• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

PREGETH BORE SUL

June 19, 2016 Owain Evans

’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21)

Ymgais i ymateb i Orlando, Jo Cox a’r Refferendwm Ewropeaidd

Eglwys Minny Street: cynulleidfa cymharol niferus a chymysg o Bobl Dduw. Rhai yn debycach i’w gilydd nag eraill; neb yn hollol yr un fath. Er yr amrywiaeth, wrth ddod ynghyd, mae pawb yn un ac yn blant yr un Duw Dad. Yr un enw sydd ar bob gwefus; un Ysbryd Glân yn creu un gymdeithas o gredinwyr ac yn ysbrydoli’r addoliad a offrymir. Yn rhinwedd ein Ffydd, ‘rydym oll yn un. Amrywiaeth mewn unoliaeth. Onid dyma’r ddelfryd ar gyfer ein cenedl? Nid dileu’r gwahaniaethau sy’n rhoi i bob bro ac ardal, i bob crefft a chelfyddyd, ac i bob dawn a diddordeb ymhlith ei phobl ei arbenigrwydd gwerthfawr ei hun, ond creu un ysbryd gwladgarol iach sy’n esgor ar oddefgarwch a pharch pawb at ei gilydd, a chydweithrediad brwd pob un er lles pawb. Onid yr un y ddelfryd ar gyfer yr Eglwys hefyd? Nid dileu’r amrywiol safbwyntiau a phwysleisiau, ond chwalu’r muriau o ragfarn, drwgdybiaeth a chystadleuaeth sy’n parhau i’n cadw ar wahân. Cael pawb sy’n cyffesu enw Crist i ymuno’n un gymdeithas o gariad a chydweithrediad ar sail ein teyrngarwch i’r Un Arglwydd. Yr undod y gweddïodd Iesu amdano: ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. (Ioan 17:21-22). Gwreiddiwyd yr egwyddor o amrywiaeth mewn unoliaeth yn nirgelwch bywyd y Duwdod ei Hun. Undod cymeriad, pwrpas a chariad yw’r undod y geilw Efengyl Crist arnom i’w feithrin a’i amlygu fwyfwy ... ym mherthynas Cristion gyda cyd-Gristion, Cymro gyda chyd-Gymro, a dyn gyda’i gyd-ddyn.

Yn y cyswllt eglwysig, gwelir dwylo’n ymestyn at ei gilydd ar draws ffiniau enwadol. Boed i hyn barhau. Daliwn ati i estyn llaw at ein gilydd, gan ganolbwyntio’n sylw nid ar y pethau sydd yn ein gwahanu, ond ar yr Arglwydd byw, bendigedig sydd yn ein huno. A gawn ni, Gymry, o bob bro a chefndir, o bob plaid, iaith a diwylliant estyn llaw i’n gilydd fel Cymry sy’n caru lles ein cenedl ac yn dymuno’i ffyniant ym mhopeth sy’n cyfrannu at fywyd cenedlaethol llawn a dyrchafol? Boed i ni gydgerdded, cydsefyll, cyd-dynnu, cyd-ddyheu a chydymdrechu i ddiogelu’r gwerthoedd gwâr a wnaeth ein cenedl yr hyn ydyw a’i gwneud yn ardderchocach fyth. Un teulu ydym; Teulu Duw. Parhawn i estyn ein dwylo at bobl o bob cenedl, llwyth ac iaith. Boed i ni gyfarch ein cyd-ddyn, beth bynnag yw lliw ei groen, ei iaith, ei gredo, neu ei amgylchfyd gwleidyddol a diwylliannol. Estynnwn ein llaw i ddarganfod a meithrin ein dynoliaeth gyffredin mewn cydymdrech yn erbyn pob gormes sy’n mathru hawliau ac urddas cynhenid dyn.

