'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (6)

‘Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion’ Duccio di Buoninsegna (m. 1319)

‘Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion’ Duccio di Buoninsegna (m.1319)Museo dell'Opera del Duomo, Siena

‘Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion’ Duccio di Buoninsegna (m.1319)

Museo dell'Opera del Duomo, Siena

A dyma Iesu’n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, "Tangnefedd i chwi!". Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai wrthynt eilwaith, "Tangnefedd i chwi! Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi." (Ioan 20:19b-21 BCN)

Yr eiliad honno a bortreadir gan Duccio di Buoninsegna. Cwyd pob un o’r disgyblion ei law fel arwydd o ryfeddod ac addoliad. Ar y bwrdd, dau bysgodyn a phum torth fechan.

A dyma un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, "Y mae bachgen yma â phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo ..." (Ioan 6:8,9 BCN)

Mae Porthi’r Pum Mil (Ioan 6:1-15) yn arwydd o allu a bwriad Crist fel ‘bara’r bywyd’ i ddiwallu ein holl anghenion.

Meddai Iesu wrthynt, "Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y salw sy’n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi ..." (Ioan 6:35 BCN)

Gallasai’r pysgod hefyd fod yn gyfeiriad at Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl:

Wedi iddynt lanio, gwelsant dân golosg wedi ei wneud, a physgod arno, a bara ... Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i’w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw. (Ioan 21: 9;13,14)

Efallai mai diben y pysgod yw ein hatgoffa o’r ‘pysgodyn’! ICHTHUS. Ichthus yw’r gair Groeg am bysgodyn: Iota, Chi, Theta, Upsilon a Sigma.

Iota (i): Iesous - Iesu

Chi (kh): Khristos - Crist

Theta (th): Theou - Duw

Upsilon (u): Huios - Mab

Sigma (s): Soter - Gwaredwr

Sylwer bod 11 disgybl o gwmpas y bwrdd. 10 ddylai fod; gan fod Thomas yn absennol; Jwdas bellach wedi marw, a dim ond ar ôl yr Esgyniad y daw Mathias i gylch dethol yr Apostolion (Actau 1:12-26).

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

 

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (5)

Verrijzenis (Atgyfodiad) gan Anneke Kaai (gan. 1951)

Verrijzenis gan Anneke Kaai (gan. 1951)

Verrijzenis gan Anneke Kaai (gan. 1951)

Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth ... i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist (1 Corinthiaid 15: 54c, 57 BCN).

Perthyn i’r llun hwn symud deinamig. Yng nghornel dde'r llun, du a brown: duwch marwolaeth, brown y pridd. Mae ymyl chwith y llun yn wyrdd - lliw bywyd, gwanwyn, egin, ffresni. Prif liw'r llun yw gwyn: goleuni, gobaith, buddugoliaeth. Y gwyn a’r gwyrdd sydd yn hawlio gofod, hwythau a orfu. Gwasgir y duwch lawr i un cornel. Yn symud, mae dwy fflach goch fwaog, un mawr ac un bach. Y pennaf ohonynt yw Iesu. Ffrydia’i fywyd o afael y tywyllwch trwy’r goleuni i fywyd newydd. Nyni yw’r fflach fwaog lai. Mae bywyd newydd Iesu yn warant o’n bywyd newydd ninnau.

... os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd (Rhufeiniaid 6:8 BCN).

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

 

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (4)

"Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth ..." (Ioan 11:25 BCN)

Dyma ddehongliad Piero della Francesca (1415-1492) o Atgyfodiad Iesu Grist. Dyma waith pwysicaf della Francesca - ei gampwaith. Comisiynwyd y gwaith gan awdurdodau ei dre’ enedigol, Sansepolcro yn Twsgani.

'La Risurrezione' - Piero della Francesca (1415-1492) Sansepolcro, Twsgani.

'La Risurrezione' - Piero della Francesca (1415-1492) Sansepolcro, Twsgani.

Holltir y ffresgo yn dair rhan gan Grist a’r bedd.

Yn y rhan waelod mae’r milwyr yn cysgu - y rhain sydd ar lefel llygad y gwyliwr. Sylwch ar y llythrennau sydd ar darian y milwr wrth droed Iesu: ‘S’ a darn o ‘P’ - SPQR wrth gwrs.

