Neb,
Does yna neb,
neb, neb all osgoi
y troi hwnnw i wynebu’r tywyllwch
y troi hwnnw i’r tywyllwch
sydd dros riniog y drws diwethaf,
tywyllwch anorchfygol
y mynediad terfynol.
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
... datgloi angau a fu yno,
troi’r allwedd ym mhyrth marwolaeth
ac agor y tywyllwch.
Ond pa feidrolyn, yn y dyddhau hwnnw,
na fuasai, â’i amgyffred cnawdol,
yn meddwl mai dynion fu yno,
dynion yn ysbeilio?
Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a’r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu yn ei garu. Ac meddai wrthynt, "Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, ac ni wyddom le y maent wedi ei roi i orwedd."
A’r ddau ddisgybl a aeth i’r bedd ...
Yr oedd popeth yno mewn trefn,
A’r ddau ddisgybl a ddaeth allan o’r bedd
yn llawn gorfoledd yr atgyfodiad.
Ond Mair oedd y tu allan yn wylo ...
A hi, drach ei chefn, a welodd un yn sefyll.
... gwelodd Iesu yn sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd. "Wraig," meddai Iesu wrthi, "pam yr wyt ti’n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?" Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal."
Yna dywedodd y dieithr hwnnw,
yr un oedd yno’n sefyll, "Mair".
Un gair, "Mair", a’r marw
a gyfododd yn fyw ...
Un gair a dorrodd ei hiraeth,
un gair a drywanodd ei holl amheuaeth,
un gair a ebilliodd trwy dywyllwch y farwolaeth
dynn oedd amdani fel maen du.
A hi esgynnodd o’r bedd.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
Homili
Pam Oedfa Noswyl y Pasg? Mae’r Pasg yn digwydd liw nos. Nid gyda’r wawr, ond liw nos. Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd (Ioan 20:1 BCN).
Yn ôl Ioan felly, os i chi’n bwriadu dathlu’r Pasg gyda gwawr y bore, ‘rydych eisoes rhy hwyr. Mae’r wyrth wedi digwydd. Liw nos, cododd Iesu!
Yn y tywyllwch, liw nos, mae Iesu'n dychwelyd o farw’n fyw. Dychwelyd heb fod neb yn gweld - ni fu’r un llygad dyst i ryfeddod yr Atgyfodiad. Fe ddaw, gan fenthyg ei ddelwedd ei hun, fel lleidr yn y nos (Mathew 24:36-44). Yn Efengyl Ioan, ni cheir angylion parod eu hesboniad a’u cysur. Pan ddônt - ac fe ddônt hwythau hefyd, braidd yn hwyr - cwestiwn pigog, nid ateb cysurlawn sydd ganddynt i gynnig: ... plygodd Mair i edrych i mewn i’r bedd, a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle’r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed. Ac meddai’r rhain wrthi, "Wraig, pam yr wyt ti’n wylo?" (Ioan 20: 11-13 BCN). ‘Roedd Mair wedi disgwyl ... gobeithio ... gweld yno gorff, ond gwelodd wacter, hollt yn y tywyllwch.
Bu’r Pasg i mi erioed yn ffrwd o olau; prysurdeb capel; siocled, cinio dydd Sul mwy sylweddol nag arfer; dillad newydd a ‘Cododd Iesu!’ E. Cefni Jones (1871-1972), ond, yn ddiweddar daeth yr hen hen arfer o gadw Gwylnos y Pasg yn bwysig i mi. Mae ystyried y Pasg liw nos yn newid ein deall ohono.
Perthyn i’r Wylnos draddodiadol cyfres o ddarlleniadau - hyd at 13 o wahanol ddarlleniadau, y rhan fwyaf helaeth ohonynt yn dod o’r Hen Destament. Yr un peth sydd yn tynnu’r darlleniadau ynghyd yw’r nos; tywyllwch - a Duw ar waith yn y tywyllwch.
Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder ...
Yn yr hanes ni ddywedir dim am y nos honno,
y tywyllwch hwnnw oedd y tu hwnt i eiriau,
ond nodir, "Ac Abraham a fore-gododd."
Gwnaeth y pethau hynny
y byddai dyn yn eu gwneud wrth gychwyn ar daith offrwm,
a dim ond efô a wyddai
ystyr dychrynllyd y cwbwl.
Cyfrwyodd ei asyn,
cymerodd ei ddau lanc gydag ef;
a’r mab, yr hwn a hoffodd.
Holltodd hefyd y coed, fel hollti ei einioes,
ac yna efe a gyfododd ac aeth.
Ac Efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i’r Isrealiaid, ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
... a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn ... Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau ...
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
Yn Efengyl Ioan, hanfod Sul y Pasg yw pobl yn mynd a dod, yn ceisio deall arwyddocâd yr hyn mae Duw eisoes wedi gwneud, cyn toriad gwawr y bore. Liw nos bu Duw ar waith; ar fore’r Pasg mae pobl Dduw yn gweld nad diwrnod newydd mo’r heddiw newydd hwn, ond byd newydd. Liw nos, daw newid byd, ac fel y disgyblion gwreiddiol, mae disgyblion Iesu hyd heddiw yn mynd a dod, yn ceisio deall arwyddocâd rhyfeddol y rhyfedd ryfeddod hwn.
Yn od iawn, ac yn eironig braidd, Iddew, rabi bu’n gymorth i mi i gael gafael ar hyn. Tueddwn i feddwl fod y diwrnod newydd yn dechrau toc wedi hanner nos, neu gyda thoriad y wawr. Anghofiwyd gennym fod diwrnod y Beibl - diwrnod Iesu a’i bobl - yn dechrau gyda machlud haul. Wrth i bobl fynd i’w gorffwys, â Duw at ei waith. Mae’r Sabath Iddewig yn dechrau gyda machlud haul nos Wener, ac yn gorffen gyda machlud yr haul ddydd Sadwrn. Dwi’n gweld bo’ fi wedi methu’n llwyr i gyfleu gwefr hyn i chi! Gyda’r dydd yn dechrau gyda machlud haul, man cychwyn pob dydd yw tywyllwch, gorffwys, llonyddwch - ninnau’n segur a Duw ar waith. Dyma fel mynegodd Laura Janner-Klausner (gan. 1963) hyn o wirionedd, mewn un Thought for the Day ar Radio 4: The first part of the day passes in darkness ... but not in inactivity. God is out growing the crops even before the farmer is up and knitting together the wound before the clinic opens.
Arswydwn rhag y nos: yn y nos mae bwganod. Na, yn y nos mae Duw; liw nos mae Duw ar waith yn tynnu bywyd o afael marwolaeth yn ôl: Rhof iti drysorau o leoedd tywyll. Dyna pam, am wn i, mai buddiol yw dod yng nghyd i gadw Gwylnos y Pasg.
Dwi am orffen gyda geiriau Gwyn Thomas (gan. 1936), a Wendell Berry (gan. 1934):
To know the dark, go dark. Go without sight
and find that the dark, too blooms and sings.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
‘Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’
yn Frawd a Phriod imi mwy;
ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen.
Wel dyma un, O! dwedwch ble
y gwelir arall fel efe
a bery’n ffyddlon im o hyd
ymhob rhyw drallod yn y byd?
Pwy wrendy riddfan f’enaid gwan?
Pwy’m cwyd o’m holl ofidiau i’r lan?
Pwy garia ‘maich fel Brenin ne’?
Pwy gydymdeimla fel efe?
Wel ynddo ymffrostiaf innau mwy;
fy holl elynion, dwedwch, pwy
o’ch cewri cedyrn, mawr eu rhi’,
all glwyfo mwy f’Anwylyd I?
(William Williams, 1717-91)
Gweddi
Fe gafodd Uffern barti-dathlu bnawn Gwener d’wetha’.
Cuddiwyd yr haul mewn cywilydd, a daeth nos.
Boddwyd ein breuddwydion gan ddagrau’r siom.
Ciliodd bob gobaith-yfory-gwell.
Ni a feddyliwn mai hwn oedd yr un a waredai ...
Twyllwch.
Marwolaeth.
Gwacter.
Twyllwch.
Ond heno, treiglir y maen.
Heno, gwelir olau - goleuni anorchfygol.
Heno, clywir siffrwd bywyd newydd.
Heno, mae sawr gobaith yn yr awyr.
Heno, mae blas cariad ar y gwynt.
Heno, mae awel ffydd yn gynnes symud.
Tywyllwch
Bywyd.
Tywyllwch.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
Amen.
Gweddi’r Arglwydd
Y Fendith