'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (33)

'Noli Me Tangere' y Brawd Angelico (c.1399-1455)

Noli Me Tangere’ y Brawd Angelico (c.1399-1455); San Marco, Florence. 

Noli Me Tangere’ y Brawd Angelico (c.1399-1455); San Marco, Florence. 

Na chyffwrdd â mi (Ioan 20: 17 WM). Dyma ddehongliad y Brawd Angelico: bedd gwag; Mair ac Iesu, coed iraidd a gardd yn ei flodau. Ar ysgwydd Iesu mae rhaw. Pam? Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal." (Ioan 20:15 BCN).

Mae Iesu’n dawel wahardd Mair rhag cyffwrdd ag ef. Sylwch ar goesau a thraed Iesu: maent wedi ‘croesi’ fel petai, y droed dde o flaen ei droed chwith, gan awgrymu symud. Mae Mair yn symud tuag at Iesu, ac Iesu yn symud oddi wrthi, ond ... er bod Iesu’n camu oddi wrthi, mae’n parhau i gadw golwg arni. Yn hyn, mae Angelico’n llwyddo i grisialu’r foment fawr honno: Meddai Iesu wrthi, "Mair." Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, "Rabbwni". (Ioan 20:15,16 BCN).

Mae’r ardd yn ei flodau. Yn ei flodau mae bywyd bellach: Cododd Iesu! Ond, nid jest blodau cyffredin ydynt.

O syllu’n ofalus, talpiau o liw yw’r ‘blodau’ hyn: smotiau coch. Mae cysylltiad rhwng ôl yr hoelion yn nhraed Iesu â’r blodau; mae Iesu'n gadael ôl ei gariad dioddefus buddugoliaethus yn yr ardd. Lledu mae ei gariad, gan adael ei farc ar y ddaear faith i gyd.

Aed sôn am waed yr Oen ar led

y ddaear faith i gyd:

gwybodaeth bur a chywir gred

ymdaened dros y byd.

(Thomas Jones, 1769-1850l CFf.488)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (3)

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Iesu’n Ymddangos i Fair Magdalen (Ioan 20:11-18), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:

Noli Me Tangere gan y Brawd Angelico (c.1399-1455)

Noli Me Tangere gan y Brawd Angelico (c.1399-1455)

Noli Me Tangere gan David Wynne (1926-2014)

Noli Me Tangere gan David Wynne (1926-2014)

Noli Me Tangere Nicolas Maureau (gan. 1969)

Noli Me Tangere Nicolas Maureau (gan. 1969)

Noli Me Tangere Patricia Miranda (gan. 1965)

Noli Me Tangere Patricia Miranda (gan. 1965)

Noli Me Tangere Seyed Alavi (gan. 1973).

Noli Me Tangere Seyed Alavi (gan. 1973).

Cysur yw gwybod mai’r tyst cyntaf i gyfarfod â’r Crist byw oedd Mair Magdalen, merch yr oedd ei bywyd nes iddi gael ei gwaredu gan Iesu wedi bod yn druenus iawn (gw. Luc 8:2). Dyma fesur y trawsnewid y gall Crist ei effeithio mewn bywyd person.

Dal i wylo ‘roedd Mair, hyd yn oed wedi iddi ganfod y bedd gwag, ac ni pheidiodd nes iddi ddod wyneb yn wyneb â’r Crist byw a’i adnabod.

Nid Mair oedd yr unig un o gyfeillion Iesu a fethodd â’i adnabod ar unwaith pan ymddangosodd iddynt ar ôl ei atgyfodiad (cymh. 21:4 a Luc 24:16). Ym mhob achos mae’r Arglwydd yn ei ddatguddio’i hun iddynt drwy gyfrwng rhywbeth cyfarwydd iddynt, na allent ei gysylltu â neb ond eu Meistr: toriad y bara yn Luc 24, yr helfa bysgod yn Ioan 21, ac yma yn achos Mair, y llais cyfarwydd yn ei chyfarch yn dyner wrth ei henw personol. Y mae gan Iesu ei ffordd briodol, ym mhob achos, i’w ddatguddio’i hun i’w bobl.

Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Testun ein sylw yn y cyfarfod nesaf bydd Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl (Ioan 21).