Sylwch yn ofalus ar y pedwar ohonynt. Ai cysgu mae'r rhain i gyd tybed? Gellid awgrymu fod y pedwar yn ymgorfforiad o bedwar ymateb posibl i’r Atgyfodiad. Gan symud o’r chwith i’r dde, mae’r cyntaf a’i ben yn ei ddwylo mewn siom a chywilydd. Mae’r nesaf yn cysgu - difaterwch ac esgeulustod. Mae’r nesaf wedyn yn gweddïo - addoliad a defosiwn. Mae’r olaf ar led mewn syndod a braw.

Sylwch ar Iesu - Ceidwad cryf. Mae ôl ei ddioddefaint arno o hyd: gwelwder a gwaed ond Crist buddugol yw hwn. Brenin byw, Arglwydd bywyd ydyw.

Sylwch, i orffen fod y coed a’r bryniau ar yr ochr chwith yn noeth, llwm a gaeafol. Yr ochr draw, mae egni’r gwanwyn wedi cydio. Mae’r coed a'r llwyni yn ei dail. Mae pobl yno’n byw: gwelir castell yn y cefndir. Mae Atgyfodiad Iesu yn atgyfodiad i bawb a phob peth.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (3)

'The Healing of Saint Thomas' Anish Kapoor (gan. 1954)

The Healing of St Thomas gan Anish Kapoor (gan. 1954)

The Healing of St Thomas gan Anish Kapoor (gan. 1954)

"Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth." (Ioan 20:25 BCN)

Dyma enghraifft o gelfyddyd sydd ond wir yn gweithio’n iawn o’i weld. Mae Kapoor wedi torri twll yn y wal wen - a’r twll yn goch fel archoll - fel clwyf. Ond, ni wyddom hynny. Ni wyddom a’i lliw ar wyneb llyfn y wal sydd yno, neu dwll yn y wal. Mae’r gwaith yn deffro chwilfrydedd ac yn eich tynnu at y 'clwyf'; rhaid ei gyffwrdd i weld beth ydyw go iawn - lliw ar wal, neu doriad yn llawn lliw. Cawn ein cyflyru i wneud yn union fel y gwnaeth Thomas gynt - estyn a chyffwrdd y briw er mwyn gwybod. I bob amcan a chyfrif mae holl addewidion ffydd yn ffolineb - rhith a lledrith, twyll hyd yn oed - ond wrth estyn allan i gyffwrdd ynddynt, i gydio ynddynt darganfyddwn mai real ydynt - real iawn iawn, a chwbl ddibynadwy.

Yna meddai (Iesu) wrth Thomas, "Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun." Atebodd Thomas ef, "Fy Arglwydd a’m Duw!" (Ioan 20:27,28 BCN)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

 

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (2)

‘Resurrection’ Paul T. Granlund (1925-2003)

‘Resurrection’ Paul T. Granlund (1925-2003); Central Lutheran Church, Minneaplois, UDA

‘Resurrection’ Paul T. Granlund (1925-2003); Central Lutheran Church, Minneaplois, UDA

Fy nod yw ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad … (Philipiaid 3:10 BCN)

Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd,

cododd ein Gwaredwr, daeth o’r rhwymau’n rhydd.

(E.L. Budry, 1854-1932 efel. R.B Hoyle, 1875-1939 ac O.M.Lloyd, 1910-80; CFf: 562)

Dyma ddehongliad grymus o’r Atgyfodiad gan Paul T. Granlund. Bwriad Granlund oedd dal yr union foment honno pan ddaeth Iesu o afael angau’n rhydd; dyma’r Crist yn chwalu pyrth y bedd! Mae holl osgo’r Crist yn ymgorfforiad o egni. Mae’r ‘bocs’ a fu mor dynn amdano’n hollti’n ddarnau mawr, a chymaint egni'r bywyd newydd hwn fel bo’r darnau mawr trwm hynny’n tasgu o’r neilltu!

Mae breichiau Iesu ar led; mae Granlund am dynnu ni ‘nôl i’r groes, ac i ymgais ofer pobl i ddinistrio Iesu. Nid oes modd dinistrio hwn! Daw Iesu’n rhydd, er mwyn i ni gael bod yn rhydd - mae’r Crist yn chwalu nid yn unig ‘pyrth y bedd’ ond hefyd muriau ein caethiwed mawr:

... daeth Brenin yr holl fyd i oedfa ein hadfyd

Er symud ein penyd a’n pwn ...

(Jane Ellis, bl. 1840 CFf: 472)

 

 F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

 

(OLlE)