OEDFA NOSWYL NADOLIG

Heno, yn ein hoedfa Noswyl Nadolig buom yn diffodd y goleuadau, er mwyn cael gweld y Golau.

Man cychwyn yr oedfa oedd pum dyfyniad, a phob un â gair neu gymal ar goll. Rhowch gynnig arnynt. Mae’r atebion ar ddiwedd y cofnod hwn.

 Rhown _ _ _   _ _ _ _ _ gwan i’n gilydd

Ar hyd y nos.

 John Ceiriog Hughes (1832-1887)

 Wedi ing yr hir dristáu

I dŷ _ _ _ _ _  _ _ _   _ _ _ _ _.

 Dic Jones (1934-2009)

 Yn _ _ _ _ _  _ _ _ _ _ nad yw byth ar goll

Yng nghors y byd...

 T. H. Parry Williams (1887-1975)

 Duw glân, _ _ _  _   _ _ _ _ _ _ _,

Dyro’n ôl Dy wawr i ni.

 Waldo Williams (1904-1971)

 Mae _ _ _  _ _ _ _ _ _ blaen y wawr

O wlad i wlad yn dweud yn awr

Fod bore ddydd gerllaw;

Mae pen y bryniau’n llawenhau

Wrth weld yr haul yn agosáu

A’r nos yn cilio draw.

 Watcyn Wyn (1844-1905)

Wedi gweithio’n ffordd trwy’r dyfyniadau, gwyddom mai Goleuni oedd thema’r Oedfa. Delwedd yw goleuni a ddefnyddir yn y Beibl i gyfleu natur a chymeriad Duw. Y mae datguddiad Duw ohono’i hun fel goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch.

 Awgrymodd y Gweinidog fod y ffordd y goleuir yr olaf o luniau’r Adfent: ‘Y Geni’ (1777) gan John Singleton Copley (1738-1815) yn cyfleu gwirionedd oesol gyfoes am Oleuni Duw.

Gwelir golau melyn a golau gwyn. Mae’r golau melyn yn cyfeirio sylw at y Golau gwyn. Y golau melyn? Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch… (Luc 2:8,9) Y golau ddaeth gyda’r angylion yw’r golau melyn, ond golau yn arwain at y Golau yw’r goleuni hwnnw! Y Golau yw’r bychan hwn. Mae Mair yn disgleirio; ond, nid Mair yw’r golau. Mae Mair yn disgleirio, gan mai hi sydd gosa’ at y Disgleirdeb ei hun: Iesu.

Yn y cefndir, trwy’r ffenest: lleuad lawn. Cawn gan Copley nid seren, ond lleuad. Mae’r lleuad lawn yn ein hatgoffa o’n gwaith a’n cenhadaeth. Golau wedi ei adlewyrchu yw golau’r lleuad. Nid oes gan y lleuadei golau ei hun. Dyna’n syml yw ein cenhadaeth: adlewyrchu Goleuni Crist. Heb fod ni’n gwneud hynny mae ein crefydda a chrefydda yn debyg iawn i enfys heb liwiau, bara heb furum, jazz heb y rhythm, grŵp heb gitâr, tafarn heb far, neu… gannwyll heb fflam.

Cafwyd egwyl i feddwl a hel meddyliau pan ddaeth yn Manon at y piano a chwarae Clair de Lune – Golau Leuad - gan Claude Debussy (1862-1918).

Wedi i Beca gynnau heno, gannwyll Iesu, ‘roedd pob cannwyll ar dorch Adfent yr eglwys yng nghyn. Dechreuwyd diffodd y goleuadau. Diffoddwyd y lampau hwnt ac acw yn y festri; y rhain oedd y ‘golau’ prysurdeb y Nadolig. Diffoddwyd wedyn prif oleuadau’r festri – ‘golau’ prysurdeb yr eglwys leol dros gyfnod y Nadolig. Diffoddwyd y goleuadau Nadolig lliwgar: ‘golau’ rhialtwch y Nadolig. Diffoddwyd mân oleuadau’r goeden, gan adael llond festri o bobl yng ngwawl canhwyllau’r torch Adfent. Fesul un diffoddwyd y canhwyllau, gan adael dim ond cannwyll Iesu, a phawb yn syllu’n dawel i’r un fflam. Yng ngwawl y gannwyll honno, sylweddolwyd o’r newydd fod Duw, yn nhrwch ein duwch, wedi estyn inni ym Methlehem, gannwyll. Golau bychan bach a chwalodd dywyllwch bedd a marwolaeth, ofn ac ansicrwydd.

Wrth adael heno, cynigwyd cannwyll fechan i bawb i fynd adre’ gyda hwy. Gofynnodd y Gweinidog i bawb,  gynnau’r gannwyll rywbryd yfory, gan ystyried y ffordd mae cannwyll yn rhoi golau. Mae cannwyll, wrth oleuo, yn rhoi o’i hunan. Mae’n llosgi allan wrth estyn goleuni. Nid llonydd mo’r fflam. Mae’r fflam yn symud, yn aflonydd, fel pe’n chwilio am dywyllwch i oleuo. Gobaith y Gweinidog oedd y buasai cynnau a gwylio’r fflam am ychydig yn gyfrwng i ni gofio, ac yn gyfle i ni ystyried fod y goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef... (Ioan 1:5).


  • John Ceiriog Hughes (1832-1887):  EIN GOLAU

  • Dic Jones (1934-2009): GALAR DAW GOLAU

  • T. H. Parry Williams (1887-1975): GWELD Y GOLAU

  • Yn olaf ond un, Waldo Williams (1904-1971): TAD Y GOLEUNI

  • A Watcyn Wyn (1844-1905): TEG OLEUNI

 

ALBAN ARTHAN

Yn y dechreuad ‘roedd tywyllwch mawr a thanau bach; arswyd y nos a’i duwch trwm, ofn bwganod a chysgodion. A phan oedd y nos ar ei fwyaf bygythiol, â hen obaith wedi hen oeri, dywedodd Duw: Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn sut mae tywyllwch yn bygwth ein byw, a’r duwch yn dofi ein gobaith. Mynnwn gyfle i agor ein henaid i belydrau cariad Duw, i ddeffro ein calon i wawr ei bresenoldeb.

Gydag amser, dechreuodd pobl Dduw ar eu taith. Pobl yn torri’n rhydd; pobl yn llusgo’u hunain ar draws yr anialwch sydd rhwng rhyddid a chaethiwed, gobaith ac anobaith, rhwng hen fyd a newid byd. Pan fu’r daith bron yn drech na hwy, a’r awydd i droi am yn ôl wedi cydio’n dynn, dywedodd Duw, Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn y daith; taith yr Adfent hwn, taith y flwyddyn hon, taith ein bywyd, gan estyn i Dduw'r cyfle i gyfeirio’n traed at y trugaredd a’r maddeuant sy’n eiddo i ni yn ein Harglwydd Iesu Grist, Goleuni’r Byd.

Gydag amser, er waetha’r proffwydi, er waetha’r lleisiau’n galw yn yr anialwch, aeth pobl Dduw i grwydro, i hel bwganod yn y cysgodion. Er bod pob greddf ynom yn dyheu am y golau, troesom tuag at y gwyll a’r gwyllt.

Felly, heddiw cofiwn y tueddiad a berthyn i bawb ohonom i grwydro oddi wrth oleuni Duw. Mynnwn gyfle i ganolbwyntio ar oleuni Duw. Boed i oleuni Duw yng Nghrist oleuo ein meddyliau, ein calonnau, ein gweithredoedd.

(OLlE)

 

CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

Aros gyda ni, oherwydd y mae hi’n nosi, a’r dydd yn dirwyn i ben.

(Luc 24:29)

Yr adnod hon, bob tro, yw man cychwyn ‘Capernaum’. Mae’r adnod yn arwain at y weddi sy’n gweddu i bawb ohonom:

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

Buddiol a bendithiol yr egwyl fach hon ar derfyn dydd, ac â’r Nadolig yn brysur agosáu, fe’n harweiniwyd, yn wahanol i’r arfer, nid at un o weddïau’r Beibl ond at Luc 2:1-20. Bwriad y Gweinidog oedd ein tywys trwy’r hanes cyfarwydd, a’i ddefnyddio’n gyfrwng i fyfyrdod gweddigar.

Dyma’r myfyrdod yn ei chrynswth. Os oes gennych gyfle nawr i ymdawelu, mae croeso i chi ei ddefnyddio fel hwb i ddefosiwn a gweddi.

Aeth pawb felly i’w gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem... (Luc 2:3,4)

Yn dawel weddigar ystyriwch y cymunedau a’r bobl sydd yn rhan annatod o’r hyn ydych - y bobl a’ch creodd; y cymunedau sydd wrth wraidd yr hyn ydych.

...ac esgorodd ar ei mab cyntaf anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty (Luc 2:7).

Yn dawel weddigar ystyriwch y bobl hynny sydd heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely...

Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos (Luc 2: 8).

Yn dawel weddigar ystyriwch y bobl a fu ac sydd yn eich gwarchod...

Ystyriwch, hefyd y rheini sydd yn cael ei gwarchod gennych...

...dywedodd yr angel wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni...’ (Luc 2:10)

Mae’r cymal Peidiwch ag ofni yn ymddangos 366 o weithiau yn y Beibl. Unwaith i bob dydd o’r flwyddyn, ac un ychwanegol i Chwefror 29! Yn dawel weddigar cyflwynwch eich ofnau i Dduw.

...yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl...(Luc 2:10)

Yn dawel weddigar ystyriwch bob testun llawenydd.

...dyma sy'n llonni fy nodyn,

Fod Iesu yn Geidwad i mi.

(William Richards (Alffa) 1876-1931)

... ganwyd i chwi ... yn nhref Dafydd waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd...(Luc 2:11)

Yn dawel weddigar cydiwch yn y geiriau hyn, a’u perchenogi: ganwyd i mi waredwr ... yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.

Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd ... (Luc 2:15)

Canmolwn y bugeiliaid am iddynt adael y defaid er mwyn gweld yr Oen. Ystyriwch, yn dawel weddigar y ‘defaid’ sydd yn eich rhwystro rhag canfod yr Oen.

... yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt ... (Luc 2:19)

Yn dawel weddigar ystyriwch pa bethau sydd angen i chi'r Nadolig hwn i gadw’n ddiogel yn eich calon a myfyrio arnynt ...

Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant ... (Luc 2:20)

Yn dawel weddigar gweddïwch gyda Jane Ellis:

O! deued pob Cristion i Fethlem yr awron

i weled mor dirion yw'n Duw;

O! ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod

dragwyddol gyfamod i fyw:

daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd

er symud ein penyd a'n pwn;

heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,

Nadolig fel hynny gad hwn.

Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,

daeth Duwdod mewn baban i'n byd:

ei ras O! derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn

A throsto ef gweithiwn i gyd.

(Jane Ellis, bl. 1840; CFf.: 472)

 

(OLlE)