'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (16)

‘Y Swper yn Emaus’ Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hyw, ac adnabuasant ef (Luc 24:30 BCN).

Dyma Supper at Emmaus (1601) neu’r London Supper er mwyn gwahaniaethu rhwng hwn a Swper Milan (1606-7).

‘Y Swper yn Emaus’ (1601; Llundain) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

‘Y Swper yn Emaus’ (1601; Llundain) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

Paentiwyd Swper Milan blynyddoedd ar ôl Swper Llundain. Mae naws y ddau’n wahanol, oherwydd bod amgylchiadau Caravaggio - wrth iddo weithio ar y naill a’r llall - yn wahanol iawn. Adeg paentio Swper Llundain, Caravaggio oedd darling diwylliant celfyddydol ac awdurdodau crefyddol ei gyfnod; ‘roedd pentwr o waith ganddo, a phob comisiwn yn talu’n dda iawn. Yn naturiol felly, ‘roedd y Caravaggio’n hyderus yn ei grefft, ‘roedd yr hyder hwnnw’n magu menter, a llwyddiant pob menter yn bwydo’r hyder. Perthyn Swper Llundain i’r cyfnod byrlymog hwn, ac mae’r llun yn fwrlwm o fywyd, symud, cynnwrf, lliw a golau: llun mentrus, newydd, deinamig ydyw. Gorffenedig hefyd - bu Caravaggio’n hamddenol ddigon yn gosod y finishing touches - bob un - yn ei lle.

‘Y Swper yn Emaus’ (1606; Milan) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

‘Y Swper yn Emaus’ (1606; Milan) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

Mae Swper Milan yn wahanol. Erbyn iddo ddechrau gweithio ar hwn ‘roedd bywyd Caravaggio a’i ben i waered. Yn sgil gem o tennis - o bob peth - bu cweryl, brofado, dyrnu, cyllell; lladdwyd Ranuccio Tomassoni gan Caravaggio. Bu’n rhaid iddo adael Rhufain...pwyso ar hawddfyd - hwnnw’n siglo,/profi’n fuan newid byd (Eben Fardd, 1802-63; CFf 739). Dihangodd i Naples. Peth bregus yw hyder, gall wywo’n sydyn iawn; dyna ddigwyddodd ym mhrofiad Caravaggio: daeth cyfnod anodd, tywyll, llwyd. Perthyn Swper Milan i’r cyfnod hwnnw. Mae’r lliwiau’n ddof, nid oes drama, na chymaint o symud; pwl yw’r golau, brysiog yw’r gwaith; mae’r llun yn anorffenedig. Mae’r cynfas yn amlwg yn y corneli, lle gosodwyd dim ond haenen denau o baent. Mae Swper Milan yn frysiog, anorffenedig, a gofalus. Nid ifanc mo Iesu bellach ond barfog draddodiadol, yn gwisgo nid coch llachar, ond gwyrdd twyll. Mae’r disgyblion yn wahanol, a’i hymateb yn wahanol. Mae syndod yr adnabod, braw'r atgyfodiad yno o hyd, ond heb y lliwiau sylweddol, y goleuo cadarn, a’r ddrama fawr. Ond, mae Swper Milan yn gweithio - dyma Iesu’n fyw, yn fyw gyda phobl gyffredin iawn yr olwg, tlodaidd ambell un, a thrist. Awgrymaf fod Swper Llundain yn llawn o fwrlwm Sul y Pasg - lliw, golau, gwefr, drama - gwych. Mae Swper Milan yn cyfleu realiti beunydd beunos Tymor y Pasg. Crist gyda ni, pan mae bywyd yn ddilyw, a byw’n ddifflach - Crist gyda ni pan mae ffydd a chred yn fater o ddysgu’r sgript. Na, did oes gwefr y perfformiad, a chymdeithas actorion, a chymeradwyaeth y gynulleidfa; na, dim ond stafell ‘lwyd, paned llugoer a dysgu llinellau. Diflas ond angenrheidiol.

Mae Swper Llundain yn wefr i gyd ac o’r herwydd yn wych iawn iawn. Mae Swper Milan yn dawel a llonydd, ac o’r herwydd yn wych iawn iawn. Lle bynnag mae’ch ffydd chi heddiw: boed yn Llundain neu’n Milan, cofiwch fod Iesu’n holl bresennol, yn y naill le a’r llall.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

Llun: Itay Bav-Lev

Pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn defosiwn, myfyrdod a gweddi.

Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3)

Echel ein myfyrdod heddiw, oedd Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60).

Y mae Samson a Steffan yn gweddïo wrth farw. Gyrfa o ddial yn erbyn y Philisitiaid oedd stori bywyd Samson a gweddi ddialgar gas oedd ar ei wefus wrth ddymchwelyd y deml ar eu pennau: Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, "O! Arglwydd DDUW, cofia fi, nertha fi’r tro hwn yn unig, O! Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad" (Barnwyr 16:28 BCN). I’r gwrthwyneb, gweddi rasol, faddeugar oedd ar wefus Steffan: "Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd ... Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn" (Actau 7:59b,60a BCN).

Y Crist rhyngddynt sy’n gyfrifol am ansawdd wahanol eu gweddïau. Y gwahaniaeth rhwng Samson a Steffan yw’r gwahaniaeth rhwng ysbryd dial y natur ddynol ac ysbryd gras ein Harglwydd Iesu: ... os bydd rhywun yn dy orfodi i’w ddanfon am un filltir, dos gydag ef ddwy (Mathew 5:41 BCN).