... ar iddynt oll fod yn un ... Gweddi Crist. Ei weddi ar ran ei Eglwys, ond hefyd am gymdeithas unedig oddi mewn ac ar draws ffiniau cenedl, undeb rhwng cenhedloedd a’i gilydd, a’r cyfan wedi’u cynnwys yn y dyhead a’r bwriad: ’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. Bwriad achubol yw bwriad Duw. Mae angen ein hachub arnom; oni welwyd tystiolaeth o hynny yn Orlando? Bwriad achubol Duw yng Nghrist yw’r unig rym sy’n ddigon nerthol i droi’r weledigaeth ... ar iddynt oll fod yn un … yn ffaith. Dim ond grym cariad achubol all oresgyn yr holl bethau sy’n gwahanu pobl oddi wrth Dduw ac oddi wrth ei gilydd. Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ninnau - yn ein perthynas gyda’n gilydd yn Eglwys Minny Street; yn ein perthynas gyda’n gilydd fel Eglwysi a chymunedau ffydd; ac yn ein perthynas gyda’n gilydd fel teulu o genhedloedd: ... ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.

Efengyl tangnefedd, O! rhed dros y byd: a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd ..."

(Eifion Wyn, 1867-1926; C.Ff: 844)

‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21) Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ni: Pobl Crist, Cymru a Chenhedloedd byd.

TE 'RITZ'

June 18, 2016 Owain Evans

Cynhaliwyd heddiw, yng Nghanolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd, Te Pnawn a oedd llawn cystal ag Afternoon Tea at The Ritz. Pnawn braf o Haf; cwmni bychan ond diwyd wedi bod yn drwyadl eu paratoadau: Bara Brith, pice bach, sgons hufen tolch a jam, teisennau bychan siocled, amrywiol frechdanau blasus a ffrwythau; y cyfan oll wedi ei weini’n gymen i lond ystafell o bobl - ifanc, hŷn, a’r hynaf heddiw yn 90 ymhen ychydig ddyddiau! Gan fod sawl pen-blwydd wedi, ac ar fin digwydd 'roedd yn rhaid canu ‘Pen-blwydd Hapus’ i 7 o’r cwmni! Cafwyd pnawn o gwmnïa braf, ac wrth fod y byrddau dechrau gwacau a hwyl y pnawn yn tawelu mymryn, dyma lond bwrdd o blant a phobl ifanc yr eglwys yn cyrraedd … a’r hwyl eto’n fwrlwm!

Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu, paratoi a gweini.

Codwyd dros £550 i elusen yr Eglwys eleni: Beic i Bawb - Pedal Power.

 

BABIMINI

June 17, 2016 Owain Evans

Cwmni da a dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon. Y cyfarfod nesaf (1/7) fydd yr olaf y tymor hwn, â'r hwyl a bwrlwm yn ail-ddechrau ym mis Medi.

FFYDD YN GWEITHIO TRWY GARIAD

June 16, 2016 Owain Evans

... ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM)

Os ffydd yw’r olwyn ddŵr, cariad yw llif y dŵr.

… ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM).

Cysylltir tri gair holl bwysig - Ffydd, Cariad a Gwaith. ... ffydd yn gweithio trwy gariad. Gwaith, Cariad a Ffydd: tri pheth a fu’n allweddol bwysig ym mywyd pobl Dduw erioed.

Meddyliwch, er enghraifft am Isaac yn yr adnod hon: Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno … (Genesis 26:25 BCN).

Rhoi datganiad o’i ffydd oedd Isaac wrth godi allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD. Wrth osod pabell mae Isaac yn pwysleisio gwerth y ‘garreg aelwyd’ a chwlwm cariad; a gwaith oedd cloddio pydew neu ffynnon - ‘roedd dŵr yn amod elfennol bodolaeth.

Campwaith Isaac oedd dangos inni'r tri pheth sydd yn allweddol bwysig i fywyd cyflawn - Ffydd, Cariad a Gwaith.

Sylwch mai’r allor - ffydd - gafodd y sylw cyntaf. Ail bethau oedd pabell a ffynnon mewn cymhariaeth. Nid ychwanegiad at ei fywyd oedd ei grefydd, ond sylfaen ei fywyd. Roedd Isaac wedi cael ei flaenoriaethau’n iawn.

