Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon: Galarnad 3:25
...YNO YR YDWYF...
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
(Mathew 18:20 WM).
Gyda brawddeg fel hon mae’n werth mynd yn ôl i’r ysgol a gofyn p’run yw’r prif gymal – the principle clause? Yma y mae dechrau rhag inni fynd ar gyfeiliorn. Y prif gymal yw yno yr ydwyf. Dyma gymal canolog ein ffydd: yno yr ydwyf.
Felly, shwt mae heddiw? Sut mae bywyd?
Os ydych mor hapus â mwnci’n chwilio chwain: yno yr ydwyf meddai Iesu.
Os ydych mor fodlon eich byd â pharot a ddigwyddodd landio ar goconyt – yno yr ydwyf.
Os yw bywyd fel Rubik’s Cube wedi’i orffen – yno yr ydwyf.
Os ydych yn teimlo fel darn Meccano mewn llond bocs o Lego: yno yr ydwyf.
Os ydych yn gweld y byd yn llwch i gyd: yno yr ydwyf.
Os ydych yn teimlo fel llong heb hwylbrenni ar y môr: yno yr ydwyf.
Os ydych yn niffeithwch unigrwydd: yno yr ydwyf.
Cofia, cofiwn mai addewid fawr Iesu oedd cynnig ei hun yn yr amser presennol yn barhaus: Wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser.
Yno yr ydwyf bob amser.
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (6)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
YOU'RE JUST TOO GOOD TO BE TRUE...
You're just too good to be true
Can't take my eyes off you...
Moon river, wider than a mile
I'm crossing you in style some day...
Heddiw yn 1927 ganed Andy Williams (m. 2012) - y canwr Andy Williams. Andy Moon River Williams, Andy It’s the most wonderful time of the year Williams. Andy To dream the impossible dream Williams...
To fight the unbeatable foe
To bear with unbearable sorrow
To run where the brave dare not go.
To dream the impossible dream; onid impossible dream yw heddwch? Onid breuddwyd ffôl pobl gwan yw cymod a chymodi? Impossible dream! Os felly, rhaid callio, ac wedi callio cydnabod na ellir cymodi diwylliant â diwylliant, cenedl â chenedl, crefydd â chrefydd, enwad ac enwad, capel â chapel, ni â nhw, ti â fi.
Impossible dream? Go iawn? Dyma ychydig eiriau o eiddo Golygydd y Times, yn ôl yn 1906, geiriau pwysig, yn arbennig os fuoch mewn awyren yn ddiweddar: All attempts at artificial aviation are not only dangerous to human life, but foredoomed to failure from the engineering standpoint. Er gwaethaf ei argyhoeddiad mawr, mae hedfan mewn awyren yn brofiad cyffredin ddigon bellach. I arall eirio’r Golygydd hwnnw, myn pobl heddiw All attempts at peace are not only dangerous to human life, but foredoomed to failure from the political standpoint. Gochelwn, rhag rhoi gormod o le i’n hanobaith, ac i sinigiaeth eraill. Yn ein gobaith, gobeithiwn.
Ym mynwent Gettysburg yn yr Unol Daleithiau, ceir cofnod, mewn pres trwm, o araith anfarwol (19/11/1863) yr Arlywydd Abraham Lincoln (1809-1865).
Four score and seven years ago our fathers brought forth on this continent a new nation, conceived in liberty, and dedicated to the proposition that all men are created equal.
Now we are engaged in a great civil war, testing whether that nation, or any nation so conceived and so dedicated, can long endure. We are met on a great battlefield of that war. We have come to dedicate a portion of that field, as a final resting place for those who here gave their lives that that nation might live. It is altogether fitting and proper that we should do this.
But, in a larger sense, we can not dedicate, we can not consecrate, we can not hallow this ground. The brave men, living and dead, who struggled here, have consecrated it, far above our poor power to add or detract. The world will little note, nor long remember what we say here, but it can never forget what they did here. It is for us the living, rather, to be dedicated here to the unfinished work which they who fought here have thus far so nobly advanced. It is rather for us to be here dedicated to the great task remaining before us - that from these honored dead we take increased devotion to that cause for which they gave the last full measure of devotion-that we here highly resolve that these dead shall not have died in vain - that this nation, under God, shall have a new birth of freedom - and that government of the people, by the people, for the people, shall not perish from the earth.
Mae un gair, yn sgleinio; mae un gair bach, wedi ei bolisho gan gyffyrddiad miloedd o fysedd - y gair bach people. Daw heddwch o’n herwydd - people. Heb fod pobl fel ni a phobl fel nhw, yn gweithio a chyd-weithio i wireddu’r impossible dream o gymod a heddwch, byddwn yn gwarantu’r very possible nightmare o derfysg a thrais di-ben-draw.
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (5)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
'LE BATEAU'
Heddiw, yn 1961, sylweddolodd staff Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd, fod y llun Le Bateau gan Henri Matisse (1869-1954) a'i ben i waered ganddynt ers 46 niwrnod.
Mae'r Adfent yn gyfle i ystyried beth sydd a'i ben i waered yn ein perthynas â Duw, ag eraill ac â'n hunain.
Ofnaf weithiau, O! Dduw, fy mod yn ceisio gwneud gormod yn fy nerth fy hun a pheidio â gadael i’th fywyd Di fod yn fywyd ynof fi. Amen.
Pa un sydd yn gywir? Bydd rhaid i chi ddyfalu...neu ymchwilio!
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (4)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
CROSSING THE RUBICON
Crossing the Rubicon...
Er i mi ddarllen a chlywed yr ymadrodd sawl gwaith, nid oedd y syniad lleiaf gennyf beth oedd Rubicon, a beth yn union oedd arwyddocâd y croesi!
Afon yw'r Rubicon. Iŵl Cesar fu'n croesi, yntau a'i filwyr. Wrth groesi'r afon Rubicon, fe groesodd o Gâl i'r Eidal.
Daeth diwedd y Rhyfeloedd Galicanaidd, a gorchmynnodd y Senedd i Iŵl Cesar ddychwelyd i Rufain, heb ei fyddin, heb ei awdurdod. Gwrthododd. I'r gwrthwyneb, yn 49 CC, croesodd y Rubicon, yntau a lleng o filwyr creithiog a blinedig gan frwydro, ond bob un, yn ddiwahân, yn gwbl deyrngar i Cesar. Bellach, wedi croesi'r afon Rubicon, nid gwas y Senedd oedd Iŵl Cesar, ond gelyn; 'roedd gwrthdrawiad â'r Senedd yn anorfod - a thywallt gwaed difrifol yr un modd. Felly y bu, ac Iŵl Cesar a orfu.
Daeth yr ymadrodd Crossing the Rubicon felly i olygu'r un cam hwnnw na ellir byth camu'n ôl rhagddo. Wedi croesi'r Rubicon, nid oes dychwelyd.
Safwn heddiw, ar lan Rubicon o benderfyniad. Mae David Cameron yn ceisio cefnogaeth y Tŷ’r Cyffredin i ehangu’r cyrchoedd awyr yn Irac i Syria, er mwyn ymosod ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Erfyniwn i'n Haelodau Seneddol ddoethineb, fel y penderfynant helaethu, nid crebachu terfynau cyfiawnder a chymod ar y ddaear.
(OLlE)