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (31)

‘The Risen Christ’ John Petts (1914-1991)

‘The Risen Christ’ John Petts (1914-1991) Ffenest ddwyreiniol Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu (1989)Delwedd: © Martin Crampin, Imaging the Bible in Wales

‘The Risen Christ’ John Petts (1914-1991) Ffenest ddwyreiniol Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu (1989)

Delwedd: © Martin Crampin, Imaging the Bible in Wales

Gwefr a gwreiddioldeb yw pennaf nodweddion gwaith gwydr John Petts. Trwy gydol ei yrfa’n bu fentrus a thra arbrofol gyda thechneg a deunydd. Yn sgil hynny, mae llawer o waith cynnal a chadw bellach ar rhai o’r ffenestri mwyaf arbrofol o’i eiddo!

Perthyn The Risen Christ i gyfnod fyw gofalus - gwaith manwl cywir ydyw, gan fod Petts - a gydiodd mewn mynegiant mwy ceidwadol o’i ffydd erbyn diwedd ei fywyd - yn dymuno i neges yr Atgyfodiad fod yn drawiadol amlwg. Gwelir Crist yn ganolog, a sylwch ar wawl pinc y ffenest. O fewn traddodiad yr Eglwys, defnyddir/gwisgir pinc i awgrymu llawenydd - pinc, er enghraifft yw lliw Sul Gaudete (3ydd Sul yr Adfent. Gaudete - Llawenhewch) a Sul Laetare - 4ydd Sul y Grawys. Daw’r Laetare o Laetare Jerusalem: Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o’i herwydd, bawb sy’n ei charu; llawenhewch gyda hi â’ch holl galon, bawb a fu’n galaru o’i phlegid ... (Eseia 66:10 BCN). Yn wir defnyddir holl liwiau litwrgaidd yr Eglwys yn y ffenest, ar wahân i du'r Groglith: Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth ... i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist (1 Corinthiaid 15: 54c, 57 BCN). Mae Gwyrdd amser cyffredin hefyd yn absennol: yng ngwawl y Pasg, anghyffredin popeth cyffredin!

Yn troelli o gwmpas y Crist byw mae 12 cylch. Uwchben Iesu mae’r Efengylwyr: Mathew - y dyn; Marc - y llew; Luc y tarw; a’r eryr - Ioan. Ioan sydd yn mynegi orau diben gwaith y pedwar hyn: ... y mae’r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw’r Meseia, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bwyd yn ei enw ef (Ioan 20:31 BCN). Sylwch hefyd ar y golomen - yr Ysbryd Glân, nerth Duw - disgynnodd yr Ysbryd Glan ar ddisgyblion Iesu a gwneud cenhadon diflino ohonynt. Nid dyfeisgarwch Cristnogion na’u brwdfrydedd sy’n gwneud cenhadon beiddgar ohonynt ond ‘nerth yr Ysbryd Glân (Luc 1:35).

Gan symud o ben uchaf y ffenest i’r gwaelod, gwelir, y naill gyferbyn a’r llall: Alffa ac Omega (Datguddiad 22:12-17). Y mae defnyddio llythyren gyntaf a’r olaf yn yr wyddor fel symbol i ddynodi dechrau a diwedd yn beth naturiol. Y mae’r ymadrodd ‘O Alffa i Omega’ yn golygu, nid yn unig y dechrau a’r diwedd, ond y cwbl sydd rhwng y ddau hefyd. Nid oes i’r Crist byw na dechrau na diwedd, ond ef ei hun yw dechrau a diwedd pob peth a phawb, ac y mae ef yn bresennol ac yn llywio pob peth o’i ddechrau i’w ddiwedd.

Gan symud i fyny, dyma bysgodyn - symbol o’n gwasanaeth a’n gweinidogaeth: "Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion." (Marc 1:17 BCN) ... a gyferbyn oen: aberth a hunan ymwadiad. Yr Oen sy’n gorchfygu yw’r Oen a’i rhoes ei hun yn wirfoddol fel aberth.