Ymhellach, gofalodd Isaac osod y tri yn ymyl ei gilydd. Dyna ergyd yr yno a ddigwydd deirgwaith.

… adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno …

Dim o daith oedd o’r allor i’r babell ac o’r babell i’r pydew! Fe ddiogelwyd ei gartref a’i waith am fod cysgod ei grefydd drostynt ill dau. Diffodd a wna tân ein haelwydydd, a’n gweithgarwch a phrysurdeb oni chyneuwn hwynt â thân yr allor.

... ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM).

Ffydd: llawforwyn y llifeiriant.

(OLlE)

EVELYN UNDERHILL

June 15, 2016 Owain Evans

"We spend most of our lives conjugating three verbs: to want, to have and to do. But none of these verbs has any ultimate significance until it is transcended by and included in the fundamental verb - to be." Evelyn Underhill (1875-1941)

Heddiw, yn 1941, bu farw’r bardd a chyfrinydd Evelyn Underhill - bu’n un o’r lleisiau Cristnogol mwyaf dylanwadol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Dyma un o’i gweddïau hithau yn weddi i ni heddiw:

Arglwydd, cynorthwya fi i ystyried fy enaid bychan, di-siâp, amherffaith sy’n destun cyson i’th weithred greadigol, gariadus yma’n awr, ymhlith holl frys fy mywyd beunyddiol a’i uchelderau a’i iselderau, ei bryderon a’i densiynau, a’i gyfnodau diflas, anysbrydol, ac yn rhoi iddo, drwy’r pethau hyn, ei ffurf ordeiniedig a’i ystyr. Felly yn holl ddigwyddiadau fy mywyd, hyd yn oed y mwyaf dibwys, teimlaf dy bwysedd, Arlunydd Creadigol. Amen

Evelyn Underhill (1875-1941)

 

 

ORLANDO

June 14, 2016 Owain Evans

Mae perthynas pobl yr Unol Daleithiau â gynnau yn anodd gennym i ddeall.

Yn 2008, cafwyd penderfyniad gan y Goruchaf Lys yno, bod yr Ail Welliant, the Second Amendment sydd yn darllen fel hyn: A well regulated Militia, being necessary to the security of a free State, the right of the people to keep and bear Arms, shall not be infringed yn gwarantu hawl i’r unigolyn cyfrifol, iach ei feddwl, ufudd i’r gyfraith i berchen gwn ei hun. Rhestrir amodau a chyfyngiadau amlwg a chall.

Ers blynyddoedd lawer bu’r National Rifle Association (NRA) yn prysur naddu’r amodau a chyfyngiadau rheini’n llai a llai; maent yn credu bod y fath amodau a chyfyngiadau’n yn tarfu ar ei hawliau cynhenid hwythau i ddwyn arfau er amddiffyn ei hunain, anwyliaid ac eiddo.

Wrth geisio ymateb i’r lladd yn Orlando, cydiodd yr Arlywydd Obama yn hyn o ofid:

We are also going to have to make sure that we think about the risks we are willing to take by being so lax in how we make very powerful firearms available to people in this country. And this is something that obviously I’ve talked about for a very long time.

My concern is that we start getting into a debate, as has happened in the past, which is an either/or debate. And the suggestion is either we think about something as terrorism and we ignore the problems with easy access to firearms, or it’s all about firearms and we ignore the role -- the very real role that that organizations like ISIL have in generating extremist views inside this country. And it’s not an either/or. It’s a both/and.

https://www.whitehouse.gov/blog/2016/06/12/president-obama-tragic-shooting-orlando

Yn sgil Orlando, nid oes geiriau cymwys. Ein gwaith cyntaf yw ymbwyllo, ymdawelu, a cheisio fel ag y medrwn, o bellter byd, i gynnal y galarus â’n gweddïau.