Gall gweithred ddaionus wthio gelyn o’i safle gelyniaethus. The first mile meddai T. W. Manson (1893-1958) renders to Caesar the things that are Caesar’s; the second mile, by meeting oppression with kindness, renders to God the things that are God’s. Dyma ethic Teyrnas Dduw. Dyma ffordd Iesu wrth fyw, marw a byw o’r newydd. Dyma stori Steffan - disgleirdeb gogoniant Duw yn ei wyneb a gweddi’r Crist ar ei wefus ac yn ei galon. "‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd ... Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni (Rhufeiniaid 12:19b,20b BCN).

Buddiol bu ‘Tiberias’. Cawsom egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (15)

‘Miraculous draught of fishes’ John Reilly (1928-2010)

‘Miraculous draught of fishes’ John Reilly (1928-2010)

‘Miraculous draught of fishes’ John Reilly (1928-2010)

"’Does gennych ddim pysgod, fechgyn?" "Nac oes," atebasant ef. Meddai yntau wrthynt, "Bwriwch y rhwyd i’r ochr dde i’r cwch, ac fe gewch helfa." Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu’r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi. A dyma’r disgybl hwnnw yr oedd Iesu’n ei garu yn dweud wrth Pedr, "Yr Arglwydd yw." (Ioan 21:5-7 BCN)

Wedi croeshoelio’r Iesu, dychwelodd y disgyblion i’w cynefin ac i gysur y cyfarwydd, a safent unwaith eto wrth Fôr Galilea. Daeth gwynt y môr yn hallt a chryf i’w ffroenau a gwthiant i’r dŵr yn y gobaith o foddi ei siom mewn gwaith. Er pysgota drwy’r nos, ni ddaliwyd dim, ac yn y bore bach fe’u gorchmynnwyd i fwrw’r rhwyd eilwaith: daliwyd llawer, a neidiodd y disgyblion allan o’r cwch i ail-afael yng ngwaith eu bywyd.

Crëwyd, gan Reilly, gysylltiad byw rhwng gan gymaint y pysgod oedd ynddi â "Yr Arglwydd yw". Amlygir, ganddo felly gwir arwyddocâd y daith pysgota. Defnyddir y stori am Pedr yn arwain ei gyd-ddisgyblion ar antur bysgota, yn ddarlun gan Ioan, o waith Pedr yn arwain yr apostolion ar eu hantur fawr genhadol fel pysgotwyr dynion (Dywedodd Iesu wrthynt, "Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion." Marc 1:17 BCN). Mae’r ffaith na ddaliwyd dim y noson honno yn dangos mai ofer yw pob ymgais cenhadol oni bydd yr Arglwydd ei hun yn bresennol i gyfarwyddo ac ysbrydoli’r cenhadon. Dengys yr adnodau canlynol (21:4-14) mor wahanol yw’r stori unwaith daw’r Crist byw atynt. Mae ei bresenoldeb ef, ac ufudd-dod y disgyblion i’w orchmynion, yn troi’r methiant gwaethaf yn llwyddiant rhyfeddol.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (14)

'At the beach - John 21:1-14' Cody F. Miller (gan. 1972)

'At the beach - John 21:1-14' Cody F. Miller www.codyfmiller.com

'At the beach - John 21:1-14' Cody F. Miller www.codyfmiller.com

... gwelsant dân golosg wedi ei wneud, a physgod arno a bara ... "Dewch," meddai Iesu wrthynt, "cymerwch frecwast." ... Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd. (Ioan 21:9;12 BCN).

Dyma nhw, y saith disgybl; tân, pysgod; môr llonydd, a chwch segur. Mae’r arlunydd ifanc hwn yn canolbwyntio ar Iesu a Pedr. Mae’r Crist byw yn wên i gyd, ei lygaid yn pefrio o fuddugoliaeth: ... mae anfarwoldeb yn ei wyneb ef ... (Elfed, 1860-1953; CFf:558). Sylwch ar Pedr: anghysurus ydyw; wedi’r cyfan, ‘roedd wedi gwadu Iesu deirgwaith. Mae ei ofid yn amlwg. Mae ei holl osgo yn ymgorfforiad o gywilydd. Mae’r Iesu byw a’i fraich am ysgwydd Pedr. Yn ei letchwithdod, ni all Pedr beidio â gwenu. Pam? Gwyddai Pedr, er mor druenus oedd ei fethiant yn y gorffennol, ni chollodd Iesu ei ffydd ynddo. Mae’r wen, a’r goflaid yn arwydd fod Crist eisoes wedi ymddiried y gwaith a’r cyfrifoldeb pwysicaf i Pedr: ... portha fy ŵyn ... Bugeilia ... Portha fy nefaid (21:15;16;17 BCN). Arwydd o faddeuant, nid amod maddeuant yw’r sgwrs a ddaw maes o law: ... wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, "Simon, fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i ..?" (21:15 BCN)., Bu Pedr yn arweinydd diogel, eofn ac arwrol.

Mae sôn amdanat ym mhob man,

Yn codi’r gwan i fyny.

(William Williams, 1717-91; LlMN: 121)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)