Nesaf tair cylch ym mhleth - y Drindod; y Tad a’n creodd ni, y Mab a’n prynodd ni a’r Ysbryd Glan sydd yn ein cynnal a’n cadw. Gyferbyn â’r drindod mae’r Chi Rho: chi (Χ) a rho (Ρ) llythrennau cyntaf Christos - Crist. Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb o ran ei ystyr i’r gair Hebraeg ‘Meseia’ sy’n golygu ‘eneiniog’:

O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd

a’m ceidwad cry’

ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd

heb neb o’th du;

cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,

ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam.

(George Rees, 1873-1950; C.Ff.541)

Yn olaf, y gwenith a’r grawnwin: y bara a’r gwin Gwnewch hyn er cof amdanaf (1 Corinthiaid 11:24b BCN). Gwenith Bara’r bywyd (Ioan 6:35) a grawnwin y Wir Winwydden: ... ar wahân i mi ni allwch wneud dim (Ioan 15:5b BCN).

Ffenest syml, ond llawn hyd at yr ymylon!

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (30)

‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995)

‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995). Capel Palas Wolvesey, Caer-wynt.

‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995). Capel Palas Wolvesey, Caer-wynt.

Tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear ... ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad (Philipiaid 2:9-11 BCN).

Ganed Marian Bohusz-Szyszko - arlunydd a mathemategydd - yn Vilnius, yr Hen Rwsia; Lithuania bellach. Bu Bohusz-Szyszko yn gyson ymdrin â phynciau crefyddol yn ystod ei fywyd. Nodweddir ei waith gan y dechneg arbennig o osod, trosodd a thro, haen ysgafn o baent, y naill ar ben y llall gan greu o’r herwydd ymdeimlad o ddyfnder cynnes ac egni sylweddol iawn. Gwelir hyn, ar ei orau, wrth syllu i lygaid y Crist Cosmig hwn.

Crist Cosmig? Y mae credu yn Atgyfodiad Crist yn golygu bod popeth yn ein bywyd a phob rhan o’n byd yn eiddo iddo, yn ddibynnol arno ac yn atebol iddo. Nid syniad haniaethol mo Arglwyddiaeth y Crist byw, ond argyhoeddiad ymarferol. Mae’r dwylo a ddioddefodd yr hoelion dur bellach yn dal awenau’r cyfan oll o’r cyfan oll: Christ Cosmig ydyw.

Syllwch yn dawel i lygaid y Crist hwn, gan ystyried hyfryd eiriau Isaac Watts, (1674-1748):

D’arglwyddiaeth di sy dros y byd,

tragwyddol yw dy gariad drud;

saif dy wirionedd heb osgoi

pan beidio’r haul a’r lloer â throi.

(cyf. Dafydd Jones, 1711-77; C.Ff.69)

Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod (Colosiaid 2:10b BCN)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995)

‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995)

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (29)

‘Christ of the Breadlines’ Fritz Eichenberg (1901-1991)

‘Christ of the Breadlines’ (1953) gan Fritz Eichenberg (1901-1991).

‘Christ of the Breadlines’ (1953) gan Fritz Eichenberg (1901-1991).

Nid oes angen dadansoddi dim ar waith Eichenberg, mae’r ergyd yn amlwg a nerthol.

Yn Nasareth, ymhlith ei bobl ei hun, cafwyd gan Iesu gyweirnod ei weinidogaeth (Luc 4:16-30): daeth Iesu i bregethu newydd da i dlodion, i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig i gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd (4:18b-19) - Sefyll gyda’r tlawd, dyna gyweirnod gweinidogaeth Iesu.

Sefyll gyda’r tlawd - dyna gyweirnod gweinidogaeth y Crist byw a’i bobl. Gweinidogaeth llawn tosturi a chydymdeimlad yw hon - gweinidogaeth sydd yn amlwg yn ‘Christ of the Breadlines’ Eichenberg.

Sefyll gyda’r tlawd yw’r nod; sefyll gyda’r tlawd yw’r cyfrwng i gyrraedd y nod. Er mwyn i Crist Iesu gael y lle canol, rhaid i’w bobl mynd i’r ymylon, a mentro at yr ymylol.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

The Christ of the Homeless (1982) Fritz Eichenberg (1901-1991).

The Christ of the Homeless (1982) Fritz Eichenberg (1901-1991).