Ond, mae angen wedyn i geisio clywed a datgan yr hyn a ddywed ein ffydd am hawliau dynol. Y drafferth amlwg yw bod y Beibl yn sôn dim am ynnau, ond ceir adnod yn llyfr Deuteronomium sydd yn sôn am adeiladu tŷ newydd. Dwi’n credu bod cysylltiad.

Yn ein hymwneud ag eraill, myn y Beibl mae dyletswydd nid hawl sydd allweddol. Nid Beth sydd gen i hawl i wneud? yw’r cwestiwn allweddol, ond Sut mae’r hyn dwi’n dymuno cael gwneud yn mynd i effeithio ar bobl eraill? Cymer y Beibl yn gwbl ganiataol bod amodau a chyfyngiadau i ryddid personol. Maen prawf pob rhyddid, ydyw parodrwydd i’w ganiatáu i eraill - nid ei hawlio i ni ein hunain, na’i ddefnyddio i darfu ar ryddid eraill.

Yn yr ysbryd hwnnw, mae Deuteronomium yn cynnwys yr anogaeth hynod ymarferol hwn: Pan fyddi’n adeiladu tŷ newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i’th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rywun yn syrthio oddi arno (22:8 BCN).

Neges syml ddigon sydd i’r adnod hon, ond allweddol; cyfoes a thra pherthnasol. Mae’r hawl i berchen gwn yn bwysig i nifer fawr o ddeiliaid yr Unol Daleithiau - dyma’r tŷ - ond mae to’r tŷ yn beryglus, felly rhaid gosod canllaw diogel o ddeddfwriaeth bendant yn ei le, i amddiffyn eraill.

Mae a wnelo’r adnod nid dim ond â’r hawl i berchen gwn! Beth bynnag yw’r tŷ yr ydym yn adeiladu - yn bersonol/gymunedol, yn wleidyddol/economaidd, yn grefyddol/ddiwylliannol - os oes bygythiad i’n cymdogion, dylid gwneud yr hyn oll a ellir ei wneud i ddileu’r perygl hwnnw. Ynglŷn â chymhwyso’r neges, holed pob un ef ei hun.

(OLlE)

MAE'R BEIBL YN GLIR ... OND, WEDYN ...

June 13, 2016 Owain Evans

MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw’r Moabiaid. Nid yw’r Moabiaid, na neb o’u disgynyddion i fynychu cynulleidfa ARGLWYDD … (Deuteronomium 23:3 BCN)

OND, WEDYN … daw stori Ruth - Ruth y Moabes … ond glynodd Ruth wrthi … "Paid â'm hannog i’th adael na throi’n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di’r aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau." (Ruth 1:14b,16 BCN)

MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw pobl gwlad Us. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o’m llaw, a rho ef i’w yfed i’r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian … " Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais … holl frenhinedd gwlad Us … (Jeremeia 25:15,16,20 BCN).

OND, WEDYN … Yr oedd gŵr yng ngwald Us o’r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg (Job 1:1 BCN).

MAE’R BEIBL YN GLIR: Dim eunuchiaid: Nid yw neb sydd wedi ei ysbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa’r ARGLWYDD (Deuteronomium 23:1).

OND, WEDYN … daw stori am Philip a’r Eunuch o Ethiopia … aethant ill dau i’r dŵr, Philip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd ef (Actau 8:38 BCN).

MAE’R BEIBL YN GLIR: Drwg a chas yw’r Samariaid: Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu’r un llestri â’r Samariaid (Ioan 4:9 BCN).

OND, WEDYN … mae Iesu’n adrodd stori am ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron … Ond death teithiwr o Samariad ato, pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. (Luc 10:30,33 BCN)

Fe all fod y stori’n dechrau gyda rhagfarn, cas a gwahaniaethu, ond ... mae Ysbryd Duw yn symud pobl - symud pobl o hyd - i gyfeiriad croeso, derbyniad a chadarnhad.

