(Mawr ein diolch i’r rheini sydd wedi ymgymryd â her y cynllun arbennig Solvitur Ambulando. Ceir manylion llawn ar ddiwedd y cofnod hwn).
Ail-gydio gwnaeth y gweddill ohonom yn y gyfres pregethau yn ystyried Efengyl Marc, a hynny o bersbectif y flwyddyn 70, pan gwympodd Jerwsalem a dinistriwyd y Deml gan fyddinoedd Rhufain. Hon oedd y bumed bregeth yn y gyfres, a throdd y Gweinidog at hanes mam a brodyr Iesu (Marc 3:31-35). Ym mhennod 3 down i gysylltiad â theulu Iesu am y tro cyntaf. Cyfeirir at ei fam a’i frodyr ond nid at Joseff. Gall ‘brodyr’ fod yn ymadrodd sy’n cynnwys perthnasau agos. Dywed Marc (ac ef yn unig) eu bod mor feiddgar a dweud fod Iesu wedi colli arno’i hun. Maent am ei atal, a mynd ag ef adref gyda hwy. Nid ydynt yn deall ystyr ei waith nac amcan ei genhadaeth. A daeth ei fam ef a’i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i’w alw (Marc 3: 31) Mae ei fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan i gylch newydd Iesu. Galwant arno i ddod allan o’r cylch newydd a dychwelyd at yr hen. Ond gan estyn ei law tuag at ei ddilynwyr (Mathew 12:49) dywed Iesu fod ei syniad o deulu bellach wedi ehangu’n fawr. Mae’n rhaid i’r cylch bach bellach dyn yn rhan o’r cylch mwy. Fel ei fam a’i frodyr gynt, ein tueddiad ninnau, awgrymodd y Gweinidog, yw ceisio cadw Iesu o fewn ein cylch cyfyng ein hunain - ein heglwys leol, ein henwad, ein traddodiad a’n diwylliant. Hynny, heb wir sylweddoli mai rhan fechan iawn ydym o’i gylch mawr ef ac o deulu Duw trwy’r byd.
Ysgrifennwyd Efengyl Marc i argyhoeddi Iddewon Jerwsalem fod rhaid iddynt nawr, a’r Deml yn sarn, dderbyn neges Iesu Grist: neges o gariad, cariad eithriadol beryglus. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn - mae’r hen ffordd o grefydda wedi darfod mewn gwirionedd. Yr ateb i’n hargyfwng? Yr un ateb ydyw a gynigwyd gan yr Iddewon Cristnogol i bobl y flwyddyn 70: Teulu. Sefydla Iesu deulu newydd nad yw’n dibynnu ar waed a chnawd. Teulu Duw yng Nghrist yw’r bobl sydd yn gwneud ewyllys Duw. Nid mater o waed yw bod yn un o bobl Dduw, yn hytrach, mater o ymroddiad ac ymroi yw: Pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam. Bellach, ni all neb garu Crist heb garu pawb arall sydd yn caru Crist.
Yn ôl ein harfer bellach yma’n Minny Street, nodir cyfnod y Grawys gyda chyfres benodol o bregethau gan y Gweinidog. Ein thema eleni yw ‘Ffydd a Thrais’. Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid; yn arbennig o glywed yr hyn a wna a dywed pobl yn enw crefydd. Canlyniad digalonni o wrando ar y newyddion yw ymddieithrio, ymdawelu, ymneilltuo ac anobeithio. Dyma fu testun ein sylw ym mhregethau agoriadol y gyfres (14/2); heno aethom i’r afael â gwrthdrawiad ideolegau.
Yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis (13/11/2015), mynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, bod yn rhaid i’r Gorllewin wynebu a goresgyn ideoleg anfad: we must confront and defeat an evil ideology. Sut mae goresgyn ideoleg? Dim ond ideoleg all oresgyn ideoleg. Goresgynnir ideoleg gyfyng, ddinistriol gan ideoleg amgenach ac adeiladol. Yn anffodus, arswyda’r Gorllewin bellach rhag unrhyw a phob ideoleg. Tuedd yr oes yw anwybyddu credo. Buchedd, gweithred, ffydd ar waith, meddir sydd yn bwysig. Bu pwyslais yr Eglwys Gristnogol yng Nghymru, ers degawdau ar yr hyn a wnawn: a yw Cristnogaeth yn gweithio? A yw ffydd ar waith? A yw pobl ffydd ar waith yn mynd i’r afael â thlodi, yn lleol a byd eang? A ydym ar waith ymhlith y difreintiedig ... yn amgylcheddol ... yn creu a chynnal undod eglwysig a chymunedol? Un cwestiwn na ofynnir gennym, a heb ofyn y cwestiwn hwnnw mae gofyn ‘A yw Cristnogaeth yn gweithio?’ yn ofyn ofer, yw: A yw Cristnogaeth yn wir? A ydy’r ffydd Gristnogol yn cynnig esboniad call o gyflwr y byd a’r natur ddynol? A chawn ynddi gyfrwng i wella’r byd ac adfer y natur ddynol i’w iawn a llawn dwf? Os yw Cristnogaeth yn wir, mae Cristnogaeth yn newid pob peth. Os yn wir, rhaid newid yn gyfan gwbl ein syniad am Dduw, am fywyd ac am bob peth. Os nad gwir Cristnogaeth, nid yw’n newid dim ar ddim. Os ydyw’n wir, gall Cristnogaeth lenwi’r gwacter sydd wrth wraidd a chalon y Gorllewin.
... we must confront and defeat an evil ideology. Portreadir yr eithafwyr Islamaidd fel gwallgofiaid. Nid gwallgofiaid mohonynt. Pobl ffydd ydynt sy’n barod a bodlon i ladd a chael eu lladd dros yr hyn a gredant. Ni all y Gorllewin wynebu a herio'r fath ideoleg. Dim ond pobl ffydd all wneud hyn. Yr unig ffordd i herio a goresgyn ideoleg wyrgam, wenwynig yw cynnig ideoleg amgenach, iachach. Dyma'r gwaith mwyaf pwysig a wynebwn fel cymunedau ffydd: cyflwyno’r credo Cristnogol am yr hyn ydyw; datguddiad gwefreiddiol o’r gwirionedd am ddyn a’i dynged.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am fendithion y Sul.
Bydd Oedfaon y Sul nesaf dan arweiniad y Parchedig Jill-Hailey Harries (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddi arweiniad meddylgar a phregethau gwerthfawr. Boed bendith.