Cwmni bychan, ond dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i 'Babimini' cyntaf 2016. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar 'Babimini'. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
CYNGOR EGLWYSI CYMRAEG CAERDYDD
Yn 1908 y cynhaliwyd yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol am y tro cyntaf, er mai'r Wythawd Undod Cristnogol y’i gelwid y pryd hynny. Penderfynwyd ar ddyddiadau’r cyfnod fel wyth nos yn dechrau ar Ŵyl Cyffes Pedr (18 Ionawr) ac yn gorffen ar Ŵyl Tröedigaeth Paul (25 Ionawr). Heno, er ychydig yn gynt na’r dyddiadau ‘swyddogol’, cawsom ninnau, aelodau Eglwysi Cymraeg Caerdydd, gyfle i ddod at ein gilydd yng nghapel Tabernacl, yr Âis, o dan nawdd ein Cyngor Eglwysi, i weddïo a myfyrio am ac ar Undeb Cristnogol.
Gyda llywyddiaeth y Parchedig Lona Roberts wedi dirwyn i ben ar ddiwedd 2015, cymerodd Mrs Helen Jones at yr awenau. Diolch i’r Parchedig Ddr Alun Tudur am ei waith fel Ysgrifennydd y Cyngor a'r Parchedig Dyfrig Lloyd yw deiliad newydd y swydd. Wedi croesawu pawb i'r cyfarfod, arweiniwyd y defosiwn gan y Parchedig Denzil John.
Wrth ddiolch am y fraint o dderbyn Llywyddiaeth, cafwyd anerchiad cyfoethog gan Mrs Helen Jones yn canolbwyntio ar y geiriau: Chwi yw goleuni’r byd (Mathew 5: 14a) ac yn briodol iawn, Chwi yw halen y ddaear (5:13a) gan mai Halen y Ddaear yw'r thema a ddewiswyd gan eglwysi Latfia i’r Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol eleni. Mae’r ddelwedd bwerus a gynigiwyd ganddynt yn ein hatgoffa o’r hyn y bu i ni eisoes ei ddysgu dros y blynyddoedd a fu, ond hefyd yn ein herio i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’n gilydd wrth inni weddïo, fel y gweddïodd Crist, am i Gristnogion oll fod yn un. ‘Roedd halen, yng nghyfnod Iesu, yn werthfawr iawn. ‘Roedd halen yn anhepgor i roi blas ar fwyd, ac i gadw bwyd rhag llygru. Wrth ddefnyddio’r ddelwedd hon mae Iesu’n pwysleisio fod rheidrwydd ar ei bobl i gadw bywyd rhag llwydo. Rhydd Iesu hefyd rybudd: … pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto (Mathew 5:13 Beibl.net). Â threth drom arno'r cyfnod hwnnw, llygrid halen yn fynych drwy ei gymysgu â defnyddiau eraill, fel tywod. Gwyddai’r tlodion beth oedd prynu halen heb flas arno. Galwad arnom ninnau i gydnabod yr hyn sydd yn llygru halen ein cenhadaeth a geir eleni. Mae Iesu yn ein herio i gydnabod bod amrywiaeth yn rhan o gynllun Duw, ac o’r herwydd i glosio at ein gilydd gan weithio a chydweithio i gadw bywyd rhag llygru ac i roi blas ar fyw holl bobl Dduw: 'Mae undod a chenhadaeth o'r un hanfod'.
Arglwydd Iesu, Arglwydd cyfanrwydd, mae dy weddi am undod ymhlith dy ddisgyblion wedi syrthio ar glustiau byddar a chalonnau caled. Maddau i ni ein clustiau byddar, caeedig, maddau i ni ein calonnau caled sy’n cynnal amheuaeth, rhagfarn a rhaniad: maddau i ni ein cenhadaeth doredig. Agor ein calonnau, ein llygaid a’n meddyliau i’th gariad a’th wirionedd o fewn yr holl bobl Gristnogol a chryfha ynom y penderfyniad i weithio er mwyn adfer undod dy Eglwys a’th greadigaeth er gogoniant i’th enw.
(Halen y Ddaear; cyh. Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon)
POB MAB A MERCH DIDDANWCH
Mae dylanwadau tawel ein profiad yn rhai dwfn a pharhaol, ac ymysg un o’r portreadau hoffusaf o Was yr Arglwydd gan Eseia broffwyd yw hwnnw amdano fel un na fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol (42:2). Mae’n debyg bod rhagor rhwng huodledd a huodledd! Yn ei gyfrol Cymeriadau (1933) mae T. Gwynn Jones (1871-1949) yn sôn am Thomas Francis Roberts (1860-1919), Prifathro Aberystwyth: prin y gellid dywedyd y byddai byth yn huawdl, yn ystyr gyffredin y gair hwnnw; ac eto, yr oedd yn huawdl mewn ystyr dawel, wastad, a gwahanol iawn i’r llacrwydd ymadrodd a’r triciau mân a elwir yn gyffredin yn huodledd.
Hawdd meddwl am lawer personoliaeth o’r math yma sy’n dylanwadu arnom yn anhraethol fwy nag y sylweddolant byth. Eneidiau dethol yw’r rhain y byddai’n profiad yn dlotach o lawer hebddynt. Gellid dweud amdanynt, fel canodd Alan Llwyd am ei dad:
...darn o gadernid
Y fro hon oedd ef i’w wraidd,
Y gwron tawel, gwaraidd.
Amyneddgar, hawddgar oedd...
(I Gofio 'Nhad; Clirio'r Atig a Cherddi Eraill; 2005)
Am funud heddiw, meddyliwn am y bobl hynny y byddwn yn eu cyfarfod yn gyson ac yn ymwneud â nhw’n rheolaidd, na wawriodd arnynt erioed eu bod yn meddalu’r caledwch a gerwinder a berthyn inni â’u gwyleidd-dra a’u graslonrwydd. Onid Mab diddanwch oedd ystyr yr enw Barnabas? (Actau 4:36 WM; Mab Anogaeth a geir yn y BCN, Anogwr yn Beibl.net) ‘Roedd Barnabas yn gysur i lawer, ac un o’i gymwynasau mwyaf - tragwyddol fwy nag y meddyliodd erioed, gan ei bod yn gymwynas i’r canrifoedd, oedd iddo gymryd Ioan Marc dan ei adain (Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan Marc gyda hwy; ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb gydweithio â hwy. Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Actau 15:27) gan ei ddiddanu a’i annog, hyd nes i hwnnw ddod yn gymaint cymeriad fel bo Paul yn gallu sôn amdano yn y diwedd fel hyn: buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth (2 Timotheus 4:11 WM).
Diolchwn heddiw am bob mab a merch diddanwch. Diolch i Dduw am weinidogaeth dawel bob merch a mab anogaeth.
Y pennaf ddiolch, wrth gwrs, yw nyni’n ymroi i fod yn fwy tebyg iddynt.
(OLlE)
BETHSAIDA
Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Orant (Praying Figure) Rhufain; y drydedd ganrif
Wedi hoe fach dros gyfnod yr Adfent, daeth cyfle i ailgydio yng ngwaith ‘Bethsaida’.
‘Bethsaida’? Beth yw 'Bethsaida'?
Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol, a rhaid wrth y naill a’r llall. Ni ellid cynnal y bywyd defosiynol heb addoliad y gynulleidfa, a buan y mae addoliad yn colli ei flas heb elfen o ddefosiwn personol. Rhaid wrth allor yn y galon, yn ogystal â’r allor yn y deml. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ehangu ein bywyd defosiynol.
Cedwir at yr un patrwm o gyfarfod i gyfarfod. Salm; cyflwyniad gan y Gweinidog ar elfen o’r bywyd defosiynol, trafodaeth ac yna awgrym neu ddwy ynglŷn ag arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol, a gorffen gyda chyfnod o weddi.
Wedi cyd-ddarllen Salm 86, aethom i’r afael â Gweddi’r Arglwydd. Ceir dau fersiwn o Weddi’r Arglwydd yn y Testament Newydd, un yn Efengyl Mathew (6:9-13) a’r llall yn Efengyl Luc (11:1-4). Awgrymodd y Gweinidog mai llesol buasai gosod y naill fersiwn a’r llall wrth ochr ei gilydd er mwyn cymharu, a gweld lle maent yn debyg, ac yn annhebyg i’w gilydd:
Y gwahaniaeth amlycaf yw’r diweddglo. Mae’r diweddglo sydd gan Mathew yn adlais o’r adnod hon: I Ti, ARGLWYDD, y mae mawredd a gallu a gogoniant, a goruchafiaeth a harddwch; canys y cwbl yn y nefoedd ac ar y ddaear sydd eiddot ti. Y deyrnas sydd eiddot ti, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth (1 Cronicl 29:11: WM).
Atgoffwyd ni gan y Gweinidog nad yr un yw cefndir Gweddi’r Arglwydd yn Mathew a Luc. Yn Efengyl Mathew, daw Gweddi’r Arglwydd yng nghanol dysgeidiaeth Iesu ar weddi yn y Bregeth ar y Mynydd (6:5-15). Rhoddwyd y weddi mewn atebiad i gais un o’r disgyblion yn ôl Luc (11:1). Barn ysgolheigion ydyw mai lleoliad y weddi yn ôl trefn Luc sydd gywiraf o’r ddau. Iesu ei hun oedd achlysur y weddi yn ôl Luc: A bu ac Efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, 'Dysg i ni weddïo'. ‘Roedd ei weld a’i glywed yn gweddïo yn codi awydd ymhlith y disgyblion am gael gwneud yr un fath. Wrth weddïo ei hun, rhoes Iesu Grist urddas a phwysigrwydd i weddi. Iesu felly yw Athro gweddi.
Wedi hynny o ragymadrodd, cafwyd cyfle i drafod: Pam yr ydym wedi mabwysiadu geiriad Gweddi’r Arglwydd yn ôl Mathew yn hytrach na Luc? Ydi’r diweddglo - diweddglo nas ceir gan Luc - yn angenrheidiol i’r weddi? Oes angen athro i ddysgu gweddïo?
Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Soniodd y Gweinidog am sut mae ystum y corff yn gwasanaethu ein defosiwn. Ystyr y gair Cymraeg ‘addoli’ yw plygu. Onid all ogwydd y corff wrth weddïo amlygu cyfeiriad y meddwl a’r ysbryd? Dyma pam y daeth yn arfer gennym i gau llygaid, plygu pen - penlinio efallai - gan osod dwy law ynghyd. Ond, gan dynnu’n sylw at ffresgo o feddrod teuluol yn Rhufain, gellid gweld fod y ffigwr canolog yn arfer ystum y Cristnogion cynnar wrth weddïo: ar ei draed mai hwn (neu hon efallai), llygaid ar agor, a’i ben yn uchel, ei ddwylo ar led. Mae’r pwyslais yn gwbl wahanol i’n harfer ninnau. Awgrymodd y Gweinidog fod ystum y Cristion cynnar hwn yn cyfleu rhywbeth pwysig am weddi a gweddïo. Onid gwaelod pob gweddi a gwraidd pob gweddïo yw bod yn agored i Dduw? Gosodwyd ychydig o waith cartref heno: i weddïo Gweddi’r Arglwydd yng nghwmni’r Cristion cynnar hwn. A fydd yr ystum agored, diamddiffyn yn newid naws y weddi a’r gweddïo?
Yn ein cyfnod o weddi heno, gan ganolbwyntio eto, ar y ddelwedd uchod, defnyddiwyd tair gweddi benthyg. Bu cyfle i fyfyrio, ac i weddïo’n dawel rhwng bob un. (Daw'r gweddïau o'r gyfrol gyfoethog 'Amser i Dduw. Trysorfa o weddïau hen a newydd' Gol . Elfed ap Nefydd Roberts; Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf, 2004).
O! Arglwydd, una’n hysbryd ni ag Ysbryd Iesu Grist, dy Fab di, a Mab Duw, ein Duw a’n Brawd ninnau; fel trwy'r undeb agos a bywiol hwnnw y dysgwn ni garu fel y carodd ef, a bendithio fel y bendithiodd ef, a gweddïo fel y gweddïodd ef. Amen.
Emrys ap Iwan (1851-1906)
Dduw cariadus, agor ein calonnau...
fel y gallwn deimlo anadl dy Ysbryd yn chwarae ynom;
agor ein dyrnau...
fel y gallwn estyn llaw i’n gilydd a chyffwrdd ac iacháu;
agor ein gwefusau...
fel y gallwn ddrachtio mwynder a rhyfeddod bywyd;
agor ein clustiau...
fel y gallwn glywed dy ddioddefiadau di yn ein creulonderau ni;
agor ein llygaid...
fel y gallwn weld Crist mewn cyfaill a dieithryn.
Anadla dy Ysbryd i mewn i ni a chyffwrdd ein bywyd â bywyd Crist. Amen.
Helder Camara, (1909-99)
Bywyd wyt, fy Arglwydd;
bywyd a llawenydd ac angerdd pob creu.
Llanw dy was â goleuni dy nefoedd:
llanw fy nghorff a’m henaid,
fy ngwaed a’m dychymyg;
llanw fy mywyd â’th fywyd di.
Pâr i mi fwynhau ac ymorffwys yn llifeiriant dy nerth creadigol a chymodol, ac yn y cariad sydd o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb. Amen
Pennar Davies (1911-96)
‘Bethsaida’ - cafwyd cyfle i drafod; ystyried ac i ailystyried; egwyl i sefydlu ein meddwl ar Dduw a phrofi ei bresenoldeb yn ein hamgylchynu. Braf a buddiol 'Bethsaida'.
PIMS
Thema PIMS heno oedd ‘5’. Cyflwynwyd i'r PIMSwyr restr hirfaith o bethau a phobl. ‘Roedd 11 o bethau, mynnai’r Gweinidog, heb fod yn perthyn i’r gweddill. Gwahanwyd hwy yn bedwar grŵp, a bwriwyd ati o ddifri. ‘Roedd addewid o wobr!
Os oes pum munud o hamdden gennych, rhowch gynnig arni a chofiwch mai’r allwedd i’r cyfan yw’r rhif ‘5’. Daw’r atebion maes o law.
1. James
2. Pentateuch
3. Mathew
4. Marc
5. Ioan
6. JKL
7. Gemau Olympaidd
8. Canol
9. Dafydd a Goliath
10. Thing
11. Coco Chanel
12. Maroon
13. Islam
14. Susan Storm
15. Merryman
16. Beibl
17. Awkwardman
18. Luc
19. The Blimp
20. White Feather
21. Emyn
22. Dumb Bunny
23. Hyder
24. Minny
25. Call
26. Street
27. Quintet
28. live
29. Ffydd
30. Human Torch
31. iphone
32. Elizabeth Fry
33. Channel
34. eiliad o Haf
35. Ffôl
36. Mr Fantastic
37. Mai
38. V
Wedi cyflwyno’r thema, aethom i’r afael â’r gwaith Beiblaidd. Chwilio am Mathew 25: 1-13: Dameg y Deg Geneth. Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall (25:2). Y cyntaf i ffeindio’r darn yn y Beibl oedd grŵp Osian. Wedi atgoffa’r bobl ifanc o gynnwys a neges y ddameg, bu’r bobl ifanc (a’r arweinwyr hefyd) yn nodi a rhannu un peth ffôl maen nhw’n dueddol o wneud. Bu chwerthin, cytuno, cydymdeimlo a rhyfeddu! Corddi dad. Corddi mam. Corddi fy chwaer fach. Gadael gwaith cartref i'r funud olaf. Diffyg canolbwyntio. Gadael y drws cefn heb ei gloi. Y Gweinidog? Gwylltio mewn traffig! Pwy fuasai’n meddwl?! Wedi hynny, aethom ymlaen i nodi a rhannu beth sydd yn gall amdanynt, neu rywbeth call maen nhw’n gwneud: helpu o gwmpas y tŷ. Cymwynas. Gofalu. Blaenoriaethu. Ymarfer. Paratoi. Prydlondeb. Ffyddlondeb.
Ychydig yn anoddach, ac arafach o’r herwydd, oedd y chwilio am 1 Samuel 17:40. Yna cymerodd (Dafydd) ei ffon yn ei law, dewisodd bum carreg lefn o’r nant a’u rhoi yn y bag bugail oedd ganddo fel poced, a nesaodd at Goliath â’i ffon dafl y ei law. Y cyntaf oedd grŵp Elin. Gofynnwyd i'r bobl ifanc nodi un rhinwedd, neu ras, y buasent yn hoffi cael profi fwy ohono erbyn Ionawr 2017. Ysgrifennwyd y rheini ar ddwy garreg lefn.
I orffen casglwyd y cwmni ynghyd, ac adolygu’r hyn a wnaethpwyd ac a ddysgwyd. Da a buddiol PIMS cyntaf 2016.
Dyma’r atebion, a’r rhesymeg; nodir yr 11 nad sydd yn perthyn mewn print trwm:
1. James - ffrind Tomos y Tanc oedd James; a’i rhif? ‘5’
2. Pentateuch - Pum llyfr
3. Mathew - Un o’r 4 Efengyl (1)
4. Marc (2)
5. Ioan (3)
6. JKL - y llythrennau a gynrychiolir gan y rhif 5 ar ffon ‘oes yr arth a’r blaidd’ y Gweinidog.
7. Gemau Olympaidd - pum cylch
8. Canol - 5 llythyren
9. Dafydd a Goliath: 1 Samuel 17:40
10. Thing - Aelod o’r Fantastic Four (4)
11. Coco Chanel - Persawr ‘5’
12. Maroon - Maroon 5
13. Islam - Pum colofn y grefydd Islamaidd
14. Susan Storm - Fantastic Four (5)
15. Merryman - Aelod o’r Inferior Five (Go iawn!)
16. Beibl - B-E-I-B-L (5)
17. Awkwardman - Inferior Five
18. Luc - Efengyl (6)
19. The Blimp - Inferior 5
20. White Feather - Inferior 5
21. Emyn - (E-M-Y-N) (7)
22. Dumb Bunny - Inferior 5
23. Hyder - H-Y-D-E-R (5)
24. Minny - M-I-N-N-Y (5)
25. Call - Mathew 25:2
26. Street - (S-T-R-E-E-T) (8)
27. Quintet (5)
28. live - Gorsaf radio 5Live
29. Ffydd - (FF-Y-DD) (9)
30. Human Torch - Fantastic 4 (10)
31. iphone - 5
32. Elizabeth Fry - £5
33. Channel - Sianel deledu
34. eiliad o Haf - Five Seconds of Summer
35. Ffôl - Mathew 25:2
36. Mr Fantastic - Fantastic 4 (11)
37. Mai - Pumed mis
38. V - Rhif Rhufeinig
NEWYDDION Y SUL
Yn ei gyfarchiad Nadolig (Y Tyst, Rhagfyr 24/31 2015) soniai'r Parchedig Ddr Geraint Tudur fod 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod, meddai ‘yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i fwynhau. Gobeithiwn y bydd pob eglwys a phob Cyfundeb yn gwneud rhywbeth fel rhan o’r ymgyrch hon gan gofio fod gennym dri chyfieithiad o’r Beibl bellach, William Morgan a’i ddisgynyddion, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net.’
Fel rhan o’n hymateb ninnau fel eglwys i her a hwyl Blwyddyn y Beibl Byw darperir cyfres o fyfyrdodau byrion yn seiliedig ar Efengyl Ioan. Ym mhob un, ceir awgrym o ddarlleniad, a myfyrdod bychan, bachog yn seiliedig ar yr adnodau rheini. Bydd y myfyrdod yn ymddangos yn ddyddiol o ddydd Sul Rhagfyr 27ain hyd at ddydd Mawrth Ynyd (9/2/2016) ar ein cyfrif trydar @MinnyStreet
Yn ogystal, gwahoddwyd Arfon Jones atom i arwain Oedfa Foreol Gynnar cyntaf y flwyddyn. Llongyfarchwn Arfon ac Ymddiriedolaeth Gobaith i Gymru am sicrhau i Gymry Cymraeg Air Duw mewn Cymraeg llafar a chwbl ddealladwy. Lansiwyd ‘ap’ newydd i alluogi pobl i ddarllen y Beibl ar ffôn symudol neu iPad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Mae ap Beibl yn cynnwys tri chyfieithiad o’r Beibl: un o Feibl 1588, un o Feibl 2004 a’r fersiwn ddiweddaraf, sef Beibl.net. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd yr addasiad tan gamp hwnnw o’r Beibl. Dechreuodd Beibl.net ar-lein fel ymgais i fynegi neges a chyfleu cyfoeth y Testament Newydd trwy gyfrwng Cymraeg syml ac anffurfiol. Erbyn 2013 ‘roedd y Beibl cyfan ar gael ar-lein. Mae’r fersiwn print newydd o Beibl.net yn boblogaidd iawn. Braf, buddiol a bendithiol oedd cael derbyn o arweiniad Arfon y bore ‘ma. Er bod y cyfieithiadau ac addasiadau - y geiriau - yn amrywio, diben pob addasu a chyfieithu yw amlygu gwir ddisgleirdeb Air disglair Duw. (Graham Kendrick. cyf. Casi Jones CFf.:228)
Rhwng y naill Oedfa fore a’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd.
Yn yr Oedfa Foreol, cafwyd cyfle i ail-gydio yn y gyfres pregethau yn ystyried Efengyl Marc, a hynny o bersbectif y flwyddyn 70, pan gwympodd Jerwsalem a dinistriwyd y Deml gan fyddinoedd Rhufain. Trodd y Gweinidog at hanes galw Lefi (Marc 2:13-17). Mae'r Phariseaid wedi llwyr ddrysu, yn grwgnach ymhlith ei gilydd. ‘Does dim syndod eu bod nhw cwyno. Mae Iesu'n prysur dorri rheolau a chwalu confensiynau crefyddol a chymdeithasol ei ddydd. Pechaduriaid, gwehilion cymdeithas oedd y casglwyr trethi, credwyd eu bod nhw yn esgymun gan Dduw, ac felly esgymun oeddent gan bobl. Pobl-y-tu-allan oedd y rhain, ac mae Iesu'n meiddio dweud wrthynt fod Duw yn eu caru; fod Duw yn maddau eu pechodau. Lefi, casglwr trethi, pechadur, esgymun... Canlyn fi (14).
I'r Phariseaid 'roedd hyn yn anathema. ‘Doedd gan gasglwyr threthi ddim hawl i dderbyn cariad Duw. Roedd maddeuant yn amhosibl iddynt. Pechaduriaid oeddent. Rhaid wrth ‘nhw’ i bob ‘ni’. ‘Nhw’ y Phariseaid oedd y casglwyr trethi. Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïodd fel hyn: O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf. (Luc 18: 11&12).
Meddyliodd y Phariseaid, fel llawer o bobl grefyddol ar eu holau, fod ganddynt hawl ar gariad Duw. ‘Roedd eu ffyddlondeb yn gwarantu bendith Duw. Mater o fargeinio oedd crefydd iddynt - os gwnawn ni'r peth a’r peth disgwyliwn i ti, ein Duw, wneud hyn a’r llall. Mater o gariad oedd crefydd i Iesu. Ysgrifennwyd Efengyl Marc i argyhoeddi Iddewon Jerwsalem fod rhaid iddynt nawr, a’r Deml yn sarn, dderbyn neges Iesu Grist: neges o gariad, cariad eithriadol beryglus. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn - mae’r hen ffordd o grefydda wedi darfod mewn gwirionedd. Yr ateb i’n hargyfwng? Yr un ateb ydyw a gynigwyd gan yr Iddewon Cristnogol i bobl y flwyddyn 70: cariad, a’r cariad hwnnw’n gariad i bawb - i bawb yn ddiwahân.
Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan. Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo. Wedi defosiwn byr (a chyfoethog) ganddo, cyhoeddwyd y blygain ‘ar agor’. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da gweld yr eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri, a’r cymysgedd o ganu cyfoes a charolau traddodiadol yn ymestyn o’r Cread i’r Croeshoeliad a’r Atgyfodiad. Wedi’r rownd gyntaf, y Gweinidog a’r PIMSwyr yn gadael! Beth yw hyn?
‘Roedd pobl ifanc eglwys Christ Church, Parc y Rhath yn disgwyl y PIMSwyr prynhawn heddiw am 3. Datblygiad newydd a chyffrous yw hwn. Cafwyd cyfarfod hwyliog a buddiol; a phobl ifanc y naill eglwys a’r llall yn dangos mor hawdd yw Undod Cristnogol. Diolch i’r bobl ifanc, eu harweinwyr ac i'r Parchedig Ddr Trystan Owain Hughes am y croeso. Ein braint fydd cael croesawu pobl ifanc Christ Church ym Minny Street ym mis Chwefror.
Liw nos, cydiasom o’r newydd yn y gyfres pregethau: Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd. Mae bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd? Bwriad y Gweinidog yw mynd â ni drwyddynt, fesul dau neu dri. ‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Ym mis Tachwedd buom yn trafod Esau, Joseff, Amram a Jochebed, mam a thad Moses. Heno, Moses a Bitheia oedd testun ein sylw. Bitheia? Merch Pharo (1 Cronicl 4:17).
Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo - Bitheia - gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhau pechod dros dro, a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau’r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr (Hebreaid 11: 24-26). Mae Moses yn ein hatgoffa mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer ein siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’, os nad ydym yn gweld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig (Hebreaid 11: 27). Mae Moses yn amlygu mai Ffydd yw gweld - ofer edrych heb weld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond yn syml, ‘gwêl!’ Dim syndod felly, bod y Sais yn sôn am bobl grefyddol fel ‘observant’!
Felly cymerodd y wraig y plentyn a’i fagu. Wedi i’r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a’i enwi’n Moshe, oherwydd iddi ddweud Mashah, hynny yw o’i gyfieithu ‘Tynnais ef allan’ o’r dŵr (Exodus 2:10). Mae Bitheia, fel yr hwn a gadwodd yr enw a roddwyd iddo ganddi - Moses -, hefyd yn dangos mai ffydd yw gweld: gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb - ie, ym mhawb yn ddiwahân.
Sul llawn a gafwyd - llawn llawenydd, llawn bendith.
PREGETH NOS SUL
Ffydd a’i Phobl (4) (Hebreaid 11) - Moses (ii), Moses (iii) a Bitheia
Ym Mhennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid sonnir am 16 o Bobl Ffydd, pob un yn cynnig rhan o’r ateb i’r cwestiwn: Beth yw ffydd?
Trwy ffydd y gwrthododd Moses … gael ei alw yn fab i ferch Pharo (Bitheia) gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhau pechod … (Hebreaid 11: 24-26). Rhywfodd daeth Moses i ddeall mai Hebrëwr oedd. Gwyddom iddo fynd allan at ei bobl (Exodus 2: 11), ac o weld eu hadfyd, gwylltiodd a lladdodd un o feistri gwaith Pharo. Gwelai’r Cristnogion cynnar gydymdeimlad Moses at ei bobl yn arwydd o’i ffydd yn Nuw. Ffydd yw uniaethu ag eraill. O’r dechrau bu bywyd yr un ynghlwm wrth fywyd y llawer: gwnawn ddyn ar ein delw ni (Genesis 1:26a) - awgryma’r lluosog gymdeithas. Bu’n rhaid i Moses dalu’n ddrud am hyn. Cafodd ei erlid gan Pharo, a’i amau gan ei bobl: Pwy a’th benododd di yn bennaeth …? (Exodus 2:14). Tebyg bu profiad Iesu: er iddo wacau ei hun, gan gymryd ffurf caethwas … (Philipiaid 2: 7), er iddo ddod o’i wirfodd i’n plith, ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono (Ioan 1:11b). Beth yw ffydd? Uniaethu ag eraill fel mae Duw yn uniaethu’i hun â ni. ‘Bod yn ddynol’ yw ceisio uniaethu â phob ‘bod dynol’. Gorchest bob ‘bod dynol’ yw ‘bod yn ddynol’. Ffydd yw talu pris cydymdeimlad.
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft … safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig (Hebreaid 11: 27) Cydiodd Moses mewn gweledigaeth; cydiodd y weledigaeth ynddo yntau. Bu galwad; bu ateb: Cymer Arglwydd, fe einioes i yw cysegru oll i ti. (Frances R. Havergal, 1836-79 cyf. John Morris Jones 1864-1929 C.Ff. 767). Talodd Moses yn ddrud; saif proffwyd rhwng dau dân - digio Duw oni ddywedir y gwir, a digio dynion os dywedir! Gallwn genfigennu ar Moses. Cawn, yn ein bywydau, adegau o ymrwymiad a phwrpas, ond weithiau pyla’r weledigaeth ac awn ar gyfeiliorn. Nid felly Moses: safodd yn gadarn, fel un yn gweld … . Edrychodd eraill, ond gwelodd Moses. Wrth edrych ar yr Hebreaid gwelodd Moses y potensial i fod yn genedl deilwng o addewidion ac ymddiriedaeth Duw. Sut mae sefyll yn gadarn? Philip a holodd Iesu: "Arglwydd, dangos i ni y Tad." Atebodd Iesu, "A wyf wedi bod gyda chi cyhyd heb i ti fy adnabod fi Philip? Y mae’r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad." (Ioan 14:8-9). Nid Duw sy’n sefyll draw ar ei ben ei hun yn galw am edmygedd yw ein Duw ni ond Duw sydd wedi dod yn agos atom yn Iesu ein Harglwydd. Dyna gyfrinach bod yn bobl sicr ein cam, hyderus ein hosgo, doed a ddelo. Gwybod fod Iesu’n agos.
Trwy ffydd y gwrthododd Moses … gael ei alw yn fab i ferch Pharo gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw ... Bitheia (1 Cronicl 4:17), merch Pharo. Er cefnu ar y palas brenhinol, cadwodd Moses yr enw a roddwyd iddo gan Bitheia. O’i weld yn y cawell ac er gwybod am orchymyn ei thad i ladd y gyntaf anedig, safodd hon yn gadarn. Bu Miriam yn feiddgar yn cynnig bod y baban yn cael ei fagu gan ei fam, Jochebed. Wedi i’r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a’i enwi’n Moshe, oherwydd iddi ddweud Mashah, hynny yw o’i gyfieithu ‘Tynnais ef allan’ o’r dŵr (Exodus 2:10) Perchnogodd Bitheia y perygl. Dyma ddewrder! Pa ryfedd i Moses gadw’r enw a ddewiswyd ganddi! Beth yw ffydd? Gweld y cyfle i wneud yr hyn sydd iawn. Ffydd yw mynnu cael gweld y da ynghudd yn y ‘gwaethaf’.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Moses mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’ heb weld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.
Amlyga Moses mai ffydd yw gweld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond ‘gwêl’!
Dangos Bitheia mai ffydd yw gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb yn ddiwahân.
PREGETH BORE SUL
Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (4): Cyfeillion Iesu o Nasareth (Marc 2: 13-17)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf yng nghyfnod cwymp Jerwsalem a’r Deml. Bu i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; gan fod Duw o’u plaid, onid oedd buddugoliaeth yn sicr? Cafwyd siom a cholledion; dinistriwyd y Deml. Pam ddigwyddodd hyn? Rhaid oedd cynnig atebion. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd yn weddill. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem; rhaid oedd cael y bobl, o’r newydd, i dderbyn a bod yn ufudd i’r Gyfraith honno. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw mewn cnawd - Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Iddynt hwy, rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Wrth wraidd hyn i gyd oedd y ddealltwriaeth o natur Duw.
Mae dwy neges bwysig yn hanes galwad Lefi, fab Alffeus (Marc 2:13-17). Yr amlycaf: bu galwad: Canlyn fi; bu ateb: Cododd yntau a chanlynodd ef (Marc 2: 14). Pwysicach, er hynny, yr hyn ddigwyddodd nesaf: ... yr oedd (Iesu) wrth bryd bwyd yn ei dy, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cyd-fwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion ... (Marc 2: 15) Diddordeb pennaf Marc yw bod pechaduriaid a phublicanod yn eistedd wrth fwrdd Lefi fab Alffeus. Nid yw hyn yn ofid i Iesu Efengyl Marc; eisteddai gyda hwy yn fodlon a chyd-fwyta’n llawen. Metha’r Phariseaid ddeall hyn gan mai gofynion y Gyfraith, a oedd yn gwahardd y fath gyd-fwyta, oedd yn bwysig iddynt hwy. Neges o gariad oedd neges Iesu Grist, a’r cariad hwnnw i bawb. I Iddewon y cyfnod ‘roedd cyd-eistedd i fwyta yn arwydd o uniaethu â’r rhai a oedd yn eistedd wrth yr un bwrdd. Dyma arwydd o gysylltiad agos. Nid y ffaith bod Iesu’n ymwneud â phechaduriaid a chasglwyr trethi oedd yn cynddeiriogi’r Phariseaid ond, yn hytrach, ei fod yn cyd-fwyta â hwy. Ar ben hyn Galilead oedd Iesu. ‘Roedd pobl Jerwsalem yn ddilornus o bobl Galilea; fe’u hystyriwyd i fod yn amhur o ran gwaed, yn Iddewon anghyflawn.
Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd (Iesu) Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd (Marc 1:19). Yn arfer y cyfnod, adnabuwyd pobl yn ôl enw’u tad. Er y cynharaf o'r efengylau ni cheir yn Efengyl Marc yr un cyfeiriad at eni Iesu Grist nag at Joseff ... O ble cafodd hwn y pethau hyn? Onid hwn yw’r saer, mab Mair ... (Marc 6:3)! Mae’r ergyd yn amlwg. Nid oedd neb yn siŵr pwy oedd tad Iesu. Onid gwell felly fyddai i Marc fod wedi hepgor hyn? Na, mae hyn yn allweddol i neges Marc. Nid disgyn megis arwr i waredu a wnaeth Iesu, ond uniaethu ei hun â ni yn llwyr a llawn. Dyna pam mae’r Phariseaid yn ymddrysu a gwylltio! Wrth eistedd i fwyta gyda Lefi, uniaethodd Iesu ei hun ag ef. Nid enw yw Alffeus ond addasiad Groegaidd o’r gair Hebreig Chalphai - Anhysbys. Nid oedd neb yn siŵr pwy oedd tad y naill a’r llall; trwy gyfrwng y naill - Iesu - daeth y llall - Lefi - i wybod, deall a derbyn mai plant i Dduw oeddent. Brodyr.
Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2016. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn. Darfu'r hen ffordd o grefydda; rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe er mwyn darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Yn ôl Marc, un warant o fendith sydd: cariad. Gwelodd Iesu Lefi yn ei swyddfa pan oedd pawb arall yn esgus nad allent ei weld: Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod (Marc 2: 17). Pan siaradodd Iesu ag ef gyntaf, ‘roedd Lefi yn dal yn ei bechod. Rhyfeddod Efengyl Iesu yw bod Duw yn ein caru ni ymhell cyn i ni sylweddoli hynny. Onid dyna ddywedwn adeg bedyddio? Yn y bedydd mynegwn ... Duw yn caru’r plentyn bach hwn ... cyhoeddir i Grist farw ei fwyn heb ymgynghori ... gwnaed hyn drosto, cyn iddo gael ei eni, a chyn i neb feddwl amdano. Estyn Duw ei gariad tuag atom ymhell cyn i ni sylweddoli hynny. Dyna pam dyhea pobl o hyd am gael clywed gennym ni a’n tebyg neges am gariad mawr, dwfn, eang ac agored: cariad nad sydd yn nacau, na dirmygi, nac esgymuno neb. A nyni eto’n bechaduriaid, dangosodd Duw ei gariad tuag atom. (Rhufeiniaid 5:8)