NEWYDDION Y SUL

June 12, 2016 Owain Evans

Gwrandawiad astud cynulleidfa'r Oedfa Foreol Gynnar

Bwrlwm yn dilyn bwrlwm! Bendith at fendith, yn arwain! Wedi bendith fyrlymog cyngerdd ‘Ny Ako’ neithiwr, da oedd gweld y festri eto’n llawn i’r Oedfa Foreol Gynnar - bendith a hwyl a gafwyd dan arweiniad diogel Glyn. Thema’r Oedfa oedd llond silff o lyfrai o fewn un clawr. Y cwbl yn un gyfrol, yn storiâu a hanes, yn gyfraith a llythyrau, barddoniaeth a chwedlau; llyfrau doethineb a serch. Llyfr gwahanol i holl lyfrau’r byd; llyfr mwy na holl lyfrau’r byd. Diolch am ei gael yn y Gymraeg - rhoes urddas i’n hiaith a’i chadw’n fyw. Trwy gyfrwng nodiadau A1 cymen, gweladwy a dealladwy gan bawb, bu Glyn yn esmwyth drafod 5 cwestiwn mawr:

  • Beth yw’r Beibl?
  • Pam fod y Beibl yn debyg i Lyfrgell?
  • Sut cafodd y Beibl ei ysgrifennu?
  • Pryd cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg?
  • Beth yw neges y Beibl?

(Cododd sawl cwestiwn arall yn sgil y 5 uchod, gan gynnwys: 'Faint o eiriau sydd yn y Beibl?' Nodwyd yr ateb gan Glyn ar waelod y dudalen hon o nodiadau.

Mawr ein diolch i Glyn am ein hatgoffa nad cyffur ond cyffro yw Gair Duw; sicrwydd nid swcwr a geir yn hwn. Pam? Mae’r geiriau bob un (810,697 ohonynt) yn cyfeirio at y Gair: Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ein unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16 BCN). Cawsom ein hatgoffa o’r union un neges trwy gyfrwng arall y bore heddiw: graffito ar ddrws ffrynt y capel! Un gair, y pwysicaf un! Gwareded Duw ni rhag anghofio mai gwraidd ein holl weithgarwch Cristnogol, a sail ein ffydd, yw adnabod, cydnabod a pharchu Iesu.

Graffito ar ddrws ffrynt y capel

Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol.

Ym mis Medi 2015, buom yn trafod emyn o eiddo David Jones (1805-68; CFf:76):

Mae Duw yn llond pob lle,

presennol ymhob man ...

Mis Hydref: dyhead David Charles (1762-1834; CFf:686):

O! Iesu mawr, rho d’anian bur

i eiddil gwan mewn anial dir ...

Mis Tachwedd: J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944; CFf:691)

Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri:

un o’th eiddilaf blant wyf fi ...

Saith mis yn ddiweddarach, yr emyn nesaf yn y gyfres hon o bregethau! Canolbwynt ein sylw yn yr Oedfa Foreol oedd emyn George Rees (1873-1950; CFf:541).

O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...

Daeth Iesu atom i wireddu breuddwyd Duw o gymod, undod a thangnefedd. Unig iawn ydoedd:  ... heb neb o’th du. Ond, wrth gerdded y daith unig hon, gwelir fflam anniffoddadwy cariad yn llosgi yn Iesu: ... cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam ... Methodd angau â gwahanu Iesu oddi wrth Dduw, nac oddi wrthym ni.

Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud drwy boenau mawr ...

Gwyddai Iesu nad oedd modd i alw afradloniaid tua thref heb boen a gofid. Gwyddai mai dim ond ochain dwys, (d)drylliog lef a (ph)oenau mawr ... dim ond drwy gwyro lawr dan faich gofidiau’r byd y byddai'n bosibl i Eneiniog Duw alw’r afradloniaid tua thref.

Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl ...

O edmygedd, i ryfeddod ... i weddi. Peri rhywbeth i’r emynydd blygu mewn gweddi addolgar wrth draed Iesu: ... gwelais di dan faich gofidiau’r byd/yn gwyro i lawr ... Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try/o’m crwydro ffôl i’th ddilyn ..., ac nid ar hyd llwybrau esmwyth gwastad, ond ar hyd llwybrau dyrys, du ... heb syllu’n ôl. Gwell cerdded llwybrau dyrys yng nghwmni Iesu na cherdded llwybrau esmwyth hebddo.

Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ngrym ...

Iesu yw’r ffordd. ... ymlaen y cerddaist; nid bodloni ar ddangos y ffordd wna Iesu, ond bod yn ffordd. Ofer ein hymdrechion gorau heb fendith y Gorau Un: Pa les ymdrechu, f’Arglwydd hebot Ti, a minnau’n ddim?

Bu Cian, ŵyr 10 mlwydd oed ein horganydd y bore ‘ma, yn dawel brysur yn ystod y bregeth. Ar derfyn yr oedfa, cyflwynwyd ffrwyth ei lafur i’r Gweinidog. Wel, am ddefnydd da o 'Post It Notes'!

Gwaith Cian

Yn ei gyfarchiad Nadolig (Y Tyst, Rhagfyr 24/31 2015) soniai’r Parchedig Ddr Geraint Tudur fod 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod, meddai ‘yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i fwynhau. Gobeithiwn y bydd pob eglwys a phob Cyfundeb yn gwneud rhywbeth fel rhan o’r ymgyrch hon gan gofio fod gennym dri chyfieithiad o’r Beibl bellach, William Morgan a’i ddisgynyddion, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net.’

Mae ‘Blwyddyn y Beibl Byw’ yn cynnig cyfle i drin a thrafod cwestiynau ynglŷn â natur y traddodiad sydd yn y Beibl, ynglŷn â dulliau darllen, trafod a dehongli’r Beibl; ynglŷn â safle ac awdurdod y Beibl; ac ynglŷn â chymhwyso neges y Beibl i Gymru heddiw. (Da oedd bod Oedfaon y dydd heddiw yn dechrau a gorffen gan ymdrin â’r Beibl).

Heno, bu’r Gweinidog yn bwrw golwg dros dair her y gellid mynd i’r afael â nhw ym Mlwyddyn y Beibl Byw. Her Astudiaeth; Her Awdurdod a Her Addasrwydd.

Her Astudiaeth. Amod profi gorau’r Beibl yw treiddio iddo’n ddyfnach. Byddwn agored i ddarllen y Beibl gan ddefnyddio'r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Ni ddylid ceisio ei warchod rhag unrhyw ganlyniad anffafriol a all ddod o’r ysgolheictod hwnnw. Os gwneud hynny, cyll ein darllen a’n dadansoddi bob pwrpas.

Her Awdurdod. Pa fath o awdurdod a berthyn i’r Beibl? Perthyn ei awdurdod nid i’w natur na’i gymeriad, ond i’r digwyddiadau sydd y tu ôl iddo. Tra bod y Beibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau, nid mewn cofnodi’n fanwl hanes y digwyddiadau hynny y mae ei brif ddiddordeb, ond yn hytrach mewn cyflwyno’r iachawdwriaeth a amlygir yn y digwyddiadau.

Her Addasrwydd. Yr unig ffordd i ddarganfod a rhannu addasrwydd y Beibl yw mynd i’r afael â’r Beibl. Trwy ddarllen a thrafod y Beibl y gallwn dreiddio at y neges sy’n addas ac yn berthnasol i ni heddiw.

Nid yw ymwneud â’r Beibl yn hawdd. Mae her ynglŷn â’i ddarllen a’i drafod. Cwyd her ynglŷn â’i awdurdod; ac mae cyflwyno ei neges mewn ffordd addas yn anodd. Hawdd dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Rhaid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus gyda'i gilydd, a thrwy hynny, rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau.

Offrymwyd y weddi heno gan Gill.

Diolch am fendithion y Sul.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021