedig gyntaf, a gwefreiddiol yw’r hanes yn y darlleniad amdano ef yn ei chyfarch wrth ei henw Mair yn yr ardd. Ni allai neb arall ynganu ‘Mair’ yn union fel Iesu!

Ymdawelwch am ychydig a darllen yr hanes - Ioan 20:1-18 -; ystyriwch yn fyfyrgar fel na all neb arall ynganu ein henw ninnau yn union fel Iesu.

Arglwydd Dduw, am bob peth a wnaeth dy gariad arnaf ac ynof diolchaf yn ostyngedig; a’m dyhead yw am gael treulio ‘mywyd er dy glod. Amen.

(OLlE)

Y CLWB NIWCLEAR

July 21, 2016 Owain Evans

Llun: www.bbc.co.uk

Mae Gogledd Korea yn aelod o glwb rhyngwladol dethol iawn: y Clwb Niwclear. Oni bai am fygythiad tawel cyson aelodau eraill o’r clwb hwnnw, Tsiena a’r Unol Daleithiau yn arbennig, buasai Kim Jong-un - teyrn Gogledd Korea - wedi ildio i’r demtasiwn o daflu un o’i fomiau newydd dros y ffin i ladd miloedd ar filoedd o bobl Dde Korea.

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid cadw arfau niwclear y Deyrnas Unedig gyda mwyafrif o 355 o blaid. Onid da hyn?

Ar ddechrau ei arlywyddiaeth soniodd Barack Obama am the Zero Option, sef pawb yn ddiwahân yn diarfogi, yn raddol. ‘Roedd yn rhaid i Ogledd Korea a’i tebyg wneud hynny cyn neb arall. Beth allai fod yn well, na byd heb arfau niwclear? Ond ...

Wrth benderfynu a ddylid casglu arfau niwclear ai peidio onid prif gonsyrn cenedl neu gyfundrefn wleidyddol yw faint o’r cymdogion sydd ag arfau tebyg? Mae'r Clwb Niwclear yn bodoli, a chan bod y Clwb Niwclear yn bodoli a rhai aelodau ohoni'n gryfach na’r gweddill, pa werth gwleidyddol ac economaidd sydd i genedl arall ymuno â’r Clwb? Bydd gan rywrai eraill bob amser gwell arfau, a mwy ohonynt. Ond, pe bai holl aelodau’r Clwb Niwclear yn dechrau diarfogi, oni fuasai hynny’n annog gwledydd a chyfundrefnau eraill i ddechrau pentyrru arafu iddynt hwy eu hunain?

Dwi ddim am gadw Trident, ond mae gen i ofid am fod hebddo. Buasai'n braf meddwl, pe bai'r Deyrnas Unedig, er enghraifft, yn gosod ei harfau niwclear o’r neilltu, y buasai Gogledd Korea, er enghraifft yn gwneud yr un modd. Efallai buasai hynny'n digwydd ... efallai. Wrth weld aelodau’r Clwb Niwclear, un ac oll, yn gosod eu harfau erchyll o’r neilltu, onid dyna'r amser a chyfle delfrydol i Kim Jong-un hel arfau niwclear?

Credir mai aelodau’r Clwb Niwclear sydd yn plismona pawb arall yn y byd - mae ganddynt fwy a gwell arfau na allai’r darpar aelodau obeithio amdanynt, a fwy o arfau na sydd gan yr aelodau newydd. Os dderbyn y ddadl honno, da o beth yw canlyniad y bleidlais nos Lun.

Ond ...

Efallai nad 'nhw' yw'r drafferth go iawn. Er mor real y gofid am Ogledd Korea, Kim Jong-un, Rwsia, Vladimir Vladimirovich Putin, a'r mudiadau terfysgol rheini sydd ar ei deng ewin yn ceisio cael gafael ar arf niwclear, credaf mai gwraidd y drafferth yw ansicrwydd y Deyrnas Unedig. Os oes gennym arfau niwclear cawn berthyn i glwb o genhedloedd cryf a chyfoethog tebyg. Cawn blismona cenhedloedd eraill, ac ar adegau ei bygwth. Perthynwn i glwb dethol o genhedloedd sydd yn cael eu parchu’n fawr. Mae'r penderfyniad nos Lun yn golygu ein bod yn cael parhau i fod yn aelod o'r Clwb Niwclear tan y 2060au.

Mae system Trident yn sicrhau i'r Deyrnas Unedig parch, safle a grym ymhlith y cenhedloedd. Os mai dyna’r gwir reswm dros adnewyddu Trident, yr hyn a wnaed oedd dangos i Kim Jon-un a'i debyg maen nhw sydd yn iawn: yr unig ffordd i fod yn genedl 'go iawn' - cenedl a berchir gan genhedloedd eraill - yw sicrhau cyflenwad da o arfau niwclear.

Daeth amser i aelodau’r Clwb Niwclear ddarganfod gwell ac amgenach sylfaen i barch a hunan-barch cenedlaethol. Dyna pam, er bod gen i ofid am fod hebddo, y bu'r penderfyniad nos Lun i adnewyddu Trident yn gymaint o siom.

(OLlE)

20/21 GORFFENNAF 1969

July 20, 2016 Owain Evans

Wedi glanio’n ddiogel ar y lleuad, y dydd heddiw yn 1969, bu oedi am ychydig oriau cyn i Neil Armstrong (1930-2012) gamu allan o’r llong ofod ‘Apollo 11’, a’i draed yn sangu llwch y lleuad. 20 munud wedyn daeth Edwin ‘Buzz’ Aldrin (g.1930) i ymuno ag Armstrong. Yn ddiweddarach, cofnododd Aldrin yr hyn a ddigwyddodd yn ystod yr ychydig funudau rheini:

There are many thousands of things that God and man have made here on earth and, before I blasted off, I got thinking and wondering what I would choose to take to the moon. So I said: What’s our greatest treasure here on earth? And I thought: It’s Christ’s gift of himself. So, shortly after touchdown, I opened two little plastic packages; one containing bread and the other, wine. I poured the wine into the chalice which our home church had given me, and I read what Saint John tells us that Jesus said: ‘I am the vine, you are the branches.’ In the one-sixth gravity of the moon the wine curled slowly and gracefully up the side of the cup. It was interesting to think that the very first liquid ever poured on the moon and the very first food eaten there were what Christ chose when he gave himself to be our close friend.

(0LlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021