GENESARET

...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)

Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath

Terra Nova...

Pawb a’i baned, a’i daflen...ac ar y daflen honno’r geiriau: finished files are the result of years of scientific study combined with the experience of years.

Cyfaddefodd y Gweinidog ei fod yn gyson ddotio ar bethau fel hyn. Cawsom ganddo ddeng eiliad i ddarllen y frawddeg, ac wrth ddarllen rhaid oedd cyfrif sawl gwaith y defnyddir y llythyren ‘F’ ynddi.

Bwriwch iddi'r un modd!

Wel, sawl gwaith mae’r llythyren ‘F’ yn cael ei ddefnyddio yn y frawddeg? Unwaith? Dwywaith? Teirgwaith..? Pedair gwaith? Pump? Chwech?

Awn drwyddi felly. Mae un ‘F’ ar ddechrau’r frawddeg, a dyma’r ail ‘F’ yn FILES. Mae’r trydydd yn SCIENTIFIC. Felly mae ‘na dri ‘F’ yn y frawddeg. Ond, a sylwoch tybed ar yr ‘F’ yn yr OF cyntaf, a chofiwch mai 'na OF arall, ac felly ‘F’ arall. A welsoch chi honno? Mae ‘F’ arall yn yr OF olaf, cyn YEARS.

Mae’r rhan fwyaf o bobl, mae’n debyg, yn gweld tri a cholli tri! Felly y bu - ar y cyfan - heddiw dros baned. Tric ydyw, meddai’r Gweinidog. Seicoleg yw’r cyfan. Gan fod y rhan fwyaf ohonom wedi ein magu i ddarllen yn seinegol (phonetically), mae ein hymennydd yn ‘gweld’ dim ond yr ‘F’ sydd yn swnio fel ‘F’, nid yr ‘F’ sydd yn swnio fel ‘V’.

Diddorol? Efallai, ond beth a wnelo hyn â gweddi, gweddïo a’n bywyd defosiynol? Hawdd ddigon, awgrymodd y Gweinidog, yng nghanol llif byrlymog yr Ŵyl yw colli golwg ar Dduw; y Duw a ddaeth yn Faban, yr hwn sydd i ni’n Frenin, a’r Fraint fawr o’i ganlyn. Sylwodd pawb ar ddefnydd cyson o’r ‘F’! Diolch byth am dreigladau! Nid yn aml mae ein Gweinidog dweud hynny! O frawddeg ryfedd, daeth trafodaeth ryfedd o dda. Dyma’r prif bwyntiau:

  • Awgrymodd un bod chwilio am yr ‘F’ yn ddarlun o’r rheidrwydd cyson i ddidoli rhwng y pwysig a’r dibwys wrth gadw Gŵyl y Nadolig, ac ym mhob agwedd o’n hymwneud â Duw ac a’n gilydd.
  • Yn gymorth mawr i weld pob ‘F’ ym mrawddeg bywyd yw cymdeithas pobl Dduw. Cymdeithas nad oes ei bath yn unman arall. Cynnwys yr hen a’r ifanc, ceidwadol a chwyldroadol. Unir hwynt gan y wybodaeth mai brodyr a chwiorydd ydynt yng Nghrist. Dyma gymdeithas lle'r cyffwrdd meddwl â meddwl, ysbryd ag ysbryd; yn a thrwy’r gymdeithas hon gellir meithrin parch at Dduw, parch at eraill a hunan-barch.

Daeth ein hawr fach o drafodaeth i ben. Buddiol a da Genesaret. Aethom adre' yn sŵn yr englyn hwn gan Gwilym R.Tilsley (1911-97):

Dywysog Nef, dysg i ni - yn wylaidd

Dreulio dydd dy eni,

Rhag i fôr o wag firi

Guddio gwerth dy aberth di.