BEIBL OWAIN LLYR

Mae fy 'Meibl Cymraeg Newydd' yn hen bellach; treuliedig a blinedig yr olwg: wedi darfod bron iawn.

Rhodd ydoedd, gan fy nhad a mam yn 1988. Bu’r Beibl hwn gyda fi trwy gydol fy hyfforddiant ym Mangor; gyda fi ar ddydd fy ordeinio yn 1996 - wedi’i gludo i’r clawr mae cerdd gan fy nhad i nodi dechrau fy ngweinidogaeth yn Rhosllannerchrugog a’r cylch.

Daeth hwn gyda fi ar sawl taith: tywalltwyd gwydraid o win drosto ym Mhrâg; ac ym Mhwllheli, llond cwpaned o goffi. Wrth gerdded i’r Bala gyda PIMS fe’i gwlychwyd o glawr i glawr. Gadawyd ef ar ôl gennyf yn Jerwsalem, a mawr fy niolch i leian annwyl - Miriam - am drefnu ei ddychwelyd ataf. Bu’r Beibl hwn yn gorwedd ar gant a mil o bulpudau mewn priodasau, bedyddiadau ac angladdau. Bu wrth law, o’r neilltu, ar lawr, wrth gefn; daeth sawl gwaith i’r adwy. Bu’n llafar, bu’n fud. Bu’n gymorth, bu’n gerydd; bu’n gysur ac yn boen bywyd. Rhywbryd, collwyd pennod olaf Datguddiad Ioan, a rywsut diflannodd y darn helaethaf o Ail Lythyr Timotheus. Ynddo’n drwch mae nodiadau a sylwadau. Ceir rhifau emynau, un rhif ffôn heb enw, ac un gem ‘naughts and crosses’ - y 'naughts' a orfu. Mae adnodau wedi'u tanlinellu, a’u hamlygu; gofynodau, ebychnodau; marciau astrus a oedd rywbryd yn golygu rhywbeth i mi, mae’n siŵr. Mi allaf ffeindio pethau’n hawdd yn hwn; egyr yn naturiol bron lle dwi’n tueddu i ddarllen: Deuteronomium, Llyfr y Salmau, Efengyl Marc. Mae ambell lyfr wedi’i gleisio gan ddefnydd cyson, a llyfrau eraill yn lân - a’r glendid hwnnw’n gywilydd.

Efallai bod angen cael copi newydd. Llyfr; dim ond llyfr ydyw wedi’r cyfan. Mae apBeibl yn opsiwn wrth gwrs: Beibl William Morgan, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net gyda’i gilydd ar declyn! O ddewis bod felly’n gyfoes, gellid gosod fy Meibl yn dawel o’r neilltu - gall fwynhau ymddeoliad llychlyd cwbl haeddiannol. Ond, cydnabyddaf afael y Beibl hwn arnaf. Mae digon o Feiblau eraill gennyf, ac apBeibl eisoes wedi’i lawr lwytho i’r ffôn. Mae bob un o’r rhain o fewn cyrraedd, ond hwn rywsut sydd bob amser wrth law. Ie, dim ond llyfr ydyw, ond ... ynghlwm wrth y llyfr hwn mae 28 mlynedd o’m mywyd i. Mi wn yn iawn, mae’r Gair sydd bwysig, nid y geiriau: dim ond llyfr ydyw, ie ... ond, mae’r Gair yng ngeiriau hwn - i mi - mymryn lleiaf yn amlycach, a thipyn go lew yn anwylach.

Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau - onid ydynt yn dy lyfr? (Salm 56:8) Ar ambell awr anodd, mi wn yn iawn pam nad ydwyf yn troi at yr adnod hon a’i thebyg yn apBeibl: mae darllen y geiriau hyn yn y llyfr treuliedig blinedig, darfodedig hwn yn fy atgoffa o’r hyn a wn i fod yn wir - mae’r Cariad nad sydd byth yn blino na threulio na darfod ar waith - ynom, trwom a throsom - treuliedig, blinedig, darfodedig fel ag yr ydym.

(OLlE)

TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

Llun: Itay Bav-Lev

Dechrau’r dydd; dechrau wythnos o waith, a rhaid wrth gyfle i ogwyddo ein meddwl at Dduw. Diolch am ‘Tiberias’.

Ers mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd Gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Mis Ionawr, gweddi Jona (2). Heddiw, un o weddïau Jeremeia (17:14-18)

Dyma broffwyd ar ei liniau; ac nid am y tro cyntaf - mae Jeremeia’n aml ar ei liniau; un cyson ei weddïau oedd Jeremeia broffwyd.

Man cychwyn ei weddi - a’r neges inni - yw bod Jeremeia - meddyg ei bobl - yn cydnabod ei fod ef ei hun yn un o’r cleifion. Gweddïa am iachâd - gan wybod na allasai sefyll ar wahân i’w bobl. ‘Roedd ei wendid yntau a’u gwendid hwythau yng nghlwm wrth ei gilydd; a gobaith am iachâd yr un modd felly:

Iachâ fi, O! ARGLWYDD, ac fe’m hiacheir; achub fi, ac fe’m hachubir; canys ti yw fy moliant.

Mor wahanol yw Jeremeia ar ei liniau i’r Pharisead hwnnw yn y deml yn nameg Iesu: O! Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi hwn (Luc 18:11,12).

Mae Jeremeia’n fwy gostyngedig na hwnnw, er y gellir maddau yn hawdd iddo am ddadlau ei hawliau yn wyneb difaterwch ei gefnogwyr a gwawd ei elynion. Mae Jeremeia’n fwy dynol yn ei weddi; nid yw am ymbellhau oddi wrth bobl; wrth nesáu at Dduw. Nid dymuno melltith i’w elynion mae Jeremeia.

Ond myfi, ni phwysais arnat i’w drygu, ac ni ddymunais iddynt y dydd blin.

Lles ei elynion yn ogystal â’i enw da ei hun sydd ganddo mewn golwg wrth ofyn: Gwaradwydder f’erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i. Deisyf am i’w neges lwyddo mae Jeremeia, nid ar iddynt hwy fethu. Gwyddai y bydd llwyddiant ei waith a’i neges yn fendith i bawb. Nid diogelwch mae Jeremeia’n geision ond nerth i ddyfalbarhau - dewrder i sefyll ei dir doed a ddel. Mae’r weddi fach hon yn her fawr: gweddïwn am nerth digonol i’r gwaith, nid am waith cyn lleied â’n nerth.

 ninnau'r bore hwn, wedi myfyrio uwchben Gweddi Jeremeia, edrychwn ymlaen at gyfle i drafod Gweddi Daniel (Daniel 9:3-19) yn ‘Capernaum’ nos Lun 